Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Gwener, 12fed Gorffennaf, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Alex Evans.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr Aelod

Eitem ar yr agenda 

Y Math o Fuddiant

Mr M. MacDonald

5.4 - Cynllun Archwilio Manwl Cronfa Bensiwn Dyfed 2024.

 

8. Datganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-24.

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

 

 

 

Y Cynghorydd K. Davies

5.4 - Cynllun Archwilio Manwl Cronfa Bensiwn Dyfed 2024.

 

8. Datganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-24.

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd P. Warlow

5.4 - Cynllun Archwilio Manwl Cronfa Bensiwn Dyfed 2024.

 

8. Datganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-24.

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd D. E. Williams

5.4 - Cynllun Archwilio Manwl Cronfa Bensiwn Dyfed 2024.

 

8. Datganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-24.

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed a Chadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd J. Williams

5.4 - Cynllun Archwilio Manwl Cronfa Bensiwn Dyfed 2024.

 

8. Datganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-24.

 

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd K.V. Broom

5.4 - Cynllun Archwilio Manwl Cronfa Bensiwn Dyfed 2024.

 

8. Datganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-24.

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

Mrs Karen Jones

5.4 - Cynllun Archwilio Manwl Cronfa Bensiwn Dyfed 2024.

 

8. Datganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-24.

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

 

3.

PENODI CADEIRYDD Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2024/25

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn amodi bod yn rhaid i'r aelod a benodir yn gadeirydd pwyllgor fod yn berson lleyg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi Mr D. MacGregor yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2024/25.

 

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2024/25

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd G. Morgan yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2024/25.

 

 

5.

I YSTYRIED Y DOGFENNAU CANLYNOL A BARATOWYD GAN ARCHWILIO CYMRU:-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr Archwilio Cymru, Ms Eleanor Ansell, Mr Gareth Jones a Mr Derwyn Owen, i'r cyfarfod.

 

 

5.1

DIWEDDARIAD RHAGLEN WAITH ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan Mr Gareth Jones, cynrychiolydd Archwilio Cymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys Rhaglen Waith Archwilio Cymru a'r diweddariad chwarterol ynghylch yr Amserlen, ar 31 Mawrth 2024.

 

Dywedwyd bod deunyddiau o'r digwyddiad arfer da, Pwyllgor Archwilio: arferion effeithiol ac effaith gadarnhaol, a gynhaliwyd ym mis Mai 2024 wedi'u cyhoeddi ac y byddent yn cael eu dosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor yn dilyn cyfarfod heddiw.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu wrth y Pwyllgor, yn dilyn adolygiad Archwilio Cymru ar Ddiogelu, fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu dull gwell a chadarn o ran cryfhau a monitro elfennau cydrannol y broses ddiogelu gorfforaethol.

 

Nododd Cynrychiolydd Archwilio Cymru sylw a godwyd ynghylch yr Adolygiad Thematig Digidol. Roedd y ddolen ar dudalen 4 yr adroddiad yn eich cyfeirio at Awdurdod gwahanol. Byddai hyn yn cael ei gywiro'n briodol.

 

Gwnaed yr ymholiad canlynol ynghylch yr adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at dudalen 3 yr adroddiad. Gofynnwyd pa waith oedd yn cael ei wneud ar ôl cwblhau'r Adolygiad Cenedlaethol o Gynllunio Gofal ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sy'n destun proses Cyn-achosion yr Amlinelliad o Gyfraith Gyhoeddus ym mis Ionawr 2024. Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth y byddai'n gwirio ac yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor a fyddai Adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru yn mynd trwy'r broses Graffu neu'n cael ei nodi drwy System Monitro Perfformiad a Gwella (PIMS) yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Diweddariad ynghylch Rhaglen Waith Archwilio Cymru.

 

 

 

5.2

ARCHWILIO CYMRU - CRYNODEB ARCHWILIAD BLYNYDDOL 2023 pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan Mr Gareth Jones, cynrychiolydd Archwilio Cymru. Roedd Crynodeb Archwilio Blynyddol 2023 gan Archwilio Cymru yn rhoi amlinelliad o'r gwaith a gwblhawyd ers y Crynodeb Archwilio Blynyddol diwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023. Roedd y Crynodeb Archwilio yn rhan o ddyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Crynodeb Archwilio Blynyddol 2023 Archwilio Cymru.

