Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C.A. Campbell, J.A. Davies, S.L. Davies, J.S. Edmunds, L.D. Evans a J. Prosser.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
COFNODION - 17EG CHWEFROR 2021 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2021 gan eu bod yn gofnod cywir.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NID YW’R ADRODDIADAU AR YR EITEMAU CANLYNOL I GAEL EU CYHOEDDI GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DDIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATOLDEN 12(A) I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 (FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH)(AMRYWIO)(CYMRU) 2007). OS BYDD Y PWYLLGOR YN PERDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF I YSTYRIED YR EITEMAU HYN YN BREIFAT, AR ÔL CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD, BYDD Y CYHOEDD YN CAEL EU HEITHRIO O’R CYFARFOD YN YSTOD Y TRAFODAETHAU HYNNY. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.
|
|
NODIADAU GWEITHREDU - PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR 7 HYDREF 2021 Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi ei gynnal ar 7 Hydref 2021.
|
|
CAEL CYFLWYNIADAU A CHYFWELD Â'R YMGEISWYR SYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER Y SWYDD PENNAETH LLE A CHYNALIADWYEDD AC YSTYRIED PENODI Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Amlinellodd y Cadeirydd y broses ddethol hyd yn hyn a'r drefn a awgrymwyd ar gyfer y cyfarfod. Nododd y Pwyllgor y byddai pedwar o'r ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael cyfweliad. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniadau gan y pedwar ymgeisydd a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau i'r ymgeiswyr. Hyd y Cyfarfod Yn dilyn y cyflwyniadau a'r cyfweliadau, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol - 'Hyd y Cyfarfod' - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL atal Rheolau o'r Weithdrefn Gorfforaethol er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried yr eitemau a oedd yn weddill. Cafodd y Pwyllgor adborth gan swyddogion mewn perthynas â'r broses recriwtio ac asesu a'i gasgliadau. Yn dilyn trafodaeth - PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi Mr R. Griffiths i'r swydd Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd. [Galwyd Mr R. Griffiths yn ôl i'r cyfarfod, a dywedodd ei fod yn derbyn y swydd.]
|