Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Ni fydd y cyfarfod yma yn cael ei we-ddarlledu 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Warlow, E. Williams a J. Williams a chan Mr M. MacDonald (Aelod Lleyg)

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Kim Broom

5 – Cael cyflwyniadau a chyfweld â'r ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer swyddi aelodau lleyg ar y pwyllgor llywodraethu ac archwilio

Aelod o'r Awdurdod Tân ac yn adnabod ymgeisydd Rhif 2 yn broffesiynol

Kevin Madge

Mr David MacGregor

5 – Cael cyflwyniadau a chyfweld â'r ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer swyddi aelodau lleyg ar y pwyllgor llywodraethu ac archwilio

Yn adnabod ymgeisydd Rhif 2. yn broffesiynol

Mr C. Moore

5 – Cael cyflwyniadau a chyfweld â'r ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer swyddi aelodau lleyg ar y pwyllgor llywodraethu ac archwilio

Yn adnabod ymgeisydd Rhif 2. yn broffesiynol

Mrs H Pugh

5 – Cael cyflwyniadau a chyfweld â'r ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer swyddi aelodau lleyg ar y pwyllgor llywodraethu ac archwilio

Yn adnabod ymgeisydd Rhif 2. yn broffesiynol

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf sef gwybodaeth ynghylch unigolyn penodol.

4.

DERBYN NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD O'R PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR:-

Cofnodion:

Yn sgil cymhwyso prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, fod eitemau 4.1 a 4.1 isod yn cael eu hystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai hynny yn datgelu gwybodaeth eithriedig am unigolyn penodol (Paragraff 4.1 o Ran 4.2 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys manylion o'r ceisiadau a ddaethai i law am y swydd Person Lleyg.  Roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad uchod yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir yn yr adroddiad hwn, gan y byddai gan ymgeiswyr ddisgwyliad rhesymol na fyddai eu gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i'r cyhoedd. Nid oedd unrhyw fudd cyhoeddus tra phwysig o ran datgelu gwybodaeth o'r fath.

4.1

15 TACHWEDD 2022

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer a gynhaliwyd ar 15  Tachwedd 2022.

4.2

24 CHWEFROR 2023

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2023.

5.

DERBYN CYFLWYNIADAU A CHYFWELD YR YMGEISWYR AR Y RHESTR FER AR GYFER SWYDDI PERSONAU LLEYG AR Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO

Amgaeir er sylw’r aelodau gopïau o’r Profil Swydd a Ffurflenni Cais yr Ymgeiswyr

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr K. Broom a K. Madge ynghyd â Mr D. MacGregor, Mr C. Moore a Mrs H. Pugh wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a pharhaodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod)

Yn sgil cymhwyso prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai hynny yn datgelu gwybodaeth eithriedig am unigolyn penodol (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys manylion o'r ceisiadau a ddaethai i law am y swydd Person Lleyg.  Roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad uchod yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir yn yr adroddiad hwn, gan y byddai gan ymgeiswyr ddisgwyliad rhesymol na fyddai eu gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i'r cyhoedd. Nid oedd unrhyw fudd cyhoeddus tra phwysig o ran datgelu gwybodaeth o'r fath.

Roedd y Pwyllgor wedi cyfweld â phedwar ymgeisydd ar gyfer swydd y Person Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Ar ôl ystyried y cyflwyniadau gan yr ymgeiswyr,

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR, er mwyn bodloni gofyniad Cyfansoddiad y Cyngor, bod y Cyngor Sir yn penodi Karen Jones i swydd Person Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y cyfnod 19 Ebrill 2023 hyd 18 Ebrill 2028.

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau