Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L.D. Evans a H.B. Shepardson.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd dim buddiannau gan yr aelodau.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.
|
|
NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD Y PANEL RHESTR FER OEDD WEDI EI GYNNAL AR 9FED TACHWEDD 2015. Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi ei gynnal ar 9fed Tachwedd 2015.
|
|
PENODI PENNAETH Y GWASANAETHAU INTEGREDIG Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Rhoddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl a Pherfformiad] wybodaeth i'r Pwyllgor am y broses ddethol hyd yn hyn a'r drefn a awgrymwyd ar gyfer y cyfarfod. Cafodd y Pwyllgor sylwadau ymgynghorydd allanol oedd wedi bod yn gysylltiedig â'r broses asesu. Yr oedd aelodau'r Pwyllgor wedi cael cyfle eisoes i gyfarfod â'r ymgeiswyr. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y ddau ymgeisydd oedd ar y rhestr fer, a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau. Ar ôl i'r cyflwyniadau a'r cyfweliadau orffen cafodd y Pwyllgor ragor o adborth gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad), a oedd yn cynnwys manylion y broses asesu a chasgliadau'r broses honno.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi Ms. R. Dawson yn Bennaeth y Gwasanaethau Integredig. [Galwyd Ms. Dawson yn ôl i'r cyfarfod, a dywedodd hi ei bod yn derbyn y swydd.]
|