Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiannau personol.

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - ETTO'S COFFEE SHOP, 25 HIGH STREET, LLANDYBIE, SA18 3HX pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfreithiwr Cynorthwyol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law am Drwydded Safle ar gyfer Etto's Coffee Shop, 25 Stryd Fawr, Llandybie, SA18 3HX i ganiatáu'r canlynol:

 

Cyflenwi Alcohol

Dydd Sul tan ddydd Iau 12:00 – 22:00

Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 12:00 – 23:00

Oriau Agor:

Dydd Sul tan ddydd Iau 07:00 – 22:30

Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 07:00 – 23:30

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

·        Atodiad A – Copi o'r cais

·        Atodiad B – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

·        Atodiad C – Sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

·        Atodiad D - Sylwadau gan bobl eraill

 

Yn ogystal â'r uchod, cafodd yr Is-bwyllgor, yn dilyn cytundeb yr holl bartïon oedd yn bresennol, y dogfennau ychwanegol canlynol:

 

·        Cynllun yn dangos lleoliad y safle

·        Gohebiaeth gan Heddlu Dyfed-Powys yn tynnu ei wrthwynebiadau yn ôl ar ôl dod i gytundeb â'r ymgeisydd ynghylch cynnwys yr 18 o amodau a awgrymwyd ar y Drwydded, pe caniateir.

·        Gohebiaeth gan yr ymgeisydd dyddiedig 17 Chwefror, yn derbyn yr 18 o amodau a awgrymwyd gan yr Heddlu.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad, a chadarnhaodd yn dilyn hynny, bod Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud wrth yr Awdurdod Trwyddedu ei fod yn tynnu ei sylwadau yn ôl ar sail cytundeb a wnaed gyda'r ymgeisydd ynghylch cynnwys yr 18 o amodau a awgrymwyd ar y Drwydded. O ganlyniad i'r cytundeb hwnnw, awgrymodd pe bai'r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu'r cais fel y cyflwynwyd, byddai'r 18 o amodau hynny yn disodli'r amodau a oedd ynghlwm â'r atodlen weithredu wreiddiol.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd at Atodiad D yr adroddiad ac at y sylwadau a gafwyd gan Gyngor Cymuned Llandybie a nodai er bod y cyngor yn cefnogi'r cais, roedd o'r farn y dylid gosod cyfyngiad ar werthu alcohol tan ar ôl 6.00 p.m. pan fyddai'n llai tebygol y byddai plant heb gwmni oedolyn yn bresennol pan gaiff alcohol ei werthu. Yn dilyn y sylwadau hynny, roedd yr Awdurdod Trwyddedu wedi ystyried darpariaethau Paragraff 91 o Bolisi Trwyddedu'r Cyngor a rhannau 14.46 ac 14.49 y Canllawiau Statudol sy'n ymwneud â mynediad plant at safleoedd trwyddedig, ac roedd o'r farn nad oedd unrhyw ofyniad i osod amodau ychwanegol ar y Drwydded.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cafwyd sylw a oedd yn cefnogi'r cais ac yn cyfeirio at y modd rhagorol y mae'r busnes yn gweithredu ar hyn o bryd, gan ddarparu swyddi ychwanegol a denu mwy o bobl i bentref Llandybie. Ni chafodd pryderon Cyngor Cymuned Llandybïe eu cefnogi.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r cefnogwr ynghylch ei sylwadau.

 

Amlinellodd yr ymgeisydd i'r Is-bwyllgor ei resymau dros geisio trwydded safle er mwyn galluogi cwsmeriaid i fwyhau diodydd alcoholaidd â the prynhawn/ byrbrydau gyda'r hwyr ac ati mewn amgylchedd t? coffi. Ar hyn o bryd mae'r safle yn gweithredu fel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau