Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Penodi A - Dydd Gwener, 4ydd Medi, 2015 1.30 yp

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr W.J.W. Evans, C.P. Higgins, H.B. Shepardson, W.G Thomas a J.S. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafodd buddiannau personol eu datgan gan yr Aelodau.

 

3.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol ag Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fod y cyhoedd yn cael gorchymyn i adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf, sef gwybodaeth am ymgeiswyr am swydd gan yr Awdurdod.

 

4.

PANEL Y RHESTR FER - NODIADAU GWEITHREDU

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Panel Rhestr Fer oedd wedi ei gynnal ar 31ain Gorffennaf 2015.

 

5.

PENODI CYFARWYDDWR YR AMGYLCHEDD

(Amgaeir er sylw’r aelodau gopïar Pecyn Ymgeirio a Ffurflenni cais yr ymgeiswyr)

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr adroddiad i'r Pwyllgor ynghylch y broses o benodi Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a rhoddwyd gwybod, yn dilyn llunio rhestr fer gychwynnol ar 31ain Gorffennaf, 2015, y cafwyd gostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr a gyflwynwyd am gyfweliad y diwrnod hwnnw i ddau ymgeisydd.

 

Roedd aelodau'r Pwyllgor eisoes wedi cael cyfle i gwrdd â'r ymgeiswyr yn ystod diwrnod cyntaf y broses gyfweld.

 

Gyda hynny, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan bob un o'r ddau ymgeisydd oedd ar y rhestr fer a chafodd y Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.

 

Yn dilyn cwblhau'r cyflwyniadau a'r cyfweliadau

 

PENDERFYNWYD penodi Ms R. Mullen i swydd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd yn amodol ar y telerau a'r amodau i'w cytuno â'r Prif Weithredwr.

[SYLWER:  Galwyd Ms Mullen yn ôl i'r cyfarfod er mwyn rhoi gwybod iddi am y penderfyniad, a chadarnhaodd ei bod yn derbyn y swydd].