Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Apelau - Dydd Gwener, 15fed Tachwedd, 2024 9.30 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau.

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 11EG HYDREF 2024 pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2024 yn gywir.

4.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim.

5.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR  AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Pharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig a chanlyniad y prawf budd y cyhoedd o ran y materion hyn oedd:

“bod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth bersonol ynghylch yr ymgeiswyr. Er y byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o gadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth, am fod angen sicrhau nad oedd neb yn gwybod pwy oedd yr ymgeiswyr na'u teuluoedd”.

6.

YSTYRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN CYMUNEDAU

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998.  Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus.  Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd.  Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd a'r cynrychiolydd undeb llafur, ynghyd â'r Swyddog Comisiynu a'r Swyddog Ymchwilio penodedig, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (dosbarthwyd copïau o'r protocol ym mhecyn yr agenda.)

 

Gan hynny, gwrandawodd y Pwyllgor ar dystiolaeth gan y Swyddog Comisiynu a'r Swyddog Ymchwilio ynghyd â'r apelydd a'r cynrychiolydd undeb llafur. Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.

 

Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd/undeb llafur a'r Swyddog Comisiynu/Ymchwliio,

 

PENDERFYNWYD cadarnhau penderfyniad y Gwrandawiad Disgyblu a gynhaliwyd ar 6 Medi, 2024 i ddiswyddo'r apelydd a gwrthod yr apêl, a rhoddir gwybod i'r apelydd yn ysgrifenedig am y dyfarniad llawn.