Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Penodi "A" a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2017, gan eu bod yn gywir.
|
|
NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
DERBYN NODIADAU GWEITHREDU CYFARFOD O’R PANEL RHESTR FER A GYNHALIWYD AR Y 3YDD EBRILL 2019 Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, oherwydd y byddai'r ymgeiswyr yn disgwyl yn rhesymol na fyddai eu gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i'r cyhoedd ac felly bod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD bod Nodiadau Gweithredu'r Panel Rhestr Fer a gynhaliwyd ar 3 Ebrill, 2019 yn cael eu derbyn.
|
|
DERBYN ADBORTH Y CANOLFAN ASESU A CHYFWELD YR YMGEISWYR AR Y RHESTR FER AR GYFER SWYDD Y PRIF WEITHREDWR A GWNEUD ARGYMHELLIAD I'R CYNGOR A FYDD YN CYFARFOD YN DDIWEDDARACH Y DIWRNOD HWNNW (2.00 P.M.) MEWN PERTHYNAS AG APWYNTIAD Y PRIF WEITHREDWR/PENNAETH Y GWASANAETH CYFLOGEDIG. Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 4 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, oherwydd y byddai'r ymgeiswyr yn disgwyl yn rhesymol na fyddai eu gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i'r cyhoedd ac felly bod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â'r ymgeiswyr ar y rhestr fer ar gyfer swydd y Prif Weithredwr a chafodd adborth ar ganlyniad proses y Ganolfan Asesu.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR fod ymgeiswyr 1 a 3 yn mynd ymlaen i gael cyfweliad gan y Cyngor Llawn ar gyfer swydd y Prif Weithredwr/Pennaeth y Gwasanaeth Taledig.
|
|
YMGEISYDD 1 |
|
YMGEISYDD 2 |
|
YMGEISYDD 3 |
|
YMGEISYDD 4 |