Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G.R. Jones, E. Rees, D. Thomas, S. Davies a B.D.J. Phillips. |
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr amrywiaeth o ddigwyddiadau yr oedd ef, a'i gydymaith, wedi bod iddynt ers cyfarfod diwethaf y Cyngor, er enghraifft mynd i Fyddfai, Carnifal Nadolig Llanelli, agoriad ffurfiol y cae 3G yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri, gwasanaeth Nadolig yng ngolau cannwyll Eglwys Sant Barnabas, Rhandir-mwyn, Plygain gyda Merched y Wawr Caerfyrddin.
· Roedd y Cadeirydd yng nghwmni'r Cynghorydd Jane Tremlett am ddau ddiwrnod yr wythnos diwethaf, lle buont yn ymweld â holl gartrefi gofal yr awdurdod, sef 7 cartref gofal a 2 ganolfan ddydd yng Nghastellnewydd Emlyn, Ffair-fach, Cwmaman, Sanclêr, Caerfyrddin a Llanelli.
· Estynnodd y Cadeirydd ar ran y Cyngor ei longyfarchiadau i Georgina Gilberts ar ei hymgais lwyddiannus i gwblhau'r gamp anhygoel o redeg saith marathon mewn saith diwrnod yn gwisgo'r holl offer diffodd tân.
· Bu'r Cadeirydd yn myfyrio ar yr orymdaith Diwrnod y Rhuban Gwyn, y cafwyd cefnogaeth dda iddi, yng Nghaerfyrddin.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at lwyddiant Coleg Llanymddyfri ar ei berfformiad godidog yn Rownd Derfynol Ysgolion a Cholegau Cymru yn Stadiwm Principality, Caerdydd. Llwyddodd y Coleg i drechu Coleg y Cymoedd a chadw'r teitl a enillwyd ganddynt y llynedd, fel Pencampwyr Cymru.
· Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n cymryd rhan yn Nhrochfa'r Tymor ar Draeth Cefn Sidan ar ?yl San Steffan i godi arian ar gyfer dwy elusen, sef LATCH a Prostate Cymru.
· Dywedodd y Cadeirydd fod yr Apêl Teganau Nadolig yn dal i fod ar agor ar gyfer rhoddion.
· Estynnodd y Cyngor longyfarchiadau i'r preswylydd lleol, Georgie Grasso, ar ennill The Great British Bake Off. Georgie yw'r enillydd cyntaf o Gymru. Mae ei dewrder a'i gallu i fod yn agored wrth siarad am iechyd meddwl ac ADHD yn rhywbeth i'w annog ac rydym yn dymuno'r gorau iddi yn y dyfodol.
|
|||||||||||||
CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Arweinydd pa mor ddiolchgar oedd y Cyngor i'r holl staff a weithiodd yn ddiflino drwy gydol y penwythnos yn ystod Storm Darragh i gadw'r trigolion yn ddiogel. Mae'r trigolion oedd heb drydan wedi gallu defnyddio cyfleusterau canolfan hamdden y Sir, i gadw'n gynnes, i wefru eu ffonau, i gael cawodydd ac i gael cyfle i gael diod boeth. Bydd y canolfannau ar agor tan ddeg o'r gloch y nos heno ac yfory os bydd angen.
Dywedodd yr Arweinydd pa mor ddiolchgar oedd y Cyngor i'r holl staff gofal cartref, a aeth yr ail filltir i sicrhau bod anghenion defnyddwyr y gwasanaeth yn cael eu diwallu. Roedd staff gofal cartref wedi gallu ymweld â phawb oedd angen gofal arnynt, a hynny dros gyfnod estynedig o amser.
Diolchodd yr Arweinydd i bawb am y ffaith bod cymunedau wedi dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd pan oedd angen.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y cyngor hwn, oherwydd llymder ariannol, tua £150m ar ei golled mewn termau real yn fwy nag yn 2010. Ar yr un pryd bu galw enfawr a chynyddol am wasanaethau statudol acíwt - yn enwedig gofal oedolion a phlant - yma ac ar draws Cymru. Amcangyfrifodd gr?p trawsbleidiol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fwlch ar y cyd gan bob Cyngor yng Nghymru o bron i £560m.
Dywedodd yr aelod Cabinet dros Adnoddau mai £25m oedd y bwlch yn Sir Gaerfyrddin - ac roedd hynny hyd yn oed yn caniatáu ar gyfer y £10.5m o arbedion a nodwyd gan adrannau'r cyngor. Roedd y diffyg yn cynnwys penawdau fel dyfarniad cyflog athrawon, a gofynion pwysau gan ysgolion a'r maes gofal cymdeithasol. Roedd hefyd yn cynnwys diffyg Yswiriant Gwladol posibl o £4m ar gyfer gwasanaethau gofal a gomisiynir a gwariant 3ydd parti - fel CWM a Llesiant Delta - yn dilyn newidiadau o ran Yswiriant Gwladol a wnaed yng Nghyllideb y Canghellor. Nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys y £7-8m ychwanegol ar gyfer staff y cyngor a gyflogir yn uniongyrchol, ac roedd Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn cyhoeddi 'lwfans' maes o law.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod yna orwariant arfaethedig o £11m gan ysgolion - sy'n sefyllfa ddifrifol iawn yn wir. Ar hyn o bryd roedd tîm ymyrraeth yn ymweld â'r 50+ o ysgolion mewn diffyg i drafod ffyrdd i'w helpu i leihau gorwariant. Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn y Flwyddyn Newydd.
Atgoffodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yr aelodau, mewn perthynas â'r gyllideb net, fod 75% o incwm y Cyngor sydd i'w wario ar ofal cymdeithasol, addysg ac ati yn dod o'r Grant Cynnal Refeniw (RSG) a dyraniad Ardrethi Annomestig gan Lywodraeth Cymru. Mae pob 1% ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn rhoi £3.5m i'r Cyngor. Daw'r rhan fwyaf o'r gweddill o'r Dreth Gyngor, gyda phob 1% ychwanegol yn cyfateb i £1m. Mewn geiriau eraill, mae pob 1% yn llai o ran y Grant Cynnal Refeniw yn golygu 3.5% ar y Dreth Gyngor.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2024 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Gan fod y Cynghorydd S. Allen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ystyried yr eitem ond nid oedd wedi pleidleisio.]
Derbyniodd y Cyngor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu, am adolygiad o'r ffiniau cymunedol rhwng Cynghorau Cymuned Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf.
O dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, mae dyletswydd ar bob prif gyngor i fonitro'r cymunedau yn ei ardal a, lle bo'n briodol, drefniadau etholiadol cymunedau o'r fath at ddibenion ystyried a ddylid gwneud y newidiadau a argymhellir. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno drwy adolygiad cymunedol.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor y byddai ymchwiliad cychwynnol ac yna ymgynghoriad chwe wythnos gydag ymgyngoreion gorfodol i ddilyn. Yna byddai cynigion drafft, gan gynnwys adroddiad am y cyfnod ymgynghori, yn cael eu paratoi a fyddai'n cynnwys manylion am yr adolygiad ac yn nodi'r cynigion. Byddai argymhellion terfynol gydag adolygiad o'r cynigion, yng ngoleuni unrhyw gynrychiolaeth sy'n cael ei gwneud yn ystod ymgynghoriad am newid/dim newid, yn dilyn yr ymgynghoriad. Yna bydd adroddiad a chanfyddiadau terfynol yn cael eu cyflwyno i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru i'w hystyried a llunio'r Gorchymyn.
Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu i Mrs Amanda Edwards, Rheolwr y Gwasanaethau Etholiadol a Chofrestru Sifil, am ei hymroddiad i'r gwasanaeth gan ddymuno'n dda iddi yn ei hymddeoliad.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r trefniadau etholiadol ar gyfer Abaty Hendy-gwyn ar Daf a Hendy-gwyn ar Daf.
|
|||||||||||||
PENODI AELOD PWYLLGOR CYMUNEDOL NEWYDD I'R PWYLLGOR SAFONAU PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn argymell penodi Jeanette Gilasbey yn aelod Pwyllgor Cymunedol newydd o'r Pwyllgor Safonau ar ôl i un o'r aelodau pwyllgor cymunedol presennol adael y Pwyllgor yn gynharach yn 2024. Nodwyd, yn dilyn proses recriwtio ffurfiol, a gynhaliwyd yn unol â'r gweithdrefnau a ragnodir gan reoliadau, y sefydlwyd panel recriwtio yn cynnwys tri Chynghorydd Sir ac un Aelod Lleyg Annibynnol a cheisiwyd mynegiannau o ddiddordeb gan bob cyngor tref a chymuned yn y Sir. Roedd yn argymell i'r Cyngor benodi Jeanette Gilasbey, cyn-aelod pwyllgor cymunedol o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod cychwynnol llawn yn y swydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Jeanette Gilasbey yn cael ei phenodi yn aelod pwyllgor cymunedol i'r Pwyllgor Safonau am gyfnod cychwynnol llawn yn y swydd.
|
|||||||||||||
RECRIWTIO I'R SWYDD PENNAETH Y GWASANAETHAU OEDOLION PDF 138 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu, am Recriwtio i swydd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion, a oedd yn darparu gwybodaeth fanwl am y swydd a'r trefniadau Dyletswyddau Uwch dros dro os oedd angen.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor y byddai Pennaeth presennol y Gwasanaethau Oedolion yn gadael y Cyngor ar 31 Mawrth 2025. Er bod y Proffil Swydd a'r Fanyleb Person eisoes wedi cael y gymeradwyaeth ofynnol gan y Cyngor Sir yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cymru), gwnaed newidiadau i'r Proffil Swydd a'r Fanyleb Person i gryfhau'r cyfrifoldebau o ran Diogelu, ac roedd y proffil ei hun wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu gofynion y swydd yn gywir. Nodwyd bod y datganiad canlynol bellach wedi'i gynnwys ym mhob templed Proffil Swydd safonol: “Mae diogelu yn fater i bawb. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb am amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl, gweithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi eu budd pennaf, a rhoi gwybod am unrhyw bryderon.”
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL AWDURDOD LLEOL 2023/24 PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Roedd y Cynghorwyr K. Madge a M. Palfreman wedi datgan eu buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a gwnaethant ailadroddodd eu datganiad ynghylch yr eitem hon ac aros yn y cyfarfod wrth iddi gael ei hystyried.]
Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 18 Tachwedd 2024 (gweler cofnod 8), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol ar gyfer 2023-24.
Cafodd yr adroddiad ei lunio yn unol â'r gofyniad statudol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn flynyddol wrth y Cyngor ar berfformiad yr ystod gyfan o wasanaethau cymdeithasol a'r modd y cânt eu darparu, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer eu gwella. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn archwilio pob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol gan ddangos sut y byddai'n mynd i'r afael â strategaethau, gweithredoedd, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaethau'n cael eu darparu'n weithredol ar sail y gyllideb a gymeradwywyd.
Diolchodd aelodau'r Cyngor i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol am ei ymroddiad i'r gwasanaeth a'i waith caled wrth ddarparu adroddiad cynhwysfawr a thalwyd teyrnged i'r staff sy'n gweithio o fewn y portffolio.
Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol yn unol â hynny i'r ymholiadau a godwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:
9.1.2 bod Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol 2023/24 yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gymeradwyo.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Roedd y Cynghorwyr C. Jones, A. Lenny ac E. Skinner, wedi datgan eu buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a gwnaethant ailadroddodd eu datganiad ynghylch yr eitem hon a gadael y cyfarfod.]
Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2024, (cofnod 8) wedi ystyried adroddiad a luniwyd yn unol ag Adran 19 Deddf Llifogydd a D?r 2010, ar ganlyniad ymchwiliad a gynhaliwyd ynghylch llifogydd tua 34 o eiddo yn Llansteffan ar ôl dwy storm dros gyfnod y flwyddyn newydd 2023/24. Nodwyd bod yr ymchwiliad wedi dod i ben gyda 10 cam gweithredu yn ymwneud â Rheoli Perygl Llifogydd, 6 argymhelliad yn ymwneud â Chydnerthu Cymunedol, ac 11 o gamau yn ymwneud â Gweithredu a Chynnal a Chadw ac y byddai'r Cyngor yn rheoli'r gwaith o gyflawni'r camau hynny drwy'r gr?p prosiect amlasiantaeth y byddai'n parhau i'w gadeirio yn y tymor byr.
Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn unol â hynny i'r ymholiadau a godwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet
9.2.1 bod adroddiad Adran 19 Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei gymeradwyo
|
|||||||||||||
STRATEGAETH LEOL AR GYFER RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2024, (cofnod 6) wedi cael Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y Cyngor a luniwyd yn unol â gofynion Adran 10.7 Deddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl Awdurdodau Lleol gyhoeddi eu strategaeth a'u cynllun rheoli perygl llifogydd lleol. Roedd y Strategaeth, a gefnogwyd gan gynllun mwy tactegol, yn egluro sefyllfa'r Awdurdod o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, ei nodau erbyn 2030 a sut y byddai hynny'n cael ei gyflawni.
Nododd y Cyngor mai'r cynllun oedd yr ail strategaeth a ddatblygwyd o dan y Ddeddf (yr un gyntaf ym mis Mai 2013) a phrif ddibenion y cynllun oedd:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:
9.3.1 bod Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei chymeradwyo i'w chyhoeddi.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYNGOR 2023/24 PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 2 Rhagfyr 2024 (cofnod 9), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/2024 yn ymwneud â Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor 2022-27, a gyhoeddwyd yn unol â darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 lle roedd angen cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar ei Amcanion Llesiant. Yn ogystal, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, roedd dyletswydd ar y Cyngor i adrodd ar ei berfformiad ar ffurf dull hunanasesu. Nod yr adroddiad oedd bodloni'r gofynion hynny mewn un ddogfen.
Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth ar y sail ganlynol ar gyfer pob Amcan Llesiant, yn ogystal â'r blaenoriaethau Thematig a Gwasanaeth:
·Trosolwg o gynnydd – mae'n rhoi trosolwg cryno o'n cynnydd mewn perthynas â mesurau cyffredinol ar gyfer pob Amcan Llesiant, gan gysylltu hyn â phwysigrwydd yr amcan hwnnw. ·Yn gryno – mae'n rhoi trosolwg o'n cynnydd mewn perthynas â phob un o'n meysydd blaenoriaeth Thematig a Gwasanaeth. ·Sut rydym yn gwneud? - mae'n rhoi dadansoddiad o'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'n mesurau allweddol fel y manylir yn y Gyfres Ddata Gorfforaethol. Darperir trosolwg manwl o'r holl fesurau yn Atodiad 5. ·Cynnydd mewn perthynas â'r Canlyniadau – mae'n darparu cynnwys ynghylch gweithgaredd o bob rhan o'r sefydliad sy'n ymwneud â'r canlyniad hwnnw neu'n mynd i'r afael ag ef. ·Oes unrhyw un ar ei ennill? - mae'r adran hon yn darparu astudiaethau achos neu straeon newyddion da yn ymwneud â'r elfen 'So What?'. Mae'r ffocws ar dynnu sylw at y gwahaniaeth rydym wedi'i wneud i fywydau ein trigolion a'n defnyddwyr gwasanaeth trwy ein gweithgareddau. ·Sut y gallwn ni wneud yn well? – mae'r adran hon yn rhoi crynodeb o'r meysydd a nodwyd i'w gwella ac yn 'cau'r ddolen'.
Diolchodd aelodau'r Cyngor i'r staff am eu gwaith caled wrth ddarparu adroddiad cynhwysfawr.
Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith yn unol â hynny i'r ymholiadau a godwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:
9.4.1 fod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2023-2024 yn cael ei gymeradwyo.
|
|||||||||||||
ASESIAD PERFFORMIAD PANEL SIR GAERFYRDDIN PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2024 (cofnod 10) wedi ystyried adroddiad a baratowyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a oedd yn gosod dyletswydd ar gynghorau i drefnu i banel gynnal ac ymateb i asesiad corfforaethol, ar lefel sefydliadol, o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod rhwng dau etholiad cyffredin yn olynol o gynghorwyr i'r cyngor, o'r graddau y mae'r Cyngor yn bodloni ei ofynion perfformiad, a ddiffinnir fel y graddau y mae cyngor:
· yn arfer ei swyddogaethau'n effeithiol; · yn defnyddio ei adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol; a · bod ganddo drefniadau llywodraethu ar waith ar gyfer sicrhau'r uchod.
Nododd y Cyngor, yn unol â gofynion y Deddfau, fod dogfen gwmpasu wedi'i pharatoi sy'n rhoi cyflwyniad i Sir Gaerfyrddin, ac i'r Cyngor, gan ystyried unrhyw heriau a amlygwyd yn yr hunanasesiad gan gynnwys canfyddiadau o'r adroddiadau archwilio, arolygu neu reoleiddwyr diweddar. Byddai'r ddogfen gwmpasu yn llywio dewis y Panel i gynnal yr asesiad ynghyd â Chylch Gorchwyl manwl ar gyfer yr asesiad, a fyddai wedyn yn cael ei gytuno rhwng y Panel a'r Cyngor. Cynigiwyd y byddai'r Asesiad o Berfformiad gan Banel yn cael ei gynnal yn Sir Gaerfyrddin rhwng 10-13 Mehefin 2025.
Ymatebodd yr Arweinydd yn unol â hynny i'r ymholiadau a godwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 2 Rhagfyr 2024 (gweler cofnod 11), wedi ystyried Adroddiad ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth a oedd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar weithgareddau rheoli'r trysorlys rhwng 1 Ebrill 2024 a 30 Medi 2024.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:
9.6.1 bod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.
|
|||||||||||||
DERBYN ADRODDIAD CYFARFODYDD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
4YDD TACHWEDD, 2024 PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2024.
|
|||||||||||||
18FED TACHWEDD, 2024 PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd, 2024.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OES DIM WEDI DOD I LAW). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellwyd ar yr agenda o dan 13.1 – 13.8 ar gael er gwybodaeth ar wefan y Cyngor.
|