Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd S. Davies, D. Harries, R. James a S. Rees |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr amryw ddigwyddiadau yr oedd ef a'i gydymaith wedi'u mynychu ers cyfarfod diwethaf y Cyngor · Llongyfarchodd y Cadeirydd yr athletwyr o Sir Gaerfyrddin a oedd wedi cynrychioli Cymru a Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Cyfeiriodd yn benodol at: - Emma Finucane (beicio – 1 medal aur a 2 fedal efydd), - Jess Roberts (Ras ymlid i dimau beicio – Medal Efydd) - Anna Hursey (Tennis Bwrdd) - Matt Bush (Taekwondo – Medal aur) - Steffan Lloyd (peilot i'w gyd-Gymro, James Ball, ym mhrawf amser 1000m - Medal Aur). Roedd hefyd wedi cydnabod rôl bwysig hyfforddwyr a chynorthwywyr o Sir Gâr a oedd wedi cefnogi'r athletwyr yn y Gemau. · Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Sara Marie Nicholls sy'n chwarae i glwb Bowlio Llandeilo a oedd wedi ennill Gemau Sengl 2 Belen Menywod Cymru yn ddiweddar ac a oedd yn rhan o Dîm Cymru a enillodd gystadleuaeth Driphlyg y Merched ym Mhencampwriaeth Ewrop. · Cyfeiriodd y Cynghorydd H. Jones at gyfarfod blaenorol y Cyngor lle'r oedd y Cadeirydd wedi cyfeirio at y digwyddiad 'Fy Mhlât Bwyd' yn Nant-y-ci a drefnwyd gan Glwb Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin. Estynnodd ei longyfarchiadau i'r CFfI ar gyrraedd rhestr fer gwobr prosiect Rural Youth Europe gyda'r prosiect 'Fy Mhlât Bwyd' ac ennill yr ail wobr yn Ewrop gyfan. Roedd y cyflawniad hwn yn cydnabod ymhellach bwysigrwydd prosiect fel 'Fy Mhlât Bwyd' ac yn dangos gwaith rhagorol y CFfI yn Sir Gaerfyrddin. Estynnodd ei longyfarchiadau i'r sefydliad
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wrth y Cyngor, fel rhan o'r paratoadau ar gyfer cyhoeddi Cyllideb Llywodraeth y DU ar 30 Hydref, 2024, fod y Trysorlys wedi gwahodd tystiolaeth a sylwadau erbyn 10 Medi. Yn unol â hynny, roedd wedi cyflwyno'r datganiad canlynol i'r Trysorlys:
"Oherwydd mesurau llymder y Llywodraeth Geidwadol, mae fy nghyngor £120m yn waeth ei fyd mewn termau real nag yr oedd yn 2010. Er gwaethaf rheoli'r arian ariannol yn y ffordd fwyaf doeth, mae angen arian ychwanegol arnom ar gyfer hanfodion megis gofal cymdeithasol, gwasanaethau plant, addysg a phriffyrdd - y gwasanaethau rheng flaen y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd. Croesewir codi'r Cyflog Byw, ond mae'n rhaid i hwnnw a setliadau cyflog eraill gael eu hariannu'n llawn ar gyfer y sector cyhoeddus, yn enwedig gan y bydd parhau i rewi trothwyon treth yn codi £30b yn ychwanegol erbyn 2027-28 drwy lusgiad cyllidol, a fydd yn effeithio ar y rhai sy'n derbyn y tâl isaf yn benodol.
Fel pob cyngor, rydym wedi gwneud arbedion effeithlonrwydd cyson o flwyddyn i flwyddyn gan arwain at doriadau i wasanaethau. Rydym yn prysur agosáu at sefyllfa anghynaladwy. Oni bai bod cyllid ychwanegol gwirioneddol yn cael ei ddarparu yng Nghyllideb yr Hydref, mae'n anochel y bydd llawer mwy o gynghorau yn cyhoeddi hysbysiadau A114.
Er y deellir sefyllfa ariannol ddifrifol Llywodraeth y DU, byddai ceisio gwneud arbedion drwy wasgu ar wasanaethau cyhoeddus yn drychinebus, ac nid yn ddull a ddisgwylir gan Lywodraeth Lafur. Byddai cyni pellach yn effeithio ar bawb, ond yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Dywedir bod y Canghellor yn ystyried newid mesur dyled-i-gynnyrch domestig gros y Llywodraeth i eithrio colledion a wnaed gan raglen prynu bondiau Banc Lloegr, o ganlyniad i leddfu meintiol i ostwng cyfraddau llog. Cyfrifwyd y byddai hyn yn rhyddhau hyd at £20 biliwn o ran hyblygrwydd cyllidol ar gyfer y Llywodraeth. Os cymerir y camau hyn, rwy'n annog y Canghellor i ystyried defnyddio rhan sylweddol o'r arian hwnnw (yn ein hachos ni drwy Lywodraeth Cymru) i leddfu'r pwysau anghynaladwy ar gyllidebau awdurdodau lleol". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2024 gan eu bod yn gywir. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD O DDOSBARTHAU PLEIDLEISIO A MANNAU PLEIDLEISIO 2023/2024 PDF 118 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn Cofnod 6 o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2024, derbyniodd y Cyngor y cynigion terfynol ar gyfer yr Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio 2023/2024 a oedd wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ac a gynhaliwyd yn unol â gofynion Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Cyfeiriwyd at yr angen i ddarparu gorsaf bleidleisio ym mhentref Cil-y-cwm, anawsterau o ran mynediad i'r llawr cyntaf yn yr orsaf bleidleisio ym Mhafiliwn Bowlio’r Pwll ynghyd â lleoliad camerâu teledu cylch cyfyng yng Ngorsaf Bleidleisio Llannon. Rhoddwyd sicrwydd i'r Cyngor y byddai'r materion hynny'n cael eu hadolygu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD CYMUNEDOL DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DEMOCRATIAETH) (CYMRU) 2013 ("Y DDEDDF") PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Atgoffwyd y Cyngor ei fod, yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 2024, wedi penderfynu, ar ôl ystyried argymhellion drafft adolygiad a gynhaliwyd o dan Adran 25 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i archwilio'r trefniadau llywodraethu Tref a Chymuned presennol, dderbyn yr argymhellion hynny a'u cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad am gyfnod o 6 wythnos.
Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, ystyriodd y Cyngor adroddiad yn manylu ar ganlyniad yr ymgynghoriadau ynghyd â'r argymhellion terfynol, fel y nodir yn Atodiad C yr adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y cynigion a nodir yn Atodiad C i'r adroddiad yn cael eu mabwysiadu gan y Cyngor fel argymhellion terfynol at ddibenion yr adolygiadau a gynhaliwyd ar gyfer:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI AELOD ANNIBYNNOL CYFETHOLEDIG NEWYDD I'R PWYLLGOR SAFONAU PDF 98 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn argymell penodi Mr David Morgan yn aelod cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau ar ôl i un o'r aelodau cyfetholedig presennol adael y Pwyllgor yn gynharach yn 2024. Yn dilyn proses recriwtio ffurfiol, a gynhaliwyd yn unol â'r gweithdrefnau a ragnodir gan reoliadau, nodwyd bod panel recriwtio yn cynnwys tri Chynghorydd Sir, un Cynghorydd Tref/Cymuned ac aelod lleyg, yn argymell i'r Cyngor benodi Mr David Morgan, cyn-swyddog heddlu, fel aelod cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod cychwynnol llawn yn y swydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Mr David Morgan yn cael ei benodi yn aelod cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod cychwynnol llawn yn y swydd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, a Llywodraeth Leol Cymru (mesur) 2011, bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad yn manylu ar ganlyniad adolygiad o aelodaeth Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Rheoleiddio a phwyllgorau eraill y Cyngor yn dilyn cael gwybod bod y Cynghorwyr R. James ac A. Leyshon wedi symud o'r Gr?p Llafur i fod yn Aelodau Annibynnol Heb Gysylltiad Pleidiol.
PENDERFYNWYD, o ganlyniad i newidiadau i gyfansoddiad gwleidyddol cyffredinol y Cyngor:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYTUNDEBAU PARC Y SCARLETS PDF 127 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: 1 1. Roedd y Cynghorydd W.E. Skinner wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried. 2. Croesawodd y Cadeirydd y Meistri N. Short, S. Munderack, Daniels a P. Morgan o Scarlets Regional Ltd a wahoddwyd i roi cyflwyniad i'r Cyngor i gefnogi cais Scarlets Regional i ailstrwythuro ei gytundeb benthyciadau.
Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf, 2024 (gweler cofnod 14) wedi ystyried adroddiad ynghylch cais a gafwyd gan Scarlets Regional Ltd i ymestyn ac ailstrwythuro'r benthyciad sy'n weddill gyda'r Awdurdod.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor am delerau'r benthyciad fel y nodir yn yr adroddiad. Wrth ystyried safbwynt presennol y Cyngor, dywedwyd bod y benthyciad yn ddyledus ar 31 Mawrth 2023, ond roedd Scarlets Regional Ltd wedi nodi nad oedd yn gallu ad-dalu'r benthyciad mewn un cyfandaliad ar yr adeg honno oherwydd yr effaith sylweddol ar y Clwb yn deillio o'r pandemig coronafeirws, o ran costau, a oedd yn cynnwys chwyddiant uchel a cholled sylweddol mewn incwm, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau sicrwydd i'r Cabinet nad oedd y benthyciad llog yn unig presennol wedi arwain at unrhyw golled ariannol i drethdalwyr Cyngor Sir Gaerfyrddin; yn hytrach, bu trethdalwyr ar eu hennill gan fod y llog a dalwyd gan y Scarlets wedi bod yn ffafriol i'r awdurdod. Roedd yr ad-daliadau blynyddol gwirioneddol ar gyfer 2022-23 a 2023-24 yn £152k a £188k yn y drefn honno.
O ystyried effaith economaidd sylweddol y Clwb ar y Sir, ystyriwyd bod ei gynaliadwyedd yn hanfodol. Dywedwyd bod cynllun adfer wedi'i roi ar waith a bod y Cyngor wedi cysylltu â'r Clwb i nodi ffordd addas ymlaen, er mwyn gallu ad-dalu'r benthyciad a sicrhau cynaliadwyedd y Clwb.
Yna, rhoddodd cynrychiolwyr Scarlets Regional Ltd gyflwyniad i'r Cyngor ar ei sefyllfa ariannol, gan arwain at ei gais am ailstrwythuro benthyciad, ei gynllun adfer ynghyd â'i nifer o gysylltiadau â'r gymuned.
Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Cyngor ofyn cwestiynau am y cyflwyniad ac yna:
PENDERFYNWYD fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:
“PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo i ailstrwythuro'r benthyciad ar y sail ganlynol:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT CYNLLUN DATBLYGU LLEOL PDF 144 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf 2024 (gweler cofnod 8), wedi ystyried adroddiad ar y Cyngor yn ymgynghori ynghylch dogfennau drafft Canllawiau Cynllunio Atodol Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 o ran:
· Plastro, Rendro ac Inswleiddio Adeiladau Traddodiadol: Canllawiau ar gyfer cynaliadwyedd · Canllaw Dylunio Blaen Siopau Sir Gaerfyrddin 2022 · Ardaloedd Cadwraeth: Canllaw Hanfodol i'w Gwella
Roedd dogfennau'r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft yn rhoi eglurder ychwanegol ar feysydd polisi thematig penodol i gefnogi'u gweithrediad, yn darparu arweiniad, ac yn ymhelaethu ar bolisïau a darpariaethau'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig adeg ei fabwysiadu. Roedd pob Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ymwneud â maes polisi penodol o fewn y CDLl Mabwysiedig a Diwygiedig, ond yn canolbwyntio ar Dreftadaeth Adeiledig a Chadwraeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Cabinet:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR 29 GORFFENNAF 2024 PDF 153 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf, 2024. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR KEVIN MADGE A TINA HIGGINS “Mae'r cynnig hwn yn galw ar y Cabinet i ddod â Neuadd y Gweithwyr yn y Garnant i berchnogaeth gyhoeddus, ac yna dymchwel yr adeilad gan ddefnyddio'r tir ar gyfer fflatiau neu dai gwarchod gofal ychwanegol i bobl leol.
Yr adeilad hwn yw'r dolur llygad mwyaf yn Nyffryn Aman a'r perygl tân mwyaf, ac mae'n beryglus i gymdogion a thrigolion lleol.
Unwaith eto, mae pobl ifanc yn peryglu eu bywydau ac wedi torri i mewn i'r adeilad sawl gwaith.
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae ceisio datrys y broblem hon wedi bod fel gêm o ping pong, wrth i'r mater fynd nôl ac ymlaen rhwng y Cyngor a'r perchnogion, gan gostio miloedd o bunnoedd i'r trethdalwyr”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr K. Madge a T. Higgins:
“Mae'r cynnig hwn yn galw ar y Cabinet i ddod â Neuadd y Gweithwyr yn y Garnant i berchnogaeth gyhoeddus, ac yna dymchwel yr adeilad gan ddefnyddio'r tir ar gyfer fflatiau neu dai gwarchod gofal ychwanegol i bobl leol.
Yr adeilad hwn yw'r dolur llygad mwyaf yn Nyffryn Aman a'r perygl tân mwyaf, ac mae'n beryglus i gymdogion a thrigolion lleol.
Unwaith eto, mae pobl ifanc yn peryglu eu bywydau ac wedi torri i mewn i'r adeilad sawl gwaith.
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae ceisio datrys y broblem hon wedi bod fel gêm o ping pong, wrth i'r mater fynd nôl ac ymlaen rhwng y Cyngor a'r perchnogion, gan gostio miloedd o bunnoedd i'r trethdalwyr”.
Eiliwyd y cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Gwnaed nifer o sylwadau o blaid / yn erbyn y Cynnig.
PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Cynnig.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR ALED VAUGHAN OWEN A MEINIR JAMES Mae Masnach Deg yn fudiad byd-eang sy'n ceisio sicrhau bod cynhyrchwyr mewn gwledydd sy'n datblygu yn cael pris teg am eu nwyddau, yn gweithio o dan amodau diogel, ac yn arddel arferion amgylcheddol gynaliadwy. Drwy gadw at safonau Masnach Deg, gall ffermwyr a gweithwyr fuddsoddi yn eu cymunedau, gwella eu bywoliaeth, a chreu dyfodol mwy diogel. Mae Masnach Deg hefyd yn galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau prynu moesegol sy'n cefnogi cysylltiadau masnach cyfiawn ac i gyfrannu at y frwydr yn erbyn tlodi ac anghyfiawnder byd-eang.
Mae'r Cyngor hwn yn nodi:
Penderfyniad y Cyngor hwn yw:
Drwy basio'r cynnig hwn, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgyfnerthu ei ymrwymiad i fasnach foesegol, yn cefnogi llesiant cymunedau yn lleol ac yn fyd-eang, ac yn parhau i arwain drwy esiampl wrth hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd drwy'r mudiad Masnach Deg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Aled Vaughan Owen a Meinir James:
“Mae Masnach Deg yn fudiad byd-eang sy'n ceisio sicrhau bod cynhyrchwyr mewn gwledydd sy'n datblygu yn cael pris teg am eu nwyddau, yn gweithio o dan amodau diogel, ac yn arddel arferion amgylcheddol gynaliadwy. Drwy gadw at safonau Masnach Deg, gall ffermwyr a gweithwyr fuddsoddi yn eu cymunedau, gwella eu bywoliaeth, a chreu dyfodol mwy diogel. Mae Masnach Deg hefyd yn galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau prynu moesegol sy'n cefnogi cysylltiadau masnach cyfiawn ac i gyfrannu at y frwydr yn erbyn tlodi ac anghyfiawnder byd-eang.
Mae'r Cyngor hwn yn nodi:
Penderfyniad y Cyngor hwn yw:
Drwy basio'r cynnig hwn, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgyfnerthu ei ymrwymiad i fasnach foesegol, yn cefnogi llesiant cymunedau yn lleol ac yn fyd-eang, ac yn parhau i arwain drwy esiampl wrth hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd drwy'r mudiad Masnach Deg.
Eiliwyd y cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol a'i gyfeirio i'r Cabinet.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR HEFIN JONES AND LINDA DAVIES EVANS “Mae'r cyngor hwn yn gresynu at ac yn gwrthwynebu penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar y lwfans tanwydd gaeaf i bensiynwyr wythnosau'n unig cyn dechrau'r gaeaf.
Mae'r awdurdod hwn eisoes wedi bod yn gweithio i estyn allan a threfnu dull amlasiantaeth sy'n sicrhau bod preswylwyr sy'n gymwys yn cael y cymorth mae ganddynt hawl iddo. Yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw a'r costau ynni cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf, gwnaed gwaith helaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi prosiectau sy'n darparu mannau cynnes ac i sicrhau bod adeiladau cyhoeddus yn cynnig darpariaeth o'r fath.
Yn anffodus, mewn awdurdod lle nad yw cyfran sylweddol o'r eiddo ar y grid nwy, bydd effaith penderfyniad llywodraeth y DU i'w theimlo hyd yn oed yn fwy gan henoed Sir Gaerfyrddin.
Mae'r cyngor hwn yn galw ar y Canghellor a Llywodraeth y DU i ailystyried y strategaeth hon, i oedi cyn gwaredu'r cymorth ar gyfer gaeaf 2024-2025, ac i lunio cynllun cymorth ar gyfer gaeaf 2025-2026 sy'n ddigon hyblyg i ymateb yn deg lle bo angen ymyrryd yn sefyllfaoedd preswylwyr.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: O ganlyniad i'r datganiadau o fuddiannau a wnaed yn gynharach mewn perthynas â'r eitem hon gan olygu bod y Cyngor heb gworwm, tynnodd Cynigydd y Rhybudd o Gynnig, gyda chysyniad ei eiliwr, y Rhybudd o Gynnig yn ôl. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MS TARA-JANE SUTCLIFFE I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS - YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH “Gydag ychydig dros chwe mis yn weddill tan y dyddiad cau estynedig, sef 31 Mawrth 2025 ar gyfer tynnu i lawr y £17.6m llawn gan Lywodraeth Ganolog y DU, pa gynnydd mewn perthynas â'r amserlen mae'r Cyngor wedi'i wneud o ran adeiladu Llwybr Beicio Dyffryn Tywi, a yw'r holl bryniannau gorfodol bellach wedi'u cwblhau, a beth yw amcangyfrif diweddaraf y gost sy'n weddill, a ysgwyddir yn lleol, ar gyfer gwaith a gyflawnir ar ôl y dyddiad hwn?" Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: “Gydag ychydig dros chwe mis yn weddill tan y dyddiad cau estynedig, sef 31 Mawrth 2025 ar gyfer tynnu i lawr y £17.6m llawn gan Lywodraeth Ganolog y DU, pa gynnydd mewn perthynas â'r amserlen mae'r Cyngor wedi'i wneud o ran adeiladu Llwybr Beicio Dyffryn Tywi, a yw'r holl bryniannau gorfodol bellach wedi'u cwblhau, a beth yw amcangyfrif diweddaraf y gost sy'n weddill, a ysgwyddir yn lleol, ar gyfer gwaith a gyflawnir ar ôl y dyddiad hwn?"
Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas - yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:- "Bellach gallaf gadarnhau bod y broses brynu gorfodol wedi'i chwblhau'n llwyddiannus, gyda'r holl diroedd sy'n angenrheidiol i gyflawni'r cynllun bellach wedi'u breinio, ac o dan reolaeth yr Awdurdod Lleol.
O ran cynnydd y gwaith adeiladu, mae'r cynllun wedi'i rannu'n 10 adran adeiladu ar wahân a all fod ar waith ar yr un pryd er mwyn hwyluso'r gwaith o gyflawni'r cynllun. Mae gwaith wedi'i gwblhau ar adran 3 (Nantgaredig), mae'r gwaith adeiladu ar adran 10 wedi hen ddechrau (Ffair-fach) a dechreuodd y gwaith adeiladu ar adran 2 ar 27 Awst (Felin-wen i Nantgaredig). Bwriedir dechrau ar yr holl safleoedd sy'n weddill ar 23 Medi neu'n fuan wedyn.
Mae ein rhaglen gyflawni yn parhau fel y bydd yr holl waith yn cael ei gwblhau neu ei gwblhau'n sylweddol, gan gynnwys prynu 2 strwythur pont sylweddol erbyn 31 Mawrth 2025. Felly, rydym yn parhau'n hyderus y bydd unrhyw wariant gweddilliol posibl ar ôl mis Mawrth 2025 ymhell o fewn y dyraniad cyfalaf presennol o £1.8m a bennwyd eisoes gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer y prosiect."
Cwestiwn atodol gan Ms Tara-Jane Sutcliffe: “Rydym wedi clywed llawer yn y cyfarfod hwn am bwysau anghynaladwy ar gyllideb yr awdurdod lleol hwn ac rwy'n deall bod y Cabinet wedi bod yn trafod yr angen i ddod o hyd i rywbeth fel £20m o arbedion ac mae hynny hyd yn oed gyda chynnydd o 4% yn y dyfodol i'r dreth gyngor. Felly, rwyf am gael cadarnhad eich bod yn dweud na fydd y llwybr beicio yn ychwanegu at y pwysau hyn ar gyllid lleol ac na fydd trethdalwyr lleol yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb ychwanegol am gwblhau'r gwaith adeiladu y tu hwnt i'r £1.8m hwnnw.
Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas - yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:- "Rydym yn parhau i fod yn hyderus y byddwn yn ei gwblhau ar y dyddiad gofynnol a chyda'r arian ychwanegol yr ydym wedi'i neilltuo." |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DEISEB Noder: Er mwyn cael eu hystyried mewn cyfarfod ffurfiol rhaid i bob deiseb gynnwys 50 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer copïau papur a 300 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer e-ddeisebau. Mae cyfanswm Llofnodion Etholiadol Sir Gaerfyrddin hyd at y trothwy o 300 wedi'u dilysu. Nid ydym wedi gwirio'r llofnodion wedi hynny.
Rydym ni, y sawl sydd wedi llofnodi, yn deisebu Cyngor Sir Caerfyrddin i gael gwared â chynlluniau i godi tâl am barcio ar lan y môr yn Llansteffan (yn y maes parcio presennol a'r un newydd arfaethedig ar ochr ogleddol y Grîn).
Bydd newid y meysydd parcio ar lan y môr yn Llansteffan o feysydd parcio am ddim i rai sy'n codi tâl yn arwain at ganlyniadau andwyol pellgyrhaeddol a anfwriadol. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn parcio lle bynnag y gallant i osgoi talu. Ar ddiwrnodau prysur ac yn ystod y gwyliau bydd y syniad gwael hwn yn dinistrio stribed flaen y Grîn, yn tagu ffyrdd cyfagos, yn ei gwneud bron yn amhosibl i gerbydau brys deithio ar y stryd fawr, yn rhwystro mynediad i wylwyr y glannau ac yn effeithio'n andwyol ar fusnesau lleol. Gan nad oes unrhyw strategaethau ar waith i liniaru'r canlyniadau anochel hyn, dylid cael gwared â'r cynlluniau ar gyfer talu. Byddai dadansoddiad cost syml o fudd yn profi mai parcio am ddim yn Llansteffan fyddai'r opsiwn tymor hir gwell.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: 1. Ar ôl datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, roedd y Cynghorwyr W.E. Skinner ac A. Lenny wedi ailddatgan y buddiant hwnnw a gadael Siambr y Cyngor tra oedd y mater yn cael ei ystyried 2. Roedd y Cynghorydd A.C. Jones wedi datgan buddiant yn y cyfarfod hwn yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw. Fodd bynnag, ar ôl derbyn gollyngiad i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar yr eitem hon ond nid pleidleisio, arhosodd yn y cyfarfod ond ni phleidleisiodd.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y ddeiseb ganlynol a dderbyniwyd gan y Cyngor a dywedodd er ei bod yn cael ei chyflwyno er ystyriaeth, nad oedd y deisebwr yn bresennol yn y cyfarfod ar ôl dewis, yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 10.16, i gyflwyno'r ddeiseb yn ffurfiol i gyfarfod y Cabinet. Yn unol â hynny, bydd y Cyngor yn gallu trafod y mater ac, wedi hynny, cyfeirio'r ddeiseb a'r trafodaethau ynghylch y ddeiseb at gyfarfod nesaf y Cabinet.
“Rydym ni, y sawl sydd wedi llofnodi, yn deisebu Cyngor Sir Caerfyrddin i gael gwared â chynlluniau i godi tâl am barcio ar lan y môr yn Llansteffan (yn y maes parcio presennol a'r un newydd arfaethedig ar ochr ogleddol y Grîn).
Bydd newid y meysydd parcio ar lan y môr yn Llansteffan o feysydd parcio am ddim i rai sy'n codi tâl yn arwain at ganlyniadau andwyol pellgyrhaeddol ac anfwriadol. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn parcio lle bynnag y gallant i osgoi talu. Ar ddiwrnodau prysur ac yn ystod y gwyliau bydd y syniad gwael hwn yn dinistrio stribed flaen y Grîn, yn tagu ffyrdd cyfagos, yn ei gwneud bron yn amhosibl i gerbydau brys deithio ar y stryd fawr, yn rhwystro mynediad i wylwyr y glannau ac yn effeithio'n andwyol ar fusnesau lleol. Gan nad oes unrhyw strategaethau ar waith i liniaru'r canlyniadau anochel hyn, dylid cael gwared â'r cynlluniau ar gyfer talu. Byddai dadansoddiad cost syml o fudd yn profi mai parcio am ddim yn Llansteffan fyddai'r opsiwn tymor hir gwell.”
PENDERFYNWYD cyfeirio'r ddeiseb at y Cabinet i'w hystyried yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 10.16. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD ALUN LENNY - YR AELOD CABINET DROS ADNODDAU “A all yr Aelod Cabinet roi datganiad ar brynu hen siop Wilko's ym Mharc y Brodyr Llwyd yng Nghaerfyrddin. Mae miliynau yn mynd i gael eu gwario ar siop Debenhams yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond does gennych chi ddim arian i'w fuddsoddi mewn ysgolion yn Rhydaman a Llanelli, na chyllid chwaith ar gyfer theatr y Glowyr yn Rhydaman ac adeiladau eraill sy'n mynd â'u pen iddynt mewn ardaloedd eraill.
Rwy'n herio aelodau'r cabinet i ddweud beth yw cost prynu'r hen Wilko's i'r trethdalwyr a phwy wnaeth y penderfyniad i brynu'r siop”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
“A all yr Aelod Cabinet roi datganiad ar brynu hen siop Wilko's ym Mharc y Brodyr Llwyd yng Nghaerfyrddin. Mae miliynau yn mynd i gael eu gwario ar siop Debenhams yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond does gennych chi ddim arian i'w fuddsoddi mewn ysgolion yn Rhydaman a Llanelli, na chyllid chwaith ar gyfer theatr y Glowyr yn Rhydaman ac adeiladau eraill sy'n mynd â'u pen iddynt mewn ardaloedd eraill.
Rwy'n herio Aelod Cabinet i ddweud beth yw cost prynu'r hen Wilko's i'r trethdalwyr a phwy wnaeth y penderfyniad i brynu'r siop”.
Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny - yr Aelod Cabinet dros Adnoddau “Mae'n rhaid i mi ddiolch i'r Cynghorydd Madge am ei gwestiwn, Gadeirydd, gan fy mod yn falch iawn ei fod wedi rhoi'r cyfle i mi gywiro un neu ddau o'r camsyniadau - gan ddechrau gyda'r rhagymadrodd eithafeang yn ei gwestiwn.
A bod yn onest, mae ceisio gwneud cysylltiad rhwng adfywio hen siop Debenhams a buddsoddi mewn ysgolion naill ai'n ymgais i greu drygioni gwleidyddol, neu'n dangos diffyg dealltwriaeth syfrdanol o fuddsoddi cyfalaf sylfaenol. Byddaf yn hael ac yn dweud mai'r cyntaf ydyw.
Nid yw'n wir Gadeirydd - i ddyfynnu'r Cynghorydd Madge - 'nad oes gennym arian i'w fuddsoddi mewn ysgolion yn Rhydaman a Llanelli'. Mae cronfa sylweddol o arian yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg, fel y gwyddoch. Mae'n fater o'i wario'n ddoeth yn wyneb costau adeiladu cynyddol remp. Ond ni chaf fy nhynnu i'r ddadl honno ymhellach ar hyn o bryd. Mae hynny'n fater i'r dyfodol.
Gan droi at y mater o brynu hen siop Wilko, sef testun y cwestiwn hwn, oherwydd adroddwyd bod y Cynghorydd Madge yn 'grac iawn' am y mater mewn un papur lleol. Roedd siop Wilko yng Nghaerfyrddin ymhlith y 400 o siopau a gaeodd yr hydref diwethaf ar ôl i'r cwmni, a sefydlwyd ym 1930, fel nifer o'r prif siopau cadwyn ar y stryd fawr, fynd i ddwylo'r gweinyddwyr oherwydd materion ariannol a chyflenwi.
Pan ddaeth yr adeilad ar y farchnad, cafodd y mater o brynu'r adeilad ei drafod yn helaeth gan y Cabinet a'r Swyddogion Adfywio. Roedd nifer o bethau o blaid ei brynu, Gadeirydd. Rydym eisoes yn berchen ar y maes parcio, sydd â lle i 250 o geir. Mae'r adeilad mewn safle gwych yng nghanol tref Caerfyrddin ac roeddem yn awyddus i beidio â'i weld yn cael ei adael yn wag.
Ni allaf ddatgelu'r pris prynu ar hyn o bryd am resymau masnachol gyfrinachol. Fel cyn-arweinydd y Cyngor, mae'n si?r y dylai'r Cynghorydd Madge wybod hynny. Y cyfan y gallaf ei ddweud wrtho yw y byddai ysgol newydd yn costio llawer, llawer mwy na'r hyn a dalwyd am siop Wilko - a gafodd gymorth grant sylweddol hefyd gyda llaw.
Yn wahanol i'r enghreifftiau eraill y mae'n eu rhoi yn ei gwestiwn, mae hon yn fenter Buddsoddi i Arbed. Bydd y cyngor yn ei roi ar osod i denantiaid, a fydd yn talu rhent blynyddol i ni, a fydd yn dod ag incwm i ni. Mae ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15.1 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS - YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH A all yr aelod Cabinet nodi'r drefn o ran torri gwair a chwistrellu chwynladdwyr ar briffyrdd yn Nyffryn Aman yr haf hwn?
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
“A all yr aelod Cabinet nodi'r drefn o ran torri gwair a chwistrellu chwynladdwyr ar briffyrdd yn Nyffryn Aman yr haf hwn”?
Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas - yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith “Mae Gwasanaeth Priffyrdd y Cyngor Sir yn rheoli rhaglen flynyddol ar gyfer torri ymylon priffyrdd a chwistrellu chwyn i sicrhau gwasanaeth cost-effeithiol sy'n diogelu defnyddwyr priffyrdd. Mae ymylon ffyrdd gwledig yn cael un toriad y flwyddyn i atal ymlediad llystyfiant, cynnal gwelededd a darparu lle i gerddwyr. Gwneir gwaith torri gwair ychwanegol ar gyffyrdd a throeon i sicrhau gwell gwelededd.
Mae ymylon ffyrdd trefol hefyd yn cael eu torri unwaith y flwyddyn gyda gwaith torri gwair ychwanegol ar gyffyrdd a throeon.
Mae gwaith torri gwair mewn ardaloedd trefol a gwledig yn cael ei wneud gan gontractwyr a ddewisir trwy dendro cystadleuol fel arfer rhwng mis Mehefin a mis Medi / Hydref. Nod y Cyngor yw gwella bioamrywiaeth yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 drwy gynnal coridorau gwyrdd a threfnu gwaith torri ymylon ffyrdd penodol i annog rhywogaethau penodol.
Mae'r Tîm Priffyrdd hefyd yn chwistrellu chwyn bob blwyddyn ar hyd ffyrdd a llwybrau troed trefol gan ddefnyddio cemegion cymeradwy gan ddechrau oddeutu mis Ebrill / Mai gan ail-chwistrellu yn ôl yr angen. Mae hefyd yn trin rhywogaethau goresgynnol megis Clymog Japan a Jac y Neidiwr dros gyfnod o bedair blynedd.
Eleni, effeithiodd problem o ran adnoddau gyda chontractwr torri ymylon priffyrdd ar yr amserlen yn ardaloedd Dyffryn Aman a Llanelli, ond cyflwynwyd adnoddau ychwanegol i roi'r gwaith ar ben ffordd.
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Kevin Madge "Allwn ni ystyried peidio â thorri'r gwair ddiwedd mis Awst, ac mae angen chwistrellu chwynladdwyr ym mis Mai oherwydd cynhesu byd-eang, gan fod cynhesu byd-eang yn gwneud i'r chwyn dyfu o fis Chwefror ymlaen ac mae angen i ni fynd i'r afael â'r chwyn yn gynt ond mae angen torri'r ymylon ffyrdd yn gynharach. Dyna'r cwestiwn oherwydd twristiaeth. Os ydym am ddenu twristiaid i'r dyffryn, mae angen i'r dyffryn edrych yn daclus. Dyna'r cwestiwn, a allwn ni wneud rhai o'r penderfyniadau hyn yn llawer cynharach?
Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas - yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith "Cynghorydd Madge, rwy'n si?r y gallwn edrych ar hyn ac rwy'n si?r y bydd swyddogion yn gallu paratoi hyn ac yn amlwg. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MAE GRWP PLAID CYMRU WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD EMLYN SCHIAVONE I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD CARYS JONES AR Y PWYLLGOR CRAFFU ADDUSG, POBL IFANC A'R GYMRAEG Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd Emlyn Schiavone yn cymryd lle'r Cynghorydd Carys Jones ar y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MAE GRWP PLAID CYMRU WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD DENISE OWEN I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD CARYS JONES AR Y PWYLLGOR CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd Denise Owen yn cymryd lle'r Cynghorydd Carys Jones ar y Pwyllgor Cynllunio. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MAE ANNIBYNNOL HEB GYSYLLTIAD WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD STEVE WILLIAMS I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD SEAN REES AR Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG, POBL IFANC A'R GYMRAEG Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd Steve Williams yn cymryd lle'r Cynghorydd Sean Rees ar y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MAE GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD PHILIP WARLOW I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD PETER COOPER AR Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd Philip Warlow yn cymryd lle'r Cynghorydd Peter Cooper ar Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL CADEIRYDD Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG, POBL IFANC A'R GYMRAEG YN DILYN SWYDD WAG CANOL TYMOR Yn unol â Rheol 4 (2) o Weithdrefn y Cyngor mae'r enwebiad canlynol wedi'i gyflwyno i'r Prif Weithredwr :-
Y Cynghorydd Emlyn Schiavone - Gr?p Plaid Cymru
Nid oes enwebiadau eraill wedi dod i law. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Rheol 4 (2) Gweithdrefn y Cyngor, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i un enwebiad a dderbyniwyd ar gyfer ethol Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg yn dilyn swydd wag canol tymor.
Yn dilyn pleidlais
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd E. Schiavone yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL IS-CADEIRYDD Y PWYLLGOR CYNLLUNIO YN DILYN SWYDD WAG CANOL TYMOR Yn unol â Rheol 4 (2) o Weithdrefn y Cyngor mae'r enwebiad canlynol wedi'i gyflwyno i'r Prif Weithredwr :-
Y Cynghorydd Mansel Charles - Gr?p Plaid Cymru
Nid oes enwebiadau eraill wedi dod i law.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Rheol 4 (2) Gweithdrefn y Cyngor, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i un enwebiad a dderbyniwyd ar gyfer ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio yn dilyn swydd wag canol tymor.
Yn dilyn pleidlais
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd M. Charles yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellwyd ar yr agenda o dan 19.1 – 19.11 ar gael er gwybodaeth ar wefan y Cyngor. |