Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, S. Davies, H.A.L. Evans, D. Nicholas, D. Philips a G.B. Thomas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'i Gydymaith wedi cael y pleser o fynd i nifer o ddigwyddiadau ers cyfarfod diwethaf y Cyngor ym mis Medi 2022.

·         Cafwyd cyhoeddiad gan y Cynghorydd Alun Lenny yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn unol â rhan 2 (2)(c) o Reolau Gweithdrefn Gorfforaethol y Cyngor am y pwysau ariannol difrifol y mae'r Cyngor ac Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru yn ei wynebu, yn deillio o'r sefyllfa economaidd bresennol sy'n wynebu'r Deyrnas Unedig drwy gostau byw cynyddol a ddaeth yn sgîl nifer o ffactorau megis y rhyfel yn Wcráin, costau tanwydd ac ynni uchel, chwyddiant uwch na'r hyn y cyllidebwyd ar ei gyfer a chodiadau cyflog.

 

Gallai'r pwysau hynny arwain at y Cyngor yn wynebu diffyg ariannol o rhwng £6m a £22m ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod ac roedd swyddogion yn gweithio'n galed ar sicrhau cyllideb gytbwys, fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Roedd yn bwysig felly bod y Cyngor yn ymuno ag awdurdodau lleol eraill i lobïo Llywodraeth y DU i gael cymorth ariannol cyflawn i gwrdd â chynnydd mewn prisiau ynni a lobïo Llywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol sylweddol. Os na fydd y cymorth ychwanegol hwnnw yn dod i law, roedd y Cyngor yn wynebu gostyngiad digynsail mewn gwasanaethau a/neu gynnydd ffigwr dwbl yn y dreth gyngor.

·         Mynegodd y Cynghorydd Glynog Davies ei longyfarchiadau i Hannah Jones o Frynaman a oedd wedi'i phenodi'n gapten tîm Rygbi Merched Cymru sydd ar hyn o bryd yn chwarae yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd. Mynegodd ei longyfarchiadau i'r tîm ar y fuddugoliaeth dros yr Alban ac anfonodd ei ddymuniadau gorau i'r tîm ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn Seland Newydd

 

Rhoddodd longyfarchiadau hefyd i Ellie Morgan o Frynaman a fu’n gapten ar dîm rygbi Saith Bob Ochr Merched Cymru yn ystod yr haf.

 

4.

I YSTYRIED ARGYMHELLION O'R PWYLLGOR GWASNANAETHAU DEMOCRATAIDD O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

4.1

POLISI CYFARFODYDD AML-LEOLIAD pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad yn manylu ar argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar fabwysiadu Polisi ar gyfer cynnull cyfarfodydd aml-leoliad yn dilyn cyflwyno 'Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021’.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar fabwysiadu polisi ar gyfer cynnull cyfarfodydd aml-leoliad yn cael ei gymeradwyo.

 

4.2

AROLWG - AMSERAU CYFARFODYDD Y CYNGOR pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad yn manylu ar argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar amseriad cyfarfodydd y Cyngor yn dilyn arolwg a gynhaliwyd ymhlith yr aelodau yn unol â darpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith fod yr arolwg wedi cael ei gynnal yn fuan ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol yn ddiweddar pan nad oedd aelodau newydd o bosibl yn gwbl ymwybodol o'r galw ar eu hamser a'r gofyniad am eu presenoldeb yng nghyfarfodydd y Cyngor. Awgrymwyd bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cynnal arolwg o'r newydd ymhen blwyddyn i gael barn yr aelodau unwaith eto. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai modd cynnal arolwg arall.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar amseriad Cyfarfodydd y Cyngor yn cael ei gymeradwyo a bod y trefniadau'n parhau fel y maent ar hyn o bryd.

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau.

 

 

7.

CYFLWYNO DEISEB

Pwnc – Diogelwch ffyrdd a phalmentydd yng Nghastellnewydd Emlyn

Canlyniad a ddymunir

·       Cynnal, neu gaffael, adolygiad diogelwch ffyrdd a phalmentydd trwyadl i'r holl ffactorau sy'n effeithio ar y defnydd diogel o ffyrdd cyhoeddus a phalmentydd yng Nghastellnewydd Emlyn (Stryd y Bont, Stryd y Castell, Lôn yr Eglwys, Stryd y Coleg, Stryd Ebenezer, Sgwâr Emlyn, Maes y Farchnad, Sgwâr y Farchnad, Heol Newydd, Hen Stryd y Graig, Stryd y Porth, Stryd Sycamorwydden, Heol D?r, yr ardal sy'n arwain o faes parcio Lôn Tanyard i Stryd y Coleg (ger yr NFU) a'r tri maes parcio cyhoeddus).

·       Dylai dylunwyr priffyrdd chwilio am gyfleoedd o ran diogelwch sy'n benodol i anghenion Castellnewydd Emlyn a chymhwyso egwyddorion a datrysiadau diogelwch a pheirianneg traffig cadarn er mwyn sicrhau seilwaith ffyrdd a phalmentydd mwy diogel i Gastellnewydd Emlyn. Er enghraifft, gwella'r groesfan sebra bresennol ger gorsaf yr heddlu (neu ei wella a'i newid yn groesfan pâl), gosod ail groesfan sebra neu groesfan bâl ger Neuadd Cawdor (t?r y cloc), cael gwared ar bob rhan ddiangen o'r cwrbin isel,  gosod dyfeisiau dynodi cyflymder a / neu gamerâu cyflymder, gosod rhwystrau diogelwch, cynyddu arwyddion diogelwch.

·       Hyrwyddo ac annog defnydd diogel o ffyrdd cyhoeddus a phalmentydd gan bawb sy’n  ddefnyddwyr y ffyrdd a'r llwybrau troed drwy ddosbarthu cyngor a gwybodaeth ynghyd â'r wybodaeth a gafwyd o'r adolygiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Tref David Thomas i'r cyfarfod a oedd wedi ei wahodd i annerch a chyflwyno'r ddeiseb ganlynol i'r Cyngor ynghylch Diogelwch Ffyrdd a Phalmentydd yng Nghastellnewydd Emlyn. Dywedodd er ei fod yn gynghorydd tref ar ran Castellnewydd Emlyn, roedd yn cyflwyno'r ddeiseb fel preswylydd pryderus.

 

·         Cynnal adolygiad diogelwch ffordd a phalmentydd trwyadl i bob ffactor sy'n effeithio ar y defnydd diogel o ffyrdd cyhoeddus a phalmentydd yng Nghastellnewydd Emlyn Stryd y Bont, Stryd y Castell, Lôn yr Eglwys, Stryd y Coleg, Stryd Ebenezer, Sgwâr Emlyn, Maes y Farchnad, Sgwâr y Farchnad, Heol Newydd, Hen Stryd y Graig, Stryd y Porth, Stryd Sycamorwydden, Heol D?r, yr ardal sy'n arwain o faes parcio Lôn Tanyard i Stryd y Coleg (ger yr NFU) a'r tri maes parcio cyhoeddus.

·         Dylai dylunwyr priffyrdd chwilio am gyfleoedd o ran diogelwch sy'n benodol i anghenion Castellnewydd Emlyn a chymhwyso egwyddorion a datrysiadau diogelwch a pheirianneg traffig cadarn er mwyn sicrhau seilwaith ffyrdd a phalmentydd mwy diogel i Gastellnewydd Emlyn. Er enghraifft, gwella'r groesfan sebra bresennol ger gorsaf yr heddlu (neu ei wella a'i newid yn groesfan pâl), gosod ail groesfan sebra neu groesfan bâl ger Neuadd Cawdor (t?r y cloc), cael gwared ar bob rhan ddiangen o'r cwrbin isel,  gosod dyfeisiau dynodi cyflymder a / neu gamerâu cyflymder, gosod rhwystrau diogelwch, cynyddu arwyddion diogelwch.

·         Hyrwyddo ac annog defnydd diogel o ffyrdd cyhoeddus a phalmentydd gan bawb sy’n  ddefnyddwyr y ffyrdd a'r llwybrau troed drwy ddosbarthu cyngor a gwybodaeth ynghyd â'r wybodaeth a gafwyd o'r adolygiad.

Amlinellodd y Cynghorydd Tref, y Cynghorydd Thomas i'r Cyngor y rhesymeg dros y ddeiseb a oedd wedi derbyn dros 370 o lofnodion yn adlewyrchu pryderon nifer o fasnachwyr, busnesau a'r gymuned ar ddiogelwch ffyrdd a phalmentydd yng Nghastellnewydd Emlyn

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith y byddai'r adran yn ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb ac yna byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o Gabinet y Cyngor yn y dyfodol.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, trosglwyddodd y Cynghorydd Thomas y ddeiseb yn ffurfiol i'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gyfeirio'r ddeiseb at y Cabinet i'w hystyried yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 10.14.

 

8.1

PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD - 8 MEDI 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellwyd ar yr agenda o dan 8.1 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau