Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle Evans Thomas 01267 224470
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd B.A.L. Roberts.
Yn y fan hon mynegodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, gydymdeimlad diffuant â'r Cynghorydd Roberts yn dilyn marwolaeth ei g?r.
|
|||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||
DATGANIAD O GYFRIFON Y CRONFA BENSIWN DYFED Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorwyr T. Higgins, K. Broom, K. Davies, G. John ac E. Williams wedi datgan diddordeb yn gynharach yn yr eitemau canlynol 3.1 – 3.4.]
|
|||||||||||||||||||
ADRODDIAD DATGANIADAU ARIANNOL Y CRONFA BENSIWN DYFED Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad Archwilio Cymru ar yr archwiliad a gynhaliwyd o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed i'w ystyried. Roedd yr adroddiad yn ystyried a oedd y datganiad ariannol yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed ar 31Mawrth 2021 a'r incwm a'r gwariant yn ystod y flwyddyn honno.
Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon a fyddai'n cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y deuai'r Llythyr Sylwadau i law. Roedd y Pwyllgor hefyd yn falch o nodi nad oedd unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol a oedd yn dal heb eu cywiro. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||||
LLYTHYR CYNRYCHIOLAETH I ARCHWILIO CYMRU CRONFA BENSIWN DYFED Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod yn ofynnol gan Archwilio Cymru, yn unol â'r Datganiad Safonau Archwilio (SAS440 - Sylwadau Rheolwyr), fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn llunio Llythyr Sylwadau yn flynyddol, a bod y llythyr hwn yn cael ei lofnodi gan y Swyddog hwnnw a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Ar ben hyn, roedd yn ofynnol gan Archwilio Cymru fod y Pwyllgor a oedd yn gyfrifol am gymeradwyo'r cyfrifon o dan Reoliad 8 o'r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio yn cydnabod yr ymateb yn ffurfiol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Llythyr Sylwadau i Archwilio Cymru gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio i Archwilio Cymru mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei gydnabod.
|
|||||||||||||||||||
YMHOLIADAU ARCHWILIO AR GYFER Y RHEINY SYDD YN GYFRIFOL AM LYWODRAETHU A RHEOLAETH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor ymatebion yr Awdurdod i Archwilio Cymru ar nifer o feysydd llywodraethu sy'n effeithio ar archwiliad y datganiadau ariannol. Roedd yr ystyriaethau hynny hefyd yn berthnasol i reolwyr Cronfa Bensiwn Dyfed a'r 'rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu' (Pwyllgor Archwilio). Roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth Archwilio Cymru o brosesau busnes Cronfa Bensiwn Dyfed gan gefnogi ei waith i ddarparu barn archwilio ar gyfer datganiadau ariannol 2020-21.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r ymatebion i'r ceisiadau a wnaed i'r rheolwyr a'r Pwyllgor Archwilio fel y manylir yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||||
ADRODDIAD A CHYFRIFON BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN DYFED 2020-2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2020-21, yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014. Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i'w cymeradwyo.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at gofnod presenoldeb Aelodau'r Pwyllgor. Mynegwyd pryder mewn perthynas ag Aelodaeth gyfyngedig Pwyllgor Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed a gwnaed sylw bod un o'i aelodau wedi bod yn absennol am sawl cyfarfod. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, drwy alw ar y dirprwy enwebedig, fod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed wedi gallu parhau i gynnal ei fusnes yn ôl yr arfer. Esboniwyd bod angen cael dirprwy enwebedig er mwyn sicrhau bod lefel gyson o wybodaeth am y pwnc yn cael ei chynnal. Cyflawnwyd hyn drwy hyfforddiant rheolaidd yn unol â'r cynllun hyfforddi. Hefyd, rhoddwyd sicrwydd bod y Cynghorydd bellach wedi dychwelyd at ei ddyletswyddau arferol yn dilyn cyfnod o salwch.
· Wrth gydnabod bod 2020/21 wedi bod yn flwyddyn heriol, cydnabu'r Aelodau, er gwaethaf hyn, ei bod yn braf nodi bod y Gronfa wedi sicrhau enillion llwyddiannus.
· Gofynnwyd am eglurder ynghylch y cyfeiriad at 'ymadawr heb benderfynu’ yn adran 'Aelodaeth o'r Cynllun' yr adroddiad. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y term yn cyfeirio at unigolyn a oedd wedi gadael ei gyflogaeth ac yn aros i gael ei brosesu.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch eiddo masnachol, eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y maes hwnnw yn cael ei fonitro'n ofalus. Yn ogystal, nodwyd na wnaed buddsoddiad helaeth yng nghanol trefi yn gysylltiedig â'r pandemig, ac o ganlyniad nid oedd yr effaith wedi bod yn sylweddol.
Er mwyn rhoi eglurder pellach mewn perthynas ag eiddo masnachol, ychwanegodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod rheolwyr eiddo yn arallgyfeirio eu buddsoddiadau ar draws y portffolio cyfan mewn dull cytbwys gan fynd ati'n rhagweithiol i adolygu'r ganran a ddyrennir i bob sector ar wahân.
· Mewn ymateb i ymholiad a wnaed ynghylch amserlen yr achosion sydd wedi/heb eu cwblhau fel y nodwyd yn yr adroddiad, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol y rhoddwyd gwybod i Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed am sefyllfa'r achosion a oedd yn rhoi hyder gan fod nifer yr achosion sy'n cael eu prosesu yn dderbyniol.
· Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ei fod yn fodlon â'r gyfradd dadfuddsoddi hyd yma ac esboniodd fod gan aelodau Pwyllgor Pensiwn Dyfed a Swyddogion ddyletswydd rhagfarnol a chyfrifoldeb i sicrhau bod pensiynau ar gael i aelodau adeg ymddeol. Er bod y symudiad o ran dadfuddsoddi yn gytbwys ac yn cael ei wneud ar gyflymder derbyniol, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai'n anodd dadfuddsoddi heb gefnogaeth a chydweithrediad Rheolwyr Buddsoddi. Yn ogystal, dywedwyd bod Rheolwyr Buddsoddi wrthi'n paratoi i fynd ar drywydd cronfeydd a oedd ag ôl troed di-garbon neu garbon isel, a ddaeth yn fater cymhleth i'w reoli o ran o ran cronfeydd cyfun.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLgymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed 2020-21.
|
|||||||||||||||||||
ARCHWILIO CYMRU - ADOLYGIAD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||
ADRODDIAD CYNALIADWYEDD ARIANNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad Archwilio Cymru ar Gynaliadwyedd Ariannol a gyflwynwyd gan Mr Jason Garcia. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar flwyddyn ariannol 2020/21. Nodwyd bod Archwilio Cymru wedi cynnal adolygiad thematig o Gynaliadwyedd Ariannol Cymru gyfan o ran Awdurdodau Lleol ac wedi cynnal asesiad gan fod cynaliadwyedd ariannol yn parhau i fod yn risg i Gynghorau gan roi trefniadau priodol ar waith i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio adnoddau.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at Adolygiad Thematig Cymru Gyfan. O ran y sefyllfa a chynghorau eraill, gofynnwyd a oedd yr adroddiad ar gael i'w weld. Argymhellodd Mr Garcia y dylai Aelodau'r Pwyllgor weld yr adroddiad cenedlaethol a dywedodd hefyd, er mwyn cael rhagor o gyd-destun, y dylai Aelodau hefyd ystyried y 2 adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021; 1) Cynaliadwyedd Ariannol a 2) Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus. Nodwyd mai'r casgliad cyffredinol oedd bod Cynghorau wedi derbyn cyllid ychwanegol sylweddol i allu delio â'r pandemig, ond nodwyd bod cynaliadwyedd y sector yn y dyfodol yn parhau i fod yn her yn wyneb pwysau ariannol eraill.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai'n dosbarthu'r ddolen i Adolygiad Thematig Cymru Gyfan i'r Aelodau er gwybodaeth.
Yn ogystal, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth yr Aelodau fod Swyddogion yn mynd ati'n rhagweithiol i geisio gwneud oddeutu £5m o arbedion effeithlonrwydd y flwyddyn a oedd yn sicr yn mynd i fod yn her dros y 2 flynedd nesaf oherwydd yr ymateb parhaus i'r pandemig.
· Gofynnwyd a fyddai cynllun gweithredu'n cael ei ddatblygu i nodi'r arbedion a'r camau gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad a fyddai'n galluogi'r monitro angenrheidiol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai'r arbedion arfaethedig yn cael eu rhoi yn awtomatig ym mhroses y gyllideb a oedd yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Yn ogystal, eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y strwythur llywodraethu mewn perthynas â'r gyllideb a'r broses monitro arbedion blynyddol i'r Aelodau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLdderbyn Adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol Archwilio Cymru.
|
|||||||||||||||||||
ADOLYGIAD O'R GWASANAETH GWASTRAFF, GORFFENNAF 2021 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adolygiad Archwilio Cymru o'r Gwasanaeth Gwastraff a gyflwynwyd gan Mrs Alison Lewis. Diben yr archwiliad oedd adolygu a oes gan y Cyngor drefniadau priodol ar waith i gynllunio a darparu ei wasanaethau gwastraff yn gynaliadwy. Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r prif ganfyddiadau a ddeilliodd o'r archwiliad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru o Wasanaethau Gwastraff yr Awdurdod.
Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd cynllun gweithredu drafft a oedd yn anelu at fynd i'r afael â'r 8 prif argymhellion o ganlyniad i ganfyddiadau'r archwiliad. Roedd yr adroddiad yn gofyn i'r Pwyllgor gymeradwyo'r cynllun gweithredu drafft a oedd wedi'i nodi wrth baratoi i'w gyflwyno'n ffurfiol i Archwilio Cymru.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
·
O ran y pryder parhaus
ynghylch tipio anghyfreithlon, dywedwyd bod pryder ychwanegol
ynghylch tipio anghyfreithlon posibl oherwydd y newidiadau
arfaethedig i wasanaethau casglu gwastraff yn y dyfodol.
· Cyfeiriwyd at yr adran yn yr adroddiad sy'n nodi nad yw'r Cyngor yn adrodd ar nifer gwirioneddol y digwyddiadau tipio anghyfreithlon na'i berfformiad o'i gymharu â chynghorau eraill. Fodd bynnag, mynegwyd pryder bod Cynghorau yng Nghymru yn adrodd ar ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon yn wahanol ac felly nid oedd y ffigurau'n gyson nac yn adlewyrchiad teg o ddigwyddiadau. Awgrymwyd y dylid ychwanegu adroddiad ar gynnydd y cynllun gweithredu at Flaenraglen Waith y Pwyllgor ymhen 6 – 12 mis.
Gan fod tipio anghyfreithlon yn fater cenedlaethol, gofynnwyd a ellid safoni'r gronfa ddata genedlaethol a ddefnyddir i gasglu a chofnodi digwyddiadau? Cyfeiriwyd at Arddangosyn 5: Digwyddiadau tipio anghyfreithlon fesul Awdurdod Lleol 2019-20 yn yr adroddiad, a oedd yn dangos bod tipio anghyfreithlon yn broblem genedlaethol. Nodwyd y gellid priodoli un o'r prif resymau i'r ffaith bod Sir Gaerfyrddin yn cofnodi ei holl ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon yn y Sir, ond gall hyn fod yn wahanol i ddulliau cofnodi Cynghorau eraill. Yng ngoleuni hyn, dywedwyd nad yw'r wybodaeth a nodir yn y graff yn adlewyrchiad cywir o nifer y digwyddiadau tipio anghyfreithlon o'i gymharu â'r 22 Awdurdod Lleol arall yng Nghymru a chwestiynwyd dilysrwydd y data a ddarparwyd. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd drwy CLlLC, yn benodol ynghylch tipio anghyfreithlon. Esboniwyd nad oedd y mater wedi'i briodoli'n uniongyrchol i'r gronfa ddata ei hun ond ei fod wedi'i briodoli'n bennaf i anghysondeb o ran manylion sy'n cael eu cofnodi ar gyfer pob Cyngor.
·
Er y cydnabuwyd bod tipio
anghyfreithlon ar draws y Sir yn broblem sylweddol, dywedwyd ei bod
yn braf cadarnhau bod Swyddogion a gweithredwyr yn rheoli'r gwaith
o glirio gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn
effeithlon. · Mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â gweithredu'r Strategaeth Wastraff newydd, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'r strategaeth wastraff newydd, os caiff ei mabwysiadu gan y Cabinet, yn cael ei roi ar waith mewn dull 2 gam. Byddai'r cam cyntaf yn gam trosiannol i gasgliadau ailgylchu wythnosol o fagiau glas (gyda chasgliadau bagiau du a gwydr bob tair wythnos) yn hydref 2022 a byddai'r ail gam yn galluogi'r gwaith o gyflwyno'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.2 |
|||||||||||||||||||
COFRESTR RISG CORFFORAETHOL 2020/21 CYNGOR SIR CAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||
Y DIWEDDARAF YNGHYLCH AR CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd ynghylch gweithredu'r Cynllun Archwilio 2021/22.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad diweddaru'r Cynllun Archwilio Mewnol 2021/22 yn cael ei dderbyn.
|
|||||||||||||||||||
BLAENRHAGLEN GWAITH Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Flaenraglen Waith arfaethedig ar gyfer cylch cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio 2021/22, a nodai'r eitemau i'w cyflwyno i'r Pwyllgor yn y cyfarfodydd oedd wedi'u trefnu ar gyfer y flwyddyn i ddod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||||||||
COFNODION GRWPIAU PERTHNSAOL I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 28 Mai, 2021.
|
|||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YPWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 24 MEDI 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Archwilio
|