Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 8fed Rhagfyr, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, S.A. Curry, A Fox, K. Madge, E. Morgan, S. Matthews, B.D.J. Phillips, B.A.L. Roberts a L.M. Stephens.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S.J.G. Gilasbey

8.1 - Derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2021.

Mae gan y Cynghorydd Gilasbey fuddiant personol a rhagfarnol mewn perthynas â'r adolygiad o'r Ddarpariaeth Addysg Gynradd yn Ardaloedd Mynyddygarreg a Gwenllian, sef mater sy'n rhan o Eitem 5.1. Roedd y Cynghorydd Gillasbey wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad ar y mater ond nid i bleidleisio.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Estynnodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau i'r Cynghorydd Eryl Morgan a oedd wedi cael ei dderbyn i'r ysbyty yn ddiweddar ar ôl cael codwm.  Ar ran y Cyngor, dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i'r Cynghorydd Morgan.

 

·       Estynnodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau i'r Cynghorydd Mair Stephens sy'n anhwylus ar hyn o bryd.

 

·       Roedd y Cadeirydd am ddymuno pen-blwydd hapus iawn i Miss Ethel Lewis a oedd yn 100 oed ar 1 Rhagfyr.  Mae Miss Lewis, gyda chymorth ei theulu a gwasanaeth pryd ar glud, yn byw'n annibynnol yn ei chartref teuluol yn Llandeilo.

 

·       Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Roger Thomas a oedd wedi'i benodi'n Brif Swyddog Tân newydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Byddai Mr Thomas yn dechrau ei swydd newydd ar ôl ymddeoliad y Prif Swyddog Tân presennol, sef Chris Davies, ym mis Ebrill 2022.

 

·       Rhoddodd yr Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran Covid yn Sir Gaerfyrddin.  Tynnodd yr Arweinydd sylw at y ffaith bod yr achos cyntaf o Omicron, amrywiolyn newydd Covid-19, wedi'i gadarnhau yng Nghymru fel y cyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Gwener diwethaf.  Ar sail profiad, roedd yn debygol y byddai nifer yr achosion yn cynyddu wrth i'r amrywiolyn newydd ledaenu drwy gymunedau.  Nid oedd fawr o gadarnhad ynghylch cyfradd drosglwyddo'r amrywiolyn, ond roedd wedi cyrraedd man lle roedd yn cael ei drosglwyddo yn y gymuned yn Lloegr a oedd yn golygu ei bod yn anochel y byddai'n cyrraedd Cymru a Sir Gaerfyrddin gydag amser.

 

Wrth roi trosolwg i'r Aelodau o'r cyngor a roddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ailadroddodd yr Arweinydd bwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd blaenorol, sef mai'r ffordd orau o ddiogelu rhag amrywiolion newydd Coronafeirws fyddai derbyn y brechlyn sy'n cael ei gynnig.  Cadarnhawyd, o ddydd Llun ymlaen, y byddai pob oedolyn yng Nghymru yn cael cynnig brechiad erbyn diwedd mis Ionawr ac anogodd yr Arweinydd bawb a oedd yn bresennol i wneud pob ymdrech i fynd i'w hapwyntiad a derbyn y cynnig.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud cyhoeddiad yn ddiweddarach yr wythnos hon a'i bod yn debygol y byddai mesurau newydd yn cael eu cyflwyno.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r niferoedd ledled Cymru.   Ar 5 Rhagfyr 2021, roedd gan Gymru gyfradd achosion o 484.2 fesul 100,000.  Dywedwyd bod y gyfradd yn Sir Gaerfyrddin wedi gostwng o 483.1 o achosion fesul 100,000 i 421.7 o achosion fesul 100,000.

 

Hefyd, roedd yn galonogol nodi, ar 28 Tachwedd, 2021, fod dros 695,850 o frechlynnau wedi'u rhoi ledled rhanbarth Hywel Dda. Roedd dros 106,000 o'r rhain yn frechlynnau atgyfnerthu.

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y 10 TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 474 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021 yn gofnod cywir.

 

 

5.

YCHWANEGIAD AT GYTUNDEB RHYNG-AWDURDODAU (IAA) PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (WPP) pdf eicon PDF 391 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor adroddiad a roddodd yr atodiad gofynnol i gytundeb rhwng awdurdodau Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w gymeradwyo.

 

Dywedwyd bod y Cytundeb Rhwng Awdurdodau wedi cael ei adolygu gan Weithgor Swyddogion Partneriaeth Pensiwn Cymru a Burges Salmon, sef ymgynghorwyr cyfreithiol Partneriaeth Pensiwn Cymru, i alluogi'r canlynol:

 

·     bod cynrychiolydd aelodau'r cynllun yn gwasanaethu ar Gyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru,

·     penodi Dyranwyr ar gyfer yr Is-gronfeydd Marchnad Breifat,

·     gwahanol fân newidiadau neu ddiweddariadau eraill ers sefydlu Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Roedd atodiad i ganiatáu ar gyfer y newidiadau wedi'i gynnwys yn atodlen 1 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r atodiad i Gytundeb Rhwng Awdurdodau Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

 

6.

CYNLLUN DIRPRWYO I SWYDDOGION A PHROTOCOL AR GYFER CYFLWYNO SYLWADAU I'R CYNGOR SIR YNGHYLCH CEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd fod yr eitem hon wedi'i thynnu'n ôl er mwyn caniatáu i'r Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad gynnal trafodaeth bellach.

 

 

7.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN A MATERION CYNLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

ADFER MYNEDIAD CYHOEDDUS YN GILFACH IAGO pdf eicon PDF 312 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor adroddiad a oedd yn darparu cynnig i wneud cynnydd o ran cwblhau adfer mynediad cyhoeddus ar hen safle glo brig Gilfach Iago drwy sicrhau cyllid ac ymgymryd â'r prosesau cyfreithiol gofynnol.

 

Dywedwyd, pe na bai cymeradwyaeth yn cael ei rhoi, y byddai Celtic Energy yn parhau i fod yn atebol am yr amodau cynllunio presennol mewn perthynas ag adfer ffyrdd a'r hawliau tramwy cyhoeddus ar draws y safle, ffyrdd nad oedd eu hangen.  Yn ogystal, fel y nodwyd yn yr adroddiad, roedd risg uchel na fyddai Celtic Energy yn cyflawni gwaith adfer boddhaol ar hyn o bryd.

 

Ar ôl ymchwilio i'r holl opsiynau ar gyfer adfer mynediad cyhoeddus ar draws yr hen safle glo brig, ystyriwyd mai'r argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad oedd yr opsiwn gorau posibl ar gael o ran y gallu i gyflawni a chyllid.  Argymhellwyd felly y dylid cymeradwyo'r cynnig, a bod yr Awdurdod yn cymryd cyfrifoldeb i sicrhau bod mynediad cyhoeddus priodol yn cael ei adfer mewn modd amserol.

 

Cafwyd ymholiad yngl?n â Celtic Energy ac a oedd y Cyngor yn hyderus y byddai’n derbyn taliad. Dywedwyd, yn unol â'r ateb a argymhellwyd, fel y nodwyd yn yr adroddiad, fod Celtic Energy Ltd wedi bod yn rhan o drafod yr ateb ac felly rhagwelir y bydd yn cydymffurfio'n llawn â'r cytundeb â'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD

7.1.1.   cymeradwyo'r cynnig i wneud cais i'r Llys Ynadon am ailddosbarthu tair ffordd ddiddosbarth i statws llwybr ceffylau;

 

7.1.2.    derbyn y setliad ariannol a gynigir gan Celtic Energy i gyflawni a chymryd cyfrifoldeb dros yr holl waith adfer mynediad cyhoeddus ar draws yr hen safle glo brig.

 

 

8.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

8 TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cyng. S J.G. Gilasbey wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r eitem gael ei thrafod ond yna gadawodd cyn cynnal y bleidlais.  Mae gan y Cynghorydd Gilasbey ollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid i bleidleisio.]

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn perthynas â rhif 5.1, cadarnhawyd bod yr adolygiad o BOB ysgol yn Sir Gaerfyrddin wedi dechrau fel rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg.  Fodd bynnag, oherwydd natur gymhleth yr adolygiad, ni phenderfynwyd eto pryd y byddai'r adolygiad yn cael ei gwblhau.  Sicrhawyd yr Aelodau y byddent yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd, 2021.

 

 

8.2

22 TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2021.

 

 

9.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES

Bod y Cyngor hwn yn:

 

1)    Cydnabod ymdrech fawr a phroffesiynoldeb Heddlu Dyfed Powys wrth gyflawni ei ddyletswyddau.

 

2)    Cydnabod pa mor bwysig yw galwadau gan aelodau o'r cyhoedd o ran cynorthwyo'r Heddlu drwy roi gwybod am ddigwyddiadau a rhoi gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â throsedd ac anhrefn.

 

3)    Nodi bod trigolion Sir Gaerfyrddin yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y system galwadau 101 o ran adrodd oherwydd oedi hir wrth ateb.

Felly mae'r Cyngor yn:

 

Gofyn yn barchus i Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys drefnu i ailwampio'r system galwadau 101 a fydd yn adennill hyder trigolion Sir Gaerfyrddin wrth ddefnyddio'r system hon, a fydd yn ei dro yn rhoi darlun mwy cywir o ystadegau sy'n ymwneud â throsedd ac anhrefn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd John James:-

 

“Bod y Cyngor hwn:

 

1)    Yn cydnabod y proffesiynoldeb a'r ymdrechion mawr y mae Heddlu Dyfed-Powys yn eu gwneud wrth gyflawni ei ddyletswyddau

 

2)    Yn cydnabod ymhellach mor bwysig yw galwadau gan aelodau o'r cyhoedd o ran cynorthwyo'r Heddlu drwy riportio digwyddiadau a rhoi gwybodaeth am faterion yn ymwneud â throseddau ac anhrefn.

 

3)    Yn nodi bod trigolion Sir Gaerfyrddin yn ei chael hi'n anodd defnyddio'r system galw 101 i riportio digwyddiadau oherwydd oedi hir cyn ateb.

 

Mae'r Cyngor felly:

 

Yn galw, gyda pharch, ar Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys i gychwyn ailwampio'r system galw 101 a fydd yn adfer hyder trigolion Sir Gaerfyrddin wrth ddefnyddio'r system hon a fydd yn ei dro yn rhoi darlun mwy cywir o ystadegau troseddau ac anhrefn.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed datganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais 

 

PENDERFYNWYD cefnogi'r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol a'i gyfeirio i'r Cabinet.

 

 

10.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

11.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

11.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD GARY JONES I'R CYNGHORYDD ALUN LENNY, CADEIRYDD Y PWYLLGOR CYNLLUNIO

“O ystyried y fenter wych gan Gyngor Sir Caerfyrddin o ran gweithio ar strategaeth newydd i ddatblygu nodweddion a mannau awyr agored naturiol, a ellir herio ceisiadau cynllunio ar y CDLl presennol a'r CDLl arfaethedig drwy'r strategaeth hon? Os felly, oni ddylai hyn fod ar frig unrhyw ystyriaethau pan ddaw ceisiadau cynllunio i law, ynghyd â barn trigolion am gadw mannau Gwyrdd yn eu bro?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

“O ystyried y fenter wych gan Gyngor Sir Caerfyrddin o ran gweithio ar strategaeth newydd i ddatblygu nodweddion a mannau awyr agored naturiol, a ellir herio ceisiadau cynllunio ar y CDLl presennol a'r CDLl arfaethedig drwy'r strategaeth hon? Os felly, oni ddylai hyn fod ar frig unrhyw ystyriaethau pan ddaw ceisiadau cynllunio i law, ynghyd â barn trigolion am gadw mannau Gwyrdd yn eu bro?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny - Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio:-

 

Hoffwn ddiolch i'r Cynghorydd Gary Jones am y cwestiwn – gan mai dyma'r cwestiwn cyntaf i mi ei gael yn ystod dros chwe blynedd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio! Fodd bynnag, rhaid imi gyfaddef fy mod wedi drysu ychydig ynghylch pam y cyfeirir y cwestiwn ataf i, gan fod gennym Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Gynllunio – gan gynnwys y Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas a'r CDLl ar ei newydd wedd.  Ond does dim ots, rwy'n ddigon hapus i ymateb.  

 

Fel y g?yr yr aelodau, nod y strategaeth seilwaith gwyrdd a glas yw creu rhwydwaith o fannau a choridorau naturiol a lled-naturiol rhwng trefi a phentrefi, ac yn mynd drwyddynt – parciau, rhandiroedd, perthi, coetiroedd ac yn y blaen.  Yn wir, mae'n fenter ragorol a allai helpu i gyflawni llawer o amcanion corfforaethol y Cyngor, gan gynnwys datgan argyfwng hinsawdd ym mis Chwefror 2019.  

 

Wrth gwrs, mae nifer o bolisïau eisoes wedi'u cynnwys yn y CDLl presennol sy'n adlewyrchu'r pwyslais ar warchod a gwella'r amgylchedd naturiol, yn ogystal â hyrwyddo dylunio da – megis tai carbon niwtral.  Datblygwyd yr agenda hon ymhellach yn y CDLl Diwygiedig lle mae creu lleoedd a seilwaith gwyrdd yn rhan fawr o'r gofynion ar gyfer datblygiadau newydd.   

 

Mae'r CDLl a phenderfynu ar geisiadau cynllunio yn seiliedig ar brosesau ymgynghori – gan gynnwys y rhai ag aelodau o'r cyhoedd a'n cydweithwyr mewn Parciau a Hamdden, ac Ecoleg. Mae'r rhain yn cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau, ac mae unrhyw sylwadau cynllunio perthnasol a thystiolaeth yn cael sylw dyledus fel rhan o'r broses hon.  

 

O ran y Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas, yn wir, bydd yn cael ei defnyddio i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ac i lywio'r CDLl Diwygiedig sy'n cael ei ddatblygu – ochr yn ochr â llawer o wybodaeth, polisïau a thystiolaeth arall.  Er nad yw o reidrwydd yn bwysicach na ffactorau eraill, caiff y strategaeth ei llywio gan ymatebion i'r ymgynghoriad gan amrywiaeth o gyrff a phartïon â buddiant – a rhoddir ystyriaeth lawn i adborth o'r fath bob amser.  

 


Mae'n rhaid inni fel Cyngor, a'r Pwyllgor Cynllunio, bwyso a mesur gofynion amrywiol yn erbyn polisïau a thystiolaeth bob amser ac ystyried materion mewn modd mor wrthrychol â phosibl. Mae gan gynllunio berthynas allweddol â gweledigaeth adfywio'r cyngor hwn a'r modd y caiff ei rhoi ar waith.  Rydym yn buddsoddi miliynau o bunnoedd yn Llanelli yn enwedig, yng Nghaerfyrddin, yn Rhydaman ac yn ein trefi marchnad llai mewn ardaloedd gwledig. Mae ar bobl ifanc angen addysg ar gyfer yr 21ain ganrif, swyddi da –  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.1

11.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD GARY JONES I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS, YR AELOD CABINET DROS YR AMGYLCHEDD

“Des i o hyd i'r blwch nwy hwn wrth gasglu sbwriel yn y pentref. Does dim gwybodaeth ar y botel ynghylch ble i'w dychwelyd, felly archebais slot yn Nhrostre. Roeddwn yn gwybod y byddai tâl ond cefais fy syfrdanu gan y tâl o £20. Bydd hyn yn annog pobl i beidio â'u dychwelyd yma a bydd yn atal pobl rhag ailgylchu. Deallaf fod 'Cwm Environmental' yn gwmni annibynnol, ond a allwn ddylanwadu arno mewn unrhyw ffordd i ddiwygio hyn, a chodi tâl mewn enw?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Des i o hyd i'r blwch nwy hwn wrth gasglu sbwriel yn y pentref. Does dim gwybodaeth ar y botel ynghylch ble i'w dychwelyd, felly archebais slot yn Nhrostre. Roeddwn yn gwybod y byddai tâl ond cefais fy syfrdanu gan y tâl o £20. Bydd hyn yn annog pobl i beidio â'u dychwelyd yma a bydd yn atal pobl rhag ailgylchu. Deallaf fod 'Cwm Environmental' yn gwmni annibynnol, ond a allwn ddylanwadu arno mewn unrhyw ffordd i ddiwygio hyn, a chodi tâl mewn enw?”

 

Ymateb y Cynghorydd Hazel Evans - yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:-

 

Mae'r taliadau a godir ar hyn o bryd gan CWM yn adlewyrchu cost wirioneddol gwaredu blychau nwy gan eu bod yn cael eu hystyried yn wastraff peryglus a rhaid eu gwaredu mewn modd diogel a phriodol. Mae'r tâl yn cwmpasu'r costau gweithredol sy’n gysylltiedig â thrin, storio, cludo a gwaredu gan arbenigwr awdurdodedig.

 

Oherwydd yr amrywiaeth eang o silindrau a dderbynnir, e.e. diffoddwyr tân, bylchau nwy, silindrau heliwm, silindrau nwy Calor ac ati mae CWM yn codi dau fath o dâl: £20.00 ar gyfer silindrau mawr ac £8 ar gyfer silindrau llai.

 

Er y gallaf ddeall sail y cwestiwn, rydym wrth gwrs yn dibynnu ar bobl i waredu'r eitemau mewn modd cyfrifol. Bydd dyletswydd gofal ar weithredwyr masnachol i waredu eitemau o'r fath mewn modd diogel. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y bydd rhywfaint o arferion diegwyddor yn digwydd a allai achosi problemau yn ein cymunedau.

 

Rwy'n fodlon ymchwilio i'r mater i gadarnhau'r ffeithiau. Mae CWM, wrth gwrs, yn endid masnachol ynddo'i hun felly ni fyddai disgwyl i CWM ysgwyddo'r costau gwaredu. Y Cyngor fyddai'n gwneud hynny. Fel yr ydych wedi dweud, mae mannau sy'n derbyn y silindrau yn ôl.

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau ategol.

 

 

 

12.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 12.1 – 12.3 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.

 

 

13.

EITEMAU BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2.4 cytunodd y Cadeirydd, yn dilyn cais, i ganiatáu cais brys am y wybodaeth ddiweddaraf am y difrod a achoswyd o ganlyniad i Storm Barra. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth Aelodau'r Cyngor fod y gwyntoedd difrifol gyda'r hwyr wedi achosi difrod strwythurol helaeth i ddau adeilad Cyngor gan bwysleisio nad oedd unrhyw un wedi'i anafu.

 

Dywedwyd bod y gwynt wedi tynnu rhan o do Ysgol Bryngwyn a bod asesiad llawn o'r difrod yn cael ei gynnal yn ystod y bore hwnnw.  Er bod y to wedi'i wneud yn ddiogel gyda chymorth y Gwasanaeth Tân, roedd y briffordd yn dal i fod ar gau. Yn y cyfamser, byddai holl ddisgyblion Ysgol Bryngwyn yn dysgu ar-lein.  Byddai cynlluniau adfer ac atgyweirio yn cael eu llunio yn unol â hynny.

 

Dywedwyd ymhellach fod difrod sylweddol wedi'i achosi i do un o'r adeiladau sy'n cael eu datblygu fel rhan o Gynllun Denu Pentywyn.  Roedd malurion y to wedi'u chwythu i dir y Weinyddiaeth Amddiffyn.  Byddai gwybodaeth yn cael ei rhannu â phartïon perthnasol yn y pentref.

 

Yn ogystal, roedd timau wedi ymateb i nifer o alwadau gan denantiaid.

Roedd yr Aelodau am ddiolch i'r holl staff, contractwyr a gwasanaethau brys a weithiodd yn ddiflino drwy gydol y nos i wneud sefyllfaoedd yn ddiogel mewn tywydd garw.