Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Morgan a J. Williams.</AI1><AI2> |
|||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|||||||||
DIWEDDARIAD RHAGLEN WAITH ARCHWILIO CYMRU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad chwarterol Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru, ar 31 Rhagfyr 2024, a oedd yn rhoi crynodeb o'r rhaglen waith ar gyfer llywodraeth leol, ynghyd â diweddariad ar y gwaith arolygu, gan gynnwys yr archwiliadau ariannol a pherfformiad sy'n berthnasol i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Gwnaed yr ymholiadau/sylwadau canlynol ynghylch yr adroddiad:
· Eglurodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru, mewn ymateb i ymholiad, fod disgwyl i'r gwaith o Archwilio Grantiau a Dychwelebau 2023-24 y Cyngor gael ei gwblhau o fewn yr wythnosau nesaf. Ychwanegodd fod adroddiad Archwilio Cymru ar gyfer Sir Gaerfyrddin ar 'Ofal Heb ei Drefnu' yn cael ei gwblhau ac y dylai fod ar gael i'w ystyried gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||
Y DIWEDDARAF YNGHYLCH AR CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2024/25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu Cynllun Archwilio Mewnol 2024/25.
Bu'r Pwyllgor yn adolygu'r cynnydd a oedd yn cael ei wneud o ran gweithredu'r rhaglen archwilio a oedd yn crynhoi statws pob adolygiad ac yn dangos cyfradd cwblhau o 76% yn erbyn targed o 80%.
Roedd Atodiad B i'r adroddiad yn rhoi crynodeb o'r adroddiad ariannol a gwblhawyd ar y system ariannol allweddol a oedd yn ymwneud â thaliadau credydwyr.
Rhoddwyd ystyriaeth i'r cynllun gweithredu a roddwyd ar waith lle bo hynny'n briodol, a oedd yn crynhoi'r materion a nodwyd, ynghyd â'r argymhellion a wnaed. Sicrhawyd y Pwyllgor fod y Cyngor yn rhoi sylw i'r holl argymhellion.
Atgoffwyd y Pwyllgor fod sgôr ychwanegol wedi'i hychwanegu at gategorïau canlyniadau'r archwiliad i adlewyrchu'n well lefel y sicrwydd. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch holiadur archwilio'r ysgolion, eglurwyd bod categorïau o ran canlyniadau gwahanol yn cael eu darparu ar gyfer mathau eraill o ymgysylltu megis hunanasesiadau ac yn sgil hyn byddai nodyn esboniadol yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||
ARGYMHELLION ARCHWILIAD MEWNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd wedi'i wneud o ran yr argymhellion Archwilio Mewnol a oedd yn ymwneud â blwyddyn ariannol 2023/24.
Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol wrth y Pwyllgor fod yr Archwiliad Mewnol wedi nodi cyfanswm o 123 o argymhellion yn ystod y cyfnod adrodd, roedd 101 ohonynt wedi'u cwblhau, roedd 8 lle nad oedd camau wedi'u cwblhau neu heb gyrraedd targedau, ac roedd yr 14 arall heb gyrraedd eu dyddiad targed.
Adolygodd y Pwyllgor yr argymhellion lle nad oedd camau wedi'u cwblhau o hyd, ynghyd â sefyllfa bresennol y Cyngor a chytunodd ar gamau i fynd i'r afael â'r materion a godwyd, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Gwnaed yr ymholiadau/sylwadau canlynol ynghylch yr adroddiad:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad Argymhellion Archwilio Mewnol. |
|||||||||
STRATEGAETH ARCHWILIO MEWNOL A CHYNLLUN ARCHWILIO 2025/26 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn unol â gofynion y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang, a fyddai'n dod i rym o 1 Ebrill 2025, bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar Strategaeth Archwilio Mewnol 2025, y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2025/26 a'r Archwilio Mewnol a gynllunnid ar gyfer 2025-2028.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang wedi disodli Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus gyda'r nod o arwain yr arfer proffesiynol byd-eang ym maes Archwilio Mewnol a darparu sail ar gyfer gwerthuso a dyrchafu ansawdd y swyddogaeth Archwilio Mewnol. Roedd y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang yn nodi y dylid alinio datblygiad y Strategaeth Archwilio Mewnol ag amcanion strategol a llwyddiant yr Awdurdod, a’r roi ar waith drwy’r Cynllun Archwilio Mewnol blynyddol.
Dywedwyd bod y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2025/26 a atodwyd i’r adroddiad wedi'i lunio yn unol â Chofrestr Risg Corfforaethol a Chofrestrau Risg Gwasanaethau'r Awdurdod, i sicrhau bod risgiau uchaf yr Awdurdod yn cael sylw ac ystyriaeth briodol. Yn ogystal, roedd Archwilio Mewnol wedi nodi meysydd priodol i'w hadolygu. Roedd y Cynllun Archwilio Mewnol yn cynnwys rhoi sylw i Archwiliadau Sylfaenol, Llywodraethu a Rheoli'r Cyngor, Gwrth-dwyll, Grantiau ac Ardystiadau ac Adolygiadau Adrannol.
Gwnaed yr ymholiadau/sylwadau canlynol ynghylch yr adroddiad:
· Dywedwyd bod y ddogfen ganllaw a ddosbarthwyd i'r Pwyllgor ar ofynion y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang yn argymell rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor am yr hyfforddiant a'r datblygiad a wnaed gan swyddogaeth Archwilio Mewnol y Cyngor i fynd i'r afael â gweithredu'r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang. Felly, cytunwyd y byddai gwybodaeth berthnasol o ran hyfforddiant a datblygiad yn cael ei chynnwys yn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a byddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn ystod ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2025.
· Yn dilyn cais, cytunwyd y byddai sesiwn hyfforddi yn amlinellu'r newidiadau sy'n ofynnol yn dilyn cyflwyno'r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang, a'i effaith ar y Pwyllgor yn cael ei chynnwys yn Rhaglen Hyfforddi'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||
SIARTER ARCHWILIO MEWNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Siarter Archwilio Mewnol a ddiweddarwyd yn unol â Safon 6.2 o'r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang.
Roedd y siarter yn darparu glasbrint ar gyfer gweithredu'r swyddogaeth archwilio mewnol yn yr Awdurdod ac yn nodi gwybodaeth mewn perthynas â'r mandad, rolau a chyfrifoldebau archwilio mewnol, cwmpas a mathau o wasanaethau, trefniadau adrodd, gwaith twyll ac anghysondeb a pholisi'r Gymraeg.
Wrth adolygu'r Siarter, dywedodd y Pwyllgor y byddai crynodeb o newidiadau, neu newidiadau wedi'u tracio, ar gyfer unrhyw ddogfennau diwygiedig yn ddefnyddiol, lle bo hynny'n bosibl, mewn adroddiadau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Siarter Archwilio Mewnol |
|||||||||
COFRESTR RISG CORFFORAETHOL 2024/25 CYNGOR SIR CAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cofrestr Risg Gorfforaethol 2024/25 a oedd yn cael ei chadw er mwyn gwerthuso'r risgiau strategol allweddol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y risgiau a ychwanegwyd a'u tynnu oddi ar y gofrestr, ynghyd â'r rhai y dylid eu rheoli nawr trwy gofrestrau risg adrannol. Dywedwyd bod y Tîm Rheoli Corfforaethol wedi gofyn am ddadansoddiad pellach o'r risgiau sy'n ymwneud ag effaith strategaethau addysg ar wasanaeth trafnidiaeth ôl-16, diogelu plant, ailgylchu, y naratif carbon sero-net a thrais yn erbyn staff.
Gwnaed yr ymholiadau/sylwadau canlynol ynghylch yr adroddiad:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Cofrestr Risg Gorfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin 2024/25. |
|||||||||
RHESTR WIRIO HUNANWERTHUSO'R FENTER TWYLL GENEDLAETHOL 2024/25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â chofnod 3.5.2 o gyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2024, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried ar restr wirio hunanarfarnu'r Fenter Twyll Genedlaethol ar gyfer 2024/25.
Nodwyd bod y Fenter Twyll Genedlaethol yn ymarfer gwrth-dwyll a gynhelir bob dwy flynedd ledled y DU a oedd yn defnyddio technegau cyfrifiadurol i gymharu gwybodaeth am unigolion a gedwir gan wahanol gyrff cyhoeddus, ac ar wahanol systemau ariannol, a allai awgrymu bod twyll neu gamgymeriad yn bodoli. Roedd yr Archwilydd Cyffredinol yn mynnu bod awdurdodau lleol unedol, cyrff y GIG, heddluoedd ac awdurdodau tân ac achub yn cymryd rhan yn y Fenter gyda sefydliadau eraill yn cymryd rhan yn wirfoddol. Roedd templed ar gyfer rhestr wirio wedi'i baratoi gan Archwilio Cymru i gynorthwyo cyrff sy'n cymryd rhan i hunanarfarnu eu hymgysylltiad â'r Fenter Twyll Genedlaethol.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y rhestr wirio hunanarfarnu a oedd wedi'i llenwi a’i hatodi i’r adroddiad a oedd yn manylu ar yr hyn yr oedd angen ei wneud ynghyd â'r swyddogion cyfrifol a dyddiad cwblhau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Rhestr Wirio Hunanwerthuso'r Fenter Twyll Genedlaethol a oedd wedi'i chwblhau ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin. |
|||||||||
DIWEDDARIAD O RHEOLAU GWEITHDREFN CONTRACTAU Y CYNGOR (FERSIWN 6) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried ynghylch Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r Cyngor (Fersiwn 6). Roedd dogfen Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r Cyngor a atodwyd i'r adroddiad wedi'i diweddaru i adlewyrchu Deddf Caffael newydd 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 a ddaeth i rym ar 24 Chwefror 2025.
Bu'r Pwyllgor yn adolygu'r newidiadau mwyaf amlwg a'r ychwanegiadau i'r Gweithdrefnau yn unol â'r Ddeddf, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Gwnaed yr ymholiadau/sylwadau canlynol ynghylch yr adroddiad:
· Roedd y Rheolwr Caffael, mewn ymateb i ymholiad, wedi rhoi sicrwydd bod gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod y gofynion o ran gweithredu mesurau diogelu yn cael eu hystyried yn y broses dendro.
· Eglurwyd wrth y Pwyllgor fod y cyfeiriad at werth y contract o £50,000 ac uwch yn adlewyrchu amodau cyfansoddiadol y cyngor mewn perthynas â sêl gyffredin yr Awdurdod. Cytunwyd y dylid gwneud cais i'r Swyddog Monitro asesu a fyddai'n briodol i'r Cyngor ystyried alinio'r ffigur â'r gwerthoedd a amlinellir yn y Rheolau Gweithdrefnau Contractau h.y. £30,000 a £75,000.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
</AI10> |
|||||||||
LOG GWEITHREDU'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Cofnod o Gamau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a oedd yn nodi'r camau gweithredu i'w monitro/datblygu o gyfarfodydd blaenorol.
Dywedwyd yn dilyn cais, y byddai'r cyfeiriad at y derminoleg 'craffu dwys' yn cael ei gyfeirio ato fel 'adolygiad manwl' mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at weithred 2024/17 yn ymwneud ag ysgolion lle nodwyd y byddai'r cofnod o gamau gweithredu yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu bod y Pwyllgor wedi cytuno ar ddau adolygiad manwl ar wahân yn flaenorol yn ei gyfarfod ar 20 Rhagfyr 2024, fel a ganlyn:
Cyfeiriodd y Prif Archwilydd at wall teipio yn yr adroddiad lle eglurwyd mai dyddiad y gweithdy a drefnwyd ar gyfer y Pwyllgor oedd dydd Iau 20 Mawrth 2025. At hynny, cadarnhawyd bod y Diweddariad Cynnydd ar adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol Archwilio Cymru yn cael ei ymgorffori yn y Cofnod o'r Camau Gweithredu, yn unol â phenderfyniadau'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 20 Rhagfyr 2024.
Mewn ymateb i gais, cytunodd y Prif Archwilydd i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr arfer da y soniwyd amdano uchod mewn perthynas ag arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol Casnewydd (gweler cofnod 3.2) fel man trafod yn y gweithdy a drefnwyd ddydd Iau 20 Mawrth 2025.
|
|||||||||
BLAENRHAGLEN GWAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith a nodai'r eitemau i'w cyflwyno i'r Pwyllgor yn y cyfarfodydd oedd wedi'u trefnu ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Cadarnhawyd y byddai'r Diweddariad Cynnydd ar adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol Archwilio Cymru hefyd yn cael ei gynnwys yn y Blaenraglen Waith.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar benderfyniad 6.4 a chynnwys y Diweddariad Cynnydd ar adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol Archwilio Cymru, y dylid derbyn y Blaenraglen Waith. |
|||||||||
COFNODION GRWPIAU PERTHNSAOL I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||
COFNODION Y GRWP LLYWIO RHEOLI RISG 19 RHAGFYR 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2024. |
|||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD, GALL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO YSTYRIED NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W CYHOEDDI AM EI BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFININR YM MHARAGRAFF 14 O RHAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF, LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||||||
ADRODDIAD ARCHWILIAD MEWNOL - CARDIAU LLES Cofnodion: Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 15 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, hyd nes y byddai mesurau yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r diffygion hynny.
Yn dilyn cofnod 14 o gyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 23 Medi 2023, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar yr adolygiad dilynol o'r Adroddiad Archwilio Mewnol ar gyfer Cardiau Lles. Rhoddodd yr adolygiad y wybodaeth ddiweddaraf ar y materion blaenorol a nodwyd, ynghyd â'r argymhellion cysylltiedig a wnaed yn 2022-23.
Cododd y Pwyllgor nifer o gwestiynau a phwyntiau ynghylch y canfyddiadau allweddol yn yr adroddiad gan ofyn am eglurhad gan y swyddogion. Wrth ystyried y materion hyn, rhoddwyd sicrwydd bod camau'n cael eu cymryd i sicrhau gwelliant.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|