Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Penodi B - Dydd Gwener, 1af Chwefror, 2019 2.00 yp

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Nodyn: Head of Homes and Safer Communities 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Campbell, J. Davies, E. Dole, D.C. Evans a D.M. Jenkins.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION - 12 GORFFENNAF 2018 pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2018 yn gofnod cywir.

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.

 

5.

NODIADAU GWEITHREDU'R PANEL RHESTR FER - 11 TACHWEDD 2019

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi ei gynnal ar 11 Ionawr 2019.

 

6.

DERBYN CYFLWYNIADAU A CHYFWELD YR YMGEISWYR AR YRHESTR FER AR GYFER SWYDD PENNAETH CARTREFI A CHYMUNEDAU MWY DIOGELAC YSTYRIED GWNEUD PENODIAD

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

Amlinellodd y Cadeirydd y broses ddethol hyd yn hyn a'r drefn a awgrymwyd ar gyfer y cyfarfod. Nododd y Pwyllgor fod nifer yr ymgeiswyr a gyflwynwyd am gyfweliad y diwrnod hwnnw wedi gostwng i ddau yn dilyn canlyniadau proses y Ganolfan Asesu.

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y ddau ymgeisydd oedd yn weddill ar y rhestr fer, a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.

Ar ôl i'r cyflwyniadau a'r cyfweliadau orffen cafodd y Pwyllgor adborth gan y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad), a oedd yn cynnwys manylion y broses asesu a chasgliadau'r broses honno.

 

PENDERFYNWYD penodi Mr J. Morgan yn Bennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel.

[Galwyd Mr. J. Morgan yn ôl i'r cyfarfod, a dywedodd ei fod yn derbyn y swydd.]