Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 9fed Hydref, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Liam Bowen, Suzy Curry, Deian Harries, Gareth John ac Edward Thomas.</AI1>

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Martyn Palfreman

10.1 - Cyflwynwyd Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorwyr Alex Evans a Louvain Roberts

 

Mae'n rhedeg Ymgynghoriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Mae'r Cynghorydd Palfreman wedi cael gollyngiad i siarad ond nid pleidleisio yng nghyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin ac ar draws Rhanbarth De-orllewin Cymru.

 

Jason P. Hart

12.1 - Cwestiwn gan y Cynghorydd Deryk Cundy i'r Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg

 

Mae ei bartner yn gweithio yn Ysgol Heol Goffa.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Cyhoeddodd y Cadeirydd ei fod, ynghyd â'i Gydymaith, wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau dros y mis diwethaf oedd yn cynnwys Gwasanaeth Dinesig Sir Fynwy a G?yl Gorslas.  Yn ogystal, cafodd y fraint o gwrdd â'i Uchelder Brenhinol y Tywysog William yn ysgol Gynradd Dyffryn y Swistir ar ymweliad annisgwyl i gwrdd â'r disgyblion a'r athrawon.

 

  • Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynd i agoriad Ffair Haf Castell-nedd.

 

  • Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn falch iawn o gael ei wahodd i fynd i Gapel Bethania, y Tymbl Uchaf i agor seremoni cyflwyno medalau i gyn-filwr rhyfel 103 oed, Basil Smith.  Cafodd Mr Smith ei fedalau anrhydeddus 83 mlynedd ar ôl gadael yr Awyrlu Brenhinol.

 

  • Eglurodd y Cadeirydd ei fod wedi cael cyfle unigryw i gwrdd â'r Olympiaid a'r Paralympiaid Cymreig yn y Senedd yng Nghaerdydd i dalu teyrnged a chydnabod eu llwyddiannau a'u perfformiadau ym Mharis.

 

  • Dywedodd y Cadeirydd fod noson hyfryd wedi ei chael yng Nghinio'r Cadeirydd a gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri gyda'r siaradwr gwadd Mr Garry Owen.  Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolchiadau arbennig i'w gyd-Gynghorwyr a oedd wedi cefnogi'r elusennau a ddewiswyd ganddo; Latch a Prostate Cymru drwy fynd i'r noson a oedd wedi codi £4,000 hyd yma, dechrau gwych i'r ymgyrch codi arian.

 

  • I gloi, cyhoeddodd y Cadeirydd ei fod wedi ymweld â 'Phartneriaeth Bwyd Sir Gâr' yn ddiweddar ar Fferm Bremenda Isaf ac fel Llywydd, ymwelodd ag 'Ardd Allanol' Ysgol Bro Dinefwr cyn mwynhau'r cyngerdd gyda'r nos yn Eglwys Teilo Sant, Llandeilo

 

  • Achubodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yn dilyn cymeradwyaeth y Cadeirydd, ar y cyfle i ffarwelio â Mr Gareth Morgans, Cyfarwyddwr Addysg ar ôl iddo ymddeol ddiwedd mis Hydref. Mynegwyd diolchiadau i Mr Morgans am ei ymrwymiad pendant wrth weithio gyda'r Cyngor.  Roedd y gwaith yr oedd wedi'i wneud dros addysg yn Sir Gaerfyrddin yn amhrisiadwy ac roedd swyddogion a'r Cyngor wedi elwa ar ei wybodaeth a'i gyngor.  Estynnwyd dymuniadau gorau iddo ar ei ymddeoliad.

 

  • Rhoddodd y Cynghorydd Kevin Madge, yn dilyn cymeradwyaeth y Cadeirydd, deyrnged gynnes i'r cyn-Gynghorydd Terry Davies, a elwir yn annwyl yn Terry Coch, yn dilyn ei farwolaeth yn ddiweddar.    </AI3>

 

4.

CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.

LLOFNODI YN GOFNODION CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 11 MEDI 2024 pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Codwyd y diwygiadau canlynol:-

 

Cofnod 2 – Datganiad Buddiant:-

 

  • O ran yr holl Ddatganiadau o Fuddiant sy'n ymwneud â'r Lwfans Tanwydd Gaeaf, dywedwyd bod y geiriad i'w newid wedi'i 'dderbyn’.

 

  • Cywiro'r cofnodion i adlewyrchu Datganiad Buddiant y Cynghorydd Shepherdson ei fod yn derbyn y Lwfans Tanwydd Gaeaf.

 

PENDERFYNWYD, ar yr amod y byddai'r newidiadau a godwyd yn cael eu gwneud, lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Medi 2024, i nodi eu bod yn gywir</AI5>

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2023/2024. pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2023/24 i'w gymeradwyo.  Cyflwynodd Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau, Mrs Daphne Evans yr adroddiad yn absenoldeb Mrs Mary Dodd, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, gan dynnu sylw at y pwyntiau amlycaf.  Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth am weithgareddau'r Pwyllgor Safonau yn ystod y flwyddyn ac roedd yn darparu asesiad ynghylch a oedd Arweinwyr Gr?p y Cyngor wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan Ddeddf 2021 i wneud y canlynol:

 

  1. Cymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau eu grwpiau a;
  2. Chydweithredu â Phwyllgor Safonau'r Cyngor wrth arfer swyddogaethau'r Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2023/2024.</AI6>

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2023/24 pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2023/24 i'w gymeradwyo.  Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Mr David MacGregor, wedi'i ddatblygu i roi sicrwydd ar waith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wrth sicrhau tryloywder, atebolrwydd a llywodraethu effeithiol.

 

Wrth gyflwyno'r cyntaf o adroddiadau o'r fath, cydnabu Mr MacGregor yr heriau cyllidebol presennol yr oedd y Cyngor yn eu hwynebu ac amlygodd fod y Pwyllgor yn darparu craffu annibynnol ar berfformiad ariannol ac anariannol yr awdurdod, ei gysylltiad â risg yn ogystal â goruchwylio'r broses adrodd ariannol. 

 

Pwysleisiwyd bod yr heriau o ran cyllideb y dyfodol yn bryder gwirioneddol a byddai gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn parhau i weithio gyda swyddogion, archwilwyr a Chynghorwyr i gyflawni ei ddyletswydd.

 

PENDERFYNWYD gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2023/2024.

 

8.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL

Dogfennau ychwanegol:

8.1

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2023-2024 pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

9.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 16 MEDI 2024 pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Medi 2024.</AI10>

 

10.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR ALEX EVANS A LOUVAIN ROBERTS

‘Mae'r cyngor hwn yn gwrthwynebu'r penderfyniad a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gwtogi gwasanaethau'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty'r Tywysog Phillip yn Llanelli o wasanaeth 24/7 i un a fydd ond yn gweithredu o 8am tan 8pm am y 6 mis nesaf, gan ddechrau ar 1 Tachwedd.

 

Ar ôl eisoes colli’r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys, dylai tref fwyaf Gorllewin Cymru o leiaf ddisgwyl cael Uned Mân Anafiadau llawn amser gan Hywel Dda i ddarparu gofal brys.

 

Hefyd, gallai cwtogi'r gwasanaeth hwn gael effaith niweidiol ar amseroedd aros am ofal brys i drigolion ledled Sir Gaerfyrddin, gyda thrigolion Llanelli a'r ardal ehangach yn gorfod teithio i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin dros y misoedd nesaf i gael gofal brys.

 

Mae'r cyngor hwn yn galw ar Hywel Dda i archwilio pob opsiwn ar frys i staffio'r Uned Mân Anafiadau yn llawn yn Ysbyty Tywysog Phillip ac adfer y gwasanaeth 24/7. Mae'r Cyngor hwn hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymyrryd ar ran trigolion Llanelli os oes angen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, yn unol â'r ollyngiad, arhosodd Mr M. Palfreman yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y bleidlais.]

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y rhybudd o gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Alex Evans a Louvain Roberts:-

 

‘Mae'r cyngor hwn yn gwrthwynebu'r penderfyniad a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gwtogi gwasanaethau'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty'r Tywysog Phillip yn Llanelli o wasanaeth 24/7 i un a fydd ond yn gweithredu o 8am tan 8pm am y 6 mis nesaf, gan ddechrau ar 1 Tachwedd. 

 

Ar ôl eisoes colli’r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys, dylai tref fwyaf Gorllewin Cymru o leiaf ddisgwyl cael Uned Mân Anafiadau llawn amser gan Hywel Dda i ddarparu gofal brys. 

 

Hefyd, gallai cwtogi'r gwasanaeth hwn gael effaith niweidiol ar amseroedd aros am ofal brys i drigolion ledled Sir Gaerfyrddin, gyda thrigolion Llanelli a'r ardal ehangach yn gorfod teithio i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin dros y misoedd nesaf i gael gofal brys. 

 

Mae'r cyngor hwn yn galw ar Hywel Dda i archwilio pob opsiwn ar frys i staffio'r Uned Mân Anafiadau yn llawn yn Ysbyty Tywysog Phillip ac adfer y gwasanaeth 24/7. Mae'r cyngor hwn hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymyrryd ar ran trigolion Llanelli os oes angen.’

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o sylwadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol a'i gyfeirio i'r Cabinet.</AI12>

<AI13>

 

10.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR ALUN LENNY A DENISE OWEN

‘Rhybudd o Gynnig i gyfarfod Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Mercher 9 Hydref 2024.

 

Annog y Canghellor i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer cyllid cynghorau lleol unwaith eto

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin am longyfarch y Gwir Anrhydeddus Rachel Reeves AS am fod y fenyw gyntaf i gael ei phenodi'n Ganghellor y Trysorlys yn Llywodraeth y DU.

 

Gallwn gydymdeimlo â hi ar ymgymryd â'r rôl heriol hon fel cynghorau lleol sydd wedi gorfod ymdopi â chyfran anghymesur o doriadau gwariant yn ystod 14 mlynedd o gyni didostur gan y Llywodraeth Geidwadol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, oherwydd diffyg cyllid parhaus gan y llywodraeth, bellach £120m yn waeth ei fyd, mewn termau real, nag yr oeddem ddegawd yn ôl.

 

Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i bob cyngor a'i staff, ac mae llawer bellach yn gwegian ar ymyl trychineb ariannol. Mae Ysgrifennydd Cyffredinol UNSAIN, Christina McAnea, wedi rhybuddio bod gwasanaethau hanfodol di-ri a llawer iawn o swyddi hanfodol mewn perygl, gyda chanlyniadau ofnadwy i gymunedau ledled Prydain.

 

Rydym yn annog y Canghellor yng nghyllideb yr hydref sydd ar ddod i ddarparu sylfaen gynaliadwy ar gyfer cyllid llywodraeth leol unwaith eto, drwy ddefnyddio'r £10b sydd ar gael oherwydd penderfyniad Banc Lloegr i arafu ei raglen tynhau meintiol.

 

Mae angen cyllid refeniw ychwanegol brys (drwy Fformiwla Barnett i Gymru) ar gyfer gwasanaethau hanfodol fel:

 

Gofal Cymdeithasol – ar gyfer poblogaeth sy'n cynnwys canran gynyddol o bobl h?n sydd angen gofal preswyl a chymunedol

 

Gwasanaethau Plant – sy'n wynebu galw digynsail a phwysau ariannol difrifol 

 

Ysgolion – sy'n ei chael hi'n anodd, neu'n methu byw yn unol â'r cyllidebau sydd wedi'u dyrannu, gan arwain at effaith ar lefelau staffio a'r cwricwlwm sy'n cael ei ddarparu

 

Priffyrdd – sy'n dirywio yn dilyn degawd o doriadau o flwyddyn i flwyddyn mewn cyllidebau cynnal a chadw, fel y dangosir gan y nifer cynyddol o dyllau ar ein ffyrdd

 

Rydym yn annog y Canghellor ymhellach i ddarparu ar gyfer pwysau chwyddiant ar gyllidebau llywodraeth leol, ac i sicrhau y dylai setliadau cyflog sy'n cael eu pennu'n ganolog gael eu hariannu'n llawn gan lywodraeth ganolog.’

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

'Bu'r Cyngor yn ystyried y rhybudd o gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Alun Lenny a Denise Owen:-

 

Annog y Canghellor i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer cyllid cynghorau lleol unwaith eto

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin am longyfarch y Gwir Anrhydeddus Rachel Reeves AS am fod y fenyw gyntaf i gael ei phenodi'n Ganghellor y Trysorlys yn Llywodraeth y DU. 

 

Gallwn gydymdeimlo â hi ar ymgymryd â'r rôl heriol hon fel cynghorau lleol sydd wedi gorfod ymdopi â chyfran anghymesur o doriadau gwariant yn ystod 14 mlynedd o gyni didostur gan y Llywodraeth Geidwadol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, oherwydd diffyg cyllid parhaus gan y llywodraeth, bellach £120m yn waeth ei fyd, mewn termau real, nag yr oeddem ddegawd yn ôl. 

 

Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i bob cyngor a'i staff, ac mae llawer bellach yn gwegian ar ymyl trychineb ariannol. Mae Ysgrifennydd Cyffredinol UNSAIN, Christina McAnea, wedi rhybuddio bod gwasanaethau hanfodol di-ri a llawer iawn o swyddi hanfodol mewn perygl, gyda chanlyniadau ofnadwy i gymunedau ledled Prydain.

 

Rydym yn annog y Canghellor yng nghyllideb yr hydref sydd ar ddod i ddarparu sylfaen gynaliadwy ar gyfer cyllid llywodraeth leol unwaith eto, drwy ddefnyddio'r £10b sydd ar gael oherwydd penderfyniad Banc Lloegr i arafu ei raglen tynhau meintiol.

 

Mae angen cyllid refeniw ychwanegol brys (drwy Fformiwla Barnett i Gymru) ar gyfer gwasanaethau hanfodol fel:

 

Gofal Cymdeithasol – ar gyfer poblogaeth sy'n cynnwys canran gynyddol o bobl h?n sydd angen gofal preswyl a chymunedol

 

Gwasanaethau Plant – sy'n wynebu galw digynsail a phwysau ariannol difrifol

 

Ysgolion – sy'n ei chael hi'n anodd, neu'n methu byw yn unol â'r cyllidebau sydd wedi'u dyrannu, gan arwain at effaith ar lefelau staffio a'r cwricwlwm sy'n cael ei ddarparu

 

Priffyrdd – sy'n dirywio yn dilyn degawd o doriadau o flwyddyn i flwyddyn mewn cyllidebau cynnal a chadw, fel y dangosir gan y nifer cynyddol o dyllau ar ein ffyrdd. 

 

 

 

Rydym yn annog y Canghellor ymhellach i ddarparu ar gyfer pwysau chwyddiant ar gyllidebau llywodraeth leol, ac i sicrhau y dylai setliadau cyflog sy'n cael eu pennu'n ganolog gael eu hariannu'n llawn gan lywodraeth ganolog’.

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o sylwadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig.

 

PENDERFYNWYD cefnogi'r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol a'i gyfeirio i'r Cabinet.</AI13>

 

11.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.</AI14>

 

12.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

12.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD DERYK CUNDY I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A'R GYMRAEG

‘Ynghylch yr amcangyfrif gwreiddiol o ran y Gwariant Cyfalaf ar Heol Goffa a osodwyd yn wreiddiol ar £17 miliwn o bunnoedd, lle byddai £4.25 miliwn yn cael ei ddarparu o gyllideb Gyfalaf Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin o £20.5 miliwn a'r gwahaniaeth o £12.75 miliwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, a fydd y Weinyddiaeth hon yn dal i wario'r arian a neilltuwyd sef £4.25 miliwn ar brosiectau i gefnogi plant ag Anghenion Dibyniaeth Uchel mewn Addysg neu a fydd yn defnyddio'r arian hwn ar gyfer prosiectau Cyfalaf Addysg eraill nad ydynt yn cefnogi ein plant ag Anghenion Dibyniaeth Uchel.’

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  SYLWER: Gan fod y Cynghorydd J.P. Hart wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod tra bo'r Cynghorwyr yn ei hystyried ac yn pleidleisio arni.]

 

‘Ynghylch yr amcangyfrif gwreiddiol o ran y Gwariant Cyfalaf ar Heol Goffa a osodwyd yn wreiddiol ar £17 miliwn o bunnoedd, lle byddai £4.25 miliwn yn cael ei ddarparu o gyllideb Gyfalaf Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin o £20.5 miliwn a'r gwahaniaeth o £12.75 miliwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, a fydd y Weinyddiaeth hon yn dal i wario'r arian a neilltuwyd sef £4.25 miliwn ar brosiectau i gefnogi plant ag Anghenion Dibyniaeth Uchel mewn Addysg neu a fydd yn defnyddio'r arian hwn ar gyfer prosiectau Cyfalaf Addysg eraill nad ydynt yn cefnogi ein plant ag Anghenion Dibyniaeth Uchel.’

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies – yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg

 

Deryk, fel y gwyddoch ac yr ydym wedi'i glywed eto y bore yma, rwyf wedi gofyn i arbenigwr annibynnol adolygu'r ddarpariaeth ADY yn ardal Llanelli. Mae David Davies wedi dechrau'r gwaith hwn ac mae'n cyfarfod ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol i lywio ei gyngor i ni fel Cabinet. Bydd yn rhoi opsiynau wedi'u costio i ni mewn perthynas â darparu gwasanaethau i ddysgwyr Llanelli, gan gynnwys ysgol newydd.

 

Nid wyf yn glir yngl?n â'r disgrifiad a ddefnyddir gan y Cynghorydd Cundy, sef Plant Anghenion Dibyniaeth Uchel - nid yw hynny'n derm a ddefnyddir gennym yn yr Adran Addysg. Fel Awdurdod Lleol, rydym yn darparu ystod o wasanaethau i ddiwallu anghenion amrywiol pob dysgwr ag ADY. Mae gennym fodel pedwar cam a'r haen gyntaf yw'r ddarpariaeth gyffredinol a ddarperir gan bob ysgol, yr ail yw mynediad at gymorth ychwanegol a chyngor arbenigol a'r 3ydd a'r 4ydd yw cael mynediad at leoliadau arbenigol sy'n diwallu anghenion ein dysgwyr mwyaf cymhleth. Rydym yn darparu cymorth arbenigol ar gyfer ystod eang o anghenion, er enghraifft, awtistiaeth, nam ar y clyw, anawsterau dysgu penodol, anawsterau dysgu dwys a lluosog, lleferydd, iaith a chyfathrebu.

 

O ran y cyllid cyfalaf sydd ar gael, byddwch yn gwybod bod gennym amlen ariannu i gyflawni ein prosiectau.  Rhaid i'r amlen ariannu honno gefnogi anghenion dros 1,100 o ysgolion ac mae yna ddyletswydd i ddarparu gwerth am arian.  Rwyf wedi gwneud nifer o ddatganiadau yn y Siambr hon a'r Cabinet ac mae'r pwyslais yma ar arian eto.

 

Felly, rwyf wedi gofyn i'r Llywodraeth ateb y cwestiwn ac mewn perthynas â mwy o arian, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru mai dim ond 75% o gostau chwyddiant y bydd yn eu hariannu.

 

Diolch am y cwestiwn, ond byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth ar ôl i ni gael yr adroddiad a byddwn yn ei drafod ac yn cyflwyno'r hyn sydd ei angen.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Deryk Cundy

Nid wyf yn si?r a ydych chi wedi ateb y cwestiwn mewn gwirionedd.  Ni wnaethoch ateb y cwestiwn, felly byddai'n well gen i pe baech yn ateb y cwestiwn yn y lle cyntaf.

 

Ymateb gan y Cynghorydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.1

12.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD MARTYN PALFREMAN I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS, YR AELOD CABINET DROS GWASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH

‘A all yr Aelod Cabinet nodi a yw'n teimlo bod y trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn darparu dyraniad teg ac amserol o'r 'seddi gwag' ar Gludiant Ysgol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer disgyblion hynny sydd eu hangen?’

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.

CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1.      PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL FOD Y CYNGHORYDD DAI NICHOLAS YN LLENWI SEDD WAG Y GR?P LLAFUR AR Y PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU

 

14.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: