Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu A - Dydd Mawrth, 12fed Rhagfyr, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiannau personol.

 

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - BOLEYN'S BISTRO, 13 OLD CASTLE ROAD, LLANELLI SA15 2SL. pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law  am Drwydded Safle ar gyfer Boleyn’s Bistro, 13 Heol yr Hen Gastell, Llanelli, SA15 2SL i ganiatáu'r canlynol:

 

Cyflenwi Alcohol / Cerddoriaeth a recordiwyd

Dydd Llun – Dydd Sadwrn 12:00 – 00:00

Dydd Sul 12:00 – 23:00

Oriau Agor

Dydd Llun – Dydd Sadwrn 12:00 – 00:30

Dydd Sul 12:00 – 23:30

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

·       Atodiad A – Copi o'r cais

·       Atodiad B - Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu

·       Atodiad D – Sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd

·       Atodiad B – Sylwadau Heddlu Dyfed-Powys

Yn ogystal â'r uchod, cafodd yr Is-bwyllgor, yn dilyn cytundeb yr holl bartïon oedd yn bresennol, y dogfennau ychwanegol canlynol:

·       Cynllun yn dangos lleoliad y safle

·       Llythyr dyddiedig 11 Rhagfyr, 2017 gan Mr A Morgan, Cyngor Sir Caerfyrddin at yr Ymgeisydd

·       Dwy neges e-bost dyddiedig 11 Rhagfyr, 2017 gan yr ymgeisydd at yr Awdurdod Trwyddedu.

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad, gan ddweud, yn dilyn hynny, ei fod ef a Mr A Morgan o Iechyd yr Amgylchedd, wedi ymweld â'r safle ar 28 Tachwedd, 2017 i drafod y cais gyda'r ymgeisydd. O ganlyniad i'r ymweliad hwnnw, roedd Mr Morgan wedi ysgrifennu at yr ymgeisydd gan gynnig ychwanegu'r ddau amod canlynol at y Drwydded Safle, petai'r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu'r cais:-

·       Bydd cwsmeriaid yn defnyddio'r iard yn y cefn yn unig yn fan ysmygu yn yr awyr agored,

·       Ni fydd unrhyw gerddoriaeth yn mynd drwy uchelseinydd mewn unrhyw fannau allanol.

Yn ogystal â'r amodau uchod, roedd Mr Morgan hefyd wedi cyfeirio at yr elfen o'r cais oedd yn gofyn am ganiatâd i chwarae cerddoriaeth a recordiwyd ac wedi awgrymu i'r ymgeisydd ei bod yn tynnu'r elfen honno yn ôl o'r cais ar y sail bod chwarae cerddoriaeth gefndir yn cael ei ganiatáu i safleoedd trwyddedig o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Roedd yr ymgeisydd, mewn neges e-bost dyddiedig 11 Rhagfyr, wedi cadarnhau ei bod yn cytuno â'r amodau arfaethedig ac wedi tynnu'n ôl yr elfen o'i chais yn ymwneud â cherddoriaeth a recordiwyd.

 

Dywedodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu fod yr ymgeisydd, mewn neges e-bost dyddiedig 11 Rhagfyr, hefyd wedi cadarnhau ei bod yn derbyn yr 20 o amodau trwyddedu a awgrymwyd gan Heddlu Dyfed-Powys. 

 

Dywedodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu, i gloi, er ei fod yn argymell cynnwys yr amodau awgrymedig a gynigiwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd a Heddlu Dyfed-Powys yn y Drwydded Safle, y dylai'r Is-bwyllgor, wrth ystyried y cais, roi sylw i sylwadau dienw a oedd wedi dod i law yn gwrthwynebu'r cais ar sail s?n ac aflonyddwch yn sgil cerddoriaeth uchel a chwsmeriaid meddw.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau a nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad, gan gadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cytuno i gynnwys amodau rhif  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.