Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Allen a C.A. Davies. |
||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr amrywiaeth o ddigwyddiadau yr oedd ef a'i gydymaith wedi bod yn bresennol ynddynt ers cyfarfod diwethaf y Cyngor, gan gynnwys y Cinio Morwrol Brenhinol blynyddol yn Llanelli, lansiad Apêl y Pabi yng Nghaerfyrddin, cyngerdd blynyddol Opera Porth Tywyn, gwasanaeth Sant Luc gydag Esgob Tyddewi ym Myddfai, gwasanaeth Cofeb Ryfel i Gofio am Bwyliaid a dadorchuddio plac coffa yn Neuadd y Dref Llanelli a gwasanaeth Sul y Cofio a gosod torch yng Nghaerfyrddin.
· Bu'r Cadeirydd yn myfyrio ar ei bresenoldeb yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin i groesawu a dathlu Olympiaid Pencampwr y Byd, Emma Finucane a Jessica Roberts, lle bu cannoedd a channoedd o ddisgyblion ysgol yn trefnu i wylio'r orymdaith i Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth gerllaw.
· Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n cymryd rhan yn Nhrochfa'r Tymor ar Draeth Cefn Sidan ar ?yl San Steffan i godi arian i ddwy elusen, LATCH a Prostate Cymru.
· Amlinellodd y Cadeirydd gefnogaeth y Cyngor i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn a fyddai'n cael ei gynnal ar 25 Tachwedd 2024 i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a gwasanaethau lleol sydd ar gael i helpu dioddefwyr a goroeswyr.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at wahoddiad a estynnwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i aelodau etholedig i Felodrom Caerfyrddin am 9.45am ddydd Gwener 15 Tachwedd i gefnogi Diffoddwr Tân Georgina Gilbert wrth iddi geisio rhedeg marathon, mewn cit diffodd tân llawn ac offer anadlu. Bydd ei chydweithwraig, y diffoddwr tân Rebecca Openshaw-Rowe o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, hefyd yn dechrau rhedeg ei marathon yn Antarctica. Cyfeiriodd y Cadeirydd yr aelodau at lythyr newyddion y Cynghorwyr i gael rhagor o wybodaeth. |
||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wybodaeth i'r Cyngor am y sefyllfa ariannol ddifrifol yn genedlaethol ac o fewn y cyngor lle amcangyfrifodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru trawsbleidiol fod cynghorau yng Nghymru yn wynebu bwlch cyllidebol o dros hanner biliwn o bunnoedd y flwyddyn nesaf, ynghyd â gorwariant o bron chwarter biliwn yn ystod y flwyddyn. Gellid priodoli'r gorwariannau hyn, yn bennaf, i'r gost gynyddol a'r galw am Ofal Cymdeithasol i blant ac oedolion h?n, a hefyd o fewn y sector addysg lle'r oedd y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn prysur leihau'r arian wrth gefn sydd gan ysgolion. Y rhagolwg ar gyfer eleni yw gorwariant o bron £9m yn adrannau'r cyngor a thros £10m mewn ysgolion, gan wneud cyfanswm o dros £19m.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod diffyg cyllidebol posibl o oddeutu £20m wedi'i amcangyfrif ar gyfer 2025-26. Cyfeiriwyd at adroddiadau Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.7bn yn ychwanegol dros 2 flynedd, a byddai £500m ohono'n cael ei ddyrannu i'r setliadau cyflog y cytunwyd arnynt eisoes ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus. Mewn diweddariad i'r Cyngor, eglurodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru wedi adrodd y byddai £200m ar ôl ar gyfer refeniw eleni a £733m y flwyddyn nesaf. Byddai cyfanswm o £253m yn cael ei ddyrannu ar gyfer cyfalaf, nad oedd yn cael ei ystyried yn ddigonol yng ngoleuni'r cynnydd brawychus mewn chwyddiant adeiladu cyffredinol ers y pandemig, a oedd wedi cael effaith andwyol ar Raglen Moderneiddio Addysg yr Awdurdod ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y gallai'r gyfradd a'r trothwyon Yswiriant Gwladol gostio tua £10m i'r cyngor. Roedd cyfanswm o £5bn wedi'i neilltuo gan y Trysorlys i liniaru'r effaith ar y sector cyhoeddus, ond hyd yma, nid oedd unrhyw wybodaeth wedi'i rhyddhau ynghylch sut y byddai'r arian yn cael ei rannu, na pha mor bell y byddai unrhyw lwfans yn mynd tuag at bontio bwlch £10m y Cyngor.
Wrth grynhoi, atgoffwyd yr aelodau y byddai Llywodraeth Cymru yn pennu ei chyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr 2024, gyda'r setliad terfynol ar 25 Chwefror 25 - y diwrnod cyn i'r Cyngor bennu cyllideb. Yn unol â hynny, anogwyd aelodau i gymryd rhan ym mhroses pennu cyllideb y Cyngor, drwy seminarau, craffu ac ymgynghoriad y Cyngor.
|
||||||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 9FED HYDREF, 2024 PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2024 gan eu bod yn gywir. |
||||||||||||||||||||||||||||
DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Medi 2024. |
||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2024. |
||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR HEFIN JONES A CARYS JONES PDF 44 KB ‘Fel yn achos pob awdurdod lleol yng Nghymru, mae cymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin yn wynebu tlodi ac amddifadedd. Mae'r cyngor hwn yn gwneud ei orau glas o fewn ei bwerau a'i gymwyseddau i liniaru a mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd drwy nifer o strategaethau a mentrau.
Mae’r cyngor hwn yn nodi bod yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod tlodi gwledig a threfol yn amrywio o ran nodweddion, a bod y tlodi a’r amddifadedd sy’n bodoli mewn ardaloedd gwledig yn aml ynghudd. Nid yw hyn bob amser yn cael ei amlygu gan y dangosyddion arferol neu ffyrdd o fesur tlodi.
Mae'r cyngor hwn yn cydnabod bod trigolion sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn aml yn wynebu anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ac yn gorfod dygymod â 'phremiwm gwledig' - yn cynnwys costau uwch, cyflogau is a mynediad gwaeth at wasanaethau- sy'n cynyddu’r caledi y mae unigolion a theuluoedd yn ei brofi mewn ardaloedd gwledig.
Mae’r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Nodiadau:
· Gan fod y D. Jones, E.G. Thomas, T. Higgins, M. Thomas, J. Tremlett, D. Nicholas, E. Skinner, P. M. Hughes, H. B. Shepardson ac F. Walters wedi datgan buddiannau yn y mater hwn eisoes, nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor drafod y cais a phenderfynu arno.
· Roedd y Cynghorwyr H. Jones, M. James, J. M. Charles, R. Sparks, M.J.A. Lewis, A. Davies, B.D.J. Phillips, B. Davies, C.A. Jones, K. V. Broom, B. W. Jones, Ll. M. Davies, D. E. Williams, L.D. Evans, H.A.L Evans, K. Davies, J. K. Howell, A. Vaughan-Owen, T.A.J. Davies, N. Lewis, A. Evans, W. T. Evans, G. Thomas, D. Thomas, H.L. Davies, E.M.J.G. Schiavone ac L. Davies wedi datgan buddiant yn y cyfarfod hwn yn gynharach. Fodd bynnag, ar ôl derbyn gollyngiad i siarad, gwneud sylwadau ysgrifenedig a phleidleisio ar yr eitem hon, bu iddynt aros yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor drafod y cais a phenderfynu arno.
· Roedd y Cynghorwyr R. Evans ac S.L. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach. Bu iddynt aros yn y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth, ond gadael cyn y bleidlais. ]
Cadarnhaodd cynigydd ac eilydd y rhybudd o gynnig, fel y nodir yng Ngalwad y Cyngor, eu bod yn hapus i dderbyn y gwelliant fel y'i cyflwynwyd, a chytunwyd y dylid cyflwyno'r cynnig terfynol i'w ystyried.
Yn unol â hynny, bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol:-
‘Fel gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru, mae cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin yn profi tlodi ac amddifadedd. Mae'r cyngor hwn yn gwneud ei orau glas o fewn ei bwerau a'i gymwyseddau i leddfu a mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd drwy nifer o strategaethau a mentrau.
Mae'r cyngor hwn yn nodi bod yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod nodweddion tlodi gwledig a threfol yn wahanol, a bod y tlodi a'r amddifadedd sy'n bodoli mewn ardaloedd gwledig yn aml yn gallu bod yn guddiedig. Nid yw hyn bob amser yn cael ei ddatgelu gan ddangosyddion confensiynol neu ffyrdd o fesur tlodi.
Mae'r cyngor hwn yn cydnabod bod preswylwyr sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn aml yn wynebu anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ac yn wynebu 'premiwm gwledig' - gan gynnwys costau uwch, cyflogau is a mynediad gwaeth at wasanaethau - sy'n cael effaith pelen eira ar y caledi sy'n wynebu unigolion a theuluoedd mewn ardaloedd gwledig yr effeithir arnynt.
Mae'r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru
Eiliwyd y cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.1 |
||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR BETSAN JONES A MEINIR JAMES ‘Gofynnwn i Gyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi’r cynnig i asedau Ystad y Goron gael eu datganoli i bobol Cymru, fel bod yr elw yn gallu cael ei ddefnyddio i fuddsoddi yn Economi a Chymunedau Cymru.
Dangosodd arolwg barn yn 2023 bod 75% o boblogaeth Cymru o blaid cymryd rheolaeth dros asedau Ystad y Goron yn hytrach na bod yr elw yn mynd at y Trysorlys a’r Goron.
Mae awdurdodau Lleol o dan bwysau ariannol enfawr a byddai gosod ystad y Goron yn nwylo Cymru yn gam arwyddocaol i fynd i’r afael a’r blynyddoedd o ddiffyg buddsoddiad yn ein Llywodraeth Leol.
Yr ydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn i Lywodraeth San Steffan i ddatganoli asedau ac elw Ystad y Goron fel mater o frys, fel y gwnaed yn yr Alban yn 2017.
Mynnwn bod Cymru yn cael ei thrin yn deg ac yn derbyn rheolaeth tiroedd Ystad y Goron er budd pobol Cymru.’ Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Betsan Jones a Meinir James:-
'Gofynnwn i Gyngor Sir Caerfyrddin gefnogi'r cynnig i asedau Ystad y Goron gael eu datganoli i bobl Cymru, er mwyn i elw gael ei ddefnyddio i fuddsoddi yn yr economi a chymunedau yng Nghymru.
Dangosodd arolwg barn yn 2023 fod 75% o boblogaeth Cymru o blaid cymryd rheolaeth ar asedau ystad y Goron yn hytrach na'r elw yn mynd i'r Trysorlys a'r Goron.
Mae awdurdodau lleol dan bwysau ariannol enfawr a byddai gosod Ystad y Goron yn nwylo Cymru yn gam sylweddol i fynd i'r afael â blynyddoedd y diffyg buddsoddiad yn ein Llywodraeth Leol.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn i Lywodraeth San Steffan ddatganoli asedau a refeniw Ystadau'r Goron fel mater o , fel y gwnaed yn yr Alban yn 2017.
Rydym yn mynnu bod Cymru'n cael ei thrin yn deg ac yn derbyn rheolaeth ar diroedd Ystad y Goron er budd pobl Cymru.’
Eiliwyd y cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Gwnaed nifer o sylwadau i gefnogi'r Cynnig a rhoddodd y Swyddog Monitro eglurhad ar gywirdeb geiriad y cynnig.
Dywedwyd wrth y Cyngor, os byddai'r cynnig yn cael ei gefnogi, byddai'r mater yn cael ei gyfeirio i'r Cabinet.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol a'i gyfeirio i'r Cabinet. |
||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD MARTYN PALFREMAN I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS, YR AELOD CABINET DROS GWASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH ‘A all yr Aelod Cabinet nodi a yw'n teimlo bod y trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn darparu dyraniad teg ac amserol o'r 'seddi gwag' ar Gludiant Ysgol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer disgyblion hynny sydd eu hangen?’ Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Roedd y Cynghorydd S. L. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod ar yr adeg hon.]
Cwestiwn gan y Cynghorydd Palfreman:
‘A all yr Aelod Cabinet nodi a yw'n teimlo bod y trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn darparu dyraniad teg ac amserol o'r 'seddi gwag' ar Gludiant Ysgol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer disgyblion sydd eu hangen?’
Ymateb gan y Cynghorydd Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
'Mae Llywodraeth Cymru yn pennu'r ddeddfwriaeth ar ddarpariaeth cludiant ysgol drwy'r "Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)". Os nad yw dysgwr yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a amlinellir yn y Mesurau, nid yw'n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddarparu cludiant am ddim, ac ar y rhiant neu'r gwarcheidwad y mae'r ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod plentyn yn mynychu'r ysgol.
Mae gennym bwerau i gynnig cludiant dewisol ychwanegol ac rydym yn gwneud hynny, er enghraifft ar gyfer dysgwyr Ôl-16 i golegau ac ysgolion, a thrwy "seddi gwag", lle mae'r rhain ar gael, i'r rhai nad oes ganddynt hawl i gludiant am ddim o dan y pellteroedd cerdded a ddiffinnir.
Eleni, mae'r polisi "seddi gwag" wedi darparu cludiant i 252 o ddysgwyr i’r ysgol ac oddi yno, lle byddai rhaid i'r rhieni/gwarcheidwaid drefnu cludiant a thalu amdano fel arall. Rhoddwyd seddi gwag eleni ar 2 Hydref i ganiatáu i deithio ddechrau ar 7 Hydref. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau oedd 27 Medi a buom yn gweithio'n eithriadol o gyflym i sicrhau bod y seddi ar gael cyn gynted â phosibl.
Gofynnir i ni bob blwyddyn a allwn ni roi'r seddi gwag mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, ond byddai hyn yn eithriadol o anodd i'w gyflawni oherwydd nifer y ceisiadau am gludiant a newidiadau eraill sy'n digwydd yn ystod mis Awst a mis Medi, yn enwedig o ddiwedd mis Awst pan gyhoeddir y canlyniadau TGAU.
Mae dros 50% o geisiadau ysgolion a cholegau yn cael eu gwneud yn ystod mis Awst a mis Medi, a chafodd 25% o'r apeliadau eleni eu clywed yn ystod y misoedd hyn. Yn ogystal, dim ond yn ystod mis Awst a mis Medi y cadarnhaodd 35% o'r 800 o ddysgwyr chweched dosbarth presennol sy'n derbyn cludiant ysgol bod angen cludiant arnynt.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae angen i ni hefyd wirio a diweddaru cofnodion disgyblion, er mwyn sicrhau nad ydym yn cadw seddi i'r rhai sydd wedi symud neu adael yr ysgol heb roi gwybod i ni, ac o ganlyniad mae angen adolygu dyraniad cerbydau ar draws y rhwydwaith er mwyn cynyddu nifer y seddi gwag sydd ar gael. Eleni rydym wedi gallu sicrhau bod 73 o seddi gwag ychwanegol ar gael, sef 29% o gyfanswm y seddi a ddyfarnwyd.
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Palfreman:
‘Diolch i'r Aelod Cabinet am ei wybodaeth ddefnyddiol, ond a yw'n cydnabod bod gofyn i rieni sydd wedi cael seddi mewn blynyddoedd blaenorol, ac nad yw eu hamgylchiadau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.1 |
||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD DERYK CUNDY I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A'R GYMRAEG ‘Gan fod y ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion dibyniaeth mawr yn Heol Goffa yn dal i gael ei hadolygu... a ydych wedi ystyried pe bai ysgol newydd yn cael ei hargymell... fod y weinyddiaeth hon wedi clustnodi o leiaf y swm cyfalaf o goffrau Cyngor Sir Caerfyrddin a fydd ei angen i ddarparu ysgol ar gyfer y 124 o blant sy'n cael eu haddysgu yn y cyfleuster hynod orlawn hwn ar hyn o bryd, heb sôn am y 142 o blant y mae angen lleoedd arnynt, gan wybod y bydd angen lleoedd ar ragor.’ Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Nodiadau: · Roedd y Cynghorydd L.D. Evans wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, a gadawodd y cyfarfod wrth i hyn gael ei ystyried.
· Roedd y Cynghorwyr R. James ac A. Leyshon wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod ar yr adeg hon.]
Cwestiwn gan y Cynghorydd Cundy:
'Gan fod y ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion dibyniaeth uchel yn Heol Goffa yn cael ei hadolygu o hyd... a ydych wedi ystyried y dylid argymell ysgol newydd... mae'r weinyddiaeth hon wedi neilltuo o leiaf y swm cyfalaf gan gronfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin a fydd yn angenrheidiol er mwyn darparu ysgol ar gyfer hyd yn oed y 124 o blant sy'n cael eu haddysgu yn y cyfleuster gorlawn iawn hwn ar hyn o bryd, heb sôn am y 142 y mae angen lleoedd arnynt gyda mwy yn dod.'
Ymateb y Cynghorydd Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:
‘Mewn ffordd Derek rydych chi wedi ateb eich cwestiwn eich hun gan eich bod chi wedi dweud: 'Gan fod darpariaeth i blant ac anghenion dysgu ychwanegol yn Heol Goffa yn cael ei hadolygu o hyd.' Eich geiriau. Eich geiriau Nid wyf yn fodlon rhagfynegi canlyniad yr adolygiad. Byddai hynny'n beth gwirion i'w wneud. Mae David Davies yn dal i ymchwilio i hyn ac nid wyf yn fodlon tybio ei ganfyddiadau na'i argymhellion. Byddaf yn ymateb i bopeth ar yr adeg briodol, ac mewn ffordd briodol. Mae'n amhosibl paratoi ar gyfer darpariaeth ariannu nad yw wedi'i hadolygu'n llawn eto. Ond gallaf eich sicrhau y bydd pob ffactor yn cael ei ystyried. Rwyf am bwysleisio ac eisiau tanlinellu'r geiriau nesaf hyn: mae darparu'r addysg orau bosibl i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn hynod bwysig i mi yn bersonol ac i'r Cabinet yn gyffredinol. Rydym wedi ymrwymo i wneud ein gorau glas dros ein plant, waeth beth fo'r gwahanol negeseuon sy'n cael eu lledaenu. Diolch yn fawr’
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Cundy:
‘Os daw'r adolygiad yn ôl ac mae angen ysgol newydd arnom, a fydd yr arian ar ôl ar ei gyfer? Ac rwy'n gobeithio nad yw wedi'i ddyrannu mewn mannau eraill gan fod gennym yr arian yn barod ychydig fisoedd yn ôl. Diolch yn fawr’
Ymateb y Cynghorydd Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:
‘Dros yr wythnosau nesaf, rwy'n disgwyl gweld adroddiad ar waith David Davies a'r hyn y mae wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf. Byddaf yn ei ddarllen yn ofalus iawn. Byddaf yn bersonol, a'r Cabinet, yn edrych ar bopeth ac wedyn, a dim ond wedyn, byddwn mewn sefyllfa i rannu mwy o wybodaeth gyda chi. Mae'n annoeth gwneud hynny cyn derbyn yr adroddiad. Diolch yn fawr.’ |
||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD DERYK CUNDY I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A'R GYMRAEG ‘Adroddwyd eich bod wedi awdurdodi £500,000 gan y cyngor i wneud atgyweiriadau i Heol Goffa dros wyliau'r haf heb ddarparu unrhyw un o'r lleoedd ychwanegol y mae mawr eu hangen, yn ogystal â gadael y to yn dal i ollwng. A ydych chi'n meddwl bod hyn wir yn werth am arian?’ Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Nodiadau: · Roedd y Cynghorydd L.D. Evans wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.
· Roedd y Cynghorwyr R. James ac A. Leyshon wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod ar yr adeg hon.]
Cwestiwn gan y Cynghorydd Cundy:
‘Adroddwyd eich bod wedi awdurdodi £500,000 gan y cyngor ar wneud atgyweiriadau i Heol Goffa dros wyliau'r haf heb ddarparu unrhyw un o'r lleoedd ychwanegol y mae mawr eu hangen, yn ogystal â gadael y to yn dal i ollwng. A ydych chi'n ystyried bod hyn yn werth am arian?'
Ymateb y Cynghorydd Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:
‘Gwerth am arian? Dyna oedd y cwestiwn. Gwerth am arian - wrth gwrs. A dyna'r ateb syml i'ch cwestiwn. Allen ni ddim cau ein llygaid ar y sefyllfa yn Heol Goffa. Rydym wedi gwario'n ddoeth ac yn ofalus. Roedd y to yn gollwng, a gwnaethom atgyweiriadau iddo, ond rwy'n deall bod angen gwneud mwy o waith. Mae'n sefyllfa na ddaeth i'n sylw ar y dechrau, ond rydym bellach yn ymwybodol ac rydym yn gwybod beth sydd angen ei wneud; ac mae'r gwaith hwnnw'n digwydd. Rwyf wedi cael sicrwydd gan yr adran Addysg y bydd yr atgyweiriadau hyn i'r to, yn gyffredinol, yn digwydd cyn gynted â phosibl.
Mae rhaid i fi ailadrodd hyn, Gynghorwyr, ac rwyf am bwysleisio hyn - bod darparu'r addysg orau posibl i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn bwysig i mi ac i'r Cabinet - i bob un ohonom. Rwy'n edrych ymlaen, ac rwy'n awyddus i weld canfyddiadau'r adroddiad sy'n cael ei baratoi.’
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Cundy: Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol. |
||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD DERYK CUNDY I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A'R GYMRAEG ‘Ers 2017, o dan eich gweinyddiaeth, mae'r cyngor hwn wedi gwario £1,277,800 o bunnoedd ar ddylunio ac astudiaethau dichonoldeb ar gyfer ysgol newydd i gymryd lle Heol Goffa.....os nad yw'r adolygiad o ddarpariaeth Heol Goffa yn argymell ysgol newydd a fydd yr arian hwn yn cael ei golli?’ Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Nodiadau: · Roedd y Cynghorydd L.D. Evans wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.
· Roedd y Cynghorwyr R. James ac A. Leyshon wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod ar yr adeg hon.]
Cwestiwn gan y Cynghorydd Cundy:
‘Ers 2017 o dan eich gweinyddiaeth mae'r cyngor hwn wedi gwario £1,277,800 o bunnoedd ar astudiaethau dylunio a dichonoldeb ysgol newydd i gymryd lle Heol Goffa.....os nad yw'r adolygiad o ddarpariaeth Heol Goffa yn argymell ysgol newydd a fydd yr arian hwn yn cael ei golli?’
Ymateb y Cynghorydd Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:
‘Mae'n bwysig cofio, mae angen i bob un ohonom gofio, bod dylunio darpariaeth sydd gennym yn ein canolfannau ar draws y sir ac yn Ysgol Heol Goffa yn waith arbenigol ac mae cost yn ymwneud â hynny. Rwy'n cadarnhau ein bod wedi gwario dros £1.2 miliwn ar ddylunio ac ar astudiaeth ddichonoldeb. Gwariant a fydd, rwy'n si?r, yn dod â llawer o fuddion. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn paratoi ac yn cynllunio'n ofalus, mae datblygu a gwella'r gwasanaeth yn bwysig iawn. A chofiwch fod y gwariant hwn, fel yr ydych wedi nodi, wedi digwydd dros nifer o flynyddoedd.
Yn y pen draw, daeth y costau adeiladu yn rhy uchel. Y tu hwnt i bob disgwyliad. Ac mae'n rhaid i ni gofio, a chawsom ein hatgoffa o hyn yn gynharach, fod costau adeiladu yn gyffredinol wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Cofiwch hefyd fod y pris tendro a dderbyniwyd ar gyfer adeiladu ysgol arbennig newydd, ffactor sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, yn golygu nad oeddem yn gallu symud ymlaen i adeiladu'r ysgol arbennig newydd a gynlluniwyd yn wreiddiol. Fe wnaethom gais yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru i ofyn iddi ariannu'r cynnydd hwn, ac ariannu'r costau adeiladu yn llawn, ond nid oedd mewn sefyllfa i wneud hynny. Gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn wahanol pe baem wedi cael ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru.’
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Cundy:
‘Mae gofyn i ni edrych ar y gyllideb.. Ydyn ni'n gwneud yn si?r ein bod ni mewn gwirionedd yn gwario ein cyllideb Addysg yn union fel y dylai fod?’
Ymateb y Cynghorydd Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:
‘Gallaf eich sicrhau y bydd yr arian a ddyrennir i Addysg yn cael ei wario'n dda. Mae'r Rhaglen Moderneiddio Addysg wedi cael ergyd ofnadwy, ond byddwn yn edrych ar bob ceiniog sydd gennym. A chofiwch, mae diffyg ar ein hysgolion ar hyn o bryd - llawer ohonyn nhw, felly byddwn ni'n edrych yn ddoeth; mae gennym Gyfarwyddwr newydd – a gaf fi ei groesawu i'n cyfarfod cyntaf heddiw. Byddaf yn gweithio'n agos gydag ef a byddwn yn edrych ar y cyllidebau a gallaf roi sicrwydd i chi, gan y bydd pob un ohonom yn ymwneud â'r cynlluniau cyllidebol hynny - y byddwn yn gwario'r arian hwnnw yn ddoeth.’ |
||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellwyd ar yr agenda o dan 10.1 – 10.7 ar gael er gwybodaeth ar wefan y Cyngor.
|