Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Nodyn: Ni fydd y cyfarfod yma yn cael ei we-ddarlledu. 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Davies a B.A.L. Roberts.

 

O ystyried mai hwn oedd ei gyfarfod olaf gan nad oedd yn sefyll yn yr etholiadau sydd ar ddod, manteisiodd aelodau'r Pwyllgor ar y cyfle i ddiolch i'r Cynghorydd Bill Thomas am ei gyfraniad i waith y pwyllgor dros y blynyddoedd ac i ddymuno'n dda iddo yn y dyfodol. </AI1>

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Aelod/Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd K. Broom

5 – Cyfweld Ymgeiswyr ar y Rhestr Fer

Yn adnabod J. James yn rhinwedd ei swydd.

Y Cynghorydd T. Higgins

5 – Cyfweld Ymgeiswyr ar y Rhestr Fer

Yn adnabod J. James yn rhinwedd ei swydd.

Y Cynghorydd G. John

5 – Cyfweld Ymgeiswyr ar y Rhestr Fer

Yn adnabod J. James a D. MacGregor yn rhinwedd eu swyddi.

Y Cynghorydd A.G. Morgan

5 – Cyfweld Ymgeiswyr ar y Rhestr Fer

Yn adnabod J. James yn rhinwedd ei swydd.

Y Cynghorydd Gareth Thomas

5 – Cyfweld Ymgeiswyr ar y Rhestr Fer

Yn adnabod J. James yn rhinwedd ei swydd.

Y Cynghorydd D.E. Williams

5 – Cyfweld Ymgeiswyr ar y Rhestr Fer

Yn adnabod J. James yn rhinwedd ei swydd.

C. Moore

5 – Cyfweld Ymgeiswyr ar y Rhestr Fer

Yn adnabod J. James a D. MacGregor yn rhinwedd eu swyddi.

H. Pugh

5 – Cyfweld Ymgeiswyr ar y Rhestr Fer

Yn adnabod J. James a D. MacGregor yn rhinwedd eu swyddi.

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf sef gwybodaeth ynghylch unigolyn penodol.

 

4.

DERBYN NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD O'R PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR Y 18FED MAWRTH MARCH 2022

Cofnodion:

Yn sgil cymhwyso prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai hynny yn datgelu gwybodaeth eithriedig am unigolyn penodol (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys manylion am geisiadau a ddaeth i law ar gyfer swydd Person Lleyg. Roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad uchod yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir yn yr adroddiad hwn, gan y byddai gan ymgeiswyr ddisgwyliad rhesymol na fyddai eu gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i'r cyhoedd. Nid oedd unrhyw fudd cyhoeddus tra phwysig o ran datgelu gwybodaeth o'r fath.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi ei gynnal ar 18 Mawrth, 2022.

 

5.

DERBYN CYFLWYNIADAU A CHYFWELD YR YMGEISWYR AR Y RHESTR FER AR GYFER SWYDDI PERSONAU LLEYG AR Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO

Amgaeir er sylw’r aelodau gopïau o’r Profil Swydd a Ffurflenni Cais yr Ymgeiswyr

Cofnodion:

NODER:  Roedd y Cynghorwyr K. Broom, T. Higgins, G. John, A.G. Morgan, B. Thomas a D.E. Williams a'r swyddogion C. Moore a H. Pugh wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Yn sgil cymhwyso prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 3 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai hynny yn datgelu gwybodaeth eithriedig am unigolyn penodol (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys manylion am geisiadau a ddaeth i law ar gyfer swydd Person Lleyg.  Roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad uchod yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir yn yr adroddiad hwn, gan y byddai gan ymgeiswyr ddisgwyliad rhesymol na fyddai eu gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i'r cyhoedd. Nid oedd unrhyw fudd cyhoeddus tra phwysig o ran datgelu gwybodaeth o'r fath.

 

Roedd y Pwyllgor wedi cyfweld â thri ymgeisydd ar gyfer swydd y person lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Ar ôl ystyried y cyflwyniadau gan yr ymgeiswyr,

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR, er mwyn bodloni gofyniad Cyfansoddiad y Cyngor, fod y Cyngor Sir yn penodi Mrs Julie James, Mr Malcolm MacDonald a Mr David MacGregor yn Personau Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer y cyfnod rhwng 25 Mai 2022 a 24Mai 2027.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau