Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Campbell a K. Madge.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

E. Dole

3 – Pennaeth TGCh a Phennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol – Ystyried cyflogaeth arall addas

Yn mynychu'r un capel ag un o'r swyddogion

 

3.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.

 

4.

PENNAETH I.C.T. & PHENNAETH REFENIW A CHYDYMFFURFIAETH ARIANNOL - SWYDD ARALL ADDAS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 3 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.

Gwahoddwyd y Pwyllgor, ar ôl ystyried adroddiad oedd yn manylu ar ailstrwythuro a newidiadau o ran staff, i asesu addasrwydd Pennaeth Dros Dro TGCh a Phennaeth Dros Dro Archwilio, Risg a Chaffael i ymgymryd â dyletswyddau'r swyddi Pennaeth Gwasanaethau TGCh a Phennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol, yn y drefn honno.

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniadau gan y ddau aelod o staff a nodwyd uchod a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

4.1 penodi Mr. N. Daniel yn Bennaeth TGCh;

4.2 penodi Ms. H. Pugh yn Bennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol.

[Galwyd y ddau aelod o staff a nodwyd uchod yn ôl i'r cyfarfod, a dywedasant eu bod yn derbyn y swyddi priodol.] 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau