Agenda a Chofnodion

Cyllideb Corfforaethol, Cyngor Sir - Dydd Mercher, 3ydd Mawrth, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C.A. Davies, P.E.M. Edwards, A. Fox a T.J. Jones.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S.J.G Gilasbey

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 tan 2023/24

Aelod o'r teulu'n gweithio fel athro yn un o'r ysgolion a grybwyllir yn yr adroddiad

S.J.G Gilasbey

5.2  - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2021/22 tan 2025/26

Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol yn Ysgol Gwenllian

S.J.G. Gilasbey

5.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2021/22 tan 2023/24 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22

Aelod o'r teulu'n denant i'r Cyngor

K. Lloyd

5.4 - Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy 2021-24

Mae ganddo gyfranddaliadau yn Ynni Sir Gâr

K. Madge

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 tan 2023/24

Ei ferch yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol

J. James

5.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2021/22 tan 2023/24 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22

Aelodau o'r teulu'n denantiaid i'r Cyngor

J. James

5.4 - Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy 2021-24

Aelodau o'r teulu'n denantiaid i'r Cyngor

H.A.L. Evans

5.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2021/22 tan 2023/24 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22

Ei chwaer yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai

H.A.L. Evans

5.4 - Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy 2021-24

Ei chwaer yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai

B.A.L. Roberts

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 tan 2023/24

Aelod o'r teulu'n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol

B.A.L. Roberts

5.2  - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2021/22 tan 2025/26

Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol yn Ysgolion Pen Rhos a Choedcae

S.L. Davies

5.2  - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2021/22 tan 2025/26

Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol mewn Ysgolion

S.L. Davies

5.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2021/22 tan 2023/24 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22

Aelod o'r teulu'n berchen ar eiddo

D.C. Evans

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 tan 2023/24

Ei wraig yn gweithio yng Nghanolfan Gyswllt y Cyngor

S. Najmi

5.2  - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2021/22 tan 2025/26

Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol yn Ysgol Pen-y-gaer

G.L. Davies

6 – Cyfarfod y Bwrdd Gweithredol – 8 Chwefror 2021

Cofnod 14 – Adeilad Rhodfa'r Goron, Llanelli

A.G. Morgan

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 tan 2023/24

Tenant yn Uned 4 Llynnoedd Delta, Llanelli

T. Higgins

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 tan 2023/24

Ei nith yn gweithio yn y Gwasanaeth Llyfrgelloedd

T. Higgins

5.2  - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2021/22 tan 2025/26

Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol yn Ysgol T?-croes

E. Dole

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 tan 2023/24

Ei fab yn gweithio i'r Awdurdod

E. Dole

5.2  - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2021/22 tan 2025/26

Ei fab yn gweithio i'r Awdurdod

S. Curry

5.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2021/22 tan 2023/24 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22

Aelod o'r teulu'n denant i'r Cyngor

D. Price

5.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2021/22 tan 2023/24 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22

Aelod o'r teulu'n denant i'r Cyngor

R. James

5.1  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Ar ran y Cyngor, bu i'r Cadeirydd gydymdeimlo â'r Cynghorydd Dole a'i deulu, yn dilyn marwolaeth mam y Cynghorydd Dole;

·       Bu'r Cynghorydd Carys Jones yn annerch y Cyngor ynghylch Wythnos Ymwybyddiaeth o Endometriosis 2021 rhwng 1 a 7 Mawrth 2021;

·       Estynnodd y Cynghorydd Ken Lloyd air o longyfarchiadau i Julia Ma o Gaerfyrddin ar ennill cystadleuaeth Richard & Judy "Search for a Best Seller" 2020 am ei nofel gyntaf 'Happy Families'.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 10FED CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 401 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2021 gan eu bod yn gywir.

5.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

5.1

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2021/22 - 2023/24 pdf eicon PDF 372 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

1.     Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cynghorwyr, os oeddent wedi datgan buddiant cynharach yn rhinwedd bod yn Llywodraethwyr Ysgol ALl, nad oedd angen iddynt ddatgan y buddiant hwnnw eto gan fod yr adroddiad yn ymwneud â Chyllideb Refeniw gyffredinol y Cyngor

2.     Bu i'r Cynghorwyr D.C Evans, E. Dole, T. Higgins, K. Madge, B.A.L Roberts, A.G. Morgan, a J. Edmunds ailadrodd eu datganiadau cynharach

3.     Bu i'r Cynghorwyr L.R. Bowen, A. Vaughan Owen, G. Jones, P. Hughes a R. Evans ddatgan buddiant ar ddechrau'r eitem hon gan fod aelodau o'u teuluoedd yn cael eu cyflogi gan yr Awdurdod)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 tan 2023/24 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, pryd y bu'n manylu ar gefndir y cynigion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor, ynghyd â'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ddweud wrth y Cyngor fod yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf ar Strategaeth y Gyllideb Refeniw ac yn nodi argymhellion y Bwrdd Gweithredol o ran y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2021/22 i 2023/24. Ychwanegodd fod proses cyllideb Llywodraeth Cymru wedi bod yn llawer hwyrach nag arfer ar gyfer 2021/22, ac nad oedd ffigurau'r setliad terfynol wedi'u cyhoeddi tan y diwrnod cynt (2 Mawrth) ac nad oedd y gyllideb derfynol yn cael ei thrafod tan 9 Mawrth.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y setliad terfynol yn cadarnhau nad oedd dyraniadau refeniw a chyfalaf y Cyngor wedi newid, yn unol â'r ffigurau dros dro ynghyd â rhai newidiadau i grantiau penodol. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau'r swm o £206m ar gyfer Cronfa Galedi Covid-19 i gefnogi costau ychwanegol a cholli incwm yn ymwneud â'r pandemig ar gyfer 6 mis cyntaf y flwyddyn ariannol nesaf (2021/22).

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod adolygiad o elfennau allweddol tybiaethau a dyraniadau'r gyllideb wedi rhoi rhywfaint yn fwy o le yn y gyllideb, o'i gymharu â chynnig y gyllideb wreiddiol, gan arwain at ailedrych ar rai o'r cynigion ac ystyried opsiynau pellach.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod manylion llawn y setliad dros dro wedi'u nodi yn yr adroddiad (a chadarnhawyd nad oedd newid iddo yn y setliad terfynol). Roedd y cyllid cyfartalog ar gyfer Llywodraeth Leol ledled Cymru wedi cynyddu 3.8%, ac roedd Sir Gaerfyrddin hefyd i dderbyn 3.8%. Er bod hyn wedi galluogi'r awdurdod i ddyrannu cyllid yn y gyllideb ar gyfer gwasgfeydd sylweddol o ran pwysau chwyddiant a phwysau na ellir ei osgoi, roedd dal angen gwneud arbedion er gwaethaf croesawu'r cynnydd mewn cyllid, gan fod y cynllun yn cynnwys arbedion sylweddol wedi'u gohirio tan y blynyddoedd i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2021/22 - 2025/26 pdf eicon PDF 454 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

1.     Gan eu bod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynahrach, bu i'r Cynghorwyr S.J.G Gilasbey, R. James ac E. Dole ailadrodd y datganiadau hynny;

2.     Eglurodd y Cynghorydd A.D.T. Speake, mewn ymateb i ddatganiad a wnaed yn ystod y cyfarfod iddo gael ei daflu allan o Gr?p Plaid Cymru, nad dyna oedd y sefyllfa, a'i fod wedi gadael o'i wirfodd)

 

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau gyflwyno i'r Cyngor, ar ran y Bwrdd Gweithredol, y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2021/22 i 2025/26 a roddai ystyriaeth i'r ymgynghoriadau a gyflawnwyd a setliad Llywodraeth Cymru. Roedd y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror, 2020 (gweler Cofnod 7), wedi ystyried y Rhaglen ac wedi gwneud nifer o argymhellion i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y rhaglen gyfalaf arfaethedig, a oedd yn rhagweld gwariant o bron i £258m dros y pum mlynedd 2021/22 i 2025/26, yn manteisio ar y cyfleoedd ariannu ac yn gwneud y mwyaf o'r cyllid posibl sydd ar gael o ffynonellau allanol. Byddai cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol yn datblygu'r economi leol, yn creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer ein trigolion.

 

Roedd y rhaglen gyfalaf dros dro fanwl wedi'i chyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau ar 3 Chwefror er mwyn ymgynghori yn ei chylch, ac ni chodwyd unrhyw bryderon yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw. Roedd dyfyniad o'r cofnod perthnasol o'r cyfarfod wedi'i gynnwys yn Atodiad C i'r adroddiad.

 

Dywedodd fod tua £122.5m o gyllid gan y Cyngor Sir ar gael ar gyfer y rhaglen a'i fod yn cynnwys benthyca; gyda chymorth a heb gymorth, derbyniadau cyfalaf, cronfeydd wrth gefn a chyllid refeniw uniongyrchol, gyda £135m arall yn cael ei ragweld gan gyrff cyllid grant allanol. Er i'r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 ddod i law ar 2 Mawrth 2021, nid oedd unrhyw gyllid cyfalaf cyffredinol ychwanegol wedi'i ddyfarnu i'r hyn a nodwyd yn y setliad dros dro - y manylir arno yn y prif adroddiad. Yn ogystal, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu rhagamcanion o ran y cyllid cyfalaf cyffredinol y tu hwnt i 2021/22, ac felly roedd y rhaglen gyfalaf arfaethedig wedi'i seilio ar fenthyca â chymorth yn y dyfodol a grant cyffredinol ar yr un lefel â 2021/22. 

 

Soniodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau am gapasiti cyllid ychwanegol a oedd heb ei ddyrannu ar hyn o bryd, sef cyfanswm o £4m rhwng blynyddoedd 4 a 5 y rhaglen, a fyddai'n para heb ei ddyrannu am y tro ac yn cael ei ddefnyddio fel costau eraill a ffynonellau cyllid wedi'u crisialu wrth i amser fynd rhagddo.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er bod llawer o'r buddsoddiadau yn yr adroddiad yn gyfarwydd, gan gynnwys y rhaglen ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif, Priffyrdd, Adfywio a Thai, roedd wedi bod yn bosibl ychwanegu buddsoddiad at gynlluniau a oedd yn cael eu hystyried yn bwysig i'r sir er mwyn ymateb i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

CYLLIDEB Y CYFRIF REFENIW TAI 2021/22 TAN 2023/24 A PHENNU RHENTI TAI AR GYFER 2021/22 REFENIW A CHYFALAF pdf eicon PDF 250 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Gan eu bod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, bu i'r Cynghorwyr S. Curry, S.J.G. Gilasbey, H.A.L. Evans, P.M Hughes, J. James, D. Thomas a D. Price ailadrodd y datganiadau hynny a gadael y cyfarfod tra rhoddwyd ystyriaeth i'r eitem)

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2021 (gweler Cofnod 8), wedi ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2021/22 tan 2023/24 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo hefyd gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 2 Chwefror 2021, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod yr adroddiad wedi crynhoi'r cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Cyfrif Refeniw Tai 2021/24 ac yn adleisio'r cynigion diweddaraf yn y Cynllun Busnes 30 mlynedd, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £231m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid ac, yn fwy diweddar, hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, byddai £64m pellach wedi cael ei wario ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid.  Dros y 3 blynedd nesaf disgwylid y byddai £56m pellach yn cael ei wario ar gynnal a gwella'r stoc tai. Roedd y gyllideb hefyd yn darparu cyllid o tua £49m dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi'r Rhaglen Tai Fforddiadwy, ar ben y gwariant presennol o £45m hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol hon. Byddai'r Strategaeth hefyd yn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ledled y sir, a hynny drwy wahanol atebion gan gynnwys ein rhaglen adeiladau newydd (fel Teras Glanmor, Porth Tywyn a Dylan, y Bynea) a'r cynllun prynu'n ôl.

 

Atgoffwyd y Cyngor, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol.  Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn 2018/19, a bod polisi interim wedi'i roi ar waith ar gyfer 2019/20, roedd Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisi newydd i'w weithredu  yn 2020/21 am gyfnod o 5 mlynedd o 2020/21, a oedd yn cynnwys rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Roedd prif elfennau'r polisi hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 2024/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.3

5.4

CYNLLUN BUSNES SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) 2021-24 pdf eicon PDF 400 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

1.     Nid oedd y Cynghorydd H.A.L. Evans, a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, yn bresennol tra rhoddwyd ystyriaeth iddi;

2.     Bu i'r Cynghorydd K. Lloyd, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, ailadrodd y datganiad hwnnw)

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror, 2021 (gweler cofnod 9) wedi ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) 2021-2024, yr oedd ei ddiben fel a ganlyn:-

 

·       Egluro gweledigaeth a manylion Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf, a'r hyn y mae'r Safon yn ei olygu i'r tenantiaid

·       Dangos bod yr incwm a gafwyd gan denantiaid a'r ffynonellau cyllid eraill yn darparu rhaglen gyfalaf o £107m dros y tair blynedd nesaf i:

o   Adeiladu dros 400 o dai fforddiadwy;

o   Gwella a chynnal a chadw'r stoc bresennol

o   Datblygu safonau newydd ar gyfer effeithlonrwydd ynni a symud tuag at gartrefi carbon niwtral

·       Dangos sut y gallai'r rhaglenni buddsoddi mewn tai helpu i ysgogi'r economi a'i hadfer yn dilyn Covid-19

·       Llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2021/22, sy’n cyfateb i £6.2m.

 

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai y Cynllun Busnes blynyddol ar gyfer STSG+ a oedd yn manylu ar y cynlluniau, y blaenoriaethau a'r camau gweithredu ar gyfer datblygu cartrefi newydd ar gyfer y dyfodol a chynnal y stoc bresennol ar gyfer y cyfnod nesaf, mewn ymgynghoriad â thenantiaid y Cyngor. Roedd hefyd yn galluogi'r Cyngor i gyflwyno ei gais blynyddol i Lywodraeth Cymru am grant y Lwfans Atgyweiriadau Mawr, a oedd yn £6.2m ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod tudalen 6 yr adroddiad yn nodi pa waith oedd wedi cael ei wneud yn ystod y cyfnod diwethaf, ynghyd â siart yn dangos beth oedd yr incwm rhent yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Roedd y Cynllun yn caniatáu i'r Awdurdod barhau i ddatblygu ei safonau, ac wrth edrych ar ei agenda ar gyfer y dyfodol, tuag at ei raglen datgarboneiddio. Roedd hefyd yn sicrhau ei fod yn parhau'n uchelgeisiol wrth adeiladu rhagor o dai fforddiadwy newydd ledled Sir Gaerfyrddin. Roedd tudalennau 7 ac 8 yn nodi egwyddorion y Cynllun, ac mai'r rheiny oedd sail y  Cynllun. Dylai sail gadarn sicrhau bod y ffordd ymlaen yn ddidrafferth.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod y Cynllun wedi'i rannu i'r pedair thema allweddol ganlynol gyda'r nod o symud pethau ymlaen am y tair blynedd nesaf ac fe amlinellodd y gwaith oedd yn cael ei wneud o dan bob thema:-

 

1.     Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr;

2.     Thema 2 – Buddsoddi mewn Tai a'r Amgylchedd, yn cynnwys datblygu Safon Ansawdd Tai Cymru newydd, gan adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes drwy Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, a safon uwch o ran effeithlonrwydd ynni yn nhai'r Cyngor;

3.     Thema 3 – Darparu 500 yn fwy o dai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.4

5.5

POLISI A STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS 2021-22 pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Chwefror, 2021 (gweler Cofnod 10) wedi ystyried Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2021/22.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol wrth y Cyngor fod yn rhaid i'r Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r Polisi a'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

“10.1

Bod Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2021-22 a'r argymhellion a nodwyd ynddynt yn cael eu cymeradwyo.

10.2

Bod Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodaeth, y  Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw, y Strategaeth Fuddsoddi, a'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo”.

 

6.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y 8FED CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

1.     Gan ei fod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, bu i'r Cynghorydd A.D.T. Speake ailadrodd y datganiad hwnnw a gadael y cyfarfod tra rhoddwyd ystyriaeth i gofnod 3 yn yr adroddiad a oedd yn ymwneud ag Ysgol y  Model;

2.     Gan ei fod wedi datgan buddiant yng nghofnod 14 o'r cofnodion yn gynharach, bu i'r Cynghorydd G. Davies ailadrodd y datganiad hwnnw ond arhosodd yn y cyfarfod gan na chafwyd trafodaeth ar hynny)

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2021.

7.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).:-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim Rhybuddion o Gynnig wedi dod i law.

8.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

8.1

CWESTIWN GAN MR M. REED I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

A yw'r Cynghorydd Campbell yn hapus gyda'r cynnydd a wnaed gan Gronfa Bensiwn Dyfed i ymwahanu oddi wrth danwyddau ffosil yn unol â’r cynnig a basiwyd gan y Cyngor yn y cyfarfod ar 9 Hydref 2019 a oedd yn galw ar y Gronfa i ymwahanu’n llwyr oddi wrth danwyddau ffosil o fewn dwy flynedd ac ail-fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy lleol?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A yw'r Cynghorydd Campbell yn hapus gyda'r cynnydd a wnaed gan Gronfa Bensiwn Dyfed i ymwahanu oddi wrth danwyddau ffosil yn unol â’r cynnig a basiwyd gan y Cyngor yn y cyfarfod ar 9 Hydref 2019 a oedd yn galw ar y Gronfa i ymwahanu’n llwyr oddi wrth danwyddau ffosil o fewn dwy flynedd ac ail-fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy lleol?”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

"Diolch Mr Reed am eich cwestiwn. Fel y gwyddoch, y Cyngor yw'r awdurdod gweinyddu ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, sydd werth £3bn, ac mae'n debyg y byddwch hefyd yn gwybod bod dros 60 o sefydliadau'n aelodau ohoni, a bod yn rhaid i benderfyniadau ar fuddsoddiadau gael eu cymeradwyo gan yr holl aelodau ac nid Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig. Felly, mae'r gronfa'n fuddsoddwr hirdymor sy'n gyfrifol am ofalu am fuddiannau buddiolwyr dros ddegawdau lawer i'r dyfodol. Ond mae'r risg yn sgil yr hinsawdd a symud i amgylchedd carbon isel ar frig agenda Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Er ei bod yn anodd bod yn benodol ar fuddsoddiadau tanwydd ffosil, mae tua 2.9% o'r Gronfa yn cael ei buddsoddi yn y sector ynni ar hyn o bryd. Mae hyn wedi gostwng o tua 4.5% yn 2018 felly mae'r Gronfa'n bendant yn symud i'r cyfeiriad cywir.

 

Fel y crybwyllais, mae'r Gronfa wedi cymryd camau breision tuag at drosglwyddo buddsoddiadau i gronfeydd carbon isel, a ddechreuodd drwy fuddsoddi £120m yng Nghronfa Incwm Amgen Strategol BlackRock UK sy'n cynnwys buddsoddiadau mewn p?er adnewyddadwy lleol.

 

Yn ddiweddar, mae Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed wedi cymeradwyo dyraniad o 10% (sef £300m) o asedau'r Gronfa i strategaeth ecwiti byd-eang goddefol BlackRock "Reduced Fossil Fuels". Bydd hyn yn lleihau cyfanswm y buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil ymhellach a bydd hyn yn cael ei ail-gyfrifo'n ddiweddarach.

 

Ac, yn olaf, sefydlu Partneriaeth Pensiwn Cymru, sy'n gronfa fuddsoddi ar gyfer pob un o'r 8 Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru. Yn 2017, rhoddodd y cyfle i Gronfa Bensiwn Dyfed gynyddu ei ddyraniad i Gronfa Twf Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru 5% (tua £150m), sy'n cynnwys buddsoddiad mewn Cronfa Alinio Cytundeb Paris.

 

Hefyd, fel y gallwch ei weld o'r hyn rwyf newydd ei grybwyll, mae gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed strategaeth ar waith ar gyfer cynnydd pellach mewn buddsoddiadau mewn cronfeydd carbon isel yn y 12 mis nesaf a fydd yn parhau â'r daith bwyllog a chyfrifol. Felly, er bod y gronfa wedi cymryd camau breision, rwy'n cydnabod bod cryn bellter i fynd eto cyn cyrraedd ein nod. Gobeithio fy mod wedi ateb eich cwestiwn Mr Reed.

 

Gofynnodd Mr Reed y cwestiwn atodol canlynol:-

"Cyngor Sir Caerfyrddin yw un o brif gyfranwyr y gronfa a beth arall y gellir ei wneud i symud efallai at ddarparwr pensiwn gwahanol, o gofio bod Cronfa Bensiwn Dyfed wedi colli £63m y llynedd oherwydd gwerth gostyngol cyfranddaliadau tanwydd ffosil. Felly, beth yw eich barn am hynny?

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

“Diolch i chi am y cwestiwn atodol. Yn amlwg,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.1

8.2

CWESTIWN GAN MS J. MANSFIELD I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

A allech chi restru pa gynnydd a wnaed eleni tuag at y nod o sicrhau bod yr Awdurdod yn garbon niwtral erbyn 2030 a nodi hefyd pa gynnydd sydd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod i gyrraedd y nod o fod yn garbon niwtral?

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A allech chi restru pa gynnydd a wnaed eleni tuag at y nod o sicrhau bod yr Awdurdod yn garbon niwtral erbyn 2030 a nodi hefyd pa gynnydd sydd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod i gyrraedd y nod o fod yn garbon niwtral?”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

“Diolch yn fawr Jane am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, ddwy flynedd yn ôl, gwnaethom ddatgan argyfwng hinsawdd a blwyddyn yn ôl, fel yr addawyd, gwnaethom lunio cynllun carbon sero-net, a'n bwriad yw adrodd ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r targedau yn y cynllun hwnnw bob blwyddyn. Felly, mae'r cynllun gweithredu ar y flwyddyn gyntaf hon yn mynd gerbron Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ddydd Gwener hyn. Mae'r adroddiad a'r manylion am gynnydd bellach ar gael i'r cyhoedd. Os ydych am edrych ar y manylion hynny, maent ar gael ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin neu, fel arall, gall un o'r staff gweinyddol anfon dolen atoch i'r adroddiad penodol hwnnw ar ddiwedd y cyfarfod hwn os dymunwch. Ond dim ond i roi ychydig o fanylion am yr adroddiad, gadewch imi roi hyn yn ei gyd-destun yn gyntaf oll. Gadewch imi ddweud hyn, mae'r flwyddyn ddiwethaf, fel y gwyddom i gyd, wedi bod yn un hollol unigryw wrth i Covid-19 gyflwyno llawer o heriau i ni fel Cyngor. Ac, o ganlyniad, mae llawer o'n staff wedi cael eu hadleoli i helpu ymateb y sir i'r pandemig. Felly, mae'n golygu bod y bobl a fyddai fel arfer wedi bod yn gweithio ar y cynllun carbon sero-net wedi'u tynnu oddi wrth y gwaith hwnnw, am resymau amlwg, i ddelio â'r ymateb brys i'r pandemig. Serch hynny, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud ar sawl menter. Nawr, fe allwn restru ystod eang o gamau gweithredu rydym wedi gwneud gwaith arnynt ond, rwy'n mynd i godi un neu ddau efallai ond mae gweddill y manylion yn y cynllun ar ein gwefan

 

Rwy'n credu mai'r peth cyntaf y mae angen i mi ei ddweud yw mai'r prif ffigur ar gyfer 2019/20 yw bod ein hôl troed carbon cyffredinol wedi gostwng 2.9% o gymharu â 2018/19. Ac ni fydd yn syndod i chi, er nad yw hyn yn yr adroddiad, fod y ffigurau a'r data cynnar ar gyfer y flwyddyn galendr ddiwethaf hon yn dangos gostyngiad trawiadol mewn allyriadau carbon yn Sir Gaerfyrddin a hefyd gwelliant mewn ansawdd aer. Yn amlwg mae hyn wedi digwydd oherwydd y pandemig ac am fod llai o bobl yn teithio mewn ceir ac yn y blaen. Ond adroddir ar hyn yn adroddiad cynllun gweithredu'r flwyddyn nesaf.

 

Yn fyr iawn, hoffwn grybwyll ambell brosiect arall i ddangos sut ydym yn mynd ati i  gyflawni ein huchelgais carbon sero-net. Rydym wedi cyflawni prosiect Re:fit Cymru i sicrhau

arbedion ynni a charbon. Er bod gwaith wedi'i ohirio oherwydd Covid, ailddechreuodd y gwaith fis Medi diwethaf a nawr bydd y rhan fwyaf o brosiectau Cam 1  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.2

8.3

CWESTIWN GAN MR P. HUGHES I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

Roeddwn yn falch o weld Cyngor Sir Caerfyrddin yn datgan Argyfwng Hinsawdd yn 2019.

 

Fel rhan o'r ddadl ar y gyllideb hoffwn ofyn faint y mae'r Cyngor wedi'i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ers datgan Argyfwng Hinsawdd ar 20/2/19?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Roeddwn yn falch o weld Cyngor Sir Caerfyrddin yn datgan Argyfwng Hinsawdd yn 2019.

 

Fel rhan o'r drafodaeth ar y gyllideb hoffwn ofyn faint y mae'r Cyngor wedi'i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ers datgan Argyfwng Hinsawdd ar 20/2/19?”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

“Diolch am y cwestiwn Mr Hughes. Credaf fod angen imi ddechrau drwy ddweud, oherwydd datblygiad hanesyddol Cyngor Sir Caerfyrddin a natur yr adeiladau sydd gennym, ni fyddwn byth yn gallu cyrraedd pwynt lle'r ydym yn gwbl ddi-garbon oherwydd yr allbwn gweddilliol sy'n gysylltiedig â rhai o'n hen adeiladau, a dyna pam rydym yn pwysleisio ein bod yn anelu at fod yn garbon sero-net erbyn 2030. Erbyn hyn, mae sero-net yn elfen bwysig o'n datganiad oherwydd ein nod yw gwneud iawn am ein hôl troed carbon gweddilliol drwy gynyddu'r ynni adnewyddadwy rydym yn ei greu ar ystâd y Cyngor.

 

Fodd bynnag, rydym yn wynebu problem a chodwyd hyn yn gynharach yn ein trafodaeth ar y gyllideb y bore yma gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen. Mae gennym broblem gyda'n Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu - Western Power – mae gennym rwystr, mae gennym ddiffyg capasiti ar y grid cenedlaethol sy'n llesteirio ein huchelgais i greu mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy. Ychydig iawn o gapasiti ychwanegol sydd ar gael ar y rhwydwaith dosbarthu trydan fel y soniais ar gyfer gosodiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr. Yn ddelfrydol, dyna'r hyn sydd ei angen arnom o ran paneli haul a thyrbinau gwynt a hyd yn oed d?r. Roeddwn yn sôn am brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr y mae mawr arnom eu hangen er mwyn gwneud yn iawn. Felly rydym yn cynnal trafodaethau gyda Western Power, a hefyd ar sail ranbarthol gydag awdurdodau lleol eraill i weld a allwn ddylanwadu rhywfaint ar y rhwydwaith dosbarthu er mwyn rhoi mwy o gapasiti i ni. Ond yn anffodus mae hyn y tu hwnt i'n rheolaeth, oherwydd mae'n amlwg bod angen i Western Power a Llywodraeth Cymru fod yn rhan o'r peth, ac mae'n rhywbeth rydym yn rhoi blaenoriaeth iddo.

 

Fodd bynnag, er gwaethaf y rhwystrau a'r heriau a wynebwn o ran prosiectau ar raddfa fawr, rydym wedi cyflawni rhai canlyniadau cadarnhaol gyda phrosiectau llawer llai a chyfeiriaf at rai ohonynt yn gyflym iawn. Rhoesom baneli haul ffotofoltaig ar 10 safle yn ein prosiect Re:fit Cymru ac roedd hyn yn cyfateb i gapasiti o tua 460 kW. A hefyd yn ein rhaglenni adeiladu newydd, yr oeddwn yn cyfeirio atynt mewn cwestiwn cynharach. Felly, mae'n rhwystredig i ni ond gallwn wneud prosiectau ar raddfa fach, ac rydym wedi bod yn gwneud hynny ar ein heiddo. Fodd bynnag, dim ond crafu'r wyneb mae hyn yn mynd i'w wneud hyd nes ein bod yn deall ac yn croesi'r rhwystr mawr o ran cael mwy o gapasiti yn rhwydwaith y grid cenedlaethol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n esbonio ein rhwystredigaeth Mr Hughes, ond hefyd yn rhoi cipolwg ichi ar y prosiectau bach sydd ar waith gennym.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.3

8.4

CWESTIWN GAN MR G. PARKER I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

Nid oedd y Crynhoad o'r Gyllideb 2020/21, a gyhoeddwyd ar 1/2/21, yn rhoi sylw i unrhyw osodiadau ynni adnewyddadwy newydd yn y gyllideb 5 mlynedd, a allai helpu'r Cyngor i gyflawni ei Gynllun Carbon Sero Net erbyn 2030.

 

Gellid darparu holl ofynion ynni'r Cyngor, trydan 20GWh a gwresogi 44GWh y flwyddyn,  mewn modd adnewyddadwy trwy fuddsoddi mewn paneli solar gyda batri wrth gefn wedi'i osod ar adeiladau a meysydd parcio lle mae'r ynni'n cael ei ddefnyddio, at hunan-ddefnydd yn unig, ar gost o oddeutu £41m, wedi'i ariannu'n llawn gan fenthyciadau Salix di-log y Llywodraeth, heb unrhyw gost i dalwyr y Dreth Gyngor yn Sir Gaerfyrddin.

 

Byddai'r benthyciadau Salix yn cael eu had-dalu dros gyfnod o 8 mlynedd trwy arbedion ynni. Golygai hyn y byddai'r holl ynni yn rhad ac am ddim i'r Cyngor, gan arbed £4.8m y flwyddyn, y gellid ei ddefnyddio i ddarparu gwell gwasanaethau i'r gymuned.

 

Mae manylion a chyfrifiadau ar gael yn:

https://www.carmarthenshireenergy.org/YSG/PublicFiles/media/CCCRenewableEnergyInvestment.pdf

 

Cwestiwn: Pam nad yw'r Cyngor yn manteisio ar y cyfle delfrydol hwn i ddod yn hunangynhaliol o ran ynni adnewyddadwy?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Nid oedd y Crynhoad o'r Gyllideb 2020/21, a gyhoeddwyd ar 1/2/21, yn rhoi sylw i unrhyw osodiadau ynni adnewyddadwy newydd yn y gyllideb 5 mlynedd, a allai helpu'r Cyngor i gyflawni ei Gynllun Carbon Sero Net erbyn 2030.

 

Gellid darparu holl ofynion ynni'r Cyngor, trydan 20GWh a gwresogi 44GWh y flwyddyn,  mewn modd adnewyddadwy trwy fuddsoddi mewn paneli solar gyda batri wrth gefn wedi'i osod ar adeiladau a meysydd parcio lle mae'r ynni'n cael ei ddefnyddio, at  hunan-ddefnydd yn unig, ar gost o oddeutu £41m, wedi'i ariannu'n llawn gan fenthyciadau Salix di-log y Llywodraeth, heb unrhyw gost i dalwyr y Dreth Gyngor yn Sir Gaerfyrddin.

 

Byddai'r benthyciadau Salix yn cael eu had-dalu dros gyfnod o 8 mlynedd trwy arbedion ynni. Golygai hyn y byddai'r holl ynni yn rhad ac am ddim i'r Cyngor, gan arbed £4.8m y flwyddyn, y gellid ei ddefnyddio i ddarparu gwell gwasanaethau i'r gymuned.Mae manylion a chyfrifiadau wedi'u rhoi ar y dudalen we yn eich pecyn agenda 

 

Pam nad yw'r Cyngor yn manteisio ar y cyfle delfrydol hwn i ddod yn hunangynhaliol o ran ynni adnewyddadwy?”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

“Diolch Mr Parker am eich cwestiwn. Mae rhan o'ch cwestiwn yn ymwneud eto â'n gallu i greu ynni adnewyddadwy fel awdurdod lleol, ac yn fy ateb i gwestiwn blaenorol, rydym yn cael ein rhwystro gan y diffyg capasiti ar y rhwydwaith dosbarthu lleol ac mae hynny'n achos rhwystredigaeth fawr i ni fel y soniais yn gynharach oherwydd mae gennym gynlluniau ar y tir llwyd rydym yn berchen arno fel awdurdod lleol. Mae gennym gynlluniau ar gyfer paneli haul a thyrbinau gwynt ond, yn anffodus, ni allwn fwrw ymlaen â'r cynlluniau hynny ar hyn o bryd. Gobeithio, o fewn y ddwy flynedd nesaf, gallwn lobïo Western Power a Llywodraeth Cymru i ddarparu'r adnoddau i'n galluogi i wneud hynny, ac wedyn gallwn symud ymlaen yn gyflym iawn.

 

Felly, o ran y gwaith Salix rydych yn cyfeirio'n ato'n benodol, rydym wedi cymryd camau breision i leihau'r ôl troed carbon yn ein hadeiladau annomestig, ac yn enwedig gyda rhaglen buddsoddi i arbed ddi-log Salix, rydym wedi buddsoddi fel awdurdod lleol yn y cynllun penodol hwnnw dros £2m mewn rhyw 200 o brosiectau effeithlonrwydd ynni. Rhagwelir y bydd y buddsoddiad hwn yn arbed dros 41,000 tunnell cyfwerth â charbon deuocsid dros oes y technolegau a osodir. Mae'r buddsoddiad hwn, ynghyd â rhaglen barhaus y Cyngor o resymoli eiddo, y bu i mi ei chrybwyll ynghylch tai Cyngor er enghraifft, y gweithio ystwyth rydym yn ei drafod ar hyn o bryd, a'r rhaglenni cynnal a chadw, yn arbed arian ac yn cwtogi ar garbon mewn cyfnod lle mae costau cyfleustodau ar gynnydd.

Un pwynt olaf, rydym yn lleihau ein hôl troed carbon hefyd o ran ein goleuadau stryd. Yn ddiweddar roeddem wedi cwblhau'r gwaith o drosi dros 80% o'n 20,000 o lusernau golau stryd i oleuadau deuod sy'n allyrru golau (LED) ynni isel gyda chyllid di-log o Raglen Llywodraeth Cymru. Felly,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.4

8.5

CWESTIWN GAN MS C. STRANGE I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

A yw'r Cyngor wedi ystyried defnyddio'r "Cynllun Gweithredu Hinsawdd ar gyfer Cynghorau" a gyhoeddwyd gan Gyfeillion y Ddaear fel cymorth i'r rhaglen adfer yn sgil Covid? Nod y canllaw hwn yw creu adferiad gwyrdd a theg gan roi sylw hefyd i Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol. Mae'n cynnwys argymhellion sy'n berthnasol i Gymru.

gweler:- 

 https://climate.friendsoftheearth.uk/sites/files/climate/documents/2020-06/Climate%20Action%20Plan%20for%20councils%20June%202020.pdf

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A yw'r Cyngor wedi ystyried defnyddio'r "Cynllun Gweithredu Hinsawdd ar gyfer Cynghorau" a gyhoeddwyd gan Gyfeillion y Ddaear fel cymorth i'r rhaglen adfer yn sgil Covid? Nod y canllaw hwn yw creu adferiad gwyrdd a theg gan roi sylw hefyd i Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol. Mae'n cynnwys argymhellion sy'n berthnasol i Gymru.

gweler:- 

 https://climate.friendsoftheearth.uk/sites/files/climate/documents/2020-06/Climate%20Action%20Plan%20for%20councils%20June%202020.pdf

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

"Diolch Celia am eich cwestiwn; rydym yn gwbl ymwybodol o'r ddogfen gan Gyfeillion y Ddaear y cyfeiriwch ati yn eich cwestiwn, ac rydym eisoes yn rhoi ystyriaeth i hyn. Fodd bynnag, rydym hefyd yn edrych ar ddulliau eraill y mae sylw wedi'i ddwyn atynt mewn dogfennau eraill, yn ein dogfen carbon sero-net ni ein hunain, a'r rhaglen adfer COVID-19 rydym yn gweithio arni ar y funud ac ar fin ei chyhoeddi yn yr wythnos neu ddwy nesaf. Mae dogfen arall hefyd, ac mae'n si?r eich bod yn ymwybodol ohoni, sef 'Map Llwybr Sector Cyhoeddus Carbon Sero-net' sy'n cael ei lunio ar hyn o bryd gan Banel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol fel fframwaith thematig lefel uchel. Nawr, lle bo'n bosibl, ein bwriad yw defnyddio'r Map Llwybr hwn i helpu i lywio ein dull ni. Dylid nodi bod rhai o'r Targedau yn y Map Llwybr hwn yn arbennig o heriol i ni ac i awdurdodau lleol eraill hefyd, ac mae camau gweithredu priodol yn cael eu trafod ar hyn o bryd gyda'r Swyddogion Arweiniol perthnasol i'w cynnwys yn ein Cynllun Carbon Sero-net.

 

Felly yr hyn sydd gennym yw amrywiaeth o ddogfennau, ac mae gan bob un fapiau llwybr a syniadau gwahanol, a'r hyn rydym yn gobeithio ei wneud yw dewis a dethol rhai o'r syniadau ac argymhellion sydd fwyaf priodol i Sir Gaerfyrddin. Yn benodol, o ystyried ein bod yn wynebu heriau economaidd enfawr yn y dyfodol, heriau cymdeithasol, a heriau amgylcheddol hefyd o ganlyniad i Covid, mae'r Cyngor, fel y soniais, ar fin cyhoeddi cynllun adfer economaidd drafft a chynllun cyflawni sy'n nodi rhyw 30 o gamau gweithredu i gefnogi economi Sir Gaerfyrddin ac sy'n mynd i'r afael ag effeithiau COVID a Brexit. Mae'n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer cefnogi Busnes, Pobl a Lleoedd. Wrth wraidd hyn byddwch yn amlwg yn deall ein bod yn ceisio creu cymuned sydd yn fwy cyfartal, yn fwy gwyrdd, ac yn fwy cynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin.

 

Felly, gobeithio bod hynny'n ateb eich cwestiwn. Rydym yn ymwybodol o'r ddogfen, ond rydym hefyd yn ymwybodol o ddogfennau perthnasol eraill hefyd.

 

Gofynnodd Ms Strange y cwestiwn atodol canlynol:-

"Fel yr awgrymwyd yn fy nghwestiwn, mae tua 46 o'r 50 o argymhellion gan Gyfeillion y Ddaear yn berthnasol i Gymru, ac rwyf wedi codi dau yn unig o'r rhain a'u cyfuno. A wnaiff y Cyngor gynhyrchu cynllun adfer Natur ac Ecosystem i wrthdroi ac adfer ansawdd a swyddogaeth rhywogaethau, cynefinoedd a'r ecosystem, gan gynnwys rheoli tir ac ymylon ffyrdd sy'n eiddo i'r Cyngor?

Ymatebodd y Cynghorydd Campbell fel a ganlyn:-

“Rydym yn gwneud llawer o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.5

8.6

CWESTIWN GAN DR T. LAXTON I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

Rwyf wedi cael fy siomi gan y tro pedol yn achos yr ymrwymiad i'r Gronfa Bensiwn ymwahanu oddi wrth fuddsoddi mewn tanwydd ffosil:

 

A allwch ddweud wrthyf faint sydd wedi’i fuddsoddi yn fflyd cerbydau’r Cyngor ers datgan yr Argyfwng Hinsawdd a faint o hwn sydd wedi'i neilltuo ar gyfer cerbydau trydan neu gerbydau eraill nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil?A allwch chi roi sicrwydd i mi, yn achos cerbydau'r Cyngor o leiaf, fod cynnydd mawr wedi'i wneud ac nad ydym yn cael ein gadael ar ôl fel Cynghorau eraill megis Abertawe, a hefyd, y rhan helaeth o Ewrop.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Rwyf wedi cael fy siomi gan y tro pedol yn achos yr ymrwymiad i'r Gronfa Bensiwn ymwahanu oddi wrth fuddsoddi mewn tanwydd ffosil:

 

A allwch ddweud wrthyf faint sydd wedi’i fuddsoddi yn fflyd cerbydau’r Cyngor ers datgan yr Argyfwng Hinsawdd a faint o hwn sydd wedi'i neilltuo ar gyfer cerbydau trydan neu gerbydau eraill nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil?A allwch chi roi sicrwydd i mi, yn achos cerbydau'r Cyngor o leiaf, fod cynnydd mawr wedi'i wneud ac nad ydym yn cael ein gadael ar ôl fel Cynghorau eraill megis Abertawe, a hefyd, lawer o Ewrop.”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

“Diolch Dr Laxton am eich cwestiwn. Nid wyf yn hollol si?r a wyf yn cytuno'n llwyr â'r sylw agoriadol am y tro pedol yn achos ymrwymiad y gronfa bensiwn. Rwyf eisoes wedi rhoi ateb cynhwysfawr ar hynny sy'n dangos ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir ac wedi cymryd camau breision dros y tair blynedd diwethaf i symud oddi wrth danwydd ffosil. Ond, rwy'n cyfaddef bod tipyn o ffordd i fynd eto.

 

Felly o ran adnewyddu'r fflyd, mae gennym raglen dreigl bum mlynedd, ac erbyn diwedd y mis hwn bydd yr awdurdod wedi prynu pedwar cerbyd ychwanegol ag allyriadau isel iawn, sydd yn geir adrannol trydan yn y bôn. Erbyn diwedd 2021/22 byddwn hefyd yn cwblhau adolygiad o strategaeth Adnewyddu'r Fflyd, a fydd yn cynnwys asesiad o'r farchnad gyflenwi ar gyfer Cerbydau Allyriadau Isel Iawn. Yn ogystal â hyn, rydym wedi cynnwys cam gweithredu yn y cynllun busnes Trafnidiaeth i ddiweddaru Strategaeth Fflyd y Cyngor er mwyn lleihau lefel yr allyriadau Carbon a Nitrogen Deuocsid o'n gweithrediadau trafnidiaeth dros y pum mlynedd nesaf. Y ffordd rydym yn gobeithio cyflawni hyn yw drwy leihau'r defnydd o danwydd ffosil drwy gyflwyno cerbydau ULEV amgen, a hefyd caffael mwy o gerbydau a pheiriannau sy'n defnyddio costau oes gyfan. Mae gennyf restr hir yma y gallaf ychwanegu ati, ond rwy'n ymwybodol o'r amser, felly'r hyn y gallwn ei wneud yw anfon y rhestr gyfan hon atoch o'r Camau Gweithredu yn y Cynllun Busnes Trafnidiaeth rydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Felly, gobeithio y gallwn fuddsoddi mwy mewn cerbydau ELV wrth i ni symud ymlaen, a byddwch yn cofio mai ni oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno ceir adrannol trydan yn ôl yn 2012. Fel pwt o wybodaeth ychwanegol, dros y 6 blynedd diwethaf rydym wedi lleihau nifer y milltiroedd a deithiwyd gan ein staff mewn cerbydau preifat dros 1.3 miliwn o filltiroedd y flwyddyn. Felly mae hynny'n dipyn o gamp, ond unwaith eto nid wyf yn hunanfodlon, mae gennym ffordd bell i fynd. Gobeithiaf fod hynny'n ateb eich cwestiwn.

 

Gofynnodd Dr Laxton y cwestiwn atodol canlynol:-

"Rwy'n hapus iawn i weld bod llawer yn cael ei wneud, ac roeddwn yn falch bod paneli haul wedi'u gosod er enghraifft ar do'r ganolfan hamdden yn Nhre Ioan. Rwy'n si?r eich bod yn ymwybodol nad cerbydau trydan yw'r unig  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.6

9.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW):-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

10.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 10.1 – 10.7 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.