Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Edwards, A. Fox, A. James, T.J. Jones, A.S.J.  McPherson S. Najmi, B.A.L. Roberts ac E. Schiavone.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau yn y cyfarfod.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

·         Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant ar ran yr Aelodau Etholedig a'r Uwch-swyddogion i'r Cynghorydd Louvain Roberts a'i theulu yn dilyn marwolaeth ei g?r, Mel yn gynharach y mis hwn;

 

·         Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Mr Eric a Mrs Betty Jones, Twyn, Y Garnant, a oedd wedi dathlu 70 mlynedd o briodas ddiwedd mis Medi;

 

·         Estynnodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau i Mrs Irene Williams o Langynnwr a fyddai'n dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ar 30 Hydref 2021.

 

·         Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Jonney Clayton, un o weithwyr y Cyngor, ar ennill Grand Prix Dartiau'r Byd 2021;

 

·         Dywedodd yr Is-gadeirydd, Y Cynghorydd Ken Lloyd ei fod wedi mynychu Noson Wobrwyo a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Sgowtiaid Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar ar ran y Cadeirydd.

 

·         Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'i gydymaith, Mrs Joyce Williams ar 9 Medi wedi cael y pleser o gwrdd â Nerys Davies a oedd wedi beicio o Tignes yn Ffrainc i Gapel Bryn Iwan, Sir Gaerfyrddin sef pellter o dros 1,000 o filltiroedd er mwyn codi arian ar gyfer Calon Cymru.

 

·         Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cadeirydd a'i gydymaith wedi mynychu Gwasanaeth Dinesig Maer newydd Cyngor Tref Caerfyrddin, sef y Cynghorydd Gareth John.

 

·         Dywedodd y Cadeirydd wrth y Cyngor fod tudalen Facebook newydd wedi'i lansio i'w helpu i rannu newyddion a diweddariadau am ei weithgareddau fel Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin a hefyd i rannu gwybodaeth am ei elusen ddewisol sef Ambiwlans Awyr Cymru. Gallai unrhyw un a oedd am ddilyn ei weithgareddau chwilio am ‘Cadeirydd Cyngor Sir Gâr | Carmarthenshire County Council Chair’.

 

·         Lansiodd y Cynghorydd Mair Stephens apêl teganau flynyddol y Cyngor a oedd yn darparu anrhegion i deuluoedd mewn angen. Roedd yr Awdurdod wedi darparu 7,500 o anrhegion i 1,256 o blant y Nadolig diwethaf a oedd yn gyflawniad rhyfeddol a byddai rhagor o fanylion am apêl eleni ar gael ar wefan y Cyngor o ddydd Llun, 18 Hydref 2021.

 

·         Atgoffodd y Cynghorydd Ann Davies fod mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon a oedd yn rhoi cyfle i bawb rannu, dathlu a deall effaith treftadaeth a diwylliant pobl dduon.  Yn ogystal, roedd Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn cael ei chynnal rhwng 9 a 16 Hydref ac roedd y Cyngor yn gweithio gyda chymunedau a phartneriaid allweddol i'w gwneud yn glir nad oes croeso i droseddau casineb yn Sir Gaerfyrddin.

·         Rhoddodd yr Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran Covid yn Sir Gaerfyrddin. Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am ffigurau Covid yn y Sir a dywedodd, er bod y ffigurau'n parhau'n uchel, fod arwyddion o achosion cadarnhaol yn arafu.  Nododd er bod pwysau cynyddol yn y system gofal cymdeithasol, dywedodd fod modd rheoli'r ffigurau yn y Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd. Mynegodd yr Arweinydd ei ddiolch yn ddiffuant i staff gofal cymdeithasol a'r rhai a oedd yn parhau i weithio ar y rheng flaen am eu gwaith caled a'u hymroddiad parhaus. Dywedodd fod Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi darparu adroddiad i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y 15FED MEDI, 2021. pdf eicon PDF 451 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021 yn gofnod cywir.

 

 

5.

PENODI AELODAU CYFETHOLEDIG NEWYDD O'R PWYLLGOR SAFONAU. pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor adroddiad yn argymell penodi Mrs Carys Davies a Mr Frank Phillips yn aelodau cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau a hynny o 5 Rhagfyr 2021 ymlaen.  Nodwyd bod cyfnodau swydd 2 aelod cyfetholedig presennol y Pwyllgor i fod i ddod i ben ym mis Rhagfyr 2021. Roedd Mrs Davies yn gyn-weinyddwr prifysgol tra bod Mr Phillips yn gyn-fargyfreithiwr ac roedd y panel recriwtio o'r farn bod gan y ddau ohonynt y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad angenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Mrs Carys Davies a Mr Frank Phillips yn cael eu penodi yn aelodau cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau am dymor o 6 blynedd yn y swydd a hynny o 5 Rhagfyr 2021 ymlaen.

 

 

 

 

6.

PENODI SWYDD CYFARWYDDWR YR AMGYLCHEDD (DROS DRO). pdf eicon PDF 529 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo'r proffil swydd a'r fanyleb person ar gyfer swydd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd [Dros Dro]. Gydag ymadawiad Cyfarwyddwr presennol yr Amgylchedd ar 31 Rhagfyr 2021, roedd y Prif Weithredwr, mewn trafodaeth â Chadeirydd y Pwyllgor Penodi l 'A', wedi nodi ei bod yn well ganddi recriwtio'n fewnol i rôl Cyfarwyddwr yr Amgylchedd (dros dro) er mwyn caniatáu digon o amser iddi adolygu cyfrifoldebau a strwythurau ehangach y portffolio.

 

Dywedwyd wrth y Cyngor y byddai'r amserlen ddrafft ar gyfer y penodiad dros dro, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei diwygio ac roedd opsiynau o ran dyddiad arall yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r proffil swydd a'r fanyleb person ar gyfer swydd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd [Dros Dro].

 

7.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2020-2021 pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2021 (gweler Cofnod 12), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol 2020/2021 ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth, a oedd wedi'i lunio er mwyn cydymffurfio â Chôd Ymarfer CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys yn y Sector Cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

“bod Adroddiad Blynyddol 2020/21 ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys yn cael ei fabwysiadu.”

 

 

7.2

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2020/21. pdf eicon PDF 346 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

8.1

13EG MEDI 2021 pdf eicon PDF 341 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Medi, 2021.

 

 

8.2

27AIN MEDI 2021 pdf eicon PDF 422 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Medi, 2021.

 

 

 

9.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES

“Mae'r Cyngor hwn yn mabwysiadu'r polisi fod pob datblygiad newydd, gan gynnwys enwau tai a strydoedd, yn cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddai'r polisi hwn a fabwysiadwyd yn cyd-fynd ag Amcan Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gael "Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu" a bydd yn cyflwyno'r Gymraeg a'i defnydd i ragor o drigolion Sir Gaerfyrddin.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd John James:-

 

“Mae'r Cyngor hwn yn mabwysiadu'r polisi fod pob datblygiad newydd, gan gynnwys enwau tai a strydoedd, yn cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai'r polisi hwn a fabwysiadwyd yn cyd-fynd ag Amcan Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gael "Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu" a bydd yn cyflwyno'r Gymraeg a'i defnydd i ragor o drigolion Sir Gaerfyrddin.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

 

Nodwyd bod eisoes gan yr Awdurdod fframwaith a oedd yn hyrwyddo'r defnydd o enwau Cymraeg ar gyfer datblygiadau newydd, ond yn gyfreithiol ni ellid gorfodi hyn.  Awgrymwyd, pe bai'r Cyngor yn cefnogi'r Rhybudd o Gynnig, yna bod y Cynghorydd James ochr yn ochr â'r Aelod Cabinet dros yr Iaith Gymraeg yn ysgrifennu at y Gweinidog dros Addysg a'r Iaith Gymraeg yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddeddfu a chaniatáu i'r Awdurdod orfodi'r defnydd o enwau Cymraeg ar dai a strydoedd. Cadarnhaodd yr un a roddodd y cynnig y byddai'n hapus i weithio gyda'r Aelod Cabinet ar y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD bod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gefnogi.

 

 

10.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

11.

CWESTIYNAU GAN AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

 

 

12.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN):

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 12.1 – 12.6 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.

 

12.1

PWYLLGOR CYNLLUNIO -16EG MEDI, 2021

Dogfennau ychwanegol:

12.2

PWYLLGOR SAFONAU - 20FED MEDI 2021

Dogfennau ychwanegol:

12.3

PWYLLGOR APELAU - 21AIN MEDI 2021;

Dogfennau ychwanegol:

12.4

PWYLLGOR TRWYDDEDU - 23AIN MEDI, 2021

Dogfennau ychwanegol:

12.5

PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO - 24AIN MEDI, 2021

Dogfennau ychwanegol:

12.6

PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU AC ADFYWIO - 30AIN MEDI, 2021

Dogfennau ychwanegol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau