Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lolfa Phil Bennet, Parc y Scarlets, Llanelli. SA14 9UZ

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.L. Davies, J.A. Davies, L.D Evans a R. James.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 12FED O ORFFENNAF 2019 pdf eicon PDF 209 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2019 yn gofnod cywir.

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.

 

5.

DERBYN NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD O’R PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR Y 11EG O RAGFYR 2019

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi ei gynnal ar 11 Rhagfyr 2019.

 

6.

DERBYN CYFLWYNIADAU A CHYFWELD YR YMGEISWYR RHESTR FER AR GYFER SWYDD PENNAETH Y GWASANAETHAU INTEGREDIG, AC YSTYRIED GWNEUD PENODIAD.

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

Amlinellodd y Cadeirydd y broses ddethol hyd yn hyn a'r drefn a awgrymwyd ar gyfer y cyfarfod. Nododd y Pwyllgor y byddai tri ymgeisydd ar y rhestr fer yn cael cyfweliad.

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y tri ymgeisydd a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau i'r ymgeiswyr.

Hyd y Cyfarfod

Ar ôl cwblhau'r cyflwyniadau a'r cyfweliadau, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol "Hyd y Cyfarfod" - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr.

PENDERFYNWYD atal Rheolau'r Weithdrefn Gorfforaethol er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried y materion a oedd yn weddill.

Derbyniodd y Pwyllgor adborth gan swyddogion mewn perthynas â'r broses recriwtio ac asesu a chasgliadau'r broses honno. Yn dilyn trafodaeth -

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi Ms. A. Williams yn Bennaeth y Gwasanaethau Integredig.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau