Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Pwyllgor bod y Rheol hon o Weithdrefn y Cyngor yn cael ei hadolygu i ganiatáu ar gyfer anawsterau technegol.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
I YSTYRIED Y DOGFENNAU CANLYNOL A BARATOWYD GAN ARCHWILIO CYMRU:- Dogfennau ychwanegol: |
|
DIWEDDARIAD RHAGLEN WAITH ARCHWILIO CYMRU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Diweddariad ynghylch Rhaglen Archwilio Cymru a'r amserlen, fel yr oedd ym mis Medi 2024.
Rhoddodd cynrychiolydd Archwilio Cymru ddiweddariad ar lafar i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r Archwiliad Ariannol a chadarnhaodd fod y cyfrifon a'r ffurflen flynyddol yn yr adroddiad wedi'u cymeradwyo. Adroddwyd bod rhan sylweddol o'r gwaith archwilio ariannol ar gyfer 2023/24 wedi'i gwblhau a bod y gwaith archwilio mewn perthynas â'r hawliadau Budd-dal Tai yn cael eu gorffen ar hyn o bryd a'r nod oedd eu cwblhau erbyn diwedd mis Ionawr 2025.
Rhoddodd cynrychiolydd Archwilio Cymru ddiweddariad ar lafar i'r Pwyllgor mewn perthynas ag Archwilio Perfformiad ac eglurodd y byddai'r sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 3 ar gyfer 2024 ar gael yn gynnar yn 2025.
Gwnaed yr ymholiadau/sylwadau canlynol ynghylch yr adroddiad:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Diweddariad ynghylch Rhaglen Waith Archwilio Cymru.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn adolygiad dilynol o'r camau yr oedd y Cyngor wedi'u cymryd mewn ymateb i'r wyth argymhelliad a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru yn eu hadroddiad yn 2021 - Adolygiad o Wasanaethau Gwastraff yng Nghyngor Sir Caerfyrddin.
Eglurwyd bod Archwilio Cymru wedi canfod yn yr adolygiad dilynol fod y Cyngor wedi bodloni'r holl argymhellion a wnaed yn adroddiad 2021. Roedd yr wyth argymhelliad yn yr adroddiad blaenorol yn ymdrin â'r trefniadau yn y meysydd canlynol: y gwasanaeth gwastraff gardd, Cwm Environmental Ltd (CWM), tipio anghyfreithlon, a strategaeth wastraff y Cyngor.
Roedd Archwilio Cymru wedi nodi canfyddiadau manwl o'r Adolygiad yn Arddangosyn 1 ac nid oedd wedi cyhoeddi unrhyw argymhellion pellach, felly, nid oedd angen ymateb gan y Cyngor ar gyfer yr adroddiad presennol.
Roedd Aelodau'r Pwyllgor yn cydnabod bod yr adroddiad yn un boddhaol, a mynegwyd diolch i'r tîm Gwasanaethau Gwastraff am y camau a gymerwyd.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad Archwilio Cymru ar Ddatblygu Cynaliadwy. – Gwneud y defnydd gorau o dir llwyd ac adeiladau gwag, sef adolygiad Cymru gyfan a gynhaliwyd i 'archwilio sut roedd cynghorau Cymru yn cefnogi ac yn annog ailddefnyddio ac adfywio eiddo gwag a safleoedd tir llwyd yn gartrefi, neu at ddefnydd arall’.
Y cwestiwn allweddol a oedd yn cael ei ystyried oedd: A yw awdurdodau lleol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi ac annog ailddefnyddio eiddo gwag, annomestig a safleoedd tir llwyd yn gartrefi neu at ddibenion eraill? Roedd yr adroddiad yn nodi cyd-destun yr adolygiad, y canfyddiadau allweddol, ynghyd â 3 o argymhellion. Atodwyd i'r adroddiad ymateb Cyngor Sir Caerfyrddin.
Gwnaed yr ymholiadau/sylwadau canlynol ynghylch yr adroddiad:
· Gofynnwyd i adroddiad cynnydd gael ei gynnwys ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor, i'w ystyried ar ôl 31 Mawrth 2025. Awgrymwyd hefyd bod yr adroddiad cynnydd yn cynnwys data meintiol mewn perthynas â nifer y cartrefi gwag a pha gymorth oedd yn cael ei ddarparu i ailddefnyddio'r cartrefi unwaith eto. Cytunodd y Pennaeth Datblygu Economaidd ac Eiddo i ddarparu adroddiad yn y Gwanwyn i'r Pwyllgor ei ystyried.
· Eglurodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru mewn ymateb i ymholiad ynghylch tir llwyd a thir cyn-ddiwydiannol mai’r farn ar draws Awdurdodau Lleol yng Nghymru oedd nad oedd safleoedd tir llwyd yn cael eu hystyried yn dir cyn-d diwydiannol yn unig. Yn y bôn, roedd yn dir a ddatblygwyd mewn rhyw fodd ond nid yn gaeau gwyrdd. Roedd gan dir o'r fath nifer o agweddau gan gynnwys eiddo gwag yn ogystal â thir diwydiannol a gafodd ei ddatblygu'n llawn yn y gorffennol. Nid oedd unrhyw rwystrau mewn perthynas ag Awdurdodau yn deall y diffiniad o'r math o dir.
· Cyfeiriwyd at dudalen 17 yr adroddiad - Materion DU Wrth gydnabod y materion a nodwyd, gofynnwyd beth oedd Archwilio Cymru yn bwriadu ei wneud? Yn ogystal â chael ei nodi fel cyfyngiad ar ddatblygiadau tir llwyd gofynnwyd pa gamau yr oedd Archwilio Cymru yn bwriadu eu cymryd o ran ardaloedd cadwraeth ac adeiladau rhestredig. Esboniodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru y byddai'r ymholiad yn cael ei godi gydag aelodau’r Tîm Astudio er mwyn deall pa gamau yr oedden nhw wedi'u cymryd o ganlyniad i nodi'r materion. Byddai ymateb yn cael ei gylchredeg i'r Pwyllgor maes o law.
3.3.1 nodi canfyddiadau ac argymhellion adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru;
3.3.2 cymeradwyo ymateb Cyngor Sir Caerfyrddin i argymhellion yr adroddiad cenedlaethol sy'n berthnasol i'r Cyngor.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad mewn dwy ran, sef Adroddiad Archwilio Cymru ar Gynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol – (Rhagfyr 2024), ac Adolygiad Cynaliadwyedd Ariannol – Cyngor Sir Caerfyrddin (Medi 2024).
Roedd Archwilio Cymru wedi ymgymryd ag Adolygiad Cynaliadwyedd Ariannol ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol ledled Cymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad Trosolwg Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2024 a chafodd ei gynnwys yn yr adroddiad er gwybodaeth gan nad oes angen ymateb i unrhyw argymhellion penodol. Cyhoeddwyd adroddiad a chanfyddiadau penodol Cyngor Sir Caerfyrddin ym mis Medi 2024.
Roedd yr adroddiad lleol hefyd wedi nodi un argymhelliad ar gyfer y Cyngor ac atodwyd ymateb y Cyngor i'r adroddiad.
Codwyd y pwyntiau/ymholiadau/sylwadau canlynol mewn perthynas ag adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru ar Gynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol (Rhagfyr 2024):
· Gan gyfeirio at Arddangosyn 2: themâu cyffredin adroddiadau Adran 114, (dyfynnwyd paragraff 59 ar dudalen 23 yr adroddiad), gofynnwyd a allai'r Pwyllgor dderbyn rhagor o wybodaeth am arfer da/gwersi a ddysgwyd mewn perthynas â Chyngor Sir Ddinbych - fel y cydnabyddir yn yr adroddiad? Esboniodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod Cyngor Sir Ddinbych wedi ymgymryd â hunanasesiad yn dilyn ystyried y risgiau a nodwyd gan CIPFA. I gael rhagor o fanylion am beth fyddai hyn yn ei olygu, cytunwyd y byddai Swyddogion Sir Gaerfyrddin yn cysylltu â'r tîm yng Nghyngor Sir Ddinbych.
· Cyfeiriwyd at dudalen 10 yr adroddiad - paragraff 21. Gofynnwyd a oedd unrhyw gynlluniau i archwilio'r pryderon bod materion neu brosesau cenedlaethol yn golygu bod cynllunio ariannol yn anoddach? Cyfeiriodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru at y sylw a wnaed ganddo yn yr adroddiad ac eglurodd, yn ogystal, fod trafodaethau ar y mater hwn yn cael eu cynnal o fewn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac ar lefel fwy strategol yn Llywodraeth Cymru. Cadarnhawyd bod hyn ar radar Archwilio Cymru o ran risgiau a sicrwydd.
· Wrth sôn bod yr adroddiad yn ddefnyddiol a llawn gwybodaeth, mynegwyd diolch i Archwilio Cymru am y gwaith.
Manteisiodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ar y cyfle i egluro i'r Pwyllgor y broses gyllidebol, ynghyd â'r amseriad a'r heriau a oedd yn codi. Pwysleisiwyd bod yr Awdurdod wedi gweithio'n galed i gynllunio ar gyfer y dyfodol drwy Gynllun Cyfalaf 5 mlynedd, Cynllun Ariannol Tymor Canolig 3 blynedd a'r Cynlluniau Busnes Adrannol. Yn ogystal â'r newidiadau mewn setliadau cyllidebol, cydnabuwyd heriau eraill e.e. galw gan gymdeithas i gynyddu gwasanaethau yn ogystal â gorfod ymateb i newidiadau munud olaf gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Codwyd y pwyntiau/ymholiadau/sylwadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad ar Adolygiad Cynaliadwyedd Ariannol – Cyngor Sir Caerfyrddin (Medi 2024):
· Wrth sôn bod yr adroddiad yn gadarnhaol ar y cyfan ond ei fod yn cydnabod yr heriau a'r pwysau allweddol, gofynnwyd sut y byddai integreiddio adrodd a chyflawni'r amcanion corfforaethol yn cael eu cyflawni? Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddent yn gwneud eu gorau glas i integreiddio cymaint â phosibl. Eglurwyd y byddai'r Strategaeth Gorfforaethol, y broses cynllunio busnes ynghyd â'r ystyriaethau cyllidebol yn fodd i sicrhau integreiddio.
Ychwanegodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth, mewn perthynas â'r Cynlluniau Busnes, roedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.4 |
|
ADRODDIAD ARCHWILIO CYMRU: Y FENTER TWYLL GENEDLAETHOL YNG NGHYMRU 2022-23 (HYDREF 2024) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Roedd y Fenter Twyll Genedlaethol yn ymarfer gwrth-dwyll dwyflynyddol ledled y DU. Roedd yn defnyddio technegau cyfrifiadurol i gymharu gwybodaeth am unigolion a gedwir gan wahanol gyrff cyhoeddus, ac ar wahanol systemau ariannol, a allai ddangos bod twyll neu gamgymeriad yn bodoli. Roedd yr adroddiad cenedlaethol hwn, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2024, yn rhoi crynodeb o'r materion canlynol:
• Ffeithiau allweddol i Gymru • Negeseuon Allweddol • Canlyniadau cyffredinol • Dadansoddiad pellach o ddata yn ôl math • Datblygiadau yn y dyfodol • Atodiadau.
Nododd y Pwyllgor nad oedd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw argymhellion ar gyfer ymateb gan sefydliadau.
Gwnaed yr ymholiadau/sylwadau canlynol ynghylch yr adroddiad:
· Ceisiwyd sicrwydd o ran cwmpasu'r holl eitemau y mae'r Fenter Twyll Genedlaethol yn tynnu sylw atynt. Cynigiodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol gyflwyno'r eitemau sy'n ymwneud yn benodol â Chyngor Sir Caerfyrddin i'r Pwyllgor ynghyd â'r rhestr wirio hunanasesu.
3.5.1 Nodi'r adroddiad cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru ym mis Hydref 2024; 3.5.2 Cyflwyno Rhestr Wirio Hunanarfarnu’r Fenter Twyll Genedlaethol (a roddwyd i awdurdodau lleol ym mis Tachwedd 2024) i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Pwyllgor wedi cael briff ar y materion allweddol a ystyriwyd yng Ngweithdy Cyllideb y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2024. Roedd y Pwyllgor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2024 (gweler cofnod 7), wedi nodi'r pwysau sylweddol ar y gyllideb ac wedi gofyn am gynnal sesiwn friffio anffurfiol ychwanegol yn yr Hydref i drafod y pwysau a'r risgiau ar y gyllideb sy'n gysylltiedig â'r goblygiadau ariannol sy'n wynebu gwasanaethau'r Cyngor ac ysgolion.
Teimlai'r Pwyllgor fod gweithdai ar y gyllideb yn fuddiol, a chynigiwyd trefnu gweithdy pellach ym mis Mawrth 2025. Eiliwyd y cynnig hwn.
4.1 bod y trosolwg o'r gweithdy ar y gyllideb a ofynnwyd amdano gan y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2024 yn cael ei nodi;
4.2 bod gweithdy ar y gyllideb yn cael ei drefnu a’i gynnal ym mis Mawrth 2025.
|
|
Y DIWEDDARAF YNGHYLCH AR CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2024/25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch rhoi'r Cynllun Archwilio Mewnol ar waith ar gyfer 2024/25 fel yr oedd ar 11 Rhagfyr 2024.
Bu'r Pwyllgor yn adolygu'r cynnydd a oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu'r rhaglen archwilio a oedd yn dangos cyfradd gwblhau o 54% yn erbyn targed o 55%.
Eglurodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol y byddai'n ceisio gohirio'r aseiniadau ar y Gofrestr Risg a Seiberddiogelwch er mwyn symleiddio'r amseriad yn well. Wrth dderbyn y rhesymau, cynigiwyd gohirio'r aseiniadau ar y Gofrestr Risg a Seiberddiogelwch o'r Cynllun Archwilio Mewnol eleni. Eiliwyd y cynnig hwn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
5.1 bod y diweddariad ar y Cynllun Archwilio 2024/25 yn cael ei dderbyn;
5.2 bod yr aseiniadau ar y Gofrestr Risg a Seiberddiogelwch o Gynllun Archwilio Mewnol eleni yn cael eu gohirio.
|
|
COFRESTR RISG CORFFORAETHOL 2024/25 CYNGOR SIR CAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Gofrestr Risg Gorfforaethol a oedd yn cael ei chadw er mwyn gwerthuso'r risgiau strategol allweddol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu.
Adroddwyd nad oedd unrhyw risgiau wedi cael eu dileu o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol, ond ychwanegwyd y canlynol:-
· Trais ac ymddygiad ymosodol tuag at ein staff - CRR190085
Wrth dynnu sylw at y ffaith nad oedd y Pwyllgor eto wedi comisiynu adolygiad craffu dwys, teimlwyd, er mwyn rhoi sicrwydd bod meysydd risg yn cael eu rheoli, awgrymwyd y dylid comisiynu adolygiad craffu dwys yn y flwyddyn ariannol hon ar un o'r ddau faes risg canlynol oedd â sgôr risg sylweddol heb ei rheoli :-
- CRR190019 - Methiant i sicrhau bod ysgolion yn rheoli eu hadnoddau yn effeithiol ac yn ymateb i'r heriau o ran llai o gyllid.
- CRR190081 - Methiant i sicrhau bod Gwasanaethau Plant yn rheoli'r cynnydd yn y galw yn effeithiol ac ymateb i'r heriau adnoddau (staff ac ariannol) sy'n wynebu'r maes gwasanaeth
Yn dilyn trafodaeth mewn perthynas â datblygu cwmpas yr adolygiad ynghyd ag ystyried amser dechrau'r adolygiad, cynigiwyd y dylai Archwilio Mewnol, ar y cyd â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, ddatblygu'r 'Cwmpas' ar gyfer adolygiad craffu dwys o CRR190019 a bod hyn yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor er gwybodaeth ym mis Ionawr 2025. Eiliwyd y cynnig hwn.
Yn deillio o'r drafodaeth, cynigiwyd y dylid cynnal y craffu dwys ar CRR 190081 yn gynnar ym mlwyddyn ariannol 2025/26.
Dylid cyflwyno adroddiad ar ganlyniad y gwaith 'Craffu Dwys' ar CRR 190019 yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Mawrth 2025.
6.1 bod Cofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor 2024/25 yn cael ei derbyn;
6.2 bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, ar y cyd ag Archwilio Mewnol, yn datblygu dogfen gwmpasu ar gyfer adolygiad craffu dwys o CRR 190019 a'i rannu gyda'r Pwyllgor er gwybodaeth ym mis Ionawr 190019.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION I'R CYNGOR 2023-24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ynghylch Cwynion 2023-24 i'w ystyried a oedd yn rhoi trosolwg o gwynion corfforaethol a chwynion gwasanaethau gofal cymdeithasol a dderbyniwyd ac a gaewyd gan y Cyngor yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024. Roedd yr adroddiad blynyddol hefyd yn manylu ar gydymffurfiaeth â Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 a 'Chanllawiau i awdurdodau lleol yngl?n â sut i ymdrin â chwynion am wasanaethau cymdeithasol’ Llywodraeth Cymru.
Tynnodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth sylw'r Pwyllgor at y newidiadau allweddol a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.
Mynegwyd sylwadau fod yr adroddiad yn glir ac yn addysgiadol.
7.1 bod yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Cwynion 2023-24 yn cael ei gymeradwyo;
7.2 bod y data a'r wybodaeth a oedd wedi'u cynnwys o ran cydymffurfiaeth â'r Polisi Cwynion Corfforaethol a Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 a 'Chanllawiau i awdurdodau lleol yngl?n â sut i ymdrin â chwynion am wasanaethau cymdeithasol’ Llywodraeth Cymru yn cael eu derbyn.
|
|
LLYTHYR BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2023/2024 CYNGOR SIR CAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddymuno'n dda i Mr Nigel Evans, Rheolwr Cymorth Busnes, yr Is-adran Gweinyddiaeth a'r Gyfraith ar ei ymddeoliad sydd ar ddod, a diolchwyd iddo am ei waith dros y blynyddoedd.
Derbyniodd y Pwyllgor Lythyr Blynyddol Ombwdsmon 2023/24 Cyngor Sir Caerfyrddin i'w ystyried. Bob blwyddyn mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn rhoi llythyr i bob Cyngor Sir yng Nghymru ar ffurf taflen ffeithiau ynghyd â'r data cysylltiedig er mwyn helpu i ddeall perfformiad.
Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r wybodaeth yn y llythyr a oedd yn cynnwys taflenni ffeithiau i helpu i ddeall y dadansoddiad o'r wybodaeth.
Nodwyd mae 1,108 oedd nifer yr achosion newydd a gafodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas ag awdurdodau lleol, a adroddwyd bod hyn yn cyd-fynd yn fras â'r llynedd.
Derbyniwyd 69 o gwynion am Gyngor Sir Caerfyrddin yn 2023/24, cynnydd o'i gymharu â 53 y llynedd, roedd 60 wedi cael eu cau. Braf oedd adrodd nad oedd dim adroddiadau yn erbyn Cyngor Sir Caerfyrddin boed wedi cael eu cadarnhau neu heb eu cadarnhau. At hynny, ni dderbyniwyd unrhyw adroddiadau diddordeb cyhoeddus nac adroddiadau diddordeb arbennig. Darparwyd rhagor o wybodaeth yn Atodiad A o'r llythyr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 24/2023 Cyngor Sir Caerfyrddin.
|
|
CYNNYDD AR ARGYMHELLION O FEWN ADRODDIADAU RHEOLEIDDIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad yn amlinellu'r cynnydd rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Rhagfyr 2024 ynghylch argymhellion parhaus ac argymhellion wedi'u cwblhau, yn seiliedig ar gynnydd Ch2 fel y cynhwysir yn adroddiadau rheoleiddio Cenedlaethol a lleol (lleol sy'n benodol i Sir Gaerfyrddin). Yn ogystal, mae'r adroddiad yn cynnwys manylion am yr argymhellion parhaus o adroddiadau'r gorffennol ynghyd ag argymhellion a gwblhawyd ac a gaewyd yn ystod y flwyddyn flaenorol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynnydd o ran Argymhellion Adroddiadau Rheoleiddiol.
|
|
LOG GWEITHREDU'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Cofnod o Gamau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a oedd yn nodi'r camau gweithredu i'w monitro/datblygu o gyfarfodydd blaenorol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Cofnod o Gamau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
|
|
COFNODION GRWPIAU PERTHNSAOL I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
11.1bod cofnodion cyfarfod y Panel Grantiau a gynhaliwyd ar 12 Medi 2024 yn cael eu derbyn;
11.2 bod cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024 yn cael eu derbyn.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |