Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Jenkins
Nodyn: Head of Education & Inclusion Services
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Evans, T. Evans a S Davies.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror, 2019 yn gofnod cywir.
|
|
NID YW’R ADRODDIADAU AR YR EITEMAU CANLYNOL I GAEL EU CYHOEDDI GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DDIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATOLDEN 12(A) I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 (FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH)(AMRYWIO)(CYMRU) 2007). OS BYDD Y PWYLLGOR YN PERDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF I YSTYRIED YR EITEMAU HYN YN BREIFAT, AR ÔL CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD, BYDD Y CYHOEDD YN CAEL EU HEITHRIO O’R CYFARFOD YN YSTOD Y TRAFODAETHAU HYNNY. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.
|
|
DERBYN NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD O’R PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR Y 26 MEHEFIN 2019 Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019.
|
|
DERBYN CYFLWYNIADAU A CHYFWELD YR YMGEISWYR RHESTR FER AR GYFER SWYDD PENNAETH GWASANAETHAU ADDYSG A CHYNHWYSIANT, AC YSTYRIED GWNEUD PENODIAD. Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Amlinellodd y Cadeirydd y broses ddethol hyd yn hyn a'r drefn a awgrymwyd ar gyfer y cyfarfod. Nododd y Pwyllgor y byddai pob un o'r tri ymgeisydd ar y rhestr fer yn cael cyfweliad. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y tri ymgeisydd a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau i'r ymgeiswyr. HYD Y CYFARFOD
Am 5:00pm wrth ystyried yr eitem hon, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol - 'Hyd y Cyfarfod' - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL atal Rheolau'r Weithdrefn Gorfforaethol er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried yr eitemau a oedd ar ôl ar yr agenda. Ar ôl i'r cyflwyniadau a'r cyfweliadau gael eu cwblhau, cafodd y Pwyllgor adborth mewn perthynas â'r broses recriwtio gan y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad). Yn dilyn trafodaeth - PENDERFYNWYD penodi Mr A Thomas yn Bennaeth Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant. [Galwyd Mr A Thomas yn ôl i'r cyfarfod, a mynegodd ei fod yn derbyn y swydd.]
|
|
YMGEISYDD 1 |
|
YMGEISYDD 2 |
|
YMGEISYDD 3 |