Lleoliad: Neuadd y Gwendrath - Drefach. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr E. Morgan a D. Williams. |
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 12 TACHWEDD 2019 PDF 157 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2019 gan eu bod yn gofnod cywir. |
|
DDIM I’W GYHOEDDI NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R FATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 13 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y FATER YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Pharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig a chanlyniad y prawf budd y cyhoedd o ran y materion hyn oedd: “Roedd yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth bersonol ynghylch yr ymgeiswyr. Er y byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o gadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth, am fod angen sicrhau nad oedd neb yn gwybod pwy oedd yr ymgeiswyr na'u teuluoedd”. |
|
YSTYRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN YR AMGYLCHEDD Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw.
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998. Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus. Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd. Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur, ynghyd â'r Swyddog Ymchwilio penodedig a'r cynrychiolydd Adnoddau Dynol, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (dosbarthwyd copïau o'r protocol ym mhecyn yr agenda.)
Gan hynny, gwrandawodd y Pwyllgor ar dystiolaeth gan y Swyddogion Ymchwilio, a chan yr apelydd a'i gynrychiolydd undeb llafur. Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.
Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd a'r Swyddogion Ymchwilio,
PENDERFYNWYD gwrthod yr apêl a bod yr apelydd yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig o'r rhesymau llawn dros wrthod yr apêl |