Agenda a Chofnodion

HR, Pwyllgor Apelau - Dydd Gwener, 11eg Hydref, 2024 9.45 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 13 Gorfennaf, 2023 i nodi eu bod yn gywir.

4.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Cofnodion:

Nid oedd dim faterion brys.

 

5.

DDIM I’W GYHOEDDI

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R FATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y FATER YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Pharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig a chanlyniad y prawf budd y cyhoedd o ran y materion hyn oedd:

“Roedd yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth bersonol ynghylch yr ymgeiswyr. Er y byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o gadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth, am fod angen sicrhau nad oedd neb yn gwybod pwy oedd yr ymgeiswyr na'u teuluoedd”.

 

6.

YSTYRIED APEL YN ERBYN DISWYDDO - ADRAN LLE, SEILWAITH & DATBLYGIAD ECONOMAIDD

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw.

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998. Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus.  Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd.  Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd, ynghyd â'r Swyddog Comisiynu a'r Swyddog Ymchwilio Penodedig, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (dosbarthwyd copïau o'r protocol ym mhecyn yr agenda.)

 

Gan hynny, gwrandawodd y Pwyllgor ar dystiolaeth gan y Swyddog Comisiynu a'r apelydd. Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.

 

Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd a'r Swyddog Comisiynu,

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r apêl a rhoi gwybod i'r apelydd, yn ysgrifenedig, am y dyfarniad llawn.