Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 2244088
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Williams. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
I YSTYRIED Y DOGFENNAU CANLYNOL A BARATOWYD GAN ARCHWILIO CYMRU:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD RHAGLEN WAITH ARCHWILIO CYMRU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad chwarterol Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru, ar 30 Mehefin 2024, a oedd yn rhoi crynodeb o'r rhaglen waith ar gyfer llywodraeth leol, ynghyd â diweddariad ar y gwaith arolygu, gan gynnwys yr archwiliadau ariannol a pherfformiad sy'n berthnasol i Gyngor Sir Caerfyrddin.
PENDERFYNWYD nodi'r Diweddariad ynghylch Rhaglen Waith Archwilio Cymru.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ARCHWILIO CYMRU: 'CRACIAU YN Y SYLFEINI' - DIOGELWCH ADEILADAU YNG NGHYMRU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Ar ôl datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, arhosodd y Cynghorydd A. Evans yn y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch. Datganodd y Cynghorwyr K.V. Broom a D.E. Williams fuddiant yn yr eitem hon a gadawsant y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch].
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru a oedd yn adolygu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'u partneriaid allweddol wrth roi gofynion Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 ar waith.
Roedd adolygiad Archwilio Cymru yn canolbwyntio ar asesu parodrwydd cyrff i ymgymryd â’u cyfrifoldebau newydd ac estynedig, cydnerthedd gwasanaethau presennol, a chadernid systemau sicrhau diogelwch adeiladau. Bu'r Pwyllgor yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad, a nodwyd mewn 3 rhan fel a ganlyn:
· Roedd rhan 1 yn adolygu'r blaenoriaethau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Ddeddf a chanfuwyd bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i ymateb i drychineb Grenfell, gan weithio gyda Llywodraeth y DU.
· Roedd rhan 2 yn adolygu cryfder gwasanaethau rheoli adeiladu a gorfodi awdurdodau lleol, effeithiolrwydd y drefn pennu ffioedd a sut mae gwasanaethau'n newid i gryfhau cydnerthedd. Daeth Archwilio Cymru i'r casgliad, fel proffesiwn, bod rheoli adeiladu a diogelwch adeiladu yn wynebu heriau staffio sylweddol.
·
Roedd rhan 3 yn archwilio
trefniadau sicrhau diogelwch adeiladau. Canfu Archwilio Cymru fod
diffyg fframwaith cenedlaethol i fonitro a
Bu'r Pwyllgor yn ystyried ymateb y Cyngor a atodwyd wrth yr adroddiad a oedd yn ceisio mynd i'r afael â'r 4 argymhelliad allweddol a oedd yn deillio o ganfyddiadau'r archwiliad sy'n berthnasol i Lywodraeth Leol. Nodwyd bod 1 argymhelliad wedi'i gwblhau hyd yma, a'r nod yw cwblhau'r 3 arall erbyn mis Ebrill 2025. Daeth Cynrychiolydd Archwilio Cymru i'r casgliad bod Archwilio Cymru yn fodlon bod y cyngor wedi ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion yn briodol.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ARCHWILIO CYMRU: LLYWODRAETHU AWDURDODAU'R PARCIAU CENEDLAETHOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
[Sylwer: Bu Mrs J. James, a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, aros yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ystyried yr eitem a phleidleisio arni].
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn adolygu’r trefniadau llywodraethu ar draws Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. Ystyriodd yr adolygiad bum elfen allweddol: model a strwythurau llywodraethu; swyddogaethau a chyfrifoldebau allweddol o fewn y strwythurau hyn; diwylliant llywodraethu; seilwaith i gefnogi llywodraethu effeithiol; a threfniadau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd llywodraethu.
Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod y model llywodraethu ar gyfer Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn darparu fframwaith clir i gyflawni eu swyddogaethau allweddol, ond roedd y broses o'i weithredu yn peri risg i lywodraethu da.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried ymateb y Cyngor a atodwyd wrth yr adroddiad a oedd yn ceisio mynd i'r afael â'r argymhelliad a oedd yn deillio o ganfyddiadau'r archwiliad, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol a'r Cyngor fynd i'r afael ag ef drwy ddull partneriaeth.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:
PENDERFYNWYD:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT Y CYNGOR 2023/24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2023/24 a oedd wedi ei lunio i fodloni'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Nodwyd mai hwn oedd drafft cyntaf yr adroddiad ac felly roedd rhai adrannau yn anghyflawn ac y byddent yn cael eu diweddaru pan fydd gwybodaeth ar gael. Roedd yr Adroddiad Blynyddol i'w gyflwyno i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2024.
Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn seiliedig ar bedwar Amcan Llesiant y Cyngor, fel yr amlinellwyd yn y Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2022-27. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y strwythur adrodd wedi'i fireinio i sicrhau aliniad di-dor rhwng y Strategaeth Gorfforaethol a sut yr oedd y Cyngor yn adrodd ar ei gynnydd, gan roi mwy o bwyslais ar ddull rheoli perfformiad sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth a nodir yn yr Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â'r amcanion llesiant a blaenoriaethau thematig a gwasanaeth. Cyfeiriwyd at Atodiad 3 o'r adroddiad, a oedd yn rhoi trosolwg corfforaethol o'r hunanasesiad a wnaed gan bob is-adran yn y cyngor a oedd yn elfen allweddol o brosesau cynllunio busnes yr Awdurdod.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2023/24 yn cael ei dderbyn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Y DIWEDDARAF YNGHYLCH AR CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2024/25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu Cynllun Archwilio Mewnol 2024/25.
Bu'r Pwyllgor yn adolygu'r cynnydd a oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu'r rhaglen archwilio a oedd yn crynhoi statws pob adolygiad ac yn dangos cyfradd cwblhau o 33% yn erbyn targed o 35% ar 20 Medi 2024. O ran yr adolygiad dilynol o Ryddid Gwybodaeth, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor, er y rhoddwyd sgôr sicrwydd cyfyngedig ar y cyfan, nad oedd gwendidau sylfaenol wedi'u nodi. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai diweddariad ar gynnydd yr argymhellion yn cael ei ddarparu i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor maes o law.
Yna ystyriodd y Pwyllgor yr adolygiad ar y Gyflogres, a atodwyd i'r adroddiad fel Rhan B. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y materion allweddol a nodwyd yn yr adroddiad, ynghyd â'r cynllun gweithredu a oedd yn anelu at fynd i'r afael â'r 8 argymhelliad allweddol sy'n deillio o ganfyddiadau'r archwiliad. Sicrhawyd y Pwyllgor fod y Cyngor yn rhoi sylw i'r holl argymhellion.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch argymhelliad 4 yn ymwneud â goramser, dywedodd y Prif Archwilydd ei fod yn aros am ddyddiad i drafod y mater gyda'r Tîm Rheoli Corfforaethol a byddai'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi i'r Pwyllgor unwaith y byddai rhagor o wybodaeth wedi dod i law.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad diweddaru y Cynllun Archwilio Mewnol 2024/25 yn cael ei dderbyn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL GWRTH-DWYLL A GWRTH-LYGREDD 2023/24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i'r Pwyllgor gael er ystyriaeth Adroddiad Atal Twyll ac Arferion Llwgr Blynyddol 2023/24 sy'n rhoi crynodeb o weithgareddau swyddogaeth Atal Twyll y Cyngor ar gyfer y cyfnod adrodd o ran Llywodraethu Ariannol, Gwaith Rhagweithiol, Atal, Ymchwiliadau a Gwybodaeth Achos.
Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adroddiad a chroesawodd y camau a gynlluniwyd i wella'r rheolaethau sydd ar waith ymhellach, gan gynnwys rhagor o waith rhagweithiol ar ffurf hyfforddiant staff ac ymwybyddiaeth o dwyll.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:
· Tynnodd y Pwyllgor sylw at y gwaith rhagorol a wnaed gan y tîm Safonau Masnach am sicrhau sawl euogfarn a diolchodd y tîm am amddiffyn cymunedau a diogelu £14.3m o arian cyhoeddus, fel yr adlewyrchir yn yr adroddiad.
· Mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn perthynas â'r wybodaeth achos, rhoddodd y Prif Archwilydd sicrwydd bod gwersi wedi'u dysgu, gyda rheolaethau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith i gryfhau prosesau mewn ymdrech i atal y digwyddiad rhag digwydd eto.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Atal Twyll ac Arferion Llwgr Blynyddol 2023/24. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIAD CYFRIFON CYNGOR SIR CAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD ARCHWILIO DATGANIADAU ARIANNOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Archwilio Cymru ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol. Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r prif ganfyddiadau a ddeilliodd o'r archwiliad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru o gyfrifon yr Awdurdod ar gyfer 2023/24.
Yr Archwilydd Cyffredinol oedd yn gyfrifol am ddarparu sylwadau ynghylch a oedd y datganiadau ariannol yn olwg gywir a theg ar sefyllfa Cyngor Sir Caerfyrddin ar 31 Mawrth 2024.
Dywedodd Mr D. Owen, Cynrychiolydd Archwilio Cymru, fod yr archwiliad wedi'i gwblhau i raddau sylweddol, ond gofynnwyd am ragor o wybodaeth mewn perthynas â datgelu rhwymedigaeth ddigwyddiadol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y papurau gwaith ategol terfynol bellach wedi'u derbyn gan Archwilio Cymru a rhagwelwyd y byddai'r archwiliad yn dod i ben yn fuan.
Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon, a fyddai'n cael ei chyhoeddi ar ôl i'r Llythyr Sylwadau ddod i law. Roedd y Pwyllgor hefyd yn falch o nodi nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-
Tynnwyd sylw at wall teipio mewn perthynas â'r ffigurau a gyflwynwyd yn Nodyn 6.35 o Atodiad 3 a nodwyd y byddai'r rhain yn cael eu cywiro gan Archwilio Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Archwilio Cymru ar yr Archwiliad o Gyfrifon Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2023/24. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIAD CYFRIFON 2023/24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Datganodd y Cynghorwyr K. V. Broom ac A. Evans fuddiant yn yr eitem hon ac arhosodd y ddau yn y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch].
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon 2023/24 ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin, a oedd wedi'i baratoi yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd yn 2018).
Yn unol â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi ei gyfrifon archwiliedig erbyn 30 Tachwedd 2024.
Rhoddwyd trosolwg i'r Pwyllgor o'r pwyntiau amlwg yn y Datganiad Cyfrifon a oedd yn crynhoi sefyllfa ariannol yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, ac a oedd yn cynnwys y diwygiadau y cytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru fel rhan o'i archwiliad.
Mewn perthynas â Chronfa'r Cyngor, cadarnhawyd nad oedd unrhyw newidiadau wedi eu gwneud i'r Gronfa Gyffredinol Wrth Gefn na balans y Cyfrif Refeniw Tai ar ddiwedd y flwyddyn.
Dywedodd yr adroddiad, er gwaethaf cefndir yr hinsawdd macro-economaidd bresennol, fod statws ariannol cyffredinol yr Awdurdod wedi'i gynnal ar lefel gyson.
I gloi, diolchodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'i dîm am eu gwaith rhagorol i baratoi'r Datganiad Cyfrifon.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y dyfarniadau cyflogau athrawon nad ydynt wedi'u cyllido a gyhoeddwyd yn 2023 a'r sefyllfa yn y dyfodol, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y dyfarniadau uwch na'r disgwyl wedi arwain at ddiffyg a oedd wedi'i gynnwys o fewn cyllideb sylfaenol ysgolion o fis Ebrill 2024. Cadarnhawyd bod y cyngor yn aros am eglurhad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid o ran y dyfarniad cyflog athrawon o 5.5% a gyhoeddwyd ym mis Medi 2024.
· Wrth roi diweddariad i'r Pwyllgor, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y cynnydd yng nghyfraddau cyfraniad pensiwn cyflogwr sy'n deillio o bensiynau Athrawon a Diffoddwyr Tân wedi arwain at ddiffyg ariannol sylweddol i'r cyngor ers mis Ebrill 2024. Adroddwyd bod trafodaethau'n parhau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
· Yng ngoleuni'r gorwariant sylweddol a adroddwyd yn y datganiadau ariannol (ar gyfer ysgolion ac ar lefel adrannol), ynghyd â difrifoldeb tebygol y sefyllfa ariannol yn y dyfodol, pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen i'r Cyngor fod yn wyliadwrus o'r rhesymau sylfaenol dros orwario, nodi tueddiadau sylfaenol a phenderfynwyd ei fod yn cael rhagor o wybodaeth am y meysydd sydd dan bwysau parhaus. Yn unol â hynny, mynegwyd fod angen gwneud trefniant, a allai gynnwys ystyried adroddiadau monitro cyllideb chwarterol, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gyflawni ei gyfrifoldebau o ran monitro perfformiad ariannol a chael sicrwydd mewn perthynas â'r camau a gymerwyd gan y cyngor i reoli gorwario. Cytunwyd y byddai'r mater yn cael ei drafod ymhellach yn y gweithdy a drefnwyd ar gyfer yr hydref a fyddai'n ystyried adolygiad manwl o sefyllfa gyllidebol y flwyddyn bresennol a'r goblygiadau ariannol a wynebai gwasanaethau'r Cyngor ac ysgolion.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
LLYTHYR CYNRYCHIOLAETH I ARCHWILIO CYMRU CYNGOR SIR GAR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Llythyr Sylwadau i Archwilio Cymru a oedd wedi'i baratoi gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yn unol â gofynion y Datganiad ar Safonau Archwilio (SAS440 - Sylwadau Rheolwyr).
Roedd angen cydnabyddiaeth ffurfiol y Pwyllgor o ymateb Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar Archwilio Cymru hefyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gydnabod yn ffurfiol y Llythyr Sylwadau gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i Archwilio Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMHOLIADAU ARCHWILIO AR GYFER Y RHEINY SY'N GYFRIFOL AM LYWODRAETHU A RHEOLAETH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor ymatebion yr Awdurdod i Archwilio Cymru ar nifer o feysydd llywodraethu a effeithiodd ar yr archwiliad o'r datganiadau ariannol. Roedd yr ystyriaethau hynny yn berthnasol i reolwyr y Cyngor a'r 'rheiny sy'n gyfrifol am lywodraethu', sef y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth Archwilio Cymru o'r Cyngor a'i brosesau busnes er mwyn cynorthwyo Archwilio Cymru i roi barn archwilio ar ddatganiadau ariannol 2023-24.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar ôl cwblhau'r arolygon, fod Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth wedi'i nodi yn un o eiddo buddsoddi'r cyngor. Mae mesurau diogelwch dros dro wedi'u rhoi ar waith ar unwaith i sicrhau bod yr eiddo yn parhau i gael ei ddefnyddio'n ddiogel ond ni ragwelwyd unrhyw oblygiadau ariannol pellach o ran y Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn amodol ar ddiweddaru gwall teipio, i gymeradwyo'r ymatebion i'r ceisiadau a wnaed i'r rheolwyr a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel y manylir yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIAD ARIANNOL AWDURDOD HARBWR PORTH TYWYN 2023-24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, a'r pwerau dirprwyedig a ymgorfforir yn y Mesur Llywodraeth Leol, bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon Archwiliedig Awdurdod Harbwr Porth Tywyn 2023-24.
Mae ystod o bwerau a dyletswyddau statudol gan Gyngor Sir Caerfyrddin er mwyn gwella, cynnal a rheoli harbwr Porth Tywyn, a hynny drwy Orchymyn Adolygu Harbwr Porth Tywyn 2000.
Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at Ddeddf Harbyrau 1964, a oedd yn nodi ei bod yn ofynnol i Awdurdodau Harbwr lunio datganiad cyfrifon blynyddol ynghylch gweithgareddau'r harbwr. Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, cyflwynwyd y cyfrifon ar ffurf cyfrif incwm a gwariant blynyddol ar wahân a datganiad balansau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Datganiad Cyfrifon archwiliedig Awdurdod Harbwr Porth Tywyn 2023-24. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYFRIFON BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN DYFED 2023-2024: Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cynghorydd K.V. Broom, y Cynghorydd K. Davies, Mrs K. Jones, Mr M. MacDonald, y Cynghorydd P. T. Warlow a'r Cynghorydd D. E. Williams wedi datgan buddiant yn eitemau 9.1 – 9.4 ar yr agenda yn gynharach a bu iddynt aros yn y cyfarfod tra oedd dan sylw]. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD DATGANIADAU ARIANNOL Y CRONFA BENSIWN DYFED Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad Archwilio Cymru ar yr archwiliad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed i'w ystyried. Roedd yr adroddiad yn ystyried a oedd y datganiad ariannol yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed ar 31 Mawrth 2024 a'r incwm a'r gwariant yn ystod y flwyddyn honno.
Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon, a fyddai'n cael ei chyhoeddi ar ôl i Lythyr Sylwadau y Gronfa ddod i law. Roedd y Pwyllgor hefyd yn falch o nodi nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro, neu yr oedd angen eu haddasu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Archwilio Cymru ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-24. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD A CHYFRIFON BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN DYFED 2023-2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â darpariaethau Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, cafodd Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon 2023-24 wedi'i archwilio, a oedd yn ymwneud â Chronfa Bensiwn Dyfed, eu rhoi gerbron y Pwyllgor i'w cymeradwyo. Roedd yr adroddiad blynyddol yn darparu gwybodaeth am sefyllfa ariannol, perfformiad a sefydlogrwydd ariannol y Gronfa am y flwyddyn 2023-24.
Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod Archwilio Cymru yn bwriadu rhoi barn ddiamod ar y cyfrifon, ac nid oedd unrhyw gamddatganiadau na materion sylweddol i adrodd arnynt.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod asedau net y cynllun ar 31 Mawrth 2024 yn £3.475 biliwn. Roedd y cynnydd yng ngwerth asedau net o £332m o 2022-23, ar y cyfan, i'w briodoli i werth buddsoddiadau'r Gronfa yn cynyddu yn ystod y flwyddyn.
O ran Perfformiad Buddsoddi, dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei gywiro i adlewyrchu bod cyfanswm perfformiad y gronfa yn is na chyfartaledd cyffredin yr Awdurdod Lleol dros y cyfnodau o dair a phum mlynedd, ac yn uwch na'r cyfartaledd dros y cyfnodau o un, deg, ugain a deng mlynedd ar hugain.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-
· Anogwyd y Pwyllgor i nodi perfformiad cadarnhaol y gronfa a diolchwyd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau a'i dîm am eu gwaith rhagorol i gydlynu Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon y Gronfa.
· Nododd y Pwyllgor yr asesiadau iach a chadarnhaol ar berfformiad y Gronfa a ddarparwyd gan Ymgynghorydd Annibynnol y Gronfa a'r Actiwari.
· Tynnwyd sylw at wall teipograffyddol yn yr adroddiad, lle cadarnhawyd y byddai'r ddogfen yn cael ei diweddaru i adlewyrchu bod gwerth y Gronfa wedi cynyddu o 2022-23 i 2023-24; byddai gwerth canrannol yr adenillion cyffredinol hefyd yn cael ei wirio a'i ddiweddaru, yn ôl yr angen.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-24. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
LLYTHYR CYNRYCHIOLAETH I ARCHWILIO CYMRU CRONFA BENSIWN DYFED Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Llythyr Sylwadau i Archwilio Cymru a oedd wedi'i baratoi gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yn unol â gofynion y Datganiad ar Safonau Archwilio (SAS440 - Sylwadau Rheolwyr).
Roedd angen cydnabyddiaeth ffurfiol y Pwyllgor o ymateb Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar Archwilio Cymru hefyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Llythyr Sylwadau i Archwilio Cymru gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei gydnabod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMHOLIADAU ARCHWILIO AR GYFER Y RHEINY SYDD YN GYFRIFOL AM LYWODRAETHU A RHEOLAETH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor ymatebion yr Awdurdod i Archwilio Cymru ar nifer o feysydd llywodraethu a effeithiodd ar yr archwiliad o ddatganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Roedd yr ystyriaethau hynny yn berthnasol i reolwyr Cronfa Bensiwn Dyfed a'r 'rheiny sy'n gyfrifol am lywodraethu', sef y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth Archwilio Cymru o Gronfa Bensiwn Dyfed a'i phrosesau busnes i'w gynorthwyo i roi barn archwilio ar ddatganiadau ariannol 2023-24.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r ymatebion i'r ceisiadau a wnaed i'r rheolwyr a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel y manylir yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
LOG GWEITHREDU'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ei Gofnod o'r Camau Gweithredu a oedd yn cynnwys gwybodaeth am gynnydd mewn perthynas â'r camau gweithredu oedd yn codi o gyfarfodydd blaenorol.
Cadarnhawyd bod yr adroddiadau archwilio mewnol ar gardiau diogelu a lles wedi dechrau ac y byddent yn cael eu cwblhau i'w hystyried gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 20 Rhagfyr 2024.
O ran adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod y tîm rheoli o fewn yr adran Addysg a Gwasanaethau Plant wedi ystyried yr adroddiad a bod y canfyddiadau'n cael eu defnyddio o fewn yr is-adran.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Cofnod o Gamau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION GRWPIAU PERTHNSAOL I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION Y PANEL GRANTIAU 3YDD MEHEFIN 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Panel Grantiau a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2024. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
GRWP LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL 4 MAWRTH 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2024. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2024 yn gofnod cywir. |