Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(Sylwer:

·       Am 12:52pm tynnwyd sylw'r Cyngor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor – Hyd y Cyfarfod – ac, oherwydd y byddai'r cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr am 1:00pm, penderfynwyd gohirio ystyried y rheolau sefydlog, yn unol â Rheol 23.1 o Weithdrefn y Cyngor, er mwyn ystyried yr eitemau a oedd yn weddill ar yr agenda.)

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M.D.Cranham, S.A. Curry, R. James, B.W. Jones, N. Lewis a D.E. Williams.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

H. Shepherdson

5.             Eitem 5 - Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân, Roger Thomas, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'n aelod o Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

K. Broom

6.             Eitem 5 - Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân, Roger Thomas, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'n aelod o Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

K. Madge

7.             Eitem 5 - Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân, Roger Thomas, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'n aelod o Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

K. Madge

Eitem 6.1 - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol 2021/22

 

8.             Eitem 6.2 - Cymeradwyo Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru

Mae ei ferch yn weithiwr cymdeithasol.

 

M. Palfreman

Eitem 6.1 - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol 2021/22

 

9.             Eitem 6.2 - Cymeradwyo Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru

 

Eitem 6.3 - Asesiad Poblogaeth ac Adroddiad ynghylch Sefydlogrwydd y Farchnad Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru

 

Roedd gan y Cynghorydd Palfreman fuddiant personol a rhagfarnol yn rhinwedd paragraff 10(2)(d) o'r Côd Ymddygiad gan ei fod yn gwneud gwaith fel ymgynghorydd i gyrff cyhoeddus (gan gynnwys yr awdurdod hwn) gan gynghori ar faterion sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  

 

Roedd y Cynghorydd Palfreman wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau oedd yn caniatáu iddo siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond nid pleidleisio.  Ar y sail hon, arhosodd yn y cyfarfod a chymerodd ran yn y trafodaethau, ond ni chymerodd ran yn y bleidlais ynghylch eitemau 6.1, 6.2 neu 6.3 ar yr agenda.

S. Godfrey-Coles

Eitem 6.1 - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol 2021/22

 

Ei phartner yw Pennaeth y Gwasanaethau Plant.

 

S. Davies

Eitem 10.2 - Cwestiwn gan y Cynghorydd Hefin Jones i'r Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith.

 

Mae'n cael ei chyflogi gan Dolen Teifi, fel Swyddog Datblygu Trafnidiaeth Gymunedol ar gyfer Llanelli.

 

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.             CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

 

·       Cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Cyngor wedi derbyn achrediad unwaith eto gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn i gydnabod y gwaith yr oedd wedi ei wneud ac yn bwriadu ei wneud. Nod Ymgyrch y Rhuban Gwyn yw rhoi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod.  Fel rhan o'i ymrwymiad i Ymgyrch y Rhuban Gwyn, cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai'r Cyngor yn chwifio baner y Rhuban Gwyn yn Neuadd y Sir, ac yn Neuadd y Dref yn Llanelli a Neuadd y Dref yn Rhydaman, a byddai Neuadd y Sir yn cael ei goleuo gyda'r hwyr ar 25 Tachwedd 2022. Yn ogystal, byddai'r ymgyrch yn cael ei hyrwyddo yn y llythyrau newyddion i staff a Chynghorwyr.

 

·       Ychwanegodd y Cynghorydd Ann Davies, yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd, y byddai'r Cyngor yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd 2022 fel yr oedd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac anogodd bob aelod i ymrwymo i addewid Ymgyrch y Rhuban Gwyn.

 

·       Estynnwyd llongyfarchiadau i Dîm Integredig Gartref yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin a oedd wedi ennill Gwobr GIG Cymru am Drawsnewid Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn ogystal â derbyn y wobr enillydd cyffredinol am Gyfraniad Eithriadol i Drawsnewid Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Roedd Joanna Jones, Uwch-reolwr Darparu ar gyfer Llif System a Gofal Brys, Sarah Vaughan, Rheolwr Ymateb Cymunedol Llesiant Delta, Lisa Davies, Uwch-weithiwr Ailalluogi, ac Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau Integredig, yn bresennol, ac roeddent wedi dod â'u gwobrau.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, fod gwaith y tîm yn werthfawr o ran atal derbyniadau i'r ysbyty a darparu gofal i bobl Sir Gaerfyrddin.

 

·       Yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd, cododd y Cynghorydd Linda Evans ymwybyddiaeth o'r Apêl Teganau Nadolig eleni.  Cydnabu'r Cynghorydd Evans fod y cyn-Gynghorydd Mair Stephens, cyn iddi farw'n gynharach eleni, wedi cynnal yr Apêl Teganau Nadolig ag angerdd gan ddweud ei bod yn anrhydedd parhau â'r Apêl.  Pwysleisiwyd y byddai costau byw cynyddol yn effeithio ar lawer o blant a theuluoedd eleni ac felly anogwyd yr Aelodau i gyfrannu at yr Apêl.

 

·       Cyfeiriodd y Cadeirydd at Ddydd y Cofio a oedd yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 11 Tachwedd a Sul y Cofio ar 13 Tachwedd 2022.  Cynhaliodd yr Aelodau a'r Swyddogion ddwy funud o ddistawrwydd cyn i'r cyfarfod ddod i ben.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

4.1

28AIN MEDI, 2022; pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd y dylai datganiad o fuddiant y Cynghorydd L. Davies ar gyfer Eitem 11.1 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies, gael ei ddiwygio i adlewyrchu'r cofnodion Saesneg fel a ganlyn:

 

‘Merch-yng-nghyfraith yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu;

Chwaer-yng-nghyfraith yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu;

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar ddiwygio'r cofnodion Cymraeg fel y nodwyd uchod, lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022 yn gofnod cywir.

 

 

4.2

12EG HYDREF, 2022. pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022 yn gofnod cywir.</AI6>

 

 

5.

CYFLWYNIAD GAN BRIF SWYDDOG TÂN ROGER THOMAS, AWDURDOD TÂN CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr K. Broom, K. Madge ac H. Shepherdson wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac ailadroddasant eu datganiad ac arosasant yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]

 

Croesawyd Roger Thomas, y Prif Swyddog Tân, a Mrs Sarah Mansbridge, Swyddog Adran 151 Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gan y Cadeirydd i'r cyfarfod. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Tân drosolwg ar waith y Gwasanaeth Tân ac Achub. Roedd y cyflwyniad yn rhoi gwybodaeth fanwl am waith y Gwasanaeth Tân ac yn cynnwys yr heriau gweithredol ac ariannol presennol.

 

Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog Tân a'r Swyddog Adran 151 am ddod i'r cyfarfod ac am y cyflwyniad.

 

 

Media

6.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN A MATERION CYNLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2021/22 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer:

·     Roedd y Cynghorwyr S. Godfrey-Coles a K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac ailadroddasant eu datganiad ac arosasant yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]

 

·     Roedd y Cynghorydd Palfreman wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac ailadroddodd ei ddatganiad ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried ond ni phleidleisiodd.  Roedd y Cynghorydd Palfreman wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid i bleidleisio.] 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 17 Hydref, 2022 (gweler cofnod 7), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22.

 

Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn rhoi trosolwg o'r perfformiad yn ystod 2021/22, ynghyd ag asesiad ynghylch darpariaeth yn y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2022/23. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu heriau blwyddyn na welwyd ei thebyg o'r blaen oherwydd COVID-19 ac yn tynnu sylw at y meysydd hynny oedd i gael eu datblygu yn y flwyddyn gyfredol. 

 

Roedd yn ofynnol yn statudol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn flynyddol wrth y Cyngor ar berfformiad yr ystod gyfan o wasanaethau cymdeithasol a'r modd y cânt eu darparu, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer eu gwella.

 

Talodd aelodau'r Cyngor deyrnged i'r staff sydd wedi bod yn gweithio ar draws iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ystod cyfnod heriol gan ddiolch i Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol am ei ymroddiad i'r gwasanaeth a'i waith caled wrth ddarparu adroddiad cynhwysfawr.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r ymholiadau a godwyd.

 

penderfynwyd bod Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, 2021/22 yn cael ei gymeradwyo.

 

 

6.2

CYMERADWYO STRATEGAETH DEMENTIA PARTNERIAETH GOFAL GORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd Palfreman wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac ailadroddodd ei ddatganiad ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried ond ni phleidleisiodd.  Roedd y Cynghorydd Palfreman wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid i bleidleisio.]

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar
17 Hydref
2022 (gweler cofnod 7) wedi ystyried Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru.  Roedd y Strategaeth, yr argymhellwyd y dylid ei chymeradwyo, wedi'i llunio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro, y Bwrdd Iechyd a phartneriaid yn y trydydd sector, yn ogystal â phobl â dementia, eu gofalwyr, ac aelodau o'r teulu ledled Cymru.  

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, pwysleisiodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod yr adroddiad yn cefnogi sawl amcan allweddol yn y Cynllun Corfforaethol ac Amcan Llesiant y Cyngor i gefnogi pobl h?n er mwyn iddynt heneiddio'n dda a chadw'u hurddas a'u hannibyniaeth wrth wneud hynny.  Hefyd, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymeradwyo'r strategaeth wrth iddi fynd drwy'r broses ddemocrataidd yng Ngheredigion a Sir Benfro ar yr un pryd, ac roedd eisoes wedi'i chymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd. Byddai cymeradwyo'r Strategaeth yn galluogi gwasanaethau i gael eu darparu yn unol ag anghenion y gymuned.

 

penderfynwyd cymeradwyo Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru.

 

 

6.3

ASESIAD POBLOGAETH AC ADRODDIAD YNGHYLCH SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD PARTNERIAETH GOFAL GORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer:

·     Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac ailadroddodd ei ddatganiad ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried ond ni phleidleisiodd.

 

·     Roedd y Cynghorydd Palfreman wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac ailadroddodd ei ddatganiad ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried ond ni phleidleisiodd.  Roedd y Cynghorydd Palfreman wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid i bleidleisio.]

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 17 Hydref 2022 (gweler cofnod 9) wedi ystyried Asesiad Poblogaeth ac Adroddiad ynghylch Sefydlogrwydd y Farchnad Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru.

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r dull a ddefnyddiwyd i lunio'r adroddiad ac yn manylu ar y canfyddiadau allweddol a'r broses gyhoeddi er mwyn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod yn rhaid cyhoeddi Asesiadau Poblogaeth unwaith ym mhob cylch etholiadol llywodraeth leol. Roedd yr Asesiad Poblogaeth cyntaf wedi ei lunio ym mis Mawrth 2017, a byddai'r manylion yn y ddogfen hon yn cael eu hadnewyddu yn ystod 2022.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor atodol i Fyrddau Partneriaeth Ranbarthol yngl?n â llunio Asesiad Poblogaeth 2022 oedd wedi cynnwys yr angen i lunio Adroddiad ynghylch Sefydlogrwydd y Farchnad ar wahân hefyd.

 

Byddai'r ddwy ddogfen, a fyddai'n llywio Cynllun Ardal Gorllewin Cymru ac yn ei dro yn llywio bwriadau comisiynu rhanbarthol a lleol, yn cael eu cyhoeddi gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru ar y porth data ar-lein ar gyfer y rhanbarth: Hafan-Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r ymholiadau a godwyd.

 

PENDERFYNWYD cefnogi canfyddiadau'r adroddiadau llawn ynghyd â'r dull a ddefnyddiwyd i'w cyhoeddi ar wefan y Cyngor.

 

 

7.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

3YDD HYDREF, 2022; pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 3 Hydref, 2022.

 

 

7.2

17EG HYDREF, 2022. pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Hydref, 2022.

 

 

8.

YSTYRIED Y RHYBUDD O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY A'R CYNGHORYDD KEVIN MADGE

Effaith Polisïau Cyllidol Llywodraeth y DU ar Gyllid y Cyngor

 

  • Mae'r Cyngor yn datgan y byddai toriadau pellach mewn gwariant cyhoeddus gan Lywodraeth y DU, sy'n deillio'n bennaf o'r trychineb cyllidol diweddar a achoswyd ganddi hi ei hun, yn ei gwneud hi'n hynod anodd cynnal gwasanaethau yng nghanol argyfwng costau byw. Rydym yn cytuno â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y dylai'r llywodraeth ganolog gamu'n ôl ac ystyried o ddifrif effaith ei pholisïau cyni ar wasanaethau cyhoeddus.  
  • Mae'r Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael digon o gyllid i wneud setliadau Grant Cynnal Refeniw ar gyfer cynghorau ar lefelau a fydd yn ein galluogi i ymateb i bwysau parhaus a diogelu gwasanaethau.  
  • Mae'r Cyngor yn credu y byddai lefel ddigonol o gyllid yn galluogi cynghorau i fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol mewn ffyrdd arloesol er mwyn cefnogi twf, newid bywydau er gwell, a helpu trigolion drwy'r argyfwng costau byw gofidus hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Alun Lenny a'r Cynghorydd Kevin Madge:-

 

“Effaith Polisïau Cyllidol Llywodraeth y DU ar Gyllid y Cyngor

 

·       Mae'r Cyngor yn datgan y byddai toriadau pellach mewn gwariant cyhoeddus gan Lywodraeth y DU, sy'n deillio'n bennaf o'r trychineb cyllidol diweddar a achoswyd ganddi hi ei hun, yn ei gwneud hi'n hynod anodd cynnal gwasanaethau yng nghanol argyfwng costau byw. Rydym yn cytuno â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y dylai'r llywodraeth ganolog gamu'n ôl ac ystyried o ddifrif effaith ei pholisïau cyni ar wasanaethau cyhoeddus.

 

·       Mae'r Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael digon o gyllid i wneud setliadau Grant Cynnal Refeniw ar gyfer cynghorau ar lefelau a fydd yn ein galluogi i ymateb i bwysau parhaus a diogelu gwasanaethau.

 

·       Mae'r Cyngor yn credu y byddai lefel ddigonol o gyllid yn galluogi cynghorau i fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol mewn ffyrdd arloesol er mwyn cefnogi twf, newid bywydau er gwell, a helpu trigolion drwy'r argyfwng costau byw gofidus hwn.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

 

PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig.

 

 

9.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

10.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD LINDA EVANS, AELOD Y CABINET DROS GARTREFI A DIRPRWY ARWEINYDD

“Wrth i'r argyfwng tai yn Nyffryn Aman a Sir Gaerfyrddin waethygu ac wrth i landlordiaid preifat wneud pobl yn ddigartref, yn ogystal â'r posibilrwydd o gyfraddau llog uwch yn y misoedd nesaf, bydd pobl yn colli eu cartrefi. Hoffwn wybod gan yr Aelod Cabinet dros Dai pa gamau fydd yn cael eu cymryd i drosglwyddo'r eiddo canlynol yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus yn y Garnant.  Maent yn wag ers blynyddoedd.  Hefyd pryd bydd yr 8 t? cyngor newydd arfaethedig ar gyfer Maesybedol yn cael eu hadeiladu?

 

1.   232 Heol Cwmaman, y Garnant  SA18 1LS

2.   14 Heol Dinefwr, y Garnant SA18 1NP

3.   9 Heol yr Hendre, y Garnant SA18 2BL

4.   11 Heol yr Hendre, y Garnant SA18 2BL”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Wrth i'r argyfwng tai yn Nyffryn Aman a Sir Gaerfyrddin waethygu ac wrth i landlordiaid preifat wneud pobl yn ddigartref, yn ogystal â'r posibilrwydd o gyfraddau llog uwch yn y misoedd nesaf, bydd pobl yn colli eu cartrefi. Hoffwn wybod gan yr Aelod Cabinet dros Dai pa gamau fydd yn cael eu cymryd i drosglwyddo'r eiddo canlynol yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus yn y Garnant. Maent yn wag ers blynyddoedd.  Hefyd pryd bydd yr 8 t? cyngor newydd arfaethedig ar gyfer Maesybedol yn cael eu hadeiladu?

 

1. 232 Heol Cwmaman, y Garnant SA18 1LS

2. 14 Heol Dinefwr, y Garnant SA18 1NP

3. 9 Heol yr Hendre, y Garnant SA18 2BL

4. 11 Heol yr Hendre, y Garnant SA18 2BL”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans – yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Dirprwy Arweinydd:-

 

Yn gyntaf oll, rwy'n rhannu'r pryderon y mae'r Cynghorydd Madge wedi'u codi am yr argyfyngau tai sy'n effeithio ar bob un ohonom ledled Cymru.  Nid oes amheuaeth nad yw'r galw presennol yn ddigynsail, mae cyfraddau llog wedi cynyddu, mae prisiau tai wedi cynyddu ac mae'r Ddeddf Rhentu Cartrefi newydd yn dod i rym o 1 Rhagfyr ymlaen.  Mae hyn oll yn cyfrannu at y ffaith bod landlordiaid o'r sector preifat yn gadael y farchnad tai rhent ar hyn o bryd. O ganlyniad, mae'n bwysicach nag erioed sicrhau ein bod yn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn ogystal â rheoli'r galw. Diolch byth, rydym mewn sefyllfa well heddiw nag yr oeddem yn ôl yn 2015.  Erbyn hyn, mae gennym 1520 o dai fforddiadwy ychwanegol y gall pobl gael mynediad atynt.  Bydd aelodau'n ymwybodol ein bod yn darparu amrywiaeth o opsiynau i gynyddu'r cyflenwad drwy ein rhaglen adeiladu tai newydd, prynu tai ar y farchnad agored a sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto cyn gynted â phosibl.  Mae 88,473 o dai yn Sir Gaerfyrddin ac ar hyn o bryd mae 1,983 o dai yn y sector preifat sydd wedi bod yn wag ers mwy na 6 mis. 

 

Yn ôl ym mis Ebrill, 2015 roedd 2,671 o dai gwag yn y sir.  Mae'r ffigyrau hyn yn dangos y llwyddiant y mae'r swyddogion wedi'i gael drwy weithio gyda pherchnogion a landlordiaid.  Mae cyfanswm y tai gwag wedi lleihau'n araf yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn ystod 2021/22 llwyddwyd i sicrhau bod 152 o dai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, a Sir Gaerfyrddin oedd y sir ail orau yng Nghymru.  Yn 2020/21, llwyddwyd i sicrhau bod 168 o dai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. 

 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i Gareth Williams a'i dîm am eu hymrwymiad diflino.  Ond, wrth gwrs, fi yw'r cyntaf i gyfaddef a gwerthfawrogi bod mwy i'w wneud a dyna pam rydym wedi sefydlu Bwrdd Gwella mewnol i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. 

 

Cyn bo hir, byddwn yn cyflwyno cynllun tai gwag newydd a fydd yn arwain at ymyrraeth wedi'i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.1

10.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD HEFIN JONES I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS, AELOD Y CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH

“Mae yna drigolion o bob oedran yn ward wledig Llanfihangel Aberbythych, fel yng ngweddill y sir, fydd yn ei chael hi’n anodd fforddio cludiant preifat oherwydd cymaint o gostau cynyddol. O ystyried yr amgylchiadau hyn, a’r angen am gludiant a gyfer gwaith, apwyntiadau meddygol ac ar gyfer addysg a hyfforddiant, os gwelwch yn dda, a wnaiff yr aelod o’r cabinet sy’n gyfrifol am gludiant wneud sylwadau ar edrych i ddefnyddio gwasanaeth bwcabuswedi ei weithredu gan fusnesau sy’n bodoli eisoes - i sicrhau darpariaeth lle mae’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd yn gyfyngedig ar y gorau?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd S. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac ailadroddodd ei datganiad ac arhosodd yn y cyfarfod.]

 

"Mae yna drigolion o bob oedran yn ward wledig Llanfihangel Aberbythych, fel yng ngweddill y sir, fydd yn ei chael hi’n anodd fforddio cludiant preifat oherwydd cymaint o gostau cynyddol. O ystyried yr amgylchiadau hyn, a’r angen am gludiant ar gyfer gwaith, apwyntiadau meddygol ac ar gyfer addysg a hyfforddiant, os gwelwch yn dda, a wnaiff yr aelod o’r cabinet sy’n gyfrifol am gludiant wneud sylwadau ar edrych i ddefnyddio gwasanaeth bwcabus – wedi ei weithredu gan fusnesau sy’n bodoli eisoes - i sicrhau darpariaeth lle mae’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd yn gyfyngedig ar y gorau?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas – yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-

 

Diolch ichi am y cwestiwn.  Mae argyfwng costau byw yn effeithio arnom ni i gyd ac yn wir ar y Cyngor.  Mae storïau newyddion dros y penwythnos yn dangos maint yr her ariannol sy'n wynebu cynghorau ledled y wlad ac rydym wedi clywed ymhellach heddiw am y pwysau sydd ar yr Awdurdod. 

 

Mae gwasanaethau bysiau ledled y sir yn wynebu'r un heriau wrth i gostau ynni a thanwydd gynyddu.  Mae'r sector hefyd yn wynebu prinder gyrwyr a pheirianwyr.  Mae hyn oll yn ychwanegu at bwysau costau yn y sector ar adeg pan ydym yn wynebu cyfyngiadau ar gyllidebau.  Ar hyn o bryd, mae eich ward yn cael ei gwasanaethu gan sawl llwybr - 276, 278, 279 a 284, yn anffodus mae gwasanaethau lleol ar gael unwaith yr wythnos yn unig. Mae'r 280 sy'n gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac yna Gwasanaeth X14 Llanfair-ym-Muallt i Gaerfyrddin hefyd yn cynnwys eich ardal chi ond dim ond ar ddydd Gwener.

 

Mae'r Cyngor wedi datblygu gwasanaethau Bwcabus mewn ardaloedd yn y sir, ond fel pob gwasanaeth, mae angen buddsoddiadau i gynnal y gwasanaethau.  Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ar y cynlluniau i wasanaethau bysiau yn y dyfodol fel rhan o Fetro De-orllewin Cymru.  Rydym hefyd yn gweithio gyda sectorau trafnidiaeth gymunedol i ystyried cyfleoedd i ddatblygu trafnidiaeth gymunedol mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd yn y sir.

Byddaf yn parhau i bwyso am fuddsoddiad y llywodraeth mewn ardaloedd gwledig i gynnal cysylltedd a mynediad at wasanaethau i'n holl gymunedau.  Diolch yn fawr.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Hefin Jones.

 

Diolch, Gynghorydd Thomas, am yr ymateb.  O ystyried eich bod yn sôn am yr ymdrechion parhaus i wella cysylltedd, mae angen i ni fod yn ymwybodol bod 40% o bobl rhwng 16 ac 20 oed, yn ôl arolwg Llywodraeth Cymru ei hun, yn nodi mai trafnidiaeth gyhoeddus yw'r maen tramgwydd iddynt o ran cael mynediad at hyfforddiant pellach.  Amlinellodd y Cynghorydd Thomas yn gywir yr anawsterau ynghylch y llafur sydd ar gael a chostau uwch.  Rwy'n ymwybodol iawn o'r cyllid ychwanegol a gynigiwyd i gadw bysiau ar y ffordd yn ystod Covid, ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.2

10.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD JANE TREMLETT, AELOD Y CABINET DROS IECHYD & GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

“Gofynnaf am y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Aelod Cabinet am y gwasanaethau a'r cyllidebau canlynol yn y Ganolfan Ddydd:-

 

  1. Gofynnaf am y wybodaeth ddiweddaraf am bresenoldeb yn y ganolfan ers cyfarfod diwethaf y Cyngor Sir ar 28 Medi;
  2. Beth yw'r gyllideb bresennol ar gyfer Canolfan Cwmaman a beth yw'r tanwariant ar gyfer 2022/23;
  3. Gofynnaf am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith uwchraddio sydd angen ei wneud yng nghegin y ganolfan;
  4. Dymunaf ofyn i'r Aelod Cabinet ble fydd y bobl oedrannus yn Nyffryn Aman sydd yn eu 80au a'u 90au yn mynd pan na allant wresogi eu cartrefi y gaeaf hwn a phan fydd y ganolfan ddydd ar gau.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Gofynnaf am y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Aelod Cabinet am y gwasanaethau a'r cyllidebau canlynol yn y Ganolfan Ddydd:-

 

1.    Gofynnaf am y wybodaeth ddiweddaraf am bresenoldeb yn y ganolfan ers cyfarfod diwethaf y Cyngor Sir ar 28 Medi;

 

2.    Beth yw'r gyllideb bresennol ar gyfer Canolfan Cwmaman a beth yw'r tanwariant ar gyfer 2022/23;

 

3.    Gofynnaf am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith uwchraddio sydd angen ei wneud yng nghegin y ganolfan;

 

4.    Dymunaf ofyn i'r Aelod Cabinet ble fydd y bobl oedrannus yn Nyffryn Aman sydd yn eu 80au a'u 90au yn mynd pan na allant wresogi eu cartrefi y gaeaf hwn a phan fydd y ganolfan ddydd ar gau.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Jane Tremlett – yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol -

 

Diolch i chi am eich cwestiwn. Fel y gwyddoch, rwyf i a swyddogion wedi cwrdd â chi wyneb yn wyneb ac ar Teams droeon cyn, yn ystod ac ar ôl y pandemig i drafod y mater lleol hwn.

 

Mae pwyntiau 1 2 a 3 yn gwestiynau gweithredol penodol y mae swyddogion yn hapus i'w hateb yn ysgrifenedig drwy lwybr ymholiadau arferol y Gwasanaethau Democrataidd i Gynghorwyr.  Fel Aelod Cabinet rwy'n gweld pob ymholiad ac ymateb ac yn monitro materion sy'n cael eu codi ac rwy'n hapus i ddilyn y mater gyda'r aelodau pe baent yn dymuno hynny.

 

Pwynt 4 - Fel Cyngor, rydym yn cydnabod, yn sgil yr argyfwng costau byw, ac yn benodol costau ynni cynyddol, bod trigolion Sir Gaerfyrddin yn pryderu am sut y gallant wresogi eu cartrefi yn ystod y gaeaf hwn.  Mae'r Cyngor yn gwahodd y rhai sy'n dymuno treulio'r diwrnod mewn amgylchedd cynnes, cyfeillgar a chroesawgar i wneud hynny yn un o'r tair prif lyfrgell, sef Caerfyrddin, Rhydaman a Llanelli, lle bydd pobl yn gallu mwynhau lluniaeth, teledu, cyfrifiaduron a phapurau newydd a lle bydd staff wrth law i roi cyngor am gostau byw a sut i fanteisio ar gymorth posibl.

 

Yn ogystal, gall cymunedau lleol wneud cais am gyllid i ddarparu Mannau Croeso Cynnes yn eu mannau cyfarfod a neuaddau cymunedol.  Gall prosiectau newydd neu brosiectau presennol wneud cais.  Mae'r cynllun Mannau Croeso Cynnes yn cael ei gyllido drwy Gronfa Tlodi'r Cyngor.  Gellir gwneud ceisiadau tan 18 Tachwedd a rhaid defnyddio'r cyllid erbyn Mawrth 2023. 

 

Yr uchafswm cyllid yw £10,000 a'r isafswm cyllid yw £1,000 a gellir ei ddefnyddio at nifer o ddibenion, gan gynnwys datblygu Caffis Cymunedol lle gall trigolion o bob oed gwrdd a chymdeithasu a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol; prosiectau tyfu, clybiau tanwydd ac ati.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Kevin Madge.

 

Mae'n ddrwg gennyf ddweud nad yw'r ateb rwyf wedi'i gael yn dderbyniol.  Yn y cyfarfod fis Medi diwethaf, dywedodd yr Aelod Cabinet fod 20 o gleientiaid felly hoffwn iddo gael ei gofnodi yn y cofnodion bod angen ateb y cwestiynau hynny.  Mae ar gyfer Dyffryn Aman i gyd, nid dim ond fi a fy ward. 

 

A ydym yn dweud nad yw'r Ganolfan Ddydd yn bodoli bellach? Y cwestiwn yw a yw llyfrgell  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.3

11.

CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

11.1 PENDERFYNWYD cymeradwyo enwebu'r Cynghorydd Michael Thomas i gymryd lle'r Cynghorydd Shelly Godfrey-Coles fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Llafur ar y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg.

 

11.2 PENDERFYNWYD cymeradwyo enwebu'r Cynghorydd Shelly Godfrey-Coles i gymryd lle'r Cynghorydd Nysia Evans fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Llafur ar y Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd.

 

11.3 PENDERFYNWYD cymeradwyo enwebu'r Cynghorydd Nysia Evans i gymryd lle'r Cynghorydd Michael Thomas fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Llafur ar y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio.

 

 

12.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar yr agenda ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau