Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr E. Dole, P. Edwards, A. Fox, C.J. Harris, H.B. Shepardson, B. Thomas a J. Tremlett.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad dwysaf, ar ran yr Aelodau Etholedig a'r Uwch-swyddogion, i'r Cynghorydd Jane Tremlett a'i theulu ynghylch eu colledion diweddar;
· Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Jim Jones yn ôl yn dilyn ei salwch diweddar;
· Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Edward Thomas am ei wahoddiad i de prynhawn yn Llandeilo ar 23 Hydref 2021;
· Dywedodd y Cadeirydd wrth y Cyngor ei fod ef a'i wraig Joyce, ar 30 Hydref 2021, wedi mwynhau perfformiad o 'Joseph and his Amazing Technicolour Dreamcoat' gan Theatr Ieuenctid Porth Tywyn. Diolchodd i'r Theatr Ieuenctid am y gwahoddiad;
· Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Ann Davies a'i thîm ar eu llwyddiant yn Seremoni Wobrwyo Flynyddol Mudiad Meithrin yn ddiweddar;
· Dywedodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ken Lloyd, ei fod wedi cynrychioli'r Cadeirydd yn ddiweddar yn lansiad Apêl Flynyddol y Pabi yn nhref Caerfyrddin a noson elusennol gyda Maer Llanelli;
· Cyhoeddodd y Cynghorydd Ann Davies fod y Cyngor unwaith eto wedi derbyn achrediad gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn i gydnabod y gwaith yr oedd wedi'i wneud ac yn bwriadu ei wneud. Byddai'r Cyngor, fel rhan o'i ymrwymiad, yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd 2021 fel yr oedd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac anogodd y Cynghorydd Davies yr holl aelodau i ymrwymo i addewid Ymgyrch y Rhuban Gwyn;
· Diolchodd y Cynghorydd Jeanette Gilasbey i bawb, gan gynnwys y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r gwasanaethau brys, a oedd wedi helpu'r trigolion yn dilyn y llifogydd diweddar yng Nghydweli;
· Llongyfarchodd y Cynghorydd Hazel Evans Nicola Olsson, Swyddog Cynorthwyol Diogelwch Ffyrdd, ar y wobr a dderbyniodd gan Gymdeithas Ceffylau Prydain i gydnabod y gwaith yr oedd wedi'i wneud i ddatblygu arwydd ffordd i ddiogelu ceffylau. Ers hynny, roedd yr arwydd wedi'i gymeradwyo gan Bartneriaeth Diogelwch Ffyrdd Cymru;
· Llongyfarchodd a diolchodd y Cynghorydd Hazel Evans i bawb a fu'n rhan o'r cais llwyddiannus i'r Gronfa Codi'r Gwastad gan Lywodraeth y DU am £16.7 miliwn ar gyfer Llwybr Beicio Dyffryn Tywi, gan gynnwys Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Diolchodd y Cynghorydd Evans hefyd i'r holl swyddogion a oedd yn gyfrifol am baratoi a chyflwyno'r cais a thalodd deyrnged i'r Tîm Rheoli Corfforaethol a'r Cabinet am eu gweledigaeth i gefnogi'r prosiect;
· Llongyfarchodd y Cynghorydd Rob James gr?p o Gynghorwyr Sir yn Llanelli, dan arweiniad y Cynghorydd Rob Evans, a oedd wedi camu i'r adwy i werthu pabïau ar ran y Lleng Brydeinig Frenhinol pan nad oedd cyn-filwyr yn gallu gwneud hynny;
· Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran Covid yn Sir Gaerfyrddin. Ddydd Llun cofnododd Sir Gaerfyrddin 483.1 achos i bob 100,000, o'i gymharu â 537.2 i bob 100,000 yn y 7 diwrnod blaenorol – gostyngiad o 54.1 achos i bob 100,000. Y ffigur ar 11 Hydref 2021 oedd 579.5 i bob 100,000 ac, yn ystod y 4 wythnos diwethaf felly, bu gostyngiad o tua 100 achos i bob 100,000. Er bod pethau'n symud i'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION - 13EG HYDREF, 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2021 gan eu bod yn gywir.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar ganlyniad adolygiad o gyfansoddiad Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Rheoleiddio a phwyllgorau eraill y Cyngor yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd S. Najmi o'r Gr?p Annibynnol Newydd a dod yn aelod heb gysylltiad pleidiol. Nodwyd, o ganlyniad i'r ymddiswyddiad, y byddai cynrychiolaeth y Gr?p Annibynnol Newydd ar bwyllgorau ddau yn llai ac y byddai cynrychiolaeth aelodau heb gysylltiad pleidiol ddau yn fwy. Nid oedd dyraniad y seddi a ddelir gan Gr?p Plaid Cymru, y Gr?p Annibynnol a'r Gr?p Llafur wedi newid.
Mewn ymateb i'r newidiadau gofynnol, fel y nodir yn nhabl 3 yr adroddiad, roedd y Gr?p Annibynnol Newydd wedi cytuno i roi'r gorau i'w ddwy sedd ar y Pwyllgor Cynllunio a fyddai'n cael eu hailddyrannu i'r aelodau heb gysylltiad pleidiol.
PENDERFYNWYD, o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor:
5.1 fabwysiadu'r newidiadau i nifer y seddi a ddelir gan y Gr?p Annibynnol Newydd a'r Aelodau heb Gysylltiad Pleidiol, fel y manylir yn Nhablau 1, 2 a 3 yr adroddiad; 5.2 yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2 (2) (n), cymeradwyo newidiadau yn aelodaeth y Pwyllgorau yn sgil penderfyniad 5.1 uchod (fel y manylir yn yr adroddiad); 5.3 nodi nad oes dim newidiadau i nifer y seddi a ddelir gan Gr?p Plaid Cymru, y Gr?p Llafur a'r Gr?p Annibynnol ar y Cyngor; 5.4. yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, nodi nad yw'r trefniadau presennol ar gyfer dyrannu'r pum sedd ar bwyllgorau craffu yn newid.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN A MATERION CYNLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2019/21 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2021 (cofnod 12), wedi ystyried Adroddiad Monitro Blynyddol 2019/21 ynghylch Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin, a luniwyd yn unol â Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2005. Er barnu bod cynnydd wedi'i wneud o ran gweithredu llawer o bolisïau ac amcanion y Cynllun a fabwysiadwyd, roedd elfennau a rhannau ohono nad oeddent yn cael eu cyflawni yn ôl y bwriad. Roedd pandemig Covid-19 a'r cyfyngiadau cysylltiedig wedi ychwanegu at y broblem. Yn hyn o beth, roedd yn anochel bod rhai o ganfyddiadau'r adroddiad yn adleisio'r heriau a brofwyd gan rai sectorau a chymdeithas.
Nodwyd, yn unol â dyletswydd statudol y Cyngor, fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref 2021. Byddai ymgynghoriad anffurfiol yn cyd-fynd â hyn er mwyn rhoi cyfle i bartïon â diddordeb roi sylwadau ar y materion allweddol a godwyd. Er nad oedd yn ofyniad statudol, roedd yr ymgynghoriad yn gyfle pwysig i gyflwyno sylwadau, a lle bo'n briodol, i'r sylwadau hynny gyfrannu at gynnwys Adroddiadau Monitro Blynyddol dilynol. Byddai cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol presennol, ynghyd â chynnwys y tair dogfen flaenorol, yn cael ei ddefnyddio wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018 – 2033 a'i sylfaen dystiolaeth gysylltiedig.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:
“y dylid cymeradwyo'r Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, ac awdurdodi swyddogion i wneud newidiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen i wella ei eglurder a'i gywirdeb.”
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2021.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Broom wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2021.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD GARETH JOHN "Dymuna'r Cyngor gofnodi ei werthfawrogiad o'r weledigaeth a ddangoswyd gan ein Cabinet a diolch yn ddiffuant am y gwaith aruthrol a wnaed gan ein swyddogion proffesiynol sy'n gweithredu o fewn amserlen mor dynn mewn amgylchiadau anodd, gan weithio'n hanfodol gyda phartneriaid eraill, i sicrhau cyllid yn llwyddiannus gan Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU ar gyfer prosiectau mawr yn Sir Gaerfyrddin". Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd C.A. Davies wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach ac nid oedd yn bresennol tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod.]
Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Gareth John:-
“Dymuna'r Cyngor gofnodi ei werthfawrogiad o'r weledigaeth a ddangoswyd gan ein Cabinet a diolch yn ddiffuant am y gwaith aruthrol a wnaed gan ein swyddogion proffesiynol sy'n gweithredu o fewn amserlen mor gaeth mewn amgylchiadau anodd, gan weithio'n hanfodol gyda phartneriaid eraill, i lwyddo i sicrhau cyllid gan Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU ar gyfer prosiectau mawr yn Sir Gaerfyrddin”.
Eiliwyd y cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.
PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY “COEDWIGO CYFRIFOL – DULL CYNALIADWY NAD YW'N ECSBLOETIOL
Mae'r Cyngor yn mynegi ei bryder ynghylch prynu ffermydd teuluol yn Sir Gaerfyrddin a'r rhanbarth ehangach gan gwmnïau rhyngwladol i blannu coed er mwyn creu 'credydau carbon' sy'n cael eu gwerthu i gwmnïau sy'n llygru i gyrraedd eu targedau gwrthbwyso carbon.
Er ei fod yn derbyn bod plannu coed ar raddfa fawr yn cael ei gydnabod fel un ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae'r Cyngor yn gresynu bod gwrthbwyso carbon yn caniatáu i'r cwmnïau sy'n gollwng llawer o garbon barhau â'u hymddygiad anghynaliadwy.
At hynny, mae'r Cyngor yn nodi bod cwmnïau rhyngwladol eisoes wedi hawlio dros £1.3m gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa Glastir - Creu Coetir, sy'n golygu bod trethdalwyr Cymru yn rhoi cymhorthdal i raglenni gwrthbwyso carbon cwmnïau o'r tu allan i Gymru.
Mae'r Cyngor yn cefnogi'r egwyddor o goedwigaeth gyfrifol ond mae'n credu bod yn rhaid gwneud hyn mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol, ac ni ddylai gael effaith andwyol ar gyflogaeth leol, diwylliant a hyfywedd cymunedol.
Mae'r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
Mae'r Cyngor yn cydnabod barn ymgyrchwyr amgylcheddol nad ateb syml yw plannu coed i osgoi newid yn yr hinsawdd ac mae'n cytuno mai dim ond cwtogiad sydyn ar losgi tanwydd ffosil all atal y cynnydd parhaus a brawychus mewn tymheredd byd-eang”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr S.M Allen, C. Campbell, A. James, K. Lloyd, A.D.T. Speake a D.E. Williams wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach ac nid oeddent yn bresennol tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod. Roedd y Cynghorwyr K.V. Broom, T.A.J. Davies, J.M. Charles, C.A. Davies, J.A. Davies, W.T. Evans, G.B. Thomas a J.E. Williams hefyd wedi datgan buddiant ond gwnaethant aros yn y cyfarfod].
Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Alun Lenny:-
“COEDWIGO CYFRIFOL – DULL CYNALIADWY NAD YW'N ECSBLOETIOL
Mae'r Cyngor yn mynegi ei bryder ynghylch prynu ffermydd teuluol yn Sir Gaerfyrddin a'r rhanbarth ehangach gan gwmnïau rhyngwladol i blannu coed er mwyn creu 'credydau carbon' sy'n cael eu gwerthu i gwmnïau sy'n llygru i gyrraedd eu targedau gwrthbwyso carbon.
Er ei fod yn derbyn bod plannu coed ar raddfa fawr yn cael ei gydnabod fel un ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae'r Cyngor yn gresynu bod gwrthbwyso carbon yn caniatáu i'r cwmnïau sy'n gollwng llawer o garbon barhau â'u hymddygiad anghynaliadwy.
At hynny, mae'r Cyngor yn nodi bod cwmnïau rhyngwladol eisoes wedi hawlio dros £1.3m gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa Glastir - Creu Coetir, sy'n golygu bod trethdalwyr Cymru yn rhoi cymhorthdal i raglenni gwrthbwyso carbon cwmnïau o'r tu allan i Gymru.
Mae'r Cyngor yn cefnogi'r egwyddor o goedwigaeth gyfrifol ond mae'n credu bod yn rhaid gwneud hyn mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol, ac ni ddylai gael effaith andwyol ar gyflogaeth leol, diwylliant a hyfywedd cymunedol.
Mae'r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
Mae'r Cyngor yn cydnabod barn ymgyrchwyr amgylcheddol nad ateb syml yw plannu coed i osgoi newid yn yr hinsawdd ac mae'n cytuno mai dim ond cwtogiad sydyn ar losgi tanwydd ffosil all atal y cynnydd parhaus a brawychus mewn tymheredd byd-eang”.
Eiliwyd y cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.
PENDERFYNWYD y Cyngor gefnogi'r Cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr aelodau.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MAE'R GRWP ANNIBYNNOL NEWYDD WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD SHAREN DAVIES I LENWI'R SEDD A OEDD YN PERTHYN YN GYNT I'R CYNGHORYDD SHAHANA NAJMI AR Y PWYLLGOR CRAFFU - ADDYSG A PHLANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad y Cynghorydd S.L. Davies i gymryd lle'r Cynghorydd S. Najmi fel cynrychiolydd y Gr?p Annibynnol Newydd ar y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES Bod y Cyngor:
- Yn nodi'r penderfyniad a wnaed gan weinyddiaeth Plaid ac Annibynnol yn 2016 i "beidio [ymateb] i geisiadau ar eiddo preifat ynghylch Clymog Japan a phlanhigion estron goresgynnol eraill na chymryd camau gweithredu ffurfiol yn eu cylch". - Yn cydnabod bod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi rhoi pwerau i Gynghorau gyhoeddi 'Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol' i fynd i'r afael â chlymog ar dir preifat sy'n cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd yr ardal ac sy'n barhaus ac yn afresymol. - Yn cydnabod bod Cynghorau rhagweithiol, fel Bryste, wedi defnyddio'r pwerau hyn i gefnogi preswylwyr, sydd wedi cael effaith negyddol ar eu bywydau gan fethiant tirfeddianwyr i reoli clymog. - Yn galw ar y weinyddiaeth Plaid ac Annibynnol hon i wrthdroi eu penderfyniad a dechrau defnyddio Grwpiau Trawsbleidiol i gefnogi'r mater o glymog ar dir preifat gan achosi effaith andwyol ar breswylwyr mewn llawer o gymunedau sir Gaerfyrddin”.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:-
“Bod y Cyngor:
- Yn nodi'r penderfyniad a wnaed gan y weinyddiaeth Plaid ac Annibynnol yn 2016 i "beidio ag [ymateb] i geisiadau ynghylch clymog Japan a phlanhigion anfrodorol ymledol eraill ar eiddo preifat na chymryd unrhyw gamau ffurfiol mewn perthynas â'r mater hwn". - Yn cydnabod bod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi rhoi pwerau i gynghorau roi 'Hysbysiadau Gwarchod Cymuned' i fynd i'r afael â chlymog ar dir preifat sy'n cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd yr ardal ac sy'n barhaus ac yn afresymol. - Yn cydnabod bod cynghorau rhagweithiol, fel Bryste, wedi defnyddio'r pwerau hyn i gynorthwyo trigolion y mae methiant tirfeddianwyr i reoli clymog wedi cael effaith negyddol ar eu bywydau. - Yn galw ar y weinyddiaeth Plaid ac Annibynnol hon i wrthdroi ei phenderfyniad a dechrau defnyddio Hysbysiadau Gwarchod Cymuned i fynd i'r afael â mater clymog ar dir preifat sy'n cael effaith andwyol ar drigolion mewn llawer o gymunedau yn Sir Gaerfyrddin”.
Eiliwyd y cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r Cynnig gan y Cynghorydd D. Thomas a chafodd ei eilio:
“Bod y Cyngor: • Yn nodi'r penderfyniad a wnaed gan y weinyddiaeth Plaid ac Annibynnol yn 2016 i "beidio ag [ymateb] i geisiadau ynghylch clymog Japan a phlanhigion anfrodorol ymledol eraill ar eiddo preifat na chymryd unrhyw gamau ffurfiol mewn perthynas â'r mater hwn, a oedd, ac sy'n dal i fod, yn unol â dull gweithredu cynghorau eraill Cymru. • Yn cydnabod bod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi rhoi pwerau i gynghorau roi 'Hysbysiadau Gwarchod Cymuned' i fynd i'r afael â chlymog ar dir preifat sy'n cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd yr ardal ac sy'n barhaus ac yn afresymol. • Yn nodi bod Bryste, y tu allan i Gymru, wedi defnyddio'r pwerau hyn i gynorthwyo trigolion y mae methiant tirfeddianwyr i reoli clymog wedi cael effaith negyddol ar eu bywydau. • Yn galw ar y weinyddiaeth Plaid ac Annibynnol hon i wrthdroi ei phenderfyniad a dechrau defnyddio Hysbysiadau Gwarchod Cymuned i fynd i'r afael â mater clymog ar dir preifat sy'n cael effaith andwyol ar drigolion mewn llawer o gymunedau yn Sir Gaerfyrddin. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog cynghorau eraill i ystyried cymryd camau tebyg.”
Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Gwelliant siarad o'i blaid a rhoesant amlinelliad o'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Gwelliant.
Gwnaed nifer o ddatganiadau a gefnogai'r Cynnig a'r Gwelliant.
Dywedwyd wrth y Cyngor, pe bai'r Gwelliant yn cael ei dderbyn, mai dyma fyddai'r Cynnig terfynol a fyddai, pe bai'n cael ei gefnogi, yn cael ei gyfeirio at y Cabinet.
Yn dilyn y bleidlais
PENDERFYNWYD cefnogi'r Cynnig, fel y'i diwygiwyd, a'i gyfeirio at y Cabinet.
|