Agenda a chofnodion drafft

(Rent Setting/HRA), Cyngor Sir - Dydd Mercher, 29ain Ionawr, 2025 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Nodyn: Replaces the meetings originally scheduled to be held on the 15/01/2025 and 05/02/2025 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Price, B.A.L. Roberts, J. Seward, H.B. Shepardson, J. Williams a S. Williams.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd / Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorwyr J.P. Hart

E. Rees

P.M. Hughes

H. Jones

A. Evans

J.D. James

S.L. Rees

 

6.4 – Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2025/26 a

6.5 Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2025-28 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin

 

Aelod agos o'r teulu / cymdeithion personol agos yn rhentu eiddo yn y sir.

Y Cynghorydd H.A.L. Evans

6.4 – Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2025/26 a

6.5 Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2025-28 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin

 

Aelod agos o'r teulu yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai.

Cynghorwyr

J. Lewis

P. Cooper

D. Nicholas

 

6.4 – Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2025/26 a

6.5 Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2025-28 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin

 

Ganddynt fuddiant rhagfarnol a phersonol

Y Cynghorydd E. Skinner

6.4 – Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2025/26 a

6.5 Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2025-28 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin

 

Ganddo brydles gyda'r Awdurdod.

Y Cynghorydd G.B. Thomas

6.4 – Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2025/26 a

6.5 Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2025-28 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin

Yn berchen eiddo mae'n ei rentu drwy'r Awdurdod.

Y Cynghorydd S.Allen

6.4 – Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai 2025/26 a

6.5 Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2025-28 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin

 

Aelod Gwirfoddol ar Fwrdd Cymdeithas Tai.

Y Cynghorydd A.C. Jones*

7.1 Adroddiad y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd 02.12.24 (cofnod 8)

Yn byw yn yr ardal yr effeithiwyd arni gan y llifogydd.

 

Y Cynghorwyr A.Lenny *

E. Skinner*

7.1 Adroddiad y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd 02.12.24 (cofnod 8)

Aelodau agos o'r teulu'n byw yn yr ardal yr effeithiwyd arni gan y llifogydd.

 

 

 

*datganwyd buddiant ar ddechrau eitem 7 ar yr agenda.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

  • Bu'r Cadeirydd yn bwrw golwg yn ôl ar gyfnod prysur iawn a chyfeiriodd at ei bresenoldeb mewn nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys gwasanaeth Carolau'r Nadolig ym Mhentre Awel, gwasanaeth y Plygain yn Nantgaredig a Chystadleuaeth Siaradwyr Rotari Llanelli yn Ysgol Sant Ioan Llwyd.

 

  • Dymunodd y Cadeirydd ben-blwydd hapus i Olive Tarr o Rydaman yr oedd ef wedi ymweld â hi'n ddiweddar ar achlysur ei phen-blwydd yn 100 oed.

 

  • Soniodd y Cadeirydd ei fod wedi bod yn Nhrochfa'r Tymor ym Mhen-bre; digwyddiad llwyddiannus iawn lle codwyd £1,495 at achos da.  Diolchodd y Cadeirydd i'r rhai oedd wedi bod yn codi arian.

 

  • Pleser mawr i'r Cadeirydd oedd cael y fraint o gyflwyno gwobrau yng Ngwobrau Chwaraeon Tref Caerfyrddin ynghyd â'i wraig a'i gydymaith a gafodd y pleser o dderbyn gwobr ar ran eu merch, Angharad, sy'n byw yn Sbaen.

 

  • Gyda thristwch, cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth Mary Leticia Keir yn ddiweddar yn 112 oed, sef person hynaf Cymru. Ymunodd yr Aelodau â'r Cadeirydd wrth dalu teyrnged i Mrs Keir ac estyn cydymdeimlad y Cyngor i'w theulu.

 

  • Cydymdeimlwyd â theuluoedd dau o gyn-gynghorwyr Sir Gaerfyrddin, sef Hugh Evans, a gynrychiolodd Ward Pantyffynnon yn Rhydaman, ac Eryl Morgan, a gynrychiolodd Ward Bigyn ac a fu'n Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2016/2017.

 

  • Cafwyd munud o dawelwch gan y Cyngor i gydnabod Diwrnod Cofio'r Holocost ar 27 Ionawr 2025, a ddynodai 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau, a 30 mlynedd ers yr hil-laddiad ym Mosnia.  Siaradodd y Cadeirydd am erchyllterau'r Holocost a'r hil-laddiadau dilynol yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur gan gofio'r dioddefwyr a'r goroeswyr.   

4.

CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Estynnodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi ei diolch i bawb oedd wedi cynorthwyo a chyfrannu at Apêl Teganau Nadolig 2024. Dywedwyd bod cyfanswm o 9,600 o anrhegion Nadolig wedi'u rhoi i 1,607 o blant yn y sir fel rhan o'r apêl, na fyddai wedi bod yn bosibl heb roddion a chefnogaeth hael unigolion, sefydliadau, eglwysi a chapeli.

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 11 RHAGFYR 2024 pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2024 yn gofnod cywir.

6.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL

Dogfennau ychwanegol:

6.1

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2023/24 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN (2006 - 2021) pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor fod yr adroddiad wedi cael ei dynnu'n ôl a byddai'n cael ei aildrefnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

6.2

ADRODDIAD CYFUN AR GYFER STRATEGAETHAU DRAFFT AR SEILWAITH GWYRDD A GLAS A RHANDIROEDD A THYFU CYMUNEDOL pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr 2024 [gweler cofnod 7], wedi ystyried y strategaethau drafft ar Seilwaith Gwyrdd a Glas a Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol.

 

Mae'r Strategaethau Drafft yn nodi'n unigol weledigaethau strategol sy'n cydnabod gwerth atebion seiliedig ar le ac ar natur ar gyfer mynd i'r afael â materion llesiant cyfredol, ac atal materion llesiant y dyfodol, mewn cymunedau, ochr yn ochr â mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a gyhoeddwyd yn flaenorol gan y Cyngor.

 

Roedd y strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas yn darparu gweledigaeth drawsnewidiol ar gyfer sicrhau darpariaeth asedau naturiol a lled-naturiol y sir yn y dyfodol, ac roedd yn canolbwyntio ar 9 amcan o dan themâu pobl, lle a natur i greu amgylchedd a oedd yn adlewyrchu dyheadau a gwerthoedd cymunedau i sicrhau dyfodol cynaliadwy, cynhwysol a llewyrchus.

 

Roedd y Strategaeth Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol Ddrafft wedi'i pharatoi yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac yn nodi 4 amcan i sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl i drigolion gymryd rhan mewn tyfu, gan gynnwys dull partneriaeth drwy'r Bartneriaeth Tir Cyhoeddus ar gyfer Tyfu Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

6.2.1

cymeradwyo'r Strategaethau Drafft, a nodir yn yr adroddiad, at ddibenion ymgynghori'n ffurfiol â'r cyhoedd;

 

6.2.2

awdurdodi swyddogion i ddiweddaru neu i ddiwygio unrhyw fân newidiadau ffeithiol, argraffyddol neu ramadegol sy'n angenrheidiol i wella eglurder a chywirdeb y Strategaethau Drafft.

 

6.3

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL (CCA) DRAFFT AR SEILWAITH GWYRDD A GLAS, CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2025 [gweler cofnod 13], wedi ystyried cynigion i ymgynghori ynghylch dogfennau drafft Canllawiau Cynllunio Atodol Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 o ran Seilwaith Gwyrdd a Glas.

 

Roedd y Canllawiau Cynllunio Atodol wedi'u paratoi i gefnogi gweithrediad y CDLl Diwygiedig ac yn adlewyrchu gwelliannau diweddar a wnaed i Bennod 6 o Argraffiad 12 Polisi Cynllunio Cymru.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

6.3.1

cymeradwyo'r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft, a nodir yn yr adroddiad, at ddibenion ymgynghori'n ffurfiol â'r cyhoedd;

 

6.3.2

darparu'r awdurdod dirprwyedig i swyddogion ddiweddaru neu  newid unrhyw fân newidiadau ffeithiol, teipograffig neu ramadegol.

 

6.4

CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI 2025/26 pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Gan eu bod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr J.P. Hart, E. Rees, P.M. Hughes, H. Jones, A. Evans, J.D. James, S.L. Rees, H.A.L. Evans, J. Lewis, P. Cooper, D. Nicholas, E. Skinner, G.B. Thomas a S.A. Allen y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried a chyn penderfynu arni.]

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2025 [gweler cofnod 8], wedi adolygu cynigion y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2025/26 cyn i'r Cyngor eu hystyried. Roedd yr adroddiad, a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau, yn dod â'r cynigion diweddaraf ynghyd ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2025/26 i 2027/28, ac yn nodi'r cynnydd arfaethedig i renti tai ar gyfer 2025/26.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, mynegodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yr heriau wynebai'r Awdurdod o ran sicrhau cydbwysedd rhwng pennu'r rhent o fewn polisi presennol y Llywodraeth ar lefel fforddiadwy i denantiaid, ac, ar yr un pryd, cyflawni ei ddyheadau tai hefyd.  At hynny pwysleisiwyd, petai'r Cyngor yn mabwysiadu argymhellion y Cabinet, byddai hynny'n gynnydd cyfartalog o 2.7% i'r rhent tai, a oedd yn unol â chap Llywodraeth Cymru.  Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai'r cynnydd yn cyfateb i rent tai cyfartalog o £108.59 yr wythnos i'w denantiaid, a oedd yn un o'r lefelau rhent isaf o blith yr 11 Awdurdod yng Nghymru oedd â stoc dai, ac yn sylweddol is na rhenti tai'r sector preifat.

 

Cyfeiriwyd at y polisi 'dim troi allan' y gallai'r Awdurdod ei roi ar waith mewn amgylchiadau perthnasol. Wrth gloi, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y cynigion yn ceisio cydbwyso'r pwysau ar aelwydydd yn ystod argyfwng costau byw â'r angen i barhau â Rhaglen Datblygu Tai yr Awdurdod, tra'n sicrhau bod eiddo'n parhau i gael ei gynnal i Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+).  

 

PENDERFYNWYD fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:

 

6.4.1

cynyddu'r rhent tai cyfartalog gan 2.7% (£2.85) fesul preswylfa yr wythnos oddi mewn i derfynau Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (gan gynnwys y camau cynnydd ar gyfer tenantiaid sy'n is na'r rhenti targed). Mae hyn yn creu Cynllun Busnes cynaliadwy, yn cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ac yn cyflawni ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai;

 

6.4.2

parhau â'r camau cynnydd mwyaf posibl o £1 a ganiateir ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti arfaethedig ar gyfer pob math o stoc;

 

6.4.3

cynyddu rhenti garejis 2.7% o £9.60 i £9.86 a sylfeini garejis o £2.22 i £2.28;

 

6.4.4

rhoi'r Polisi Taliadau am Wasanaethau diwygiedig ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael budd o wasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

 

6.4.5

cynyddu'r taliadau am ddefnyddio ein gwaith trin carthffosiaeth yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

 

6.4.6

cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai am 2025/28 (cyllidebau dangosol oedd rhai 2026/27 a 2027/28), fel y nodwyd yn Atodiad A;

 

6.4.7  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.4

6.5

CYNLLUN BUSNES 2025-28 Y CYFRIF REFENIW TAI - RHAGLEN BUDDSODDIADAU TAI SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Gan eu bod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr J.P. Hart, E. Rees, P.M. Hughes, H. Jones, A. Evans, J.D. James, S.L. Rees, H.A.L. Evans, J. Lewis, P. Cooper, D. Nicholas, E. Skinner, G.B. Thomas a S.A. Allen y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried a chyn penderfynu arni.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2025 [gweler cofnod 9 o'r cofnodion], wedi ystyried Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2025-28 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin, sy'n nodi gweledigaeth a manylion Rhaglen Buddsoddiadau Tai'r Cyngor dros y tair blynedd nesaf, er mwyn cynnal ei gynlluniau gwella stoc tai a'r rhaglen adeiladu newydd, a darparu mwy o dai fforddiadwy i helpu i ddiwallu'r galw digynsail am dai cymdeithasol yn y Sir.

 

Bu i'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi grynhoi pum thema allweddol y cynllun busnes a rhoi trosolwg i ni ar y blaenoriaethau a fyddai'n diffinio i ba gyfeiriad oedd yr Awdurdod yn mynd dros y tair blynedd nesaf, fel a ganlyn:

 

·       Gwella ansawdd a chynaliadwyedd stoc dai'r Cyngor drwy raglenni buddsoddi, datblygu a chynnal a chadw wedi'u targedu;

 

·       Gwella boddhad cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau ymatebol ac effeithlon;

 

·       Cefnogi llesiant ac annibyniaeth ein preswylwyr drwy wasanaethau cymorth wedi'u teilwra;

 

·       Hyrwyddo ymgysylltiad a chyfranogiad cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu llunio gan anghenion a dyheadau preswylwyr;

 

·       Sicrhau bod buddsoddiadau a datblygiadau'r Cyngor yn gwneud y mwyaf o flaenoriaethau ac amcanion strategol ehangach y Cyngor.

 

Roedd y Pwyllgor Craffu - Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio hefyd wedi ystyried a chymeradwyo'r cynigion yn ei gyfarfod ar 7 Ionawr 2025, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Nodai'r adroddiad fyddai'r incwm oedd yn cael ei dderbyn drwy renti tenantiaid a ffynonellau cyllid eraill yn galluogi'r awdurdod i lunio rhaglen buddsoddiadau gwerth mwy na £282m (Cyfalaf - £114m a Refeniw - £168m) i gyflawni gwasanaethau oedd yn gynhwysol a chynaliadwy dros y tair blynedd nesaf.

 

Roedd y cynllun yn seiliedig ar gynnydd rhent rhagamcanol i 2.7% ar gyfer 2025/26, yn unol â Pholisi Rhent presennol Llywodraeth Cymru a osodwyd gan gyfradd chwyddiant Medi o 1.7%.  Byddai'r rhan fwyaf o denantiaid yn derbyn cynnydd cyfartalog mewn rhent o 2.62%, a bernid bod hyn o fewn terfynau fforddiadwyedd tenantiaid.

Yn ogystal, byddai'r cynllun yn galluogi'r Cyngor i wneud cais am grant Lwfans Atgyweirio Mawr Llywodraeth Cymru, sy'n cyfateb i £6.2m am 2025/26. 

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gosod paneli solar, cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi fod yr Awdurdod yn defnyddio dull ffabrig yn gyntaf o wella effeithlonrwydd ynni ei stoc dai yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Eglurwyd, er bod y dull hwn yn cynyddu effeithlonrwydd thermol cartrefi cyn cyflwyno technoleg a systemau gwresogi gwell, gallai defnyddio dull nad oedd yn un ffabrig yn gyntaf arbed costau i'r Awdurdod. Felly, roedd asesiad effaith ar waith i werthuso'r ddau ddull.

 

Mewn ymateb i sylwadau ar argaeledd byngalos ar gyfer yr henoed, pwysleisiodd y Dirprwy  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.5

6.6

CYNLLUN GOSTYNGIADAU'R DRETH GYNGOR 2025/26 pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2025 [gweler cofnod 10], wedi ystyried adroddiad a amlinellai wybodaeth ynghylch Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2013/14. Er ei fod yn gynllun ar gyfer Cymru gyfan, roedd yn ofynnol yn ôl y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig i bob Cyngor unigol fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn ffurfiol erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn. Nodwyd yn yr adroddiad fanylion ar yr ardaloedd cyfyngedig lle rhoddir disgresiwn lleol a'r polisi a fabwysiadwyd gan y Cyngor mewn perthynas â'r disgresiwn hynny.

 

Roedd yr adroddiad yn ceisio mabwysiadu'n ffurfiol gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2025/26. Yn dilyn cyfarfod y Cabinet, nodwyd bod rheoliadau'r cynllun wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac wedi dod i rym ar 24 Ionawr 2025.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

6.6.1

mabwysiadu'n ffurfiol Gynllun safonol Cymru Gyfan ar gyfer Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a ddarperir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013;

6.6.2

gweithredu'r ffigurau uwchraddio blynyddol (a ddefnyddir wrth gyfrif hawliadau) a diwygiadau technegol eraill, a gynhwysir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Diwygio Amrywiol) (Cymru) 2025 sydd i ddod i rym ar 24 Ionawr 2025 ac mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a wnaed ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2025;

  

6.6.3

parhau i arfer ei ddisgresiwn o ran elfennau disgresiynol cyfyngedig y cynllun rhagnodedig, fel y'u hamlinellir yng Nghrynodeb Gweithredol yr adroddiad”.

 

7.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y CABINET A GYNHALIWYD AR:

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Datganwyd buddiant yn yr eitem hon gan y Cynghorwyr A.C. Jones, A. Lenny ac E. Skinner, a gadawodd y tri y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei chylch.]

7.1

2 RHAGFYR 2024 pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2024.

7.2

16 RHAGFYR 2024 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn ymateb i ymholiadau mewn perthynas â'r Strategaeth Coed a Choetir yng nghofnod 11, pwysleisiwyd i'r aelodau bwysigrwydd ffermydd y sir o ran cefnogi cynnyrch lleol, yr economi wledig, a rheoli tir mewn ffordd gynaliadwy. Nodwyd mai nod y strategaeth oedd cefnogi cymunedau i liniaru'r argyfwng hinsawdd gan feithrin defnydd tir cynaliadwy ar yr un pryd. Felly rhoddwyd sicrwydd y byddid yn gweithio gyda thenantiaid er mwyn sicrhau aml-fanteision a chanfod atebion a anelai at gydbwyso ffermio cynhyrchiol ag adfer natur a gweithredu ar newid hinsawdd.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2024.

7.3

13 IONAWR 2025 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2025.

8.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD:

Dogfennau ychwanegol:

8.1

CWESTIWN GAN MS HSIU-MIEN WU I'R CYNGHORYDD ALED VAUGHAN-OWEN - YR AELOD CABINET DROS NEWID HINSAWDD, DATGARBONEIDDIO A CHYNALIADWYEDD

"Dangosodd astudiaeth ddiweddar a gyhoeddwyd yn Nature Food fod deietau sy'n seiliedig ar blanhigion yn arwain at 75% yn llai o allyriadau nwyon t? gayer, llygredd d?r a defnydd tir na deietau sy'n cynnwys mwy na 100g o gig y dydd. Dangoswyd hefyd bod deietau sy'n seiliedig ar blanhigion yn lleihau dinistr i fywyd gwyllt 66% a'r defnydd o dd?r 54%. A all Cyngor Sir Caerfyrddin estyn allan i Gyngor Caeredin i ddysgu am eu profiadau o gefnogi'r Cytuniad Deiet Planhigion a gwneud asesiad effaith fel y gwnaethant?"

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Dangosodd astudiaeth ddiweddar a gyhoeddwyd yn Nature Food fod deietau sy'n seiliedig ar blanhigion yn arwain at 75% yn llai o allyriadau nwyon t? gwydr, llygredd d?r a defnydd tir na deietau sy'n cynnwys mwy na 100g o gig y dydd. Dangoswyd hefyd bod deietau sy'n seiliedig ar blanhigion yn lleihau dinistr i fywyd gwyllt 66% a'r defnydd o dd?r 54%. A all Cyngor Sir Caerfyrddin estyn allan i Gyngor Caeredin i ddysgu am eu profiadau o gefnogi'r Cytuniad Deiet Planhigion a gwneud asesiad effaith fel y gwnaethant?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen – Yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

 

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod canfyddiadau'r astudiaeth a gyhoeddwyd yn Nature Food a'r modd maent yn cydweddu â'r angen am systemau bwyd cynaliadwy. Fel rhan o'n Strategaeth Bwyd Cynaliadwy newydd, rydym yn dod â rhanddeiliaid o bob sector ynghyd i greu cynllun uchelgeisiol ac ysbrydoledig ar gyfer y sir hon.

 

Trwy ein Strategaeth Bwyd Lleol, rydym eisoes wedi dechrau dadansoddi effaith ein systemau bwyd lleol, o'r cynhyrchu i'r gweini. Mae ein hasesiadau cychwynnol wedi canolbwyntio ar gaffael cyhoeddus mewn ysgolion, cyfleusterau hamdden a chartrefi gofal. Nod y dadansoddiadau hyn yw nodi'r effaith amgylcheddol ac economaidd gyfredol a nodi cyfleoedd ar gyfer newid ystyrlon.

 

Yn sail i'n hymagwedd mae ein Datganiadau Argyfwng Natur a Hinsawdd, a chaiff ei dywys gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae hyn yn sicrhau bod unrhyw newidiadau o fudd i'n heconomi leol, i'r amgylchedd ac i lesiant y gymuned. Un cam pwysig yw ail-ddylunio bwydlen ein hysgolion cynradd, er mwyn blaenoriaethu cig a llysiau cynaliadwy o ffermydd Cymru a Phrydain, gan gynnwys o'n fferm sirol ni ein hunain yn Bremenda Isaf. Mae Bremenda Isaf yn arloesi trwy gynhyrchu bwyd adferol cynaliadwy "mewnol" sy'n dal carbon, yn gwella bioamrywiaeth, ac yn cefnogi adferiad natur.

 

Rydym wedi adolygu modelau arfer gorau, gan gynnwys y rheiny o'r Alban megis Caeredin yn cymeradwyo'r Cytuniad Planhigion. Er ein bod yn croesawu cydweithio ac asesiad effaith integredig fel un Caeredin, mae ein tirwedd wledig ac amaethyddol yn gofyn am ymagwedd fwy soffistigedig. Mae'n rhaid i siroedd gwledig fel Sir Gaerfyrddin gydbwyso cynaliadwyedd â'r heriau a'r cyfleoedd unigryw sy'n perthyn i gefnogi cymunedau ffermio lleol.

 

Mae tua 85% o'r allyriadau nwyon t? gwydr o gynhyrchion seiliedig ar anifeiliaid yn deillio o ddulliau cynhyrchu a mewnbynnau cysylltiedig, sy'n amrywio'n fawr. Mae Sir Gaerfyrddin mewn sefyllfa unigryw i gefnogi bwydydd cynaliadwy, lleol sy'n seiliedig ar anifeiliaid, gan leihau ar yr un pryd y ddibyniaeth ar fewnforion. Er bod y Cytuniad Planhigion yn egwyddorol, nid oes ganddo'r hyblygrwydd angenrheidiol i gefnogi economïau gwledig fel ein rhai ni. 

 

O ystyried y pethau hyn, rydym yn croesawu'r cyfle i gydweithio â'r holl Gynghorau i ddysgu o'u profiadau ac i rannu ein profiadau ni, wrth eiriol dros asesiad effaith integredig a lleol wedi'i deilwra i gyd-destun penodol Sir Gaerfyrddin.”

 

Cwestiwn atodol gan Ms Hsiu-Mien Wu:

 

“Rwy'n credu bod gan Gyngor Sir Caerfyrddin y gallu i wneud mwy i helpu leihau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.1

9.

CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

9.1

MAE'R AEOLDAU ANNIBYNNOL HEB GYSYLLTIAD PLEIDIOL WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD ROB JAMES I GYMRYD Y SEDD WAG AR Y PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd R. James yn cymryd y sedd wag ar y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol.

9.2

MAE'R GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD EDWARD SKINNER I GYMRYD Y SEDD WAG AR Y PWYLLGOR CYNLLUNIO

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd E. Skinner yn cymryd y sedd wag ar y Pwyllgor Cynllunio.

9.3

MAE'R GRWP ANNIBYNNOL WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD DAI NICHOLAS I GYMRYD UN O'U SEDDI WAG AR Y PWYLLGOR CYNLLUNIO

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd D. Nicholas yn cymryd y sedd wag ar y Pwyllgor Cynllunio.

10.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellwyd ar yr agenda o dan 10.1 – 10.10 ar gael er gwybodaeth ar wefan y Cyngor.