Agenda a chofnodion drafft

(Cyffredinol, Treth Cyngor & Polisi Tal), Cyngor Sir - Dydd Mercher, 5ed Mawrth, 2025 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, C. Davies, R. Evans, D. Harris, D. Jones, B.D.J. Phillips, E. Rees, J. Seward a G.B. Thomas.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Broom

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Aelod o'r teulu'n gweithio i'r Awdurdod

J.M. Charles

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Aelod o'r teulu'n gweithio i'r Awdurdod

M. Cranham

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Aelodau agos o'r teulu yn gweithio i'r Awdurdod

Mae ei fab yn gweithio mewn ysgol

D.M. Cundy

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae perthnasau iddo'n gweithio i'r Cyngor

A.  Davies

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae aelod o'i deulu yn gweithio i'r Awdurdod

B.  Davies

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei wraig yn gweithio i Adran Iechyd y Cyngor Sir

C.A. Davies

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei chwaer yn gweithio i'r Awdurdod

T. Davies

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae aelod o'r teulu'n gweithio i'r Awdurdod

T.A.J. Davies

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei chwaer-yng-nghyfraith yn gweithio fel Pennaeth Gwasanaeth

Ll.M. Davies

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei chwaer-yng-nghyfraith yn gynorthwyydd addysgu yn yr Awdurdod

A. Evans

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei fam yn gweithio i'r awdurdod

D.C. Evans

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei wraig yn gweithio i'r Awdurdod fel rhan o'r Ganolfan Alwadau

L.D. Evans

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei mab-yng-nghyfraith yn gynorthwyydd addysgu gyda'r Awdurdod.

N. Evans

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei merch yn gweithio i'r Awdurdod

S. Godrey-Coles

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei phartner yn gweithio i'r Awdurdod Lleol

T. Higgins

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei nith yn gweithio yn y llyfrgell

 

P.M. Hughes

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae aelod o'i deulu yn gweithio i'r Awdurdod

 

M. James

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei nith yn gynorthwyydd addysgu

G. John

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae aelod o'i deulu yn gweithio i'r Awdurdod

A.C. Jones

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae aelod o'r teulu'n gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol

B. Jones

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei merch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Awdurdod

H. Jones

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae nifer o'i ffrindiau agos a'i deulu yn gweithio i'r Awdurdod

M.J.A. Lewis

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei nith yn gweithio i'r Awdurdod Addysg

K. Madge

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol

D. Nicholas

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Aelod o'r teulu'n gweithio i'r Awdurdod

M. Palfreman

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ganddo nifer o ffrindiau sy'n gweithio i'r Awdurdod

W.E. Skinner

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ganddo nith sy'n gweithio yn yr Adran Addysg

B.A.L. Roberts

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae ei merch yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol

F. Walters

6 - Datganiad Polisi Tâl 2025/26

Mae aelodau o'i theulu'n gweithio i'r Awdurdod

 

SYLWER:  Datganodd Pennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil fuddiant yn eitem 6 ar yr agenda - Datganiad Polisi Tâl 2025/26  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef, ynghyd â'i wraig, wedi mynychu'r digwyddiadau canlynol:

 

-   28 Chwefror - Gwylio perfformiad Opera Ieuenctid Caerfyrddin o Charlie and the Chocolate Factory yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin.  Roedd y perfformiad yn wych ac roedd y ddau wedi mwynhau yn fawr.

 

-   1 Mawrth - Gorymdaith liwgar Dydd G?yl Dewi yng Nghaerfyrddin o Eglwys Sant Pedr hyd at y Clos Mawr.  Diddanwyd y dorf helaeth gyda chaneuon a barddoniaeth o Gymru i ddathlu ac anrhydeddu nawddsant Cymru.

 

-   Roedd noson dathliadau Dydd G?yl Dewi wedi parhau yng Ngwesty'r Diplomat, Llanelli ar gyfer Cinio'r Tri Gwasanaeth a drefnwyd gan Leng Brydeinig Frenhinol Llanelli.

 

  • Dywedodd y Cadeirydd, yn dilyn hanner tymor, fod plant Ysgol Rhys Prichard Llanymddyfri, wedi cael y cyfle i fwynhau heulwen y gwanwyn ar eu gorymdaith flynyddol o amgylch y dref.  Roedd pawb yn eu gwisgoedd traddodiadol Cymreig gyda chennin a chennin Pedr i wylio baner Dewi Sant yn cael ei chodi wrth ganu 'Mae Hen Wlad fy Nhadau' gyda balchder’.

 

 

4.

CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.

PENNU TRETH Y CYNGOR AM Y FLWYDDYN ARIANNOL 2025/26 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, a oedd yn nodi'r manylion ariannol perthnasol o ran pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2025/2026, ynghyd â symiau'r Dreth Gyngor o ran gwahanol Fandiau Prisio'r Dreth Gyngor, fel yr oeddent yn berthnasol i'r holl Gynghorau Cymuned a Thref unigol.

Nodwyd bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn dwyn ynghyd ofynion cyllideb yr awdurdod a'r praeseptau ar gyfer Awdurdod yr Heddlu a'r Cynghorau Tref a Chymuned i symiau cyfunol y Dreth Gyngor mewn perthynas â bandiau prisio unigol y Dreth Gyngor.

Atgoffwyd yr Aelodau fod Cyllideb Refeniw 2025/26, ynghyd â rhagolygon ar gyfer 2026/27 a 2027/28, a'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2025-30 wedi'u cymeradwyo yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2025.

Dywedwyd, wrth wybod gofynion praesept Awdurdod yr Heddlu a'r holl gynghorau tref a chymuned, bod yn rhaid pennu'r Dreth Gyngor ar gyfer 2025/26 yn ffurfiol yn unol â rheoliadau statudol.  Mae ychwanegu'r cynnydd hwn at ofyniad y Cyngor Sir ei hun o 8.9% yn darparu cynnydd cyfartalog o 8.99% ar draws y Sir neu dâl cyfatebol Band D o £2,232.06.

 

PENDERFYNWYD, er mwyn galluogi'r Cyngor i gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol, bod adroddiad ac argymhellion y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ynghylch pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2025/26 yn cael eu mabwysiadu.

 

 

6.

DATGANIAD POLISI TALIADAU 2025-2026 pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer:

1.          Roedd yCynghorwyr K.Broom, J.M. Charles, M. Cranham, D.M. Cundy, A. Davies, B. Davies, C.A. Davies, T. Davies, T.A.J. Davies, Ll.M. Davies, A. Evans, D.C. Evans, L.D. Evans, N.  Evans, N. Evans, S. Godfrey-Coles, T. Higgins, P.M. Hughes, G. John, A.C. Jones, B. Jones, H. Jones, M.J.A. Lewis, K. Madge, D. Nicholas, M. Palfreman, W.E. Skinner, B.A.L. Roberts, ac F. Walters wedi datgan buddiant yn yr eitem hon, a gadawsant y cyfarfod wrth i'r eitem hon gael ei thrafod;

 

2.          Barnwyd bod gan bob swyddog a oedd yn bresennol fuddiant personol yn yr eitem hon cyn iddi gael ei hystyried ac eithrio Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd a'r swyddogion a oedd yn hwyluso trefniadau gweddarlledu'r cyfarfod.

 

3.          Gan fod yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon ac wedi gadael y cyfarfod, cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad ar ei ran.]

 

Roedd Arweinydd y Cyngor, yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd y Panel Ymgynghorol Ynghylch y Polisi Tâl ac ar ran yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu, wedi cyflwyno’r adroddiad a oedd yn amlinellu hynny o dan ddarpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011. Mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol baratoi Datganiad Polisi Tâl y mae'n rhaid cytuno arno a'i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill bob blwyddyn. Roedd yn ofynnol i'r Datganiad gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ac roedd rhaid iddo bennu polisïau'r Awdurdod am y flwyddyn ariannol o ran cydnabyddiaeth ariannol ei Brif Swyddogion, cydnabyddiaeth ariannol y gweithwyr oedd yn ennill y symiau lleiaf, a'r cysylltiad rhwng y gydnabyddiaeth ariannol i'w Brif Swyddogion ac i'w weithwyr nad oeddynt yn Brif Swyddogion.

 

Dywedwyd er gwaethaf y ffaith fod y Cyngor wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn yn ddiweddar mewn perthynas â'r gyllideb, roedd cyflogau staff yn cael eu blaenoriaethu, gyda ffocws ar y cyflogau isaf.  Mae Datganiad Gweledigaeth y Cabinet yn nodi'r awydd i weithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid Gwasanaethau Cyhoeddus ac Undebau Llafur i ddatblygu'r agenda Cyflog Byw Gwirioneddol ymhellach, ac roedd cynnwys y Datganiad Polisi Cyflog yn rhan bwysig o hynny.

 

Yn bennaf, byddai'r staff ar y cyflogau isaf yn cael eu cefnogi drwy sicrhau bod y trothwy Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol o £12.60 yr awr o 1 Ebrill 2025 yn cael ei fodloni.  Felly, argymhellodd y Panel Ymgynghorol ynghylch Tâl y dylid parhau â hyn gyda swm atodol er mwyn dod â'r cyfraddau cyflog i £12.60 yr awr. Byddai hyn yn cynorthwyo tua 160 o staff y Cyngor ar y cyflogau isaf.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith er bod y Panel Ymgynghorol Ynghylch y Polisi Tâlwedi dweud bod adolygiad o'r Model Cyflog yn cael ei gynnal, yn benodol i fynd i'r afael â'r gorgyffwrdd rhwng graddau A i D ar waelod y Model Cyflog, cydnabuwyd nad oedd yn ymarferol gwneud hynny oherwydd heriau ariannol. Fodd bynnag, roedd yn bosibl y byddai cynnydd sylweddol yn y Cyflog Byw Cenedlaethol statudol yn 2026, a byddai'r lefel yn cael ei nodi yn anerchiad y Canghellor ym mis  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 17 CHWEFROR 2025 pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Chwefror, 2025.

 

 

8.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau gan y cyhoedd.

 

 

9.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau gan yr aelodau.