Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G.H. John a B.A.L. Roberts.</AI1> |
|||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
</AI2><AI3> |
|||||
ADRODDIADAU CYNYDD: Dogfennau ychwanegol: |
|||||
STRATEGAETH LLETY GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r Awdurdod mewn ymateb i'r argymhellion yn adroddiad Archwilio Cymru ynghylch Comisiynu Gwasanaethau Llety i Oedolion ag Anableddau Dysgu yn Strategol.
Atgoffwyd yr Aelodau bod y wybodaeth ddiweddaraf wedi'i chyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2018, lle penderfynwyd y dylid darparu adroddiad cynnydd i'r Aelodau ynghylch cynlluniau'r Awdurdod i ddatblygu gwasanaethau llety i oedolion ag anableddau dysgu yn Sir Gaerfyrddin.
Rhoddwyd crynodeb i'r Pwyllgor o'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â rhaglen newid 10 mlynedd uchelgeisiol yr Awdurdod, a oedd wedi'i chefnogi drwy gynyddu adnoddau staff yn yr is-adrannau gofal cymdeithasol i oedolion, comisiynu a thai.
Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y pandemig coronafeirws parhaus wedi rhwystro cynnydd yr Awdurdod rywfaint, ond nododd y Pwyllgor â diddordeb fod nifer o brosiectau llety wedi'u datblygu ar sail gydweithredol, gan ddefnyddio cyllid Gofal Integredig allanol a stoc tai y Cyngor i roi prosiectau tai pwrpasol ar waith.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
Gofynnwyd am eglurder ynghylch nifer yr unigolion y byddai angen llety arnynt yn ystod y cynllun, a fyddai'n rhoi syniad i'r Pwyllgor o faint yr her sy'n wynebu'r Awdurdod. Cyfeiriodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion at Gynllun Llety 2022-24 yr Awdurdod a fyddai'n cael ei gyhoeddi'n fuan. Byddai'r cynllun hwn yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor maes o law a byddai'n rhoi cipolwg manwl ar ofynion llety'r Sir.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod anghenion a cheisiadau unigolion yn cael eu bodloni cyn belled ag y bo modd, a oedd yn cynnwys darparu cymorth, drwy amrywiaeth o opsiynau llety mewn ardaloedd lleol, er mwyn darparu gwell canlyniadau i unigolion.
Cyfeiriwyd at y llety a ddarparwyd yn ddiweddar yn ardal Glanaman a chafodd yr Awdurdod ei ganmol gan yr Aelodau am ei fodel gofal a oedd yn hyrwyddo dewis, annibyniaeth ac integreiddio cymunedol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r cynnydd a wnaed a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â phobl ag anableddau dysgu.</AI4> |
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r Awdurdod mewn ymateb i adolygiad Archwilio Cymru o drefniadau'r Cyngor i gynllunio a darparu ei wasanaethau gwastraff yn gynaliadwy. Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r prif ganfyddiadau a ddeilliodd o'r archwiliad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru o Wasanaethau Gwastraff yr Awdurdod.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cynllun gweithredu a atodwyd wrth yr adroddiad a oedd yn ceisio mynd i'r afael â'r 8 argymhelliad allweddol a oedd yn deillio o ganfyddiadau'r archwiliad, ynghyd â chrynodeb o Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Wastraff.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
Mewn ymateb i'r pryderon a fynegwyd yngl?n â'r nifer uchel o achosion o dipio anghyfreithlon, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai strategaeth yn cael ei chyflwyno i fynd i'r afael â'r ardaloedd lle mae tipio anghyfreithlon yn broblem mewn modd strategol cydgysylltiedig ac y byddai camerâu'n cael eu gosod mewn ardaloedd penodol, yn ôl yr angen. O ran nifer yr erlyniadau, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod oddeutu 4-5 erlyniad yn 2019/20 a 3-4 erlyniad yn 2020/21.
Cyfeiriwyd at strategaeth y gwasanaeth gwastraff a chodwyd pryder ynghylch nifer y priffyrdd nad oeddent wedi'u mabwysiadu mewn datblygiadau newydd, a oedd yn arwain at osod bagiau gwastraff gyda'i gilydd wrth fynedfeydd y safle. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff, er nad oedd gorfodaeth gyfreithiol i fabwysiadu priffyrdd mewn datblygiadau newydd, fod yr Awdurdod yn annog cytundebau gwirfoddol gyda datblygwyr yn gryf. Esboniwyd bod asesiadau risg yn cael eu cynnal ar gyfer datblygiadau lle nad oedd y priffyrdd wedi'u mabwysiadu'n ffurfiol er mwyn sicrhau systemau gweithio diogel ar gyfer gweithwyr yr Awdurdod.
Estynnodd Aelodau'r Pwyllgor eu diolch i Bennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff a'i dîm am y cynnydd rhagorol a oedd wedi'i wneud hyd yma i fynd i'r afael â'r argymhellion a oedd yn deillio o'r archwiliad allanol. Hefyd, gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad pellach ynghylch y cynllun gweithredu, gan gynnwys y cynnydd a oedd yn cael ei wneud o ran casglu gwydr o d? i d?.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||
Y DIWEDDARAF YNGHYLCH AR CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu Cynllun Archwilio Mewnol 2021/22.
Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol, oherwydd y sefyllfa barhaus o ran pandemig coronafeirws, ac yn enwedig yr achosion o'r amrywiolyn Omicron a'r cyfyngiadau canlyniadol dros gyfnod y Nadolig, fod angen adnoddau Archwilio Mewnol pellach i helpu i brosesu a thalu arian grant, fel y nodir yn yr adroddiad. Yn unol â hynny, cynigiwyd bod yr aseiniadau archwilio ar gyfer Safonau'r Gymraeg, Adfer mewn Argyfwng a Pharhad Busnes a Gwastraff yn cael eu gohirio i Gynllun Archwilio 2022/23. Cymeradwywyd hyn gan y Pwyllgor.
Canmolodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, ymdrechion rhagorol y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol a'i Thîm o ran y cymorth archwilio ychwanegol a ddarparwyd i sicrhau y cydymffurfiwyd â'r prosesau gofynnol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Archwilio Mewnol 2021/22.</AI6> |
|||||
ARGYMHELLION ARCHWILIAD MEWNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd wedi'i wneud o ran yr argymhellion Archwilio Mewnol a oedd yn ymwneud â blwyddyn ariannol 2020/21.
Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol wrth y Pwyllgor fod yr Archwiliad Mewnol wedi nodi cyfanswm o 102 o argymhellion yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21 gyda sgorau argymhelliad rhwng 1* a 3*. Hyd yn hyn, roedd 89 (87%) wedi'u cwblhau neu'n cael eu gweithredu, roedd 5 (5%) lle nad oedd camau wedi'u cwblhau neu heb gyrraedd targedau, ac roedd yr 8 (8%) arall heb gyrraedd eu dyddiad targed. Roedd y camau nad oeddent wedi'u cwblhau ar y cyfan yn ymwneud â materion staffio yn yr is-adran credydwyr a'r gofyniad i is-adran y gyflogres anfon nodiadau atgoffa mewn perthynas â'r protocolau cywir i'w dilyn gan weithwyr.
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad a gofynnodd am i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys manylion am y camau nad oeddent wedi eu cwblhau. Cytunodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol ar hyn, a nododd hefyd y byddai'r wybodaeth yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol y bwriedir i'r Pwyllgor ei ystyried yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf 2022.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||
CYNLLUN ARCHWILIAD MEWNOL BLYNYDDOL 2022/23 & BWRIEDIR EI GYNNWYS YN 2022-25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus, bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2022/23 a'r hyn a gynllunnid ar gyfer 2022-25. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y Cynllun Archwilio ar gyfer 2022/23 wedi ei lunio gan ddefnyddio egwyddorion asesu risg a'i fod yn ystyried newidiadau mewn gwasanaethau.
Cadarnhaodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod cyfanswm o 1240 o ddiwrnodau archwilio wedi'u dyrannu ar gyfer 2022/23 ym meysydd Archwiliadau Sylfaenol, Sicrwydd Llywodraethu Corfforaethol, Sicrwydd COVID-19, Adolygiadau Corfforaethol, Grantiau ac Ardystio, Adolygiadau Adrannol a gwaith ychwanegol. Yn hyn o beth, sicrhawyd y Pwyllgor wrth nodi bod y rhaglen wedi'i datblygu mewn ymgynghoriad â'r Tîm Rheoli Corfforaethol i sicrhau darpariaeth archwilio berthnasol a chadarn.
Cyfeiriwyd hefyd at raglen dreigl dair blynedd a oedd wedi cael ei rhoi ar waith ac a oedd yn rhoi sicrwydd bod y trefniadau archwilio yn ddigonol gan ganiatáu, ar yr un pryd, hyblygrwydd o ran ymdrin â newidiadau yn systemau'r Awdurdod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
6.1 cymeradwyo'r Cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol ar gyfer 2022/23; 6.2. cadarnhau'r trefniadau a gynllunnid ar gyfer 2022-25.</AI8> |
|||||
BLAENRHAGLEN GWAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Flaenraglen Waith arfaethedig ar gyfer cylch cyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022/23, a oedd yn nodi'r eitemau i'w cyflwyno i'r Pwyllgor yn y cyfarfodydd oedd wedi'u trefnu ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Tynnodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol sylw'r Aelodau at yr oedi cyn i'r Pwyllgor dderbyn yr adolygiad a drefnwyd o wasanaethau cynllunio a rhoddodd sicrwydd y byddai'r adroddiad diweddaru diweddaraf, a ystyriwyd gan yr Aelodau Cabinet, yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor cyn darparu adroddiad pellach ar y cynnydd a wnaed i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod i'w gynnal ar 15 Gorffennaf 2022.
Cyfeiriwyd hefyd at yr oedi o ran y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Archwilio gan Archwilio Cymru, ac eglurodd cynrychiolydd Archwilio Cymru y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ôl cynnwys yr adborth a ddarparwyd fel rhan o'i broses ymgynghori ddiweddar.
Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r rhaglen hyfforddi a atodwyd wrth yr adroddiad a oedd yn ceisio rhoi'r sgiliau angenrheidiol i aelodau gyflawni eu rôl ar y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||
COFRESTR RISG CORFFORAETHOL 2021/22 CYNGOR SIR CAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Gofrestr Risg Gorfforaethol a oedd yn cael ei chadw er mwyn gwerthuso'r risgiau strategol allweddol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu.
Rhoddwyd eglurhad i'r Pwyllgor fod y sgôr risg flaenorol a nodwyd yn yr adroddiad yn dangos y cyfeiriad er cyflwyno'r risg i ddechrau ar y gofrestr. Hefyd, dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r risgiau a nodir yn y gofrestr yn cael eu hadnewyddu er mwyn sicrhau bod risgiau'n cael eu categoreiddio'n briodol.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
Mewn ymateb i ymholiad a oedd yn ymwneud â'r goblygiadau niweidiol i gartrefi gofal o ganlyniad i gostau tanwydd cynyddol, rhoddodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol sicrwydd y byddai'r Tîm Rheoli Corfforaethol yn ystyried y mater prisiau tanwydd a byddai'r gofrestr risg gorfforaethol yn cael ei diweddaru fel y bo'n briodol.
Canmolodd y Pwyllgor y gofrestr risg gorfforaethol gan nodi bod gwybodaeth berthnasol wedi'i strwythuro'n glir, ond awgrymwyd y dylid cynnwys teitlau swyddogion cyfrifol ar gyfer pob cam gweithredu mewn adroddiadau yn y dyfodol er mwyn sicrhau cysondeb a hefyd nodwyd y byddai angen mynd i'r afael â rhai materion teipograffyddol.
Cyfeiriwyd at risg CRR190068 a oedd yn ymwneud ag ariannu priffyrdd. Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol wybodaeth gefndir am gynnwys y risg ar y gofrestr gorfforaethol, a oedd yn bennaf wedi'i nodi o ganlyniad i ostyngiad yn y lefelau buddsoddi ar ôl terfynu cyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, ers cynnwys y risg ar y gofrestr gorfforaethol, sicrhawyd y Pwyllgor wrth nodi bod y Cyngor, yn dilyn hynny, wedi dyrannu cyfanswm o £4.3m ar gyfer seilwaith priffyrdd lleol i liniaru'r diffyg cymorth gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn priffyrdd.
Gofynnodd y Pwyllgor i'r Tîm Rheoli Corfforaethol adolygu'r sgôr risg ar gyfer y maes risg ymosodiadau seiber (CRR190034) yn sgil y sefyllfa barhaus o ran yr ymosodiad diweddar gan Rwsia ar Wcráin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. </AI10>
|
|||||
YSTYRIED Y DOGFENNAU CANLYNOL PARATOWYD GAN SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||
DIWEDDARIAD RHAGLEN WAITH ARCHWILIO CYMRU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgoryn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan Gynrychiolydd Archwilio Cymru ar Raglen Waith Archwilio Cymru a'r diweddariad chwarterol ynghylch yr Amserlen, ar 31 Rhagfyr 2021.
PENDERFYNODD YN UNFRYDOL dderbyn y Diweddariad ynghylch Rhaglen Waith Archwilio Cymru. |
|||||
CRYNODEB ARCHWILIAD BLYNYDDOL 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Crynodeb Archwilio Blynyddol 2021 a gynhyrchwyd gan Archwilio Cymru ar ei waith wedi'i gwblhau ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin ers yr Adroddiad Gwella Blynyddol diwethaf a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021. Nodwyd bod cyhoeddi'r Crynodeb Archwilio yn rhan o ddyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Crynodeb Archwilio Blynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin 2021.</AI13> |
|||||
COFNODION GRWPIAU PERTHNSAOL I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO: Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: 10.1 Y GR?P LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL – 10 RHAGFYR, 2021
Derbyniodd y Pwyllgor, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2021. Wrth ystyried y ddogfen, er mwyn eglurder, gofynnwyd bod acronymau a byrfoddau yn cael eu hosgoi mewn cofnodion yn y dyfodol. Cytunodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol i anfon y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn hyn o beth yn ôl.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2021.
10.2 Y GR?P LLYWIO RHEOLI RISG – 10 CHWEFROR, 2022
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2022.</AI14>
|
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd J. James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried].
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr, 2021 yn gofnod cywir.</AI15> |
|||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFFAU 12 A 13 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraffau 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.</AI16> |
|||||
ADRODDIAD ARCHWILIAD MEWNOL - UNED BRESWYL GARREG LWYD Cofnodion: Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolion penodol sy'n debygol o ddatgelu pwy oedd yr unigolion hynny (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraffau 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth gan y byddai hynny'n arwain at ddatgelu data personol yn ymwneud ag unigolion y gellir eu hadnabod mewn modd anghymesur ac annheg.
Fel y cytunwyd yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2021, ystyriwyd adroddiad diweddaru gan y Pwyllgor a oedd yn manylu ar ganlyniad adolygiad Archwilio Mewnol o Uned Breswyl Garreg Lwyd a oedd wedi'i gynnal i asesu'r mesurau rheoli a'r gweithdrefnau a oedd ar waith mewn perthynas â Rheolaeth Ariannol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |