Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Nodyn: Moved from 18th January
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Godfrey-Coles, D.C. Evans, M. James, G.R. Jones ac M.J.A. Lewis.
|
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'i Gydymaith, y Cynghorydd Nysia Evans, wedi mynd i Drochfa'r Tymor ym Mhen-bre ar ?yl San Steffan i godi arian i elusen. Diolchodd i'r staff am eu cymorth yn y digwyddiad;
· Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, gyda chaniatâd y Cadeirydd, wrth y Cyngor fod y Llywodraeth, ar 19 Ionawr 2023, wedi cyhoeddi'r ceisiadau llwyddiannus yn Rownd 2 o'r Gronfa Ffyniant Bro. Roedd 525 o geisiadau wedi dod i law ac mae 111 o brosiectau wedi derbyn cyllid gwerth oddeutu £2 biliwn. Atgoffwyd aelodau bod Sir Gaerfyrddin wedi cyflwyno ceisiadau yn ymwneud ag adfywio Llanelli a Chyfnewidfa a Mwy Llanelli. Yn anffodus roedd hysbysiad wedi ei dderbyn bod y ddau gais wedi bod yn aflwyddiannus. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth fod y newyddion yn siomedig, yn enwedig o ystyried yr angen clir a chryfder ac ansawdd y cyflwyniadau a'r llawer iawn o amser ac ymdrech a wnaed wrth gyflwyno'r ceisiadau. Diolchodd i'r swyddogion am y gwaith yr oeddent wedi'i wneud mewn perthynas â'r ceisiadau gan ychwanegu bod yr Awdurdod wedi gofyn am adborth ysgrifenedig allai gefnogi cynigion a chyflwyniadau yn y dyfodol, a bod hynny wedi'i addo, gan gofio y byddai trydedd rownd o'r Gronfa Ffyniant Bro maes o law. Ychwanegodd fod y dadansoddiad o'r ddau ddyfarniad yn nodi nad oedd yr un awdurdod wedi cael llwyddiant yn y ddwy rownd. Dim ond 4 awdurdod lleol yng Nghymru gafodd ddim llwyddiant wedi'r ddwy rownd, ac yn y ddwy rownd gyda'i gilydd, roedd Sir Gaerfyrddin yn ail i Gaerdydd yn unig ar gyfanswm y cyllid oedd wedi'i neilltuo hyd yma. I gloi, ailadroddodd ein bod yn aros am yr adborth ffurfiol ac na fyddai unrhyw sylwadau pellach yn cael eu gwneud tan hynny.
|
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 7FED RHAGFYR 2022 PDF 141 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022 gan eu bod yn gywir.
|
||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN A MATERION CYNLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2022 [gweler cofnod 7 o'r cyfarfod hwnnw], wedi cymeradwyo'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rheoli'r trysorlys o 1 Ebrill 2022 hyd at 30 Medi 2022, yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2022/23 (a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 2 Mawrth 2022.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau mai balans y buddsoddiad ar 20 Medi 2022 oedd £195m ac mai gwerth yr holl fuddsoddiadau a wnaed ac a ad-dalwyd oedd mwy na biliwn o bunnoedd - £1,060.5m. Y llog gros a enillwyd am y cyfnod oedd £920,000. Roedd y lefel buddsoddi presennol, ychwanegodd, yn dal yn arwyddocaol gyda balans o £210.5m. O ran gweithgarwch benthyca'r Awdurdod yn y cyfnod yr adroddwyd amdano, cyfanswm y benthyciadau sydd heb eu talu yw £411.72m. Roedd pedwar benthyciad newydd gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, gwerth £20m, wedi'u cymryd yn ystod y cyfnod. Y llog a dalwyd yn ystod y cyfnod oedd £8.18m. Roedd y dangosydd cyfradd llog wedi cynyddu o 125% i 150% er mwyn darparu ar gyfer lefel uwch o falansau buddsoddi parhaus yr Awdurdod. I gloi, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod yr holl Ddangosyddion Darbodus eraill o fewn y terfynau a bennir gan Gyllideb 2022-23 a'r Polisi a Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:
'bod Adroddiad Rheoli'r Trysorlys a Diweddaru Dangosyddion Darbodol ar gyfer 1 Ebrill 2022 tan 30 Medi 2022, gan gynnwys newidiadau i'r terfynau ar gyfer Cyfraddau Llog, yn cael ei gymeradwyo.'
|
||||||||||
CYNLLUN GOSTYNGIADAU'R DRETH GYNGOR PDF 150 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyngor wybod fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2023 [gweler cofnod 9 o'r cyfarfod hwnnw], wedi ystyried adroddiad a amlinellodd wybodaeth am Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2023/24. Diben yr adroddiad hwn oedd gofyn am fabwysiadu'n ffurfiol Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (a gyflwynwyd yn lle Budd-dal y Dreth Gyngor ym mis Ebrill 2013) am 2023/24. Nodwyd, yn dilyn cyfarfod y Cabinet, bod rheoliadau'r cynllun wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a'u bod wedi dod i rym ar 20 Ionawr 2023.
Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau nad oedd y cynllun ei hun wedi newid yn faterol ar gyfer 2023/24. Fodd bynnag, yn ogystal â'r uwchraddio blynyddol arferol o rai ffigurau ariannol a ddefnyddir ar gyfer asesu hawl unigol a rhai addasiadau technegol, roedd yr offeryn statudol yn gwneud nifer o ddiwygiadau llai eraill a oedd yn cynnwys diwygiadau mewn perthynas â phobl o Wcráin, y rheiny sy'n lletya pobl o Wcráin, a dinasyddion Ardal Economaidd Ewrop fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:
‘bod y Cyngor:-
5.2.1. Yn mabwysiadu'n ffurfiol gynllun safonol Cymru Gyfan ar gyfer Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a ddarperir yn a.Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a
5.2.2. Yn gweithredu'r ffigurau uwchraddio blynyddol (a ddefnyddir wrth gyfrifo hawl) a'r diwygiadau technegol eraill sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023, a fydd yn dod i rym ar 20 Ionawr 2023 ac mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol mewn perthynas â chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a wnaed ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2023;
5.2.3. Parhau i arfer ei ddisgresiwn o ran elfennau disgresiynol cyfyngedig y cynllun rhagnodedig, fel y'u hamlinellir yn y Crynodeb Gweithredol.’
|
||||||||||
CYLLIDEB Y CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI AR GYFER 2023/24 PDF 140 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd J. James a D. Price wedi datgan buddiannau yn yr eitemau hyn yn gynharach a gadawodd y ddau y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried].
Cafodd y Cyngor wybod fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2023 [gweler cofnod 10 o'r cyfarfod hwnnw], wedi ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2023/24 i 2025/26 a chynigion Pennu Rhenti Tai ar gyfer 2023/24 cyn i'r Cyngor eu hystyried. Mae'r adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau yn dod ynghyd â'r cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2023/24 i 2025/26. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo hefyd gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr 2022, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.
Wrth gyflwyno'r adroddiad, ailadroddodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y sylwadau a wnaed ganddo yng nghyfarfod y Cabinet ar 9 Ionawr 2023 [gweler cofnod 10 o'r cyfarfod hwnnw] gan ychwanegu ei fod yn sicr y byddai'r Cyngor yn gwerthfawrogi'r anhawster o ran cyflawni cydbwysedd wrth benni rhenti o fewn polisi'r Llywodraeth ar lefel fforddiadwy i denantiaid a gwireddu ei uchelgeisiau o ran tai. Pwysleisiodd, os mabwysiadwyd argymhellion y Cabinet gan y Cyngor, y byddai'r rhent cyfartalog i'w denantiaid yn dal i fod o dan £100 yr wythnos - un o'r lefelau rhent isaf allan o'r 11 Awdurdod sy'n cadw stoc yng Nghymru, ac yn sylweddol is na'r sector preifat.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:
5.3.1 'Cynyddu rhent cyfartalog tai, 5.5% (£5.18) fesul preswylfa yr wythnos yn ôl Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru;
• Bod cynnydd o 5.36% yn digwydd i renti eiddo sydd ar y rhenti targed a; • Bod eiddo lle mae'r rhent yn is na'r rhenti targed yn cynyddu gan 5.36% yn ogystal â'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00; • Bod y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed yn cael eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r targed.
Bydd hyn yn arwain felly at Gynllun Busnes cynaliadwy, cynnal STSG+, darparu adnoddau ar gyfer ein Cynllun Cyflawni Adfywio a Datblygu Tai, ac mae'n cael ei gynnal gan y Tîm Strategol Adfywio a Thai;
5.2.3. Cadw rhenti garejis ar £9.00 a sylfeini garejis ar £2.25;
5.3.3. Gweithredu'r polisi ynghylch taliadau am wasanaethau i sicrhau bod y tenantiaid sy'n elwa ar wasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;
5.3.4. Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio ein gwaith trin carthffosiaeth yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;
5.3.5. Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/26 (cyllidebau dangosol oedd rhai 2024/25 a 2025/26), fel y nodwyd yn Atodiad A;
5.3.6. Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf a gynigir a'r cyllid perthnasol ar gyfer 2023/24 a gwariant dangosol 2024/25 a 2025/26 fel y'u nodwyd yn Atodiad B.’
|
||||||||||
CYNLLUN BUSNES 2023-26 Y CYFRIF REFENIW TAI RHAGLEN BUDDSODDIADAU TAI SIR GAERFYRDDIN PDF 184 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Cyngor wybod fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2023 [gweler cofnod 11 o'r cyfarfod hwnnw], wedi ystyried Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2023-26 - Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin a esboniodd y weledigaeth a manylion Rhaglen Buddsoddiadau Tai y Cyngor dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys cynlluniau i wella'r stoc dai, y rhaglen adeiladu tai newydd a'r cynlluniau i ddod yn garbon sero net.
Dywedodd yr aelod Cabinet dros Gartrefi, wrth gyflwyno'r adroddiad, fod y Cynllun yn amlinellu y byddai'r Cyngor yn parhau i ddarparu rhaglen gynhwysfawr o waith i dai a chynnal gwasanaethau i'w holl denantiaid. Yn benodol, byddai'r incwm gan renti tenantiaid a ffynonellau cyllid eraill dros y tair blynedd nesaf yn galluogi'r Awdurdod i ddatblygu rhaglen gyfalaf dros £103m, a fyddai'n: · gwella a chynnal y stoc dai bresennol, lleihau nifer y tai gwag Cyngor a delio â'r gwaith atgyweirio sydd wedi pentyrru, rhoi gwybod i denantiaid am gynnydd; · cefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2,000 o gartrefi fforddiadwy newydd i sicrhau bod mwy o gartrefi ar gael i'r rhai mewn angen; · cefnogi egwyddorion Carbon Sero Net y Cyngor, creu cartrefi sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, lleihau allyriadau carbon a hyrwyddo cynhesrwydd fforddiadwy i denantiaid leihau'r gost o gynnal a chadw cartref; · helpu i ysgogi twf economaidd, creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi yn y sir; a · helpu i greu cymunedau cynaliadwy cryf - lleoedd lle mae pobl yn falch o allu eu galw'n gartref iddyn nhw.
Mynegodd y gobaith y byddai'r aelodau yn cytuno bod y Cynllun yn gynhwysfawr ac yn uchelgeisiol ac y byddai'n caniatáu i'r Awdurdod gyflawni blaenoriaethau allweddol i denantiaid y Cyngor a theuluoedd agored i niwed. I gloi, dywedodd hi fod hon yn rhaglen fuddsoddi enfawr a diolchodd i bawb oedd wedi cyfrannu at y gwaith o'i datblygu a'r staff oedd yn fodlon helpu eraill.
Mewn ymateb i bryderon ynghylch y gostyngiad arfaethedig yn y gyllideb ar gyfer yr holl waith mewnol ar waith tai a thai gwag a gwaith mawr i dai, ac a yw'r swm yn ddigon i ddelio â'r ôl-groniad o waith, bu i'r Aelod Cabinet dros Gartrefi fynegi hyder bod y gyllideb yn ddigon ond rhoddodd sicrwydd i'r Cyngor fod y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n rheolaidd. Ychwanegodd fod pob ymdrech yn cael ei wneud i ddenu adeiladwyr ac ati i gael eu cyflogi gan y Cyngor fel bod ganddo ei dimau ei hun i wneud gwaith o'r fath.
Dywedwyd y gallai gosod paneli haul ar dai cyngor helpu aelwydydd sy'n wynebu costau gwresogi uwch yn fawr.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:
5.4.1 ‘Cadarnhau'r weledigaeth ar gyfer ein rhaglenni buddsoddiadau tai dros y tair blynedd nesaf;
5.4.2 Cytuno y gellir cyflwyno Cynllun Busnes 2023-26 i Lywodraeth Cymru;
5.4.3. Nodi'r cyfraniad y gwnaeth y Cynllun i'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai i gefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2000 o gartrefi newydd;
5.4.4 Nodi pwysigrwydd y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun hwn a'i rôl o ran ysgogi'r economi leol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.4 |
||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2021/22 PDF 209 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Cyngor wybod fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2023 [gweler cofnod 14 o'r cyfarfod hwnnw], wedi ystyried Adroddiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer 2021/22, a oedd wedi'i lunio yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor lunio adroddiad blynyddol ar ei amcanion llesiant ac i adrodd ar berfformiad, yn seiliedig ar ddull hunanasesu.
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu yr adroddiad oedd yn adlewyrchu adborth a gafwyd yn ystod y broses ymgynghori drylwyr yr oedd yr adroddiad destun iddi.
Yn sgil y gostyngiad mewn cyfraddau ailgylchu, cyfeiriwyd at y lansiad diweddar o'r trefniadau casglu newydd ar gyfer deunydd ailgylchu/gwydr a dryswch ymhlith y cyhoedd, er gwaethaf y cyhoeddusrwydd, ynghylch pryd y byddai eu bagiau glas/du a'u gwydr yn cael eu casglu. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith fod y methiant i gyflawni cyfradd ailgylchu o 64% yn 2021/22 yn bennaf oherwydd y tân yng nghanolfan ailgylchu CWM yn Nant-y-caws a'r angen i wneud trefniadau eraill. 65% oedd y gyfradd ailgylchu bresennol a'r gobaith oedd parhau ar y trywydd hwnnw. O ran y trefniadau casglu newydd, roedd y rhain yn cael eu cyflwyno'n raddol a'r disgwyl yw y byddai'r problemau presennol yn cael eu datrys yn y diwedd.
Cyfeiriwyd at yr angen, yn dilyn ymgynghori ar unrhyw fater, i adrodd am ganlyniadau i unrhyw un, gan gynnwys aelodau, a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad, a chytunodd y Prif Weithredwr i sicrhau bod hyn yn digwydd. Yn hyn o beth, gofynnwyd am eglurhad pryd yr oedd yr ymgynghoriad ar Goridor yr A484 Heol y Sandy y cyfeirir ato yn yr Adroddiad Blynyddol wedi digwydd a gofynnwyd y cwestiwn a oedd unrhyw ddadansoddiad o ganlyniadau'r ymgynghoriad ar gael i'r cyhoedd. Cytunodd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith i ddilyn y mater.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:
‘bod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2021/22 yn cael ei dderbyn.’
|
||||||||||
DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL: Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||
28AIN TACHWEDD 2022 PDF 108 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2022.
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2022.
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 9 Ionawr, 2023.
|
||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
||||||||||
CYFLWYNO DEISEBAU Nodyn: Er mwyn cael eu hystyried mewn cyfarfod ffurfiol rhaid i bob deiseb gynnwys 50 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer copïau papur a 300 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer e-ddeisebau. Mae cyfanswm Llofnodion Etholiadol Sir Gaerfyrddin hyd at y trothwy o 50 wedi'u dilysu. Nid ydym wedi gwirio'r llofnodion wedi hynny. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||
DEISEB I GYNGOR SIR CAERFYRDDIN STOPIO BANCIO GYDA BARCLAYS 'Rydym yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i: · Dynnu ei fusnes o fanc Barclays cyn gynted â phosibl a throsglwyddo i fanc moesegol (neu os nad oes banc moesegol sy'n gallu delio â'u hanghenion corfforaethol, symud i'r banc lleiaf gwael yn y sector); · Rhoi pwysau ar fanc Barclays i newid ei bolisïau buddsoddiadau i'r rhai sy'n blaenoriaethu anghenion yr hinsawdd a chenedlaethau'r dyfodol.'
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mr M. Reed a oedd wedi cael gwahoddiad i gyflwyno i'r Cyngor, ac annerch y Cyngor ynghylch y ddeiseb ganlynol yn ymwneud â Banc Barclays:
'Rydym yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i: · dynnu ei fusnes o fanc Barclays cyn gynted â phosibl a throsglwyddo i fanc moesegol (neu os nad oes banc moesegol sy'n gallu delio â'u hanghenion corfforaethol, symud i'r banc lleiaf gwael yn y sector); · rhoi pwysau ar fanc Barclays i newid ei bolisïau buddsoddiadau i'r rhai sy'n blaenoriaethu anghenion yr hinsawdd a chenedlaethau'r dyfodol.'
Amlinellodd Mr Reed i'r Cyngor y rhesymeg dros y ddeiseb.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai'r adran yn ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb ac yna byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o Gabinet y Cyngor yn y dyfodol. Yn dilyn y cyflwyniad, rhoddodd Mr. Reed y ddeiseb i'r Cyngor yn ffurfiol.
PENDERFYNWYD cyfeirio'r ddeiseb i'w hystyried gan y Cabinet.
|
||||||||||
DEISEB I GYNGOR SIR CAERFYRDDIN YNGHYLCH DIRYWIAD HARBWR PORTH TYWYN 'Rydym ni, etholwyr Sir Gaerfyrddin sydd wedi llofnodi isod yn cyflwyno'r ddeiseb i Gyngor Sir Caerfyrddin:
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd i'r cyfarfod Mr D. Williams a wahoddwyd i gyflwyno i'r Cyngor a'i annerch ynghylch y ddeiseb ganlynol yn ymwneud â Harbwr Porth Tywyn:
'Rydym ni, etholwyr Sir Gaerfyrddin sydd wedi llofnodi isod yn cyflwyno'r ddeiseb i Gyngor Sir Caerfyrddin: · Cydnabod bod cyflwr harbwr a marina Porth Tywyn wedi dirywio'n raddol i'r hyn sydd yn ei hanfod yn gyflwr anymarferol er gwaethaf y brydles tymor hir i weithredwr marina preifat, ac rydym yn cofrestru ein hanfodlonrwydd a'n pryder mawr. · Sicrhau, fel Landlord ac Awdurdod Statudol yr Harbwr, bod holl delerau'r brydles honno'n cael eu gorfodi'n llawn heb oedi pellach. · Archwilio'r eiddo a chyhoeddi hysbysiadau o unrhyw doriadau o'r telerau hyn o fewn y mis nesaf, ac os yw'r lesddeiliad yn methu â chymryd camau priodol ac effeithiol, dilyn eich hawliau o dan y brydles. · Nodi nad oes gennym ffydd na hyder y bydd y dull Carthu drwy Chwistrellu D?r yn clirio'r tywod trwm sydd angen ei waredu o'r harbwr, sy'n ffurfio'r rhan helaeth o'r gwaddodion sydd wedi cronni, ac nid ydym o'r farn bod hyn yn weithred briodol nac effeithiol. · Rydym am weld yr harbwr a'r marina yn dychwelyd i'r cyflwr gorau posibl, i fod yn gyfleuster diogel, gweithrediadol, deniadol sydd o fudd gwirioneddol i ddefnyddwyr yr harbwr a'n cymuned gyfan.'
Amlinellodd Mr Williams i'r Cyngor y rhesymeg dros y ddeiseb.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth y byddai'r adran yn ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb ac yna byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o Gabinet y Cyngor yn y dyfodol. Yn dilyn y cyflwyniad, rhoddodd Mr. Willians y ddeiseb i'r Cyngor yn ffurfiol.
PENDERFYNWYD cyfeirio'r ddeiseb i'w hystyried gan y Cabinet.
|
||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau.
|
||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 10.1 – 10.10 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor. |
||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
||||||||||
PENTRE AWEL Cofnodion: Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am bartneriaid academaidd posibl nad ydynt hyd yma wedi llofnodi memoranda cyd-ddealltwriaeth gyda'r Awdurdod. Er y byddai'r budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn yr achos hwn hyd nes i'r memoranda cyd-ddealltwriaeth gael ei lofnodi yn drech na hynny.
Cafodd y Cyngor wybod bod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2023 (gweler cofnod 18 o'r cyfarfod hwnnw), wedi ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y contract adeiladu a fforddiadwyedd Parth 1 Pentre Awel.
Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth na fyddai angen cyflwyno'r tabl crynodeb y cyfeiriwyd ato yn argymhellion y Cabinet [gweler cofnod 18.4 ohonynt] i'r Cabinet.
Gwnaeth aelodau ail-bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod cwmnïau a busnesau yng Nghymru ac yn lleol yn cael cyfle i elwa ar adeiladu Pentre Awel ac wedi hynny. Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol sicrwydd bod hon yn elfen bwysig o'r prosiect a'i bod yn cael ei monitro.
Awgrymodd y Prif Weithredwr fod trefniadau'n cael eu gwneud i gynnal sesiwn anffurfiol i aelodau er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Pentre Awel, yn enwedig o ystyried nifer yr aelodau newydd.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:
12.1 Derbyn a nodi cwblhad a chanlyniadau cam cyntaf y contract dylunio ac adeiladu dau gam i ddarparu Parth 12.1 Pentre Awel’;
12.2 'Mynd ymlaen i ail gam y contract gyda Bouygues Construction, yn unol â'r argymhelliad yn yr adroddiad’;
12.3. ‘Nodi'r cynnydd wrth sicrhau cytundebau tenantiaeth’;
12.4. ‘Bod unrhyw
ddiffyg ariannol yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o gyfraniadau
ychwanegol cyllidwyr allanol, cyllid wrth gefn Cyngor Sir ar gyfer
Pentre Awel (Bargen Ddinesig), a chyllid ychwanegol gan y farchnad.
Ar ôl cytuno ar bris Bouygues, bydd tabl crynodeb yn cael ei
rannu gydag Aelodau'r Cabinet
12.5 'Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Prif Weithredwr i barhau i drafod pris terfynol y contract a chytuno ar y pris hwn ar y cyd ag Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau.’
|