 

 

5.3

CYNLLUN ARCHWILIO 2024 - CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Archwilio 2024 ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin a gyflwynwyd gan Mr Derwyn Owen, Cynrychiolydd Archwilio Cymru. Nodwyd bod yn rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol, fel archwilydd Cyngor Sir Caerfyrddin, gyflawni ei ddyletswyddau a'i rwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ac roedd y cynllun yn nodi'r gwaith oedd i'w wneud er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny.

 

Roedd y cynllun yn nodi'r gwaith y bwriedir ei wneud i fynd i'r afael â'r risgiau a nodwyd a meysydd ffocws allweddol eraill yn ystod 2024. Roedd hefyd yn nodi'r ffi archwilio amcangyfrifedig, manylion y tîm archwilio a'r dyddiadau cyflawni allweddol ac allbynnau arfaethedig.

 

Codwyd yr ymholiad canlynol fel a ganlyn:-

 

  • Mewn cysylltiad â'r trefniadau Seiberddiogelwch, gofynnwyd beth oedd cyfrifoldeb Archwilio Cymru pe bai unrhyw un o'r cyrff yng Nghymru yn wynebu ymosodiad seiber. Dywedodd Mr Owen fod Archwilio Cymru, o ran sail genedlaethol, wedi gwneud gwaith dros y 3-4 blynedd diwethaf yn asesu trefniadau pob corff mewn perthynas â seiberddiogelwch. Cyhoeddwyd yr adroddiadau canlyniadau yn 'breifat'. Dywedwyd er ei bod yn ffodus bod ymosodiadau seiber ar gyrff Cymru yn anaml, ei bod yn bwysig ceisio dysgu gwersi a chyhoeddi'r canlyniadau allweddol a'r pethau allweddol a ddysgwyd o'r digwyddiadau.

 

Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor ei fod wedi cael adroddiad Archwilio Cymru - Gwersi o Ymosodiadau Seiber (Hydref 2022) i'w ystyried yn ei gyfarfod ar 17 Mawrth 2023 [gweler cofnod 13] ac yn dilyn hynny, cafodd y Pwyllgor ymateb Cyngor Sir Caerfyrddin i'r adroddiad hwnnw yn ei gyfarfod ar 29 Medi 2023 [gweler cofnod 12] a oedd yn rhoi sicrwydd i'r Aelodau bod gan y Cyngor hwn drefniadau cadarn ar waith pe bai ymosodiad seiber.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn a nodi Cynllun Archwilio 2024 ar gyfer yr Awdurdod.

 

 

5.4

CRONFA BENSIWN DYFED CYNLLUN ARCHWILIO 2024 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr K. Broom, K. Davies, P. Warlow, D.E. Williams, J. Williams, Mrs K. Jones a Mr M. MacDonald wedi datgan buddiant yn yr eitem hon ond gwnaethant aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried.]

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Archwilio 2024 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a gyflwynwyd gan Ms Eleanor Ansell, Cynrychiolydd Archwilio Cymru. Nodwyd bod yn rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol, fel archwilydd Cronfa Bensiwn Dyfed, gyflawni ei ddyletswyddau a'i rwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ac roedd y cynllun yn nodi'r gwaith oedd i'w wneud er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny. Yn unol â hynny, rhoddwyd ystyriaeth i'r risgiau, y tîm archwilio, ffioedd a'r amserlen.

 

Dywedwyd ei bod yn fuddiol cyflwyno'r gwaith gofynnol o fewn yr amserlenni er mwyn cadw lefelau ffioedd mor isel â phosibl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Cynllun Archwilio 2024 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

5.5

CYNLLUN ARCHWILIO 2024 - HARBWR PORTH TYWYN pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Archwilio 2024 ar gyfer Harbwr Porth Tywyn, a gyflwynwyd gan Mr Derwyn Owen, Cynrychiolydd Archwilio Cymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys llythyr a oedd yn nodi'r gwaith a gynlluniwyd i'w wneud yn ystod 2024 i gyflawni cyfrifoldebau statudol Archwilydd Cyffredinol Cymru ac i gyflawni ei rwymedigaethau o dan y Côd Ymarfer Archwilio. Roedd yn cynnwys y gwaith y bwriadwyd ei wneud, y ffi archwilio amcangyfrifedig, manylion y tîm archwilio a'r dyddiadau allweddol ar gyfer cyflawni gweithgareddau'r tîm archwilio ac allbynnau arfaethedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Cynllun Archwilio 2024 ar gyfer Harbwr Porth Tywyn.

 

 

 

6.

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL 2023/24 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024 a fyddai'n cyd-fynd â'r Datganiad Cyfrifon i ddangos bod yr Awdurdod yn cydymffurfio â Fframwaith 2016 CIPFA - Cyflawni Llywodraethu Da yn y Llywodraeth ac egwyddorion craidd o lywodraethu da.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau canlynol a godwyd gan y Pwyllgor:-

 

  • Wrth gydnabod bod rheoli cwynion yn faes y mae angen ei wella, dywedwyd y byddai cynnwys gwell gwybodaeth am y mater hwn yn fuddiol. Awgrymwyd hefyd y dylid cofnodi'r camau sy'n cael eu cymryd i gyflawni'r amcan hwn yng nghynllun gweithredu'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

 

 

Cyfeiriwyd at yr adran Bod yn Agored ac Ymgysylltu yn Atodiad 2 y Datganiad Cyfrifon [AGS 2023/24 Rhif 4]. Mewn cysylltiad â'r polisi cwynion a'r pryderon a nodwyd, gofynnwyd a ddylid dwyn y dyddiad Mawrth 2025 yn ei flaen. Dywedyd y byddai camau gweithredu ar wahân yn cael eu cynnwys yn y cynllun gweithredu a fyddai'n nodi'r hyn y mae swyddogion yn bwriadu ei wneud er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion statudol. Byddai hyn yn cael ei gynnwys yn y fersiwn nesaf o'r cynllun gweithredu.

 

  • Canmolwyd y gwaith o ran y data a'r wybodaeth a'r dystiolaeth ychwanegol a gynhwyswyd, ac estynnwyd diolch diffuant i swyddogion am yr adroddiad trylwyr.

 

  • Cyfeiriwyd at dudalen 14 yn y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol - Beth a sut gallwn ni wneud yn well. Wrth gyfeirio at y paragraff cyntaf, dywedwyd y dylai pob aelod dderbyn ymateb i gwestiynau dilys. Cytunwyd bod y sylw yn deg ac y byddai'n cael ei anfon ymlaen at y Swyddog Monitro i'w ystyried.

 

  • Dywedwyd bod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi'i gyflwyno'n dda, roedd yn hawdd ei ddarllen ac yn ddealladwy wrth grynhoi pob adran yn briodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar ystyried y materion a nodwyd uchod ymhellach, fod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2023/24 yn cael ei chymeradwyo.

 

 

7.

DATGANIAD CYFRIFON 2023/24 pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon Drafft 2023/24 ar gyfer

Cyngor Sir Caerfyrddin, a oedd wedi'i baratoi yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd yn 2018).

 

Roedd hon yn ddogfen sylweddol ac roedd wedi cael ei hystyried yn fanwl mewn sesiwn briffio yn gynharach yn yr wythnos. Yn ogystal â'r sesiwn briffio yn gynharach yn yr wythnos, rhoddwyd trosolwg i'r Pwyllgor o'r pwyntiau amlwg a gynhwysir yn y Datganiad Cyfrifon a oedd yn crynhoi sefyllfa ariannol yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024.

 

Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y symudiadau a wnaed o'r cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi, ac eglurodd fod caniatâd ôl-weithredol yn cael ei geisio mewn perthynas â throsglwyddiadau a oedd yn ymwneud â Chronfeydd Wrth Gefn y Gronfa Datblygiadau Mawr, y Rhaglen Moderneiddio Addysg, Cyllid Cyfalaf a'r Fargen Ddinesig/Pentre Awel. 

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau canlynol a godwyd gan y Pwyllgor:-

 

  • Wrth gydnabod bod 2023/24 wedi bod yn flwyddyn heriol iawn, mynegwyd bod datganiadau archwilio blaenorol wedi nodi y rhagwelir y bydd 5% yn llai o blant a chynnydd o 25% o bobl oedrannus yn y blynyddoedd i ddod, a fyddai'n rhoi pwysau sylweddol ar ofal cymdeithasol ac iechyd, a mwy o bwysau felly ar ysgolion gyda'r arian sy'n gostwng yn barhaus. Nodwyd y gwasgfeydd o ran gwariant a welwyd yn y cyfrifon drafft ar gyfer 2023/24 gan y pwyllgor a chodwyd goblygiadau'r rhain ar flwyddyn ariannol 2024/25. Gofynnwyd a oedd y rhain yn cael eu hystyried o ran ffigurau cyllideb y dyfodol. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol hyn ac eglurodd fod gwaith ar gyllideb y flwyddyn nesaf eisoes wedi dechrau ac y byddai dylanwadau cymdeithasol yn cael eu hystyried. Yn ogystal, roedd themâu thematig a thueddiadau o adrannau yn cael eu casglu a fyddai'n llywio dyraniadau cyllideb y dyfodol.

 

Ar ben hynny, yn deillio o'r trafodaethau yn y sesiwn briffio yn gynharach yn yr wythnos, ystyriwyd y byddai'n fuddiol i Aelodau'r Pwyllgor gael syniad o'r tueddiadau sylfaenol a chael rhagor o wybodaeth am y meysydd sydd dan bwysau parhaus er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gyflawni ei gyfrifoldebau o ran monitro perfformiad. Felly, awgrymwyd y byddai'n ddoeth cynnal cyfarfod briffio anffurfiol ychwanegol yn yr Hydref i drafod y cyllidebau a'r goblygiadau ariannol a wynebai gwasanaethau'r Cyngor ac ysgolion, gan ystyried modelu ariannol adrannol yn gynnar yn y flwyddyn. Mewn ymateb i'r awgrym a nifer o sylwadau a godwyd wrth gydnabod y manteision cael gwybod yn gynharach yn y broses gyllideb, rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ystyriaeth i'r awgrym a chytunodd i hwyluso yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1 Derbyn Datganiad Cyfrifon 2023/24;

7.2 Cymeradwyo'n ôl-weithredol y symudiadau o'r Cronfeydd Wrth Gefn wedi’u Clustnodi ac iddynt. Yn enwedig, y trosglwyddiadau i:

·       Y Gronfa Datblygiadau Mawr

·       Cyllid cyfalaf y Rhaglen Moderneiddio Addysg

·       Y Fargen Ddinesig/Pentre Awel

 

 

 

8.

CRONFA BENSIWN DYFED DATGANIAD CYFRIFON CYN-ARCHWILIO 2023-24 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr K. Broom, K. Davies, P. Warlow, D.E. Williams, J. Williams, Mrs K. Jones a Mr M. MacDonald wedi datgan buddiant yn yr eitem hon ond gwnaethant aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried.]

 

Cafodd y Pwyllgor Ddatganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-24 i'w ystyried. Roedd yr adroddiad yn ystyried sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed ar 31 Mawrth 2024 a'r incwm a'r gwariant yn ystod y flwyddyn honno.

 

Nodwyd bod Asedau Net y Gronfa wedi cynyddu £332.6m o 2022/23 i 2023/24 a bod hyn yn bennaf oherwydd y cynnydd yng ngwerth yr asedau buddsoddi ar y farchnad. O ran gwariant, roedd y Buddion Taladwy a'r Trosglwyddiadau Allan wedi cynyddu £14.5m i £118.4m. Roedd Incwm, Cyfraniadau a Throsglwyddiadau i mewn wedi cynyddu £7.4m i £108.3m. Roedd aelodaeth gyfan y Gronfa wedi cynyddu 1,249 o 54,555 yn 2022/23 i 55,804 yn 2023/24, sef cynnydd o 2.29%.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau canlynol a godwyd gan y Pwyllgor:-

 

  • Cyfeiriwyd at dudalen 32 yr adroddiad. Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r gyfradd gyfrannu eithriadol o 271% sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth - Cyrff a Dderbynnir (Cymuned), dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod esboniad y byddai'n ei ddarparu y tu allan i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn Datganiad Cyfrifon Cyn-Archwilio Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-24.

 

 

9.

DATGANIAD ARIANNOL AWDURDOD HARBWR PORTH TYWYN 2023-24 pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, a'r pwerau dirprwyedig a ymgorfforir yn y Mesur Llywodraeth Leol, bu'r Pwyllgor yn ystyried datganiad cyfrifon cyn-archwilio 2023-24 yr Awdurdod Harbwr.

 

Mae ystod o bwerau a dyletswyddau statudol gan Gyngor Sir Caerfyrddin er mwyn gwella, cynnal a rheoli harbwr Porth Tywyn, a hynny drwy Orchymyn Adolygu Harbwr Porth Tywyn 2000. 

 

O 1 Ebrill 2018 ymlaen, roedd yr Awdurdod wedi rhoi prydles hirdymor i The Marine & Property Group Ltd, a gymerodd gyfrifoldeb dros gynnal a rheoli Harbwr Porth Tywyn ac o ganlyniad roedd llawer llai o weithgaredd ar y datganiad. Ym mis Mehefin 2023, penododd yr Uchel Lys Weinyddwyr ar gyfer Burry Port Marina Ltd, y cwmni a oedd yn prydlesu ac yn gweithredu Harbwr Porth Tywyn. Yn dilyn hyn, roedd yr Awdurdod wedi ymrwymo i gytundeb cyllido gyda'r Gweinyddwyr i alluogi'r harbwr i barhau i gael ei weithredu'n ddiogel yn ystod y cyfnod gweinyddu.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi cytuno i ddarparu cyllid tymor byr i sicrhau bod yr Harbwr yn parhau i fod yn weithredol. Roedd sefyllfa'r cwmni wedi creu amheuaeth sylweddol ynghylch casglu balansau dyledwyr, ac roedd darpariaeth ar gyfer y swm hwn wedi'i gynnwys.

 

Dywedwyd bod cost net gweithgareddau'r harbwr yn 2023-24 yn £239k ac mai Cyngor Sir Caerfyrddin oedd wedi cyllido'r holl weithgareddau'n llawn. Roedd yr asedau sefydlog a ddelir ar 31 Mawrth 2023 yn dod i gyfanswm o £843k. Roedd yr adroddiad yn nodi bod y cynnydd o £93k yn y costau o flwyddyn i flwyddyn yn cynnwys cynnydd mewn taliadau eraill o £129k wedi'i wrthbwyso gan ostyngiad o £34k mewn gwariant gwaith cyfalaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Datganiad Cyfrifon Cyn-archwilio Awdurdod Harbwr Porth Tywyn 2023-24.

 

 

10.

Y DIWEDDARAF YNGHYLCH AR CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2023/24 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu Cynlluniau Archwilio Mewnol ar gyfer 2023/24 a 2024/2025. Adroddwyd bod cyfradd cwblhau o 93% wedi'i chyflawni ar gyfer 2023/24. 

 

Yn ogystal, derbyniodd y Pwyllgor grynodeb o'r Adroddiadau Terfynol, a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad, ar gyfer y systemau ariannol allweddol canlynol a gwblhawyd yn ystod y Chwarter diwethaf:

 

  • Y Dreth Gyngor
  • Talu Credydwyr
  • Arian Mân

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau canlynol a godwyd gan y Pwyllgor:-

 

  • Cyfeiriwyd at yr adolygiad Archwilio Mewnol – Arian Mân (2023/24) a'r Ymarfer Ardystio Blynyddol. Wrth i sylw gael ei wneud bod arian mân yn arian cyhoeddus a bod y swyddogion yn gyfrifol am reoli'r arian, mynegwyd siom mewn perthynas â'r ymarfer ardystio yn 2022/23 a oedd â chyfradd ymateb o 79%. Wrth gydnabod bod e-byst dilynol wedi'u cyflwyno mewn ymgais i dderbyn yr holl ardystiadau, roedd 21% dal heb eu dychwelyd. Dywedwyd bod hyn yn ofyniad ac felly roedd ardystiad heb ei ddychwelyd yn annerbyniol.

Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a nododd eu bod wedi mabwysiadu dull tebyg o gynnal yr ymarfer ardystio blynyddol ar staff y gyflogres ar draws y tîm a oedd wedi bod yn llwyddiannus.

 

  • Cyfeiriwyd at y Defnydd o'r Cyfrif Arian Mân. Wrth nodi bod y cam gweithredu 'Ystyried y terfyn o £75, nad yw wedi cynyddu yn unol â chwyddiant dros gyfnod o amser' wedi'i nodi ei fod wedi'i gwblhau, gofynnwyd am eglurhad. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y tîm yn parhau i ystyried terfyn priodol a oedd yn ddarn hirach o waith. Pe bai'n fwy na £75 gofynnwyd a ellid neu a ddylid defnyddio dull arall heblaw arian parod. Dywedwyd felly bod angen gwneud rhagor o waith ac nad oedd y cam gweithredu wedi'i gwblhau eto.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gynllun Archwilio Mewnol 2023/24.

 

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWILIAD MEWNOL 2023/24 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2023/24 a oedd yn rhoi barn y Prif Weithredwr Archwilio (Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol) ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd amgylchedd rheoli'r Awdurdod, yn seiliedig ar gyflawni Cynllun Archwilio Mewnol 2023/24 a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Yn unol â hynny, roedd yr adroddiad yn crynhoi sefyllfa flynyddol y gwaith archwilio a wnaed o fewn yr Awdurdod yn ystod y cyfnod adrodd yn unol â darpariaethau Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus ac roedd yn cynnwys data cymharol.

 

Nododd y Pwyllgor mai barn gyffredinol y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol oedd, yn seiliedig ar y rhaglen o waith archwilio a wnaed i asesu'r fframwaith a'r trefniadau gweithredu ar gyfer llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth, bod y farn flynyddol ar gyfer 2023/24 yn dderbyniol.

 

Nodwyd bod cyfanswm o 115 o argymhellion wedi'u gwneud rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, ac yn dilyn dadansoddiad o'r argymhellion, roedd yn gadarnhaol nodi nad oedd unrhyw wendidau sylfaenol wedi'u nodi.

 

Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod trefniadau llywodraethu clir ar waith, a oedd yn cynnwys cyfrifoldebau rheoli a strwythurau pwyllgorau pendant, gyda fframwaith rheoli cadarn ar y cyfan a oedd yn cael ei weithredu'n eithaf cyson. 

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau canlynol a godwyd gan y Pwyllgor:-

 

  • Estynnwyd diolch i'r staff o fewn y Tîm Archwilio Mewnol am eu gwaith caled i gyflawni'r cynllun archwilio drwy gydol y flwyddyn.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Prif Archwilydd fod y diweddariadau cynnydd o ran argymhellion Archwilio Cymru yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor yn flynyddol ym mis Rhagfyr.

 

  • Cyfeiriwyd at y Strategaeth Atal Twyll ac Arferion Llwgr a nodwyd ar dudalen 12 yr adroddiad. Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai Strategaeth 2020-2025 yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor yn gynnar yn 2025 i'w hadolygu.

 

  • O ran Staffio, mynegwyd y byddai'n fuddiol ychwanegu'r swyddi gwag at yr adroddiadau cynnydd chwarterol gan y byddai'r agwedd bwysig hon yn amlygu a oedd digon o adnoddau ar gael ar gyfer archwilio mewnol.

 

  • Cyfeiriwyd at y gyfres o ddiffiniadau a ddefnyddiwyd i werthuso lefel y sicrwydd a ddarperir gan ymgysylltiadau archwilio. Er bod y diffiniadau newydd yn cael eu croesawu, gofynnwyd sut y byddai hyn yn effeithio ar yr adroddiadau a oedd yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor hwn ar hyn o bryd. Eglurodd y Prif Archwilydd y byddai'r diffiniadau newydd yn caniatáu gwell gwahaniaethu rhwng lefelau amrywiol o sicrwydd. Hefyd, rhoddwyd sicrwydd, yn amodol ar benderfyniad y Pwyllgor, y byddai pob adroddiad sylfaenol yn parhau i gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor beth bynnag yw lefel y sicrwydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2023/24.

 

 

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2023/24 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2023/24 a gyflwynwyd gan Mr David MacGregor, Cadeirydd y Pwyllgor.

 

Mae gan y Pwyllgor rôl barhaus yn y broses o sicrhau arferion 'llywodraethu da’. Diben craidd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd rhoi sicrwydd annibynnol ar ddigonolrwydd y fframwaith rheoli risg a'r amgylchedd rheoli cysylltiedig.

 

Yn unol â'r disgwyl/gofyniad i Adroddiad Blynyddol gael ei lunio bob blwyddyn, yr adroddiad hwn oedd y cyntaf o adroddiadau o'r fath a oedd yn tynnu sylw at yr ystod o faterion a ystyriwyd gan y Pwyllgor ac yn myfyrio ar berfformiad y Pwyllgor yn ystod blwyddyn y cyngor 2023/24.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2023/24 a'i gyflwyno i'r Cyngor llawn.

 

 

13.

COFNODION GRWPIAU PERTHNSAOL I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

14.

LOG GWEITHREDU'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ei Gofnod o'r Camau Gweithredu a oedd yn cynnwys gwybodaeth am gynnydd mewn perthynas â'r camau gweithredu oedd yn codi o gyfarfodydd blaenorol.

 

Nodwyd bod Adolygiad Hunanasesu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio bellach wedi'i gwblhau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Cofnod o Gamau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

 

15.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO AR 8 MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: