Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.M. Cundy, P. M. Edwards, E.M.J.G. Schiavone, A.L. Fox a T.J. Jones.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S.J.G. Gilasbey

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgol Gwenllian ac Ysgol y Castell, ac aelod o'r teulu yn addysgu mewn ysgol leol sy'n destun yr ymgynghoriad dan sylw;

D. Nicholas

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgol Llandybïe;

 

K. Lloyd

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr Cymunedol Ychwanegol yn Ysgol y Model;

 

B. Thomas

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgol y Felin ac ysgolion ffederal Bryngwyn a Glanymôr;

D. Price

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Ffrind i'r teulu yn addysgu mewn ysgol leol sy'n destun yr ymgynghoriad dan sylw;

W.R.A. Davies

 

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgol Llandybïe;

 

A.D.T. Speake

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgol y Model;

 

D. Thomas

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgolion Penygroes a Blaenau;

 

A.G. Morgan

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgol Dyffryn y Swistir ac ysgolion ffederal Bryngwyn a Glanymôr;

I.W. Davies

 

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgol Llanybydder;

 

E. Dole

 

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgol Llannon ac Ysgolion Ffederal Cross Hands a Dre-fach;

E. Dole

9.1  Cwestiwn gan y Cynghorydd Alun Lenny i'r Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor

Aelod, ar ran y Bwrdd Gweithredol, o Fwrdd Rheoli AGB Llanelli

S. Najmi

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgol Penygaer;

 

G.R. Jones

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgolion y Bryn a Llangennech;

R.E. Evans

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgol Dafen;

 

A. Lenny

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgol Parc Waun-dew;

B.D.J. Phillips

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgolion Bro Brynach a Beca;

H.A.L. Evans

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Esgobaeth Tyddewi;

J.S. Edmunds

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgolion Bigyn a Choedcae;

J.A. Davies

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgol Talyllychau;

J.E. Williams

7.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James

Llywodraethwr yr ALl yn Ysgol Carreg Hirfaen;  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·        Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth y cyn-Gynghorydd Keri Thomas yn ddiweddar, a oedd wedi cynrychioli Ward Tyisha yn Llanelli rhwng 2004 a 2017, ac, ar ran y Cyngor, estynnodd ei gydymdeimlad diffuant i'r teulu;

 

·       Gwnaeth yr Arweinydd ddatganiad ar sefyllfa Covid-19 a chyfeiriodd at gyhoeddiad Llywodraeth Cymru y dydd Gwener blaenorol fod 500,000 o bobl yng Nghymru wedi cael eu brechu - 1 o bob 6 o'r boblogaeth oedolion, a bod y cyflymder roedd y cyhoedd yn cael eu brechu yn cynyddu wrth i fwy o frechlynnau fod ar gael. Roedd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r brechlyn. Fe ychwanegodd ei bod hi'n amlwg bod y cyfyngiadau symud yn gweithio gan fod nifer yr achosion oedd yn cael eu cofnodi bob dydd yn lleihau. Serch hynny, rhybuddiodd rhag bod yn hunanfodlon a chyfeiriodd at y newyddion difrifol diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod nifer y bobl oedd wedi colli eu bywydau i Covid-19 dros 5000 erbyn hyn. Dywedodd er bod y niferoedd, yr achosion a'r cyfraddau yn cael eu cofnodi i fesur yr ymdrechion i reoli'r feirws, roedd yna berson go iawn y tu ôl i bob ystadegyn; person a oedd yn annwyl iawn gan deulu a ffrindiau nad oedd modd i bobl gydymdeimlo'n iawn â nhw, dim ond o bell.

 

Ar hynny, cafwyd munud o dawelwch gan yr Aelodau a'r Swyddogion i goffáu'r rhai oedd wedi marw o achos Covid-19;

 

·       Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau ei fod yn bwriadu codi arian ar gyfer ei ddwy elusen ddewisol, Prostate Cancer UK ac Eglwys San Pedr yn Llanybydder, dros y misoedd nesaf trwy her gerdded rithwir ac ambell ddigwyddiad arall. Ychwanegodd y byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi ar dudalen y Cadeirydd ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin. 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNOD CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 13EG IONAWR, 2021 pdf eicon PDF 464 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13Ionawr 2021 yn gofnod cywir yn amodol ar newid y canlynol:

·       Cofnod 2 'Datgan Buddiannau' – bod y datganiad gan y Cynghorydd D.C Evans yn cael ei newid i ddarllen 'Yn berchen ail gartref';

·       Cofnod 2 'Datgan Buddiannau' – bod y datganiad gan y Cynghorydd S. L. Davies yn cael ei newid i ddarllen 'Mae gan berthynas iddi gartref ac mae hefyd yn rhentu eiddo'.

5.

CWM ENVIRONMENTAL LTD ATEBOLRWYDD AM ÔL-OFAL SAFLE TIRLENWI pdf eicon PDF 379 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau adroddiad a geisiai gytundeb y Cyngor i'r strwythur o gytundebau newydd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, i warantu'r atebolrwydd am ôl-ofal ar gyfer safle tirlenwi Nant-y-caws. Nodwyd y byddai methu â gwneud darpariaeth ariannol ar gyfer atebolrwydd am ôl-ofal y safle yn golygu bod y cwmni'n mynd yn groes i'w rwymedigaethau trwydded, a thrwy hynny ei allu i barhau i fasnachu.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar Fond Perfformiad Awdurdod Lleol fel a ganlyn:

5.1       Bod y Cyngor yn ymrwymo i Weithred Perfformiad Awdurdod Lleol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas ag atebolrwydd am ôl-ofal Safle Tirlenwi Nant-y-caws a weithredir gan CWM Environmental Ltd.;

5.2       Bod yr arian sy'n dod i gyfanswm o tua £1.514m a gedwir ar hyn o bryd mewn cyfrif ESCROW rhwng CWM a CNC yn cael ei gadw yn y dyfodol mewn cyfrif ESCROW ar y cyd rhwng CSC a CWM;

5.3       Bod y Cyngor yn codi premiwm o 2.4% ar CWM i gydnabod y sicrwydd a ddarperir, a bod y swm hwn wedyn yn cael ei drosglwyddo i'r cyfrif ESCROW ar y cyd bob blwyddyn i gynyddu'r arian gwirioneddol sydd ar gael i fodloni rhwymedigaethau gwirioneddol;

5.4       Bod y gwaith o gymeradwyo'r cyllid sydd i'w ryddhau o'r cyfrif ESCROW ar y cyd yn cael ei ddirprwyo i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gyda'r gweddill i gael ei ddefnyddio yn unig i fodloni un neu fwy o'r costau ôl-ofal canlynol:

• Monitro amgylcheddol

• Gorchuddio

• Cynnal a chadw gorchuddion

• Rheoli trwytholchion

• Rheoli nwy tirlenwi

• Rheoli d?r wyneb

• Diogelwch (e.e. gatiau a ffensys)

• Cynhyrchu adroddiadau safle (os nad ydynt wedi'u cynnwys yn y gwaith monitro)

• Digwyddiadau penodedig

5.5                   Bod elfennau terfynol y Weithred Perfformiad Awdurdod Lleol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu dirprwyo i'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.

 

6.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:

Dogfennau ychwanegol:

6.1

18FED IONAWR 2021 pdf eicon PDF 394 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 18 Ionawr, 2021.

 

6.2

25AIN IONAWR 2021 pdf eicon PDF 424 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2021.

 

7.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD LOUVAIN ROBERTS

“Mae tân gwyllt yn cael eu defnyddio gan bobl drwy gydol y flwyddyn, i nodi gwahanol ddigwyddiadau.

Er y gallant ddod â llawer o fwynhad i rai pobl, gallant achosi pryder ac ofn sylweddol i rai unigolion a hefyd anifeiliaid (anifeiliaid anwes a da byw).

Mae anifeiliaid nid yn unig yn dioddef trallod seicolegol oherwydd tân gwyllt, gallant eu hachosi i hunan-niweidio hefyd."

 

Felly rwy'n galw ar CSC i....

 

1 . Ei gwneud yn ofynnol i bob sioe gyhoeddus o fewn ffiniau'r Awdurdodau Lleol gael ei hysbysebu cyn y digwyddiad, gan ganiatáu i breswylwyr gymryd y rhagofalon angenrheidiol ar gyfer anifeiliaid a phobl sy'n agored i niwed.

2. Mynd ati i hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl sy'n agored i niwed. Gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu rhoi ar waith i liniaru'r risgiau. Ynghyd â manylu ar y rheoliadau presennol.

3. Annog cyflenwyr tân gwyllt lleol i stocio "fersiwn dawelach" o dân gwyllt yn unig heblaw'r rhain a ddefnyddir ar gyfer sioeau cyhoeddus.

4. Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Eu hannog i adolygu ac ystyried y ddeddfwriaeth bresennol ac i gyfyngu uchafswm lefel s?n tân gwyllt y gellir eu gwerthu i aelodau'r cyhoedd at ddefnydd preifat i 90 desibel.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Louvain Roberts:-

 

“Mae tân gwyllt yn cael eu defnyddio gan bobl drwy gydol y flwyddyn, i nodi gwahanol ddigwyddiadau. Er y gallant ddod â llawer o fwynhad i rai pobl, gallant achosi pryder ac ofn sylweddol i rai unigolion a hefyd anifeiliaid (anifeiliaid anwes a da byw). Mae anifeiliaid nid yn unig yn dioddef trallod seicolegol oherwydd tân gwyllt, gallant eu hachosi i hunan-niweidio hefyd." Felly rwy'n galw ar CSC i....

 

1. Ei gwneud yn ofynnol i bob sioe gyhoeddus o fewn ffiniau'r Awdurdod Lleol gael ei hysbysebu cyn y digwyddiad, gan ganiatáu i breswylwyr gymryd y rhagofalon angenrheidiol ar gyfer anifeiliaid a phobl sy'n agored i niwed

 

2. Mynd ati i hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl sy'n agored i niwed. Gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru'r Risgiau. Ynghyd â manylu ar y rheoliadau presennol.

 

3. Annog Cyflenwyr Tân Gwyllt Lleol i stocio "Tân Gwyllt Tawelach" na'r hyn a ddefnyddir ar gyfer Sioeau Cyhoeddus.

 

4. Ysgrifennu at Lywodraethau'r DU a Chymru. Eu hannog i adolygu ac ystyried y ddeddfwriaeth bresennol ac i gyfyngu uchafswm lefel s?n tân gwyllt y gellir eu gwerthu i aelodau'r cyhoedd at ddefnydd preifat i 90 desibel.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.

 

Dywedwyd wrth y Cyngor, os byddai'r cynnig yn cael ei gefnogi, byddai'r mater yn cael ei gyfeirio i'r Bwrdd Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig a'i gyfeirio i'r Bwrdd Gweithredol.

 

7.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES pdf eicon PDF 20 KB

“Bod Cyngor Sir Caerfyrddin:

- Yn nodi bod cymunedau yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd yn delio â'r argyfwng meddygol ac ariannol mwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i bandemig y Coronafeirws barhau i effeithio ar deuluoedd a busnesau.
- Yn credu nad yw'n briodol cynnal ymgynghoriadau ysgol ar faterion megis darpariaeth addysg yn ystod y pandemig. 
- Yn galw ar y Bwrdd Gweithredol i atal pob ymgynghoriad ysgol, ac eithrio cynigion i ostwng yr oedran cychwyn i 3, tan dymor mis Medi ac i lunio adroddiad ar hyfywedd ysgolion Sir Gaerfyrddin, gan amlinellu unrhyw newidiadau i ôl troed ysgolion yn y dyfodol.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr H.A.L. Evans, D. Price ac A.D.T. Speake wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac nid oeddent yn bresennol pan gafodd ei thrafod.  Roedd y Cynghorwyr L.R. Bowen, K.V. Broom, C.A. Campbell, J.M. Charles, C.A. Davies, G. Davies, H.L. Davies, I.W. Davies, J.A. Davies, K. Davies, S.L. Davies, W.R.A. Davies, E. Dole, J.S. Edmunds, L.D. Evans, R.E. Evans, W.T. Evans, S.J.G. Gilasbey, T.M. Higgins, J.K. Howell, P.M. Hughes, P. Hughes Griffiths, D.M. Jenkins, A. James, J.D. James, R. James, G.H. John, B.W. Jones, C. Jones, D. Jones, G.R. Jones, H.I. Jones, A. Lenny, M.J.A. Lewis, K. Lloyd, K. Madge, S. Matthews, A.G. Morgan, S. Najmi, D. Nicholas, B.D.J. Phillips, J.S. Phillips, J.G. Prosser, B.A.L. Roberts, H.B. Shepardson, L.M. Stephens, B. Thomas, D. Thomas, E.G. Thomas, G.B. Thomas, G. Thomas, J. Tremlett, A. Vaughan Owen, D.E. Williams, D.T. Williams, a J.E. Williams hefyd wedi datgan eu buddiant ond bu iddynt aros yn y cyfarfod].

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:-

 

“Bod Cyngor Sir Caerfyrddin:

- Yn nodi bod cymunedau yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd yn delio â'r argyfwng meddygol ac ariannol mwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i bandemig y Coronafeirws barhau i effeithio ar deuluoedd a busnesau.

- Yn credu nad yw'n briodol cynnal ymgynghoriadau ysgol ar faterion megis darpariaeth addysg yn ystod y pandemig.

- Yn galw ar y Bwrdd Gweithredol i atal pob ymgynghoriad ysgol, ac eithrio cynigion i ostwng yr oedran cychwyn i 3, tan dymor mis Medi ac i lunio adroddiad ar hyfywedd ysgolion Sir Gaerfyrddin, gan amlinellu unrhyw newidiadau i ôl troed ysgolion yn y dyfodol.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r cynnig gan y Cynghorydd G. Davies: 

 

“Bod Cyngor Sir Caerfyrddin: 

  

·        Yn nodi bod cymunedau yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd yn delio â'r argyfwng meddygol ac ariannol mwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i bandemig y Coronafeirws barhau i effeithio ar deuluoedd a busnesau 

·        Yn cytuno nad yw'n briodol cynnal ymgynghoriadau ysgol ar faterion megis darpariaeth addysg yn ystod y pandemig mewn unrhyw achosion sy'n mynd yn groes i ganllawiau Llywodraeth Lafur Cymru 

·        Yn parhau i fonitro hyfywedd ysgolion Sir Gaerfyrddin fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, ac yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus mewn modd agored a thryloyw."

 

Eiliwyd y gwelliant.

 

Cafodd cynigydd ac eilydd y Gwelliant gyfle i siarad o'i blaid a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno.

 

Gwnaed datganiadau a gefnogai'r cynnig a'r gwelliant. 

 

Dywedwyd wrth y Cyngor, os byddai'r Gwelliant yn cael ei gefnogi, hwnnw fyddai'r cynnig terfynol wedyn, a phe bai hwnnw'n cael ei gefnogi byddai'n cael ei gyfeirio i'r Bwrdd Gweithredol.

 

Yn sgil cael cais gan fwy na 10 o aelodau yn unol â Rheol 16.4 o Weithdrefnau'r Cyngor, cynhaliwyd pleidlais gofnodedig gyda'r pleidleisiau yn cael eu bwrw fel a ganlyn:-

 

O blaid y Gwelliant (43)

Y Cynghorwyr S.M Allen, L. Bowen, C. Campbell, J.M. Charles, C.A. Davies,

G.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.2

8.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

9.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD GARETH JOHN I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“A allai'r Arweinydd ymhelaethu ar benderfyniad y Bwrdd Gweithredol i gefnogi'r Ardal Gwella Busnes yng Nghaerfyrddin a Llanelli am ail dymor, a sut y bydd hynny o fudd i ganol y ddwy dref?” 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A allai'r Arweinydd ymhelaethu ar benderfyniad y Bwrdd Gweithredol i gefnogi'r Ardal Gwella Busnes yng Nghaerfyrddin a Llanelli am ail dymor, a sut y bydd hynny o fudd i ganol y ddwy dref?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

“Diolch am y cwestiwn ac rwy'n falch iawn o'i ateb ac i ddweud cymaint rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith yn yr AGB yn Llanelli, a chyn i mi ddechrau ar Lanelli hoffwn ddiolch i Mandy sy'n gweithio i'r AGB am ei gwaith a'r Cadeirydd, Lesley Richards, am ei hymrwymiad hefyd. Gan ddechrau yn 2015 am gyfnod cychwynnol o 5 mlynedd, mae ardal wella Llanelli wedi gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i wella Llanelli fel lle i fyw ynddo, fel lle i ymweld ag ef, ac mae tîm yr AGB wedi bod yn hanfodol wrth drefnu calendr ardderchog o ddigwyddiadau yng nghanol y dref hefyd. Mae'r digwyddiadau, gan gynnwys g?yl yr 80au, g?yl bwyd a diod, sinema awyr agored ac ati wedi tyfu o flwyddyn i flwyddyn ac mae nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu yn ystod y digwyddiadau hynny er budd busnesau lleol yn nhref Llanelli. Ar gyfartaledd 16,800 oedd nifer yr ymwelwyr a nodwyd ar ddydd Sadwrn yn ystod 6 wythnos yn Llanelli, ond yn ystod digwyddiadau a drefnwyd gan yr AGB mae'r ffigurau hynny'n dangos ac yn adlewyrchu'r effaith gadarnhaol mae'r digwyddiadau hyn wedi'i chael. Os meddyliwn yn ôl i ddigwyddiad Batman Returns, rwy'n credu bod tua 25,000 o ymwelwyr yn y dref, roedd dros 28,00 o ymwelwyr adeg g?yl yr 80au, a bu i ?yl arall ddenu 22,000. Roedd dros 25,000 pan ddaeth y deinosoriaid, a denodd y Great Get Together bron i 30,000 o bobl i ganol y dref. Ochr yn ochr â'r digwyddiadau hynny wrth gwrs mae'r AGB yn Llanelli wedi buddsoddi mewn mentrau yng nghanol trefi megis cynllun cynllunio, sefydlu arwyddion digidol, a chynyddu presenoldeb yr heddlu yn y dref hefyd. Bu i'r cyfyngiadau covid ganiatáu i'r AGB ddangos cefnogaeth i fusnesau drwy brynu cyfarpar diogelu personol ar eu cyfer a rhoi pecynnau ailagor iddynt a oedd yn cynnwys sgriniau persbecs, diheintwyr dwylo, sticeri llawr a gorchuddion wyneb, ac roedd y rhain i gyd ar gael am ddim i fusnesau sy'n talu'r AGB. Mae'r AGB hefyd wedi gofyn am hysbysebu am ddim ar y sgrin ddigidol sy'n borth allweddol i Lanelli ac mae busnesau lletygarwch wedi bod yn defnyddio eu hardaloedd allanol drwy ddefnyddio dodrefn wedi'u trefnu drwy'r AGB. Mae adfywio'r AGB ar gyfer Llanelli am 5 mlynedd a pharhau â digwyddiadau sydd o fudd i'r busnesau yn gwbl hanfodol ar gyfer adferiad economaidd canol y dref, oherwydd mae'r pandemig wedi cael effaith arno wrth gwrs. Mae nodau ac amcanion yr AGB yn mynd ochr yn ochr â'r tasglu gyda chanol tref Llanelli a bydd yr AGB, wrth gwrs, yn helpu gwydnwch ac adferiad canol y dref yn dilyn y pandemig. Cynhelir y bleidlais ddydd Iau 4 Mawrth, ac yn ystod yr ail dymor gobeithio y bydd yr AGB yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.1

9.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Ydy aelod y Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant yn credu bod dyfodol i ysgolion bach gwledig yn Sir Gaerfyrddin, ac er mwyn cael darlun llawnach oes bosib iddo ddatgelu faint o ysgolion cynradd a babanod gafodd eu cau yn ystod cyfnod y weinyddiaeth flaenorol (2004-2015)?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd A. Lenny, o ystyried y drafodaeth gynharach ar gynnig y Cynghorydd Rob James (gweler Cofnod 7.2) a'r gwelliant a gyflwynwyd gan y Cynghorydd G. Davies, ei fod am dynnu ei gwestiwn yn ôl.

 

10.

AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n), roedd yr enwebiadau canlynol wedi dod i law gan y Gr?p Annibynnol a:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

10.1    bod enwebiad y Cynghorydd W.R.A. Davies i gymryd lle'r Cynghorydd T.A.J. Davies fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Annibynnol ar y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau yn cael ei gymeradwyo;

 

10.2    bod enwebiad y Cynghorydd S.M. Allen i gymryd lle'r Cynghorydd T.A.J. Davies fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Annibynnol ar y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn cael ei gymeradwyo.

 

11.

PWYLLGOR PENODI AELODAU - 13EG IONAWR, 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 11.1 – 11.3 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau