Agenda a Chofnodion
from 14/09/20, Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Gwener, 11eg Medi, 2020 2.00 yp, WEDI SYMUD
Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Evans Thomas 01267 224470
Nodyn: Virtual meeting - members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321- passcode 86486599# (For call charges contact your service provider)
Media
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd B.A.L. Roberts. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol byddai rhaid iddo gadael y cyfarfod am 3.30 p.m.
|
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
||||||||||
DATGAN CYFRIFON CYNGOR SIR GAERFYRDDIN:- |
||||||||||
ADRODDIAD DATGANIADAU ARIANNOL CYNGOR SIR GAERFYRDDIN (ISA 260); PDF 75 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad Archwilio Cymru ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol (ISA 260). Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r prif ganfyddiadau a ddeilliodd o'r archwiliad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru o gyfrifon yr Awdurdod ar gyfer 2019/20. Yr Archwilydd Cyffredinol oedd yn gyfrifol am ddarparu sylwadau ynghylch a yw'r datganiadau ariannol yn olwg gywir a theg ar sefyllfa Cyngor Sir Caerfyrddin ar 31 Mawrth 2020.
Dywedodd Jason Garcia o Archwilio Cymru wrth y Pwyllgor fod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar y cyfrifon, ond roedd rhai materion yr oedd angen eu hadrodd i'r Pwyllgor cyn iddynt gael eu cymeradwyo, a bod manylion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.
Nodwyd bod barn archwilio amodol yn cael ei chyhoeddi lle mae pryderon perthnasol am rai agweddau ar y cyfrifon, neu fel arall cyhoeddir barn ddiamod. Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon ac y byddai'n cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y deuai'r Llythyr Sylwadau i law. Roedd y Pwyllgor hefyd yn falch o nodi nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro.
Estynnwyd llongyfarchiadau i'r holl swyddogion oedd yn rhan o'r gwaith o lunio adroddiad cadarnhaol iawn yn ystod cyfnod heriol iawn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Archwilio Cymru ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2019/20.
|
||||||||||
LLYTHYR CYNRYCHIOLAETH. PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Llythyr Sylwadau i Archwilio Cymru a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio, yn unol â gofynion y Datganiad ar Safonau Archwilio (SAS440 - Sylwadau Rheolwyr).
Roedd angen cydnabyddiaeth ffurfiol y Pwyllgor o ymateb Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar Archwilio Cymru hefyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gydnabod yn ffurfiol y Llythyr Sylwadau gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio at Archwilio Cymru.
|
||||||||||
YMHOLIADAU ARCHWILIO AR GYFER Y RHEINY SY'N GYFRIFOL AM LYWODRAETHU A RHEOLAETH; PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Ymholiadau Archwilio i’r Rheiny sy’n Gyfrifol am Lywodraethu.
Mae'n ofynnol i Archwilio Cymru gynnal ei archwiliad ariannol yn unol â'r gofynion a nodir yn y Safonau Rhyngwladol ar Archwilio. Fel rhan o ofynion y Safonau, mae'n ofynnol i Archwilio Cymru geisio'n ffurfiol ystyriaeth a dealltwriaeth yr Awdurdod, wedi'u cofnodi, o nifer o feysydd llywodraethu sy'n effeithio ar yr archwiliad o'r datganiadau ariannol. Mae'r ystyriaethau hyn yn berthnasol i reolwyr y Cyngor a'r rheiny sy'n gyfrifol am lywodraethu, sef y Pwyllgor Archwilio.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y meysydd llywodraethu hynny y ceisiodd Archwilio Cymru farn arnynt ac roedd y wybodaeth a roddwyd yn llywio eu dealltwriaeth o'r Cyngor a'i brosesau busnes ac yn cefnogi eu gwaith wrth ddarparu barn archwilio ar ddatganiadau ariannol 2019/20.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r ymatebion i'r ceisiadau a wnaed i'r rheolwyr a'r Pwyllgor Archwilio fel y manylir yn yr adroddiad.
|
||||||||||
DATGAN CYFRIFON CYNGOR SIR GAERFYRDDIN 2019/20. PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd A.G. Morgan a Mrs J. James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon 2019/20 ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'i archwilio, yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd yn 2018).
Nodwyd bod nifer o ddiwygiadau wedi'u gwneud i'r cyfrifon, fel y crybyllwyd yn yr ISA 260, gan gynnwys eglurhad ynghylch rhai nodiadau datgelu. O ran Cronfa'r Cyngor, nid oedd newid wedi bod i'r balansau ar y cronfeydd cyffredinol na'r cronfeydd wrth gefn am y flwyddyn, ac nid oedd newid i falans y Cyfrif Refeniw Tai ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd yr holl newidiadau y cytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru wedi'u hadlewyrchu yn y Datganiad Cyfrifon.
Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol at baragraff 3.3.6.3 ar dudalen 20 yr adroddiad a thynnodd sylw'r Pwyllgor at y cyfeiriad at y ffaith bod gan yr holl aelodau craffu b?er i alw penderfyniadau gweithredol i mewn. Eglurodd fod gan unrhyw dri aelod o'r Cyngor y p?er hwn a chynhigiodd fod hyn yn cael ei ddiwygio. Cyfeiriodd hefyd at y cyfeiriad yn yr un paragraff at gyfnod galw o 3 diwrnod ar gyfer penderfyniadau gweithredol. Dywedodd wrth y Pwyllgor mai 5 diwrnod yw'r cyfnod galw mewn gwirionedd felly byddai angen diwygio'r cyfeiriad hwn hefyd. Ychwanegodd fod y wybodaeth hon wedi'i hailadrodd yn ddiweddarach yn yr adroddiad ym mharagraff 3.3.7.7 felly byddai angen diwygio'r paragraff hwn hefyd.
Roedd y Cyfarwyddwr am ddiolch i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol, y Rheolwr Cyllid a'u staff am eu holl waith galed i gwblhau'r Datganiad Cyfrifon yn llwyddiannus o dan amgylchiadau anodd iawn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2019/20 Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi'u harchwilio.
|
||||||||||
DATGANIAD ARIANNOL AWDURDOD HARBWR PORTH TYWYN 2019-20. PDF 87 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo cyfrifon 2019/20 yr Awdurdod Harbwr wedi'u harchwilio er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014. Roedd y Pwyllgor Archwilio wedi dirprwyo pwerau i gymeradwyo'r Cyfrifon yn unol â'r Mesur Llywodraeth Leol.
Mae ystod o bwerau a dyletswyddau statudol gan Gyngor Sir Caerfyrddin er mwyn gwella, cynnal a rheoli harbwr Porth Tywyn, a hynny drwy Orchymyn Adolygu Harbwr Porth Tywyn 2000. Yn unol â Deddf Harbyrau 1964, mae'n ofynnol i Awdurdodau Harbwr statudol lunio datganiad cyfrifon blynyddol ynghylch gweithgareddau'r harbwr. Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, mae'r cyfrifon hyn ar ffurf cyfrif incwm a gwariant blynyddol ar wahân a datganiad balansau. Ym mis Ebrill 2018, roedd yr Awdurdod wedi rhoi prydles hirdymor i The Marine & Property Group Ltd, a gymerodd gyfrifoldeb dros gynnal a rheoli Harbwr Porth Tywyn ac o ganlyniad roedd llawer llai o weithgaredd ar y datganiad. Cost net gweithgareddau'r harbwr yn 2019/20 oedd £76k (2018-29 £533k) ac roedd yr holl weithgareddau'n cael eu cyllido'n llawn gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Roedd yr asedau sefydlog a ddelir ar 31 Mawrth 2020 yn dod i gyfanswm o £950k. Roedd y gostyngiad yn y costau o flwyddyn i flwyddyn o £457k yn bennaf yn ymwneud â gostyngiad o £545k mewn gwariant cyfalaf a gostyngiad o £5k mewn costau gweithredu wedi'i wrthbwyso gan ostyngiad o £83K mewn incwm.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Datganiad Cyfrifon Awdurdod Harbwr Porth Tywyn wedi'u harchwilio ar gyfer 2019/20.
|
||||||||||
YSTYRIED Y DOGFENNAU CANLYNOL PARATOWYD GAN ARCHWILIO CYMRU:- |
||||||||||
ADRODDIAD LLEOL ARCHWILIO CYMRU - ASESIAD CYNALIADWYEDD ARIANNOL - CYNGOR SIR GAERFYRDDIN PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad Archwilio Cymru mewn perthynas â'r Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol o Gyngor Sir Caerfyrddin. Cynhaliwyd yr asesiad hwn ar bob Awdurdod Lleol yng Nghymru.
Nod yr asesiad oedd asesu cynaliadwyedd sefyllfa ariannol pob Cyngor yn y tymor byr i'r tymor canolig. Roedd hyn yn cynnwys canolbwyntio ar strategaeth ariannol pob Cyngor yn ogystal ag adolygu dangosyddion ariannol sefyllfa ariannol pob Cyngor mewn perthynas â'r canlynol:-
• perfformiad yn erbyn y gyllideb; • cyflawniad cynlluniau arbed; • defnydd o gronfeydd wrth gefn; • y dreth gyngor; a • benthyca.
Nododd y Pwyllgor fod Archwilio Cymru, yn gyffredinol, wedi gweld bod y Cyngor wedi cynnal sefyllfa ariannol gynaliadwy hyd yn hyn ond bydd angen iddo barhau i ddatblygu ei ymagwedd tuag at gyflawni arbedion o ystyried y pwysau disgwyliedig ar y gyllideb. Mae strategaeth y Cyngor wedi'i helpu i gynnal sefyllfa ariannol gref hyd yn hyn
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Archwilio Cymru mewn perthynas a'r Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol o Gyngor Sir Caerfyrddin.
|
||||||||||
ADRODDIADAU CENEDLAETHOL ARCHWILIO CYMRU. PDF 64 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiadau cenedlaethol canlynol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Archwilio Cymru:-
- Gwella ein Perfformiad - Mynd i’r Afael â Thwyll yng Nghymru (Gorffennaf 2020) - Cysgu Allan yng Nghymru – Problem i Bawb; Cyfrifoldeb i Neb (Gorffennaf 2020) - Canfyddiadau o Archwiliadau Egwyddor Datblygu Cynaliadwy’r Archwilydd Cyffredinol (Mai 2020)
Gofynnwyd y cwestiynau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-
· Gofynnwyd a yw argymhellion o adroddiadau cenedlaethol yn cael eu nodi gan y weithrediaeth berthnasol a hefyd, mewn perthynas ag unrhyw argymhellion sy'n effeithio ar y Pwyllgor Archwilio, sut yr oedd swyddogion yn bwriadu sicrhau bod y Pwyllgor yn cymryd rhan lawn yn y broses. Esboniodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod y tîm polisi yn gyfrifol am gydgysylltu adroddiadau cenedlaethol. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar y mater o fynd i'r afael â thwyll a bydd y wybodaeth hon yn cael ei hychwanegu at System Monitro Perfformiad a Gwella yr Awdurdod. Bydd adroddiadau rheolaidd ar atal twyll yn cael eu cyflwyno i'r Tîm Rheoli Corfforaethol a bydd adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio;
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau cenedlaethol Archwilio Cymru a nodir uchod.
|
||||||||||
Y DIWEDDARAF YNGHYLCH Y CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2020/21. PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu Cynllun Archwilio Mewnol 2020/21.
Tynnodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol sylw'r Pwyllgor at y ffaith bod adran ychwanegol wedi'i hychwanegu at y cynllun mewn perthynas ag atal twyll, a fyddai'n helpu i fynd i'r afael â'r pryderon a amlygwyd gan Archwilio Cymru yn ei adroddiad yn gynharach ar yr agenda.
Gofynnwyd y cwestiynau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-
· Gofynnwyd a yw swyddogion yn disgwyl i unrhyw waith arall godi yn ystod y flwyddyn heblaw am yr hyn a gafodd ei gynnwys yn y cynllun, gan fod gwaith ychwanegol wedi'i wneud y llynedd a roddodd bwysau ar y tîm. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd cynlluniau i wneud unrhyw waith ychwanegol, ond bod gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Covid-19 yn ddisgwyliedig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad o Gynllun Archwilio Mewnol 2020/21.
|
||||||||||
BLAENRHAGLEN GWAITH Y PWYLLGOR ARCHWILIO. PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith flynyddol a oedd yn manylu ar yr adroddiadau fydd yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor eu hystyried yn ystod cylch cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio 2020/21.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2020/21.
|
||||||||||
COFRESTR RISG CORFFORAETHOL 2021/21. PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Gofrestr Risg Gorfforaethol 2020/21 i'w hystyried.
Mae'r Awdurdod yn cadw Cofrestr Risg Gorfforaethol er mwyn gwerthuso pa mor agored ydyw i risgiau strategol allweddol. Roedd yr Asesiad Corfforaethol wedi argymell y dylai'r Gofrestr Risg Gorfforaethol gael ei rhannu gyda'r Pwyllgor Archwilio. Mae'r gwaith o adolygu a monitro'r Gofrestr Risg Gorfforaethol wedi'i ddirprwyo i'r Pwyllgor Archwilio yn unol â'r Cylch Gwaith.
Nododd y Pwyllgor fod un rhan o'r risg a nodwyd mewn perthynas â chynllunio gorfodaeth leol wedi'i dileu o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol. Roedd y Pwyllgor hefyd yn falch o nodi nad oedd cynnig i gynnwys unrhyw risgiau ychwanegol ar y Gofrestr.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· O ran y risg a nodwyd mewn perthynas ag ysgolion nad ydynt yn gwneud gwaith atgyweirio a gwaith cynnal a chadw rheolaidd i eiddo, cyfeiriwyd at y ffaith nad oedd y wybodaeth yn y golofn ddiweddariadau yn gyfredol a gofynnwyd i swyddogion a oedd unrhyw wybodaeth fwy cyfredol ar gael. Rhoddodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol wybod i'r Pwyllgor y byddai hi'n gofyn am ddiweddariad gan yr adran berthnasol; · Pwysleisiwyd bod y cynnydd o ran Clefyd Coed Ynn yn dda iawn a gofynnwyd i swyddogion a oedd unrhyw ddiweddariad. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod swyddogion yn gwneud cynnydd eithaf da o ran y broses gaffael a'u bod yn gweithio tuag at sicrhau ei bod ar waith erbyn mis Tachwedd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Gofrestr Risg Gorfforaethol 2020/21.
|
||||||||||
ADRODDIADAU CYNNYDD:- |
||||||||||
GWERTHUSO ADOLYGIAD Y CYNGOR O RAN REOLI PERFFORMIAD POBL - DIWEDDARIAD MEDI 2020. PDF 451 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ei gyfarfod diwethaf, gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas â gweithredu argymhellion a ddeilliodd o Adolygiad y Cyngor o Reolaeth Perfformiad Pobl.
Yn ystod 2017, o ganlyniad i bryderon a amlygwyd gan y tîm Archwilio Mewnol, cynhaliwyd adolygiad gan y Gweithgor Adolygu Rheolaeth Perfformiad Pobl Corfforaethol o fframwaith Rheoli Perfformiad Pobl y Cyngor a chyflwynodd ei ganfyddiadau i Dîm Rheoli Corfforaethol y Cyngor. Ar ôl hynny rhoddodd y canfyddiadau yn ffurfiol i'r Bwrdd Llywodraethu Strategaeth Pobl ym mis Chwefror 2018 a oedd yn gyfrifol am lunio cynllun gweithredu manwl.
Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad ynghylch y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran mynd i'r afael ag argymhellion yr adolygiad a chadarnhaodd fod yr holl argymhellion wedi'u cwblhau erbyn hyn. Soniodd yr adroddiad hefyd am effaith COVID-19, yn enwedig mewn perthynas â'r gofyniad am weithio mewn modd mwy ystwyth a hyblyg, gan gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod gweithio gartref wedi amlygu problemau o ran cysylltedd band eang yng Nghymru wledig. Mae hefyd wedi datgelu problemau eraill megis arwahaniad, diffyg lle gartref ar gyfer swyddfa gartref, a phwysleisiwyd pwysigrwydd bod yn ymwybodol o faterion o'r fath a chydymdeimlad â materion o'r fath. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol wrth y Pwyllgor ein bod yn newid o broffiliau swyddi technegol traddodiadol i ddull sy'n canolbwyntio mwy ar bobl, yn sgil arwahaniad; · O ran y gofrestr rhoddion a chroesogarwch, gofynnwyd i swyddogion sut y mae'r broses hon yn cael ei dilysu/archwilio. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol wrth y Pwyllgor fod y broses wedi'i hailwampio a bod pob ffurflen wedi'i hailysgrifennu i'w gwneud yn llawer mwy cynhwysfawr gan nad oedd mor llym ag yr oedd angen iddi fod. Bydd yn ofynnol i bob aelod o staff lenwi ffurflen datganiad buddiant p'un a oes ganddo fuddiant ai peidio; · Gofynnwyd i swyddogion am y broses a gynhelir ar gyfer arfarniadau a beth y mae'n ei gynnwys. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y broses ar gyfer arfarniadau yn rhy fecanistig o lawer o'r blaen. Nod arfarniadau yw cefnogi pobl; · Gofynnwyd i swyddogion am y polisi cyffredinol mewn perthynas â chadw mewn cysylltiad â staff. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol wrth y Pwyllgor fod hyn yn cael ei wneud drwy ddiwrnodau Cadw mewn Cysylltiad yn bennaf. Mae gan yr Awdurdod ddyletswydd gofal i'w weithwyr sy'n cynnwys iechyd meddwl. · PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
9.1.1 dderbyn yr adroddiad; 9.1.2 nid oes angen cyflwyno adroddiad diweddaru pellach i'r Pwyllgor gan fod yr holl gamau gweithredu wedi'u cwblhau.
|
||||||||||
ADOLYGIAD RHEOLI EDDO - DIWEDDARIAD CYNNYDD. PDF 73 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru cynnydd mewn perthynas ag Is-adran Rheoli Eiddo yr Awdurdod.
Yn ei gyfarfod ar 24 Ionawr 2020, gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ynghylch y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran mynd i'r afael â'r argymhellion a ddeilliodd o'r adolygiad archwilio o'r is-adran Rheoli Eiddo. Nododd yr adolygiad nifer o bryderon mewn perthynas â'r gwaith o reoli a gweinyddu eiddo prydles yr Awdurdod a chafodd cynllun gweithredu ei lunio i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Lluniwyd cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r pryderon hyn a oedd yn manylu ar y camau gweithredu penodol a gyflawnwyd a rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad ynghylch y sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r camau gweithredu a gynlluniwyd.
Nodwyd y gallai fod angen mireinio rhai agweddau ar y polisi gwaredu gan fod staff yn gweithio gartref oherwydd pandemig COVID 19, yn enwedig o ran llofnodi, ac a ellid gwneud hyn yn electronig. Mae'n bosibl y bydd pandemig COVID 19 yn cael effaith negyddol sylweddol ar lefelau rhent ac yn unol â hynny nid oedd cynnydd rhent drwy adolygiadau neu adnewyddiadau yn debygol o ddigwydd yn y tymor byr.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Gofynnwyd a ddylai'r Awdurdod fod yn caniatáu i denant is-osod i denant arall. Esboniodd y Pennaeth Adfywio y byddai'n dderbyniol pe bai'r is-denant yn bodloni'r holl ofynion. Fel ceidwaid canol y dref byddai'n well gan yr Awdurdod weld eiddo'n cael ei ddefnyddio yn hytrach na bod yn wag. Mae angen i ni sicrhau canol trefi bywiog ac mae swyddogion yn gweithio tuag at gael cymysgedd o hamdden a llety yn yr hyn a arferai fod yn unedau manwerthu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
9.1.1 dderbyn yr adroddiad;
9.1.2 bod canlyniadau'r archwiliad dilynol yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor maes o law.
|
||||||||||
RHEOLAU GWEITHDREFN ARIANNOL. PDF 86 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi'u hadolygu a'u diwygio i sicrhau bod yr holl wybodaeth sy'n cael ei chynnwys yn gyfredol ac yn briodol.
Mae'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn darparu strwythur ac yn esbonio'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i swyddogion ac aelodau eu dilyn i sicrhau safonau uchel o reolaeth ariannol ac felly'n caniatáu i Swyddog Adran 151 yr Awdurdod gyflawni ei ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1972 (Adran 151) mewn perthynas â'r weinyddiaeth briodol o faterion ariannol y Cyngor. Gall Prif Swyddogion ddirprwyo swyddogaethau o natur ariannol i swyddogion unigol e.e. rheolaeth gyllidebol, archebu nwyddau/gwasanaethau, talu cyfrifon ac ardystio taflenni amser. Os bydd swyddogion yn ymgymryd â gweithgaredd sy'n effeithio ar gyllid y Cyngor, dylent sicrhau eu bod yn deall gofynion y Rheolau Gweithdrefnau Ariannol fel eu bod yn cydymffurfio â'r trefniadau cymeradwy.
Mae'r Pwyllgor Archwilio wedi dirprwyo awdurdod, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, i ystyried a chymeradwyo diwygiadau i'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol.
Gofynnwyd y cwestiwn canlynol ynghylch yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y defnydd o lofnodion electronig a'r ffaith ei bod yn ymddangos nad oes unrhyw gyfeiriad at hyn ym mholisïau TG yr Awdurdod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol diwygiedig.
|
||||||||||
RHEOLAU GWEITHDREFN CONTRACT DIWYGIEDIG. PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau wedi'u hadolygu a'u diweddaru i ystyried nifer o newidiadau yn y rheoliadau caffael a'r polisïau/gweithdrefnau caffael. Amlygwyd y diwygiadau arfaethedig i'r Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau (fersiwn 3).
|
||||||||||
COFNODION GRWPIAU PERTHNASOL I'R PWYLLGOR ARCHWILIO:- PDF 79 KB |
||||||||||
COFNODION CYFARFOD Y GRŴP LLYWIO RHEOL RISG A GYNHALIWYD AR Y 31AF GORFFENNAF, 2020; PDF 142 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2020.
|
||||||||||
COFNODION CYFARFOD Y PANEL GRANTIAU A GYNHALIWYD AR Y 12EG MEHEFIN, 2020. PDF 129 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Panel Grantiau a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2020.
|
||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2020 gan eu bod yn gywir.
</AI22> <TRAILER_SECTION>
|
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Cynnig i ffedereiddio Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Llangadog o 1 Medi 2024.
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth