Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - Y GANOLFAN DDARGANFOD pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law am Drwydded Safle ar gyfer Y Ganolfan Ddarganfod, Doc y Gogledd, Llanelli, SA15 2LF i ganiatáu'r canlynol:

 

·         Cyflenwi Alcohol     -   Dydd Llun i ddydd Sul 09:00 – 23:00;

·         Oriau Agor - dydd Llun i ddydd Sul 08:00-00:00

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

·         Atodiad A – Copi o'r cais

·         Atodiad B – Sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

·         Atodiad C – Sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill

 

Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cais.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a gafwyd cyn y gwrandawiad gan y partïon.

 

 

Dywedwyd wrth yr Is-bwyllgor fod Heddlu Dyfed-Powys wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y cais, ond bod y naill ochr a'r llall wedi dod i gytundeb ers hynny. 

Ar hynny, cafodd yr Is-bwyllgor a'r ymgeisydd gyfle i ofyn cwestiynau. 

Yna anerchodd yr ymgeisydd yr Is-bwyllgor gan ddweud:-

 

  • Mai'r rhesymau dros ofyn am drwydded safle oedd er mwyn darparu amgylchedd hamddenol i gwsmeriaid fwynhau diod alcoholig â brecwast siampên/ te prynhawn / byrbryd gyda'r nos ac ati mewn lleoliad moethus. Byddai'r safle'n cael ei redeg fel un sy'n addas i'r teulu cyfan ar gyfer ystod eang o gleientiaid.  Gan fod y cwstwm hwnnw'n cael ei werthfawrogi'n fawr, nid oedd am beryglu hynny drwy newid pwyslais y busnes i fod yn lle yfed arall. Yn hynny o beth, ni fyddai'n goddef unrhyw ymddygiad afreolus a byddai alcohol yn cael ei werthu am bris premiwm i atal sefyllfa o'r fath rhag datblygu. 

 

  • Yn ogystal, ei chynlluniau oedd bod y safle ar gael ar gyfer dathliadau a digwyddiadau arbennig eraill gydag alcohol yn cael ei weini gyda bwyd yn unig.

 

  • Eglurwyd i'r Is-bwyllgor pe na allent werthu alcohol byddai hynny'n golygu bod y busnes yn llai hyfyw.

 

  • Eglurodd yr ymgeisydd fod yr ardal wedi gwella pan gymerwyd Langland Brasserie drosodd ganddynt ac mai prin yw'r problemau gafwyd yno yn ystod y 9 mlynedd diwethaf. Felly, roedd yn credu bod y gwrthwynebydd yn afrealistig yn ei wrthwynebiadau. 

 

  • Yn ogystal, roedd yr ymgeisydd yn credu'n gryf y byddai'r rhan honno o Lanelli yn gwella pe bai'n cymryd y safle drosodd.

 

  • Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei bod hi'n derbyn amodau trwyddedu'r heddlu ac y byddai'n eu rhoi ar waith.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r ymgeisydd am ei sylwadau.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â chapasiti'r safle, dywedodd yr ymgeisydd mai 200 o bobl ar unrhyw un adeg oedd capasiti'r safle. Roedd hyn yn cynnwys capasiti o 80 ar y llawr gwaelod, capasiti o 70 ar y llawr 1af a chapasiti o 40-50 ar gyfer yr ystafell ddigwyddiadau ar y llawr uchaf.

  • Dywedodd yr ymgeisydd, mewn ymateb i ymholiad, y byddai'r busnes yn cynnig diodydd alcoholig am bris premiwm drwy ddarparu amgylchedd braf ar gyfer yr holl gwsmeriaid gan gynnwys teuluoedd.  Yn ogystal, byddent yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - KUBUS, LLANELLI pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law  am Drwydded Safle ar gyfer Kubus, 29 Heol yr Orsaf, Llanelli, SA15 1AW i ganiatáu'r canlynol:

 

·         Cyflenwi Alcohol:-       Dydd Llun i ddydd Sul 09:00 – 21:00;

·         Oriau Agor dydd Llun hyd at ddydd Sul 09:00-21:00.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

·         Atodiad A – Copi o'r cais

·         Atodiad B – Sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

·         Atodiad C – Sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu

 

Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cais.

 

Yn ogystal â'r uchod, cafodd yr Is-bwyllgor, yn dilyn cytundeb yr holl bartïon oedd yn bresennol, y dogfennau ychwanegol canlynol:

 

  • Datganiad yr heddlu (cyfyngedig)
  • Safle Ardal Effaith Gronnol – Heol yr Orsaf Llanelli

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a gafwyd cyn y gwrandawiad gan y partïon.

 

 

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad C i'r adroddiad a chyfeiriodd at y sylw ysgrifenedig a oedd wedi'i gynnwys ym mwndel yr agenda.

 

Eglurodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu fod:

 

  • Ardal Heol yr Orsaf yn destun Polisi Effaith Gronnol a bod y safle/polisi hwn yn creu rhagdybiaeth a ai yn erbyn rhoi trwydded safle.
  • Erbyn hyn, mae sail statudol gan Bolisïau/Asesiadau Effaith Gronnol.
  • Nid oedd yr eithriadau i'r polisi a amlinellwyd yn Atodiad C fel pe baent yn berthnasol yn yr achos hwn.
  • Petai'r Is-bwyllgor yn penderfynu rhoi'r drwydded, mae'r ymgeisydd yn cefnogi'r amodau trwydded a gynigir.
  • Rhoddwyd cadarnhad bod 1 drwydded wedi'i hildio ers 2016.
  • Mae'r adain Drwyddedu yn cael adroddiadau'n rheolaidd am broblemau yn ardal Heol yr Orsaf, Llanelli ac nid yw'r problemau hynny wedi lleihau.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd Mr Price, cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys, at ei sylwadau ysgrifenedig a'i ddatganiad o dystiolaeth, a dywedodd: 

 

  • Bod yr Heddlu yn gwrthwynebu'r cais oherwydd y Polisi Effaith Gronnol a'r  Gorchymyn Yfed mewn Mannau Cyhoeddus (DPPO) a gwmpasai Heol yr Orsaf a'r ardal gyfagos.

 

  • Roedd Heol yr Orsaf, Llanelli, wedi'i nodi'n fan â llawer o broblemau o ran troseddau ac anhrefn.

 

  • Pe byddai'r Is-bwyllgor yn gwyro o'i Bolisi Effaith Gronnol, byddai'r heddlu'n gofyn am ychwanegu amodau penodedig at y drwydded. Credai fod yr ymgeisydd wedi derbyn yr amodau.

 

  • Y cefndir mewn perthynas â natur gymdeithasol ddifreintiedig yr ardal a nifer y safleoedd trwyddedig yn Heol yr Orsaf.

 

  • Yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018 cofnodwyd 164 o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Heol yr Orsaf ac roedd 26% o'r rheiny wedi digwydd mewn safleoedd trwyddedig.

 

  • Roedd un ym mhob pum trosedd perthnasol ac 13% o'r holl achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol cysylltiedig ag alcohol a gofnodwyd yn nhref Llanelli yn digwydd yn Heol yr Orsaf. At hynny, cafodd 41 o droseddau Trais yn erbyn yr Unigolyn oedd yn gysylltiedig ag alcohol eu cofnodi yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau