Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Nodyn: Ni fydd y cyfarfod yma yn cael ei we-ddarlledu.
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Cundy, S. Curry, A. Davies, G. Davies a H. Shepardson.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION A GYFARFOD A GYNHALIWYD AR 1 MAI 2019 Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a oedd wedi'i gynnal ar 1 Mai, 2019, gan eu bod yn gywir.
|
|
NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddfsef gwybodaeth ynghylch ymgeiswyr oedd yn cynnig am swydd gan yr Awdurdod.
|
|
DERBYN NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD O’R PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR 26 MEDI 2022 Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi ei gynnal ar 26 Medi 2022.
|
|
GWYBODAETH CAIS Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, derbyn y wybodaeth ymgeisio a ddosbarthwyd gyda'r agenda ar gyfer y cyfarfod.
|
|
DERBYN CYFLWYNIADAU A CHYFWELD YR YMGEISWYR AR Y RHESTR FER AR GYFER SWYDD CYFARWYDDWR LLE A SEILWAITH AC YSTYRIED GWNEUD PENODIAD. Cofnodion: Yn sgil gweithredu prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Amlinellwyd i’r Pwyllgor y broses ddethol hyd yn hyn a'r drefn a awgrymwyd ar gyfer y cyfarfod. Nododd y Pwyllgor y byddai tri o'r pump ymgeisydd ar y rhestr fer yn cael cyfweliad. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y tri ymgeisydd a chafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau i'r ymgeiswyr. Cafodd y Pwyllgor adborth gan swyddogion mewn perthynas â'r broses recriwtio ac asesu a'i gasgliadau. Yn dilyn trafodaeth - PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi A. Williams yn Gyfarwyddwr Lle a Seilwaith [Galwyd A. Williams yn ôl i'r cyfarfod, a dywedodd ei fod yn derbyn y swydd.]
|