Agenda a chofnodion drafft

Head of Adult Social Care, Pwyllgor Penodi B - Dydd Mawrth, 4ydd Chwefror, 2025 1.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Oewns  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr N. Evans a H.B. Shepardson.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 29 MAI 2024 pdf eicon PDF 84 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a oedd wedi'i gynnal ar 29 Mai, 2024, gan eu bod yn gywir.

4.

DERBYN NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD O’R PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR 15 IONAWR 2025 pdf eicon PDF 54 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer a gynhaliwyd ar 15  Ionawr 2025.

5.

NID YW’R ADRODDIADAU AR YR EITEMAU CANLYNOL I GAEL EU CYHOEDDI GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DDIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATOLDEN 12(A) I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 (FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH)(AMRYWIO)(CYMRU) 2007). OS BYDD Y PWYLLGOR YN PERDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF I YSTYRIED YR EITEMAU HYN YN BREIFAT, AR ÔL CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD, BYDD Y CYHOEDD YN CAEL EU HEITHRIO O’R CYFARFOD YN YSTOD Y TRAFODAETHAU HYNNY.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf sef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.

6.

DERBYN CYFLWYNIADAU A CHYFWELD YR YMGEISWYR AR Y RHESTR FER AR GYFER SWYDD PENNAETH GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION AC YSTYRIED GWNEUD PENODIAD

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 5 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y broses ddethol hyd yn hyn a'r drefn a awgrymwyd ar gyfer y cyfweliadau.

 

Cafodd y Pwyllgor adborth gan swyddogion mewn perthynas â'r broses recriwtio ac asesu a'i gasgliadau.  Yn hyn o beth, nododd y Pwyllgor fod tri o'r pedwar ymgeisydd ar y rhestr fer wedi cael eu dewis ar gyfer cyfweliad, ond ar ôl i un o'r ymgeiswyr dynnu'n ôl, aeth dau wedyn ymlaen i'r cyfweliad terfynol.

 

Yna cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y ddau ymgeisydd a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau i'r ymgeiswyr.

 

Yn dilyn trafodaeth a phleidlais:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi K. Burton yn Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

 

[Yna galwyd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ôl i'r cyfarfod, a dywedodd ei fod yn derbyn y swydd.]