Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, H.L. Davies, K. Davies, S.L. Davies, R. Sparks, A. Vaughan-Owen a P.T. Warlow.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

R. James

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Partner yn gweithio yng Ngwasanaethau Llyfrgelloedd y Cyngor:

D.C. Evans

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Gwraig yn gweithio i'r Cyngor;

T.A.J. Davies

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Chwaer-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Cyngor;

L. Bowen

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Gwraig yn gweithio yn Uned Gyfieithu'r Cyngor;

J. Hart

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Partner yn gweithio i'r Cyngor;

M. Palfreman

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Ffrindiau'n gweithio i'r Cyngor;

M. James

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Ffrind agos yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu;

B.A.L. Roberts

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Merch a mab-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Cyngor;

B. Davies

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Gwraig yn gweithio yn Adran Gwasanaethau Cymunedol y Cyngor;

H. Jones

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Aelodau o'r teulu a ffrindiau'n gweithio i'r Cyngor;

K. Madge

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Merch yn gweithio yn adran Gofal Cymdeithasol y Cyngor;

H.A.L. Evans

 

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Ffrind yn gweithio i'r Cyngor;

N. Evans

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Merch yn gweithio i'r Cyngor;

A. Evans

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Mam yn gweithio yn Adran Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor;

S. Godfrey-Coles

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Partner yn gweithio i'r Cyngor;

D. Nicholas

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Merch a mab-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Cyngor;

T.M. Higgins

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Nith yn gweithio yng Ngwasanaethau Llyfrgelloedd y Cyngor;

D.M. Cundy

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Sawl perthynas yn gweithio i'r Cyngor;

A. Leyshon

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Merch yn gweithio i'r Cyngor;

E. Rees

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Brawd yn gweithio i'r Cyngor;

P. Hughes

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Aelod o'r teulu'n gweithio i'r Cyngor;

C. Jones

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Merch-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Cyngor;

G.H. John

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Merch yn gweithio yn Adran Cymunedau'r Cyngor;

T. Davies

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Ffrindiau a theulu'n gweithio i'r Cyngor;

J. James

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies

Mab-yng-nghyfraith yn gweithio i'r Cyngor;

M.D. Cranham

11.1 Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II gan ddweud ei fod wedi estyn cydymdeimlad dwysaf y Sir i'r teulu Brenhinol ar ran yr aelodau, y staff a'r trigolion. Ychwanegodd ei fod hefyd wedi cael yr anrhydedd o gyhoeddi Proclamasiwn y Brenin newydd ar risiau Neuadd y Sir, Caerfyrddin;

 

·       Cyfeiriodd y Cadeirydd at farwolaeth y cyn-Gynghorydd Sir Jan Williams yn ddiweddar, a fu'n cynrychioli Ward Lliedi ac a fu hefyd yn gyn-Faer CyngorTref Llanelli, ac estynnodd ei gydymdeimlad diffuant i'w theulu ar ran y Cyngor;

 

Ar hynny cynhaliodd yr Aelodau a'r Swyddogion ddwy funud o ddistawrwydd;

 

·       Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'i Gydymaith wedi cael y pleser o fynd i nifer o ddigwyddiadau dros y mis diwethaf gan gynnwys ffair Rheilffordd Model Llanelli ym Mharc Gwledig Pen-bre;

 

·       Cydymdeimlodd y Cynghorydd Ann Davies â theulu Maldwyn Harris a fu farw'n ddiweddar yn dilyn damwain drasig ar y fferm deuluol ym Mhen-y-banc, Llandeilo;

 

·       Llongyfarchodd y Cynghorydd Ann Davies aelodau o Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar eu llwyddiannau diweddar mewn nifer o gystadlaethau ar lefel genedlaethol yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys ennill y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus yn Stafford ac ennill cwpan am y cynnydd mwyaf yn eu haelodaeth dros y flwyddyn ddiwethaf. Talodd y Cynghorydd Davies deyrnged i'r holl wirfoddolwyr hynny a helpodd i hyfforddi'r ffermwyr ifanc mewn gwahanol sgiliau a disgyblaethau, gan gynnwys y Cynghorydd Jean Lewis, a llongyfarchodd Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar y gwaith rhagorol y mae'n ei wneud ar gyfer pobl ifanc;

 

·       Ar wahoddiad y Cadeirydd, dywedodd yr Arweinydd fod rhai o'r heriau, megis costau byw, yn parhau ac yn wir, wedi gwaethygu, yn dilyn penderfyniadau a wnaed yn Llundain, a hynny er gwaethaf y newidiadau diweddar gan y Llywodraeth, gan gynnwys Prif Weinidog newydd. Tybiodd y byddai'r penderfyniadau hynny'n cael effaith fawr, nid yn unig ar unigolion ond hefyd ar aelwydydd, ar fusnesau ac ar y sector cyhoeddus ledled y sir a hefyd ar y Cyngor Sir. Dywedodd fod swyddogion eisoes wedi dechrau ar y gwaith cynllunio, gan ystyried y gyllideb y flwyddyn nesaf, ac y byddai'r Cabinet yn ystyried adroddiad wythnos nesaf yn amlinellu'r heriau y mae'r Cyngor yn eu hwynebu gan gynnwys chwyddiant, prisiau ynni a ffactorau eraill, ac roedd y Cyngor yn edrych ar fwlch o £22 miliwn yn ei gyllideb. Dywedodd yr Arweinydd fod angen i bawb gydweithio i ddeall y sefyllfa ac i ddod o hyd i atebion. Ychwanegodd fod hon yn her ar hyd a lled y wlad ac nid oedd yn unigryw i Sir Gaerfyrddin ac roedd y trafodaethau hynny rhwng CLlLC a Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau. Roedd arweinwyr ac aelodau'r Cabinet yng Nghymru yn poeni am yr effaith ar wasanaethau ledled Cymru ac os nad oedd arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru na San Steffan, roedd risg aruthrol i rai gwasanaethau y mae eu hangen ar drigolion. Roedd yr Arweinydd o'r farn fod dyletswydd foesol ar y Cyngor i wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi trigolion a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y 13EG GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13eg Gorffennaf 2022 gan eu bod yn gywir.

 

5.

AELODAETH PWYLLGORAU CRAFFU, PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL Y CYNGOR A PHENODI AELODAU I WASANAETHU ARNYNT pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar ganlyniad adolygiad o gyfansoddiad Pwyllgorau Craffu, Pwyllgorau Rheoleiddio a phwyllgorau eraill y Cyngor ar ôl cael rhybudd gan y Cynghorwyr Sharen Davies, Jason Hart a Louvain Roberts eu bod wedi ymuno â'r Gr?p Annibynnol.

 

PENDERFYNWYD, o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor,  

 

5.1 mabwysiadu'r newidiadau i nifer y seddi a ddelir gan y Gr?p Annibynnol a'r Aelodau heb Gysylltiad Pleidiol, fel y manylir yn Nhablau 1 a 3 yr adroddiad;

 

5.2 yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2 (2) (n), cymeradwyo newidiadau yn aelodaeth y Pwyllgorau yn sgil argymhelliad 5.1 uchod (fel y manylir yn yr adroddiad);

 

5.3 nodi nad oes dim newidiadau i nifer y seddi a ddelir gan Grwpiau Plaid Cymru a Llafur;

 

5.4 yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, nodi nad yw'r trefniadau presennol ar gyfer dyrannu'r 5 Cadeirydd Craffu yn newid.

 

6.

PENODI AELODAU I WASANAETHU AR BWYLLGORAU YMGYNGHOROL Y CYNGOR AC AR GYRFF ALLANOL YN AMODOL AR Y GOFYNION O RAN CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar ganlyniad adolygiad ynghylch penodi aelodau i wasanaethu ar banelau ymgynghorol y Cyngor a chyrff allanol sy'n amodol ar y gofynion o ran cydbwysedd gwleidyddol, a hynny ar ôl cael gwybod gan y Cynghorwyr Sharen Davies, Jason Hart a Louvain Roberts eu bod wedi ymuno â'r Gr?p Annibynnol.

 

Cadarnhaodd Arweinydd y Gr?p Llafur y byddai'r Cynghorydd Rob Evans yn ildio'i sedd ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

PENDERFYNWYD, o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor,

 

6.1 bod dyraniad y seddi ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael ei newid fel a ganlyn:-

      Plaid Cymru (3) Llafur (1) Annibynnol (1);

 

6.2 bod dyraniad y seddi ar Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad y Cyngor (10) yn cael ei newid fel a ganlyn:-

      Plaid Cymru (5) Llafur (3) Annibynnol (2); 

 

6.3 cymeradwyo'r newidiadau i aelodaeth fel y manylir yn yr adroddiad/yr adroddwyd yn y cyfarfod o ganlyniad i argymhellion 6.1 a 6.2 uchod;

 

6.4 nodi nad oes angen gwneud newidiadau mewn cydbwysedd gwleidyddol i nifer a dyraniad y seddi ar gyfer y canlynol:  Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a Phanel Ymgynghorol Ynghylch y Polisi Tâl.

 

7.

I YSTYRIED ARGYMHELLION CANLYNOL Y GRWP GWEITHGOR ADOLYGU'R CYFANSODDIAD:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

CYNIGION GYDA RHYBUDD pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar argymhellion Gweithgor Trawsbleidiol Adolygu'r Cyfansoddiad ar eiriad diwygiedig arfaethedig o Reol 12 o Weithdrefn y Cyngor, 'Cynigion gyda Rhybudd', fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad, a oedd yn y bôn yn caniatáu i ddau neu ragor o aelodau gyflwyno Rhybudd o Gynnig a chael eu dyfarnu'n gyfartal.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r geiriad diwygiedig ar gyfer Rheol 12 o Weithdrefn y Cyngor 'Cynigion ar Rybudd' fel yr argymhellir gan Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad.

 

7.2

STRWYTHUR PWYLLGORAU CRAFFU pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar argymhellion Gweithgor Trawsbleidiol Adolygu'r Cyfansoddiadol yn dilyn adolygiad o faes gorchwyl y Pwyllgorau Craffu fel eu bod yn cyd-fynd yn agosach â phortffolios Aelodau'r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad a bod meysydd gorchwyl y Pwyllgorau Craffu yn cael eu diwygio, gyda phob Pwyllgor Craffu'n gyfrifol am graffu ar Bortffolios Penodol y Cabinet a'u gwasanaethau priodol a chael trosolwg ohonynt fel y manylir yn Opsiwn 2 yr adroddiad.

 

8.

ETHOL IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD

Yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 4 (2) cyflwynwyd yr enwebiad canlynol i’r Prif Weithredwr gan fod y swydd yn wag :-

 

Cynghorydd Louvain Roberts - Gr?p Annibynnol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd B.A.L. Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

9.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL

Dogfennau ychwanegol:

9.1

POLISI ENWI STRYDOEDD A RHIFO EIDDO pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2022 (gweler cofnod 8), wedi ystyried Fersiwn Drafft o Bolisi Enwi Strydoedd ac Eiddo. Roedd y polisi wedi darparu fframwaith er mwyn i Gyngor Sir Caerfyrddin weithredu'r swyddogaeth Enwi a Rhifo Strydoedd yn effeithiol ac yn effeithlon er budd trigolion Sir Gaerfyrddin, y gwasanaethau brys, busnesau ac ymwelwyr â'r sir. Yn ogystal, roedd yn sicrhau bod y Cyngor yn adlewyrchu'r pwerau a'r dyletswyddau deddfwriaethol perthnasol hynny, gan gynnwys Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ac Adrannau 17 i 19 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (1925).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:

 

“9.1.1 cymeradwyo'r Fersiwn Drafft o'r Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo am gyfnod o 28 diwrnod o ymgynghori cyhoeddus;

 

9.1.2 bod unrhyw sylwadau a dderbynnir i'r ymgynghoriad, ynghyd ag argymhellion swyddogion, yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor i'w trafod.” 

9.2

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2021-2022 pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf2022 (gweler cofnod 8), wedi ystyried Adroddiad Blynyddol 2021-22 y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:

 

“bod Adroddiad Blynyddol 2021/22 ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys yn cael ei fabwysiadu.” 

 

10.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

4YDD GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf, 2022. 

 

10.2

18EG GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2022. 

 

10.3

25AIN GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf, 2022. 

 

 

11.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

11.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD LEWIS DAVIES

“Mae'r Cyngor hwn:

a.     Yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru yr awdurdod dros benderfynu ar wyliau banc yng Nghymru (drwy'r Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971) yn yr un modd â'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a gofyn i holl Gynghorau Cymru wneud cais tebyg drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

b.     Yn nodi bod cefnogaeth gyhoeddus ar gyfer creu g?yl y banc ar Ddydd G?yl Dewi yng Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn droeon i Lywodraeth y DU ddatganoli'r pwerau angenrheidiol.

c.      Yn gofyn i'r Cabinet ymchwilio i'r posibilrwydd a'r goblygiadau o ran dynodi Dydd G?yl Dewi fel diwrnod ychwanegol o absenoldeb â thâl i'w staff ar y 1af o Fawrth yn flynyddol.

d.     Yn gofyn i'r Cabinet ystyried sut y gall y Cyngor gefnogi dathliadau Dydd G?yl Dewi ymhellach ar 1 Mawrth a thua'r amser hwnnw, gan weithio ar y cyd â Chynghorau Tref a Chymuned a phartneriaid allweddol eraill i sicrhau budd diwylliannol ac economaidd.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr R. James, D.C. Evans, T.A.J. Davies, L. Bowen, J. Hart, M. Palfreman, M. James, B.A.L. Roberts, B. Davies, H. Jones, K. Madge, N. Evans, H.A.L. Evans, A. Evans, S. Godfrey-Coles, D. Nicholas, T.M. Higgins, D.M. Cundy, A. Leyshon, E. Rees, P. Hughes, C. Jones, G.H. John, T. Davies, J. James, M. Cranham, L. Davies, F. Walters, M. Donoghue, C.A. Davies, J.M. Charles, R. Evans a D. Price wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach ac felly nid oeddynt yn bresennol pan oedd yr eitem yn cael ei hystyried.

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Lewis.

 

“Mae'r Cyngor hwn:

a.     Yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru yr awdurdod dros benderfynu ar wyliau banc yng Nghymru (drwy'r Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971) yn yr un modd â'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a gofyn i holl Gynghorau Cymru wneud cais tebyg drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

b.     Yn nodi bod cefnogaeth gyhoeddus ar gyfer creu g?yl y banc ar Ddydd G?yl Dewi yng Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn droeon i Lywodraeth y DU ddatganoli'r pwerau angenrheidiol.

 

c.     Yn gofyn i'r Cabinet ymchwilio i'r posibilrwydd a'r goblygiadau o ran dynodi Dydd G?yl Dewi fel diwrnod ychwanegol o absenoldeb â thâl i'w staff ar y 1af o Fawrth yn flynyddol.

 

d.     Yn gofyn i'r Cabinet ystyried sut y gall y Cyngor gefnogi dathliadau Dydd G?yl Dewi ymhellach ar 1 Mawrth ac yn ystod y cyfnod hwnnw, gan weithio ar y cyd â Chynghorau Tref a Chymuned a phartneriaid allweddol eraill i sicrhau budd diwylliannol ac economaidd.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.  

 

PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig.

 

[NODYN:Cafodd yr eitem uchod ei hystyried cyn yr eitem olaf ar yr agenda - 'Cofnodion er Gwybodaeth' - o ystyried nifer yr aelodau a fyddai'n gorfod gadael y cyfarfod oherwydd eu bod eisoes wedi datgan buddiant.]

 

11.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES pdf eicon PDF 67 KB

“Bod y Cyngor hwn yn cydnabod yr effaith negyddol ddifrifol y mae argyfwng costau byw eisoes yn ei chael ar fywyd bob dydd trigolion Sir Gaerfyrddin ac yn yr achos hwn ar deuluoedd yn anfon eu plant i'r ysgol ac yn talu am eitemau megis gwisg ysgol, deunydd ysgrifennu, bwyd, yn ogystal ag ymdopi â'r diffyg trafnidiaeth i'r ysgol.

 

Hefyd, bod y Cyngor hwn yn gofyn yn barchus i Gabinet y Cyngor adfer y Panel Ymgynghorol Cludiant i'r Ysgol sy'n cynnwys aelodaeth wleidyddol gytbwys yn ogystal â'r Aelod Cabinet priodol ac sy'n cael ei gefnogi gan yr holl bersonél perthnasol i ymchwilio i'r holl opsiynau a allai helpu'r teuluoedd hyn”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd John James:-

 

“Bod y Cyngor hwn yn cydnabod yr effaith negyddol ddifrifol y mae'r argyfwng costau byw eisoes yn ei chael ar fywyd bob dydd trigolion Sir Gaerfyrddin ac yn yr achos hwn ar deuluoedd yn anfon eu plant i'r ysgol ac yn talu am eitemau megis gwisg ysgol, deunydd ysgrifennu, bwyd, yn ogystal ag ymdopi â'r diffyg trafnidiaeth i'r ysgol.

Hefyd, bod y Cyngor hwn yn gofyn yn barchus i Gabinet y Cyngor adfer y Panel Ymgynghorol Cludiant i'r Ysgol sy'n cynnwys aelodaeth wleidyddol gytbwys yn ogystal â'r Aelod Cabinet priodol ac sy'n cael eu cefnogi gan yr holl bersonél perthnasol i ymchwilio i'r holl opsiynau a allai helpu'r teuluoedd hyn.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r cynnig gan y Cynghorydd Edward Thomas a chafodd ei eilio:

 

“Bod y Cyngor hwn yn cydnabod yr effaith negyddol ddifrifol y mae'r argyfwng costau byw eisoes yn ei chael ar fywyd bob dydd trigolion Sir Gaerfyrddin ac yn yr achos hwn ar deuluoedd yn anfon eu plant i'r ysgol ac yn talu am eitemau megis gwisg ysgol, deunydd ysgrifennu, a bwyd.

 

Mae'r Cyngor hwn yn gofyn i'r Panel Ymgynghorol trawsbleidiol ynghylch Trechu Tlodi, sy'n cynnwys aelodaeth wleidyddol gytbwys yn ogystal â'r Aelod Cabinet priodol ac sy'n cael cefnogaeth gan yr holl bersonél perthnasol, ystyried costau trafnidiaeth ysgol fel rhan o'i Flaengynllun Gwaith.

 

Mae'r Cyngor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n cynnal adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr a'r costau sy'n deillio ohono, a bod y Cabinet yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru'n gofyn am eglurder ynghylch pryd y bydd yr adolygiad terfynol yn cael ei gyhoeddi.

 

Mae'r Cyngor yn nodi bod Datganiad Gweledigaeth y Cabinet eisoes wedi galw ar y Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi i adolygu eu cylch gorchwyl er mwyn sicrhau bod ganddynt y cwmpas angenrheidiol i gynnal adolygiad o'r gwaith sy'n ofynnol mewn perthynas â Threchu Tlodi ac mae eisoes wedi gofyn i'r panel ddechrau ar unwaith ar faes gwaith ychwanegol mewn perthynas â'r argyfwng costau byw presennol.

 

Rhoddwyd cyfle i Gynigydd ac Eilydd y Gwelliant siarad o'i blaid a rhoesant amlinelliad o'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Gwelliant.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau a gefnogai'r Cynnig a'r Gwelliant.

 

Dywedwyd wrth y Cyngor, os byddai'r Gwelliant yn cael ei dderbyn, y gwelliant fyddai'r cynnig terfynol.

 

Yn dilyn pleidlais

 

PENDERFYNWYD bod y Cynnig, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei gefnogi.

 

11.3

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD SHELLY GODFREY-COLES

“Bod y Cyngor hwn yn dangos cefnogaeth i bawb sy'n dioddef camdrin domestig a bod ganddo bolisi dim goddefgarwch tuag at y rhai sy'n ei gyflawni.

 

Er mwyn cynyddu'r gefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig bydd y Cyngor hwn hefyd yn diwygio ein cynllun Llysgennad y Rhuban Gwyn i'w wneud yn drawsbleidiol, ymrwymo i gryfhau'r berthynas gydag elusennau cam-drin domestig lleol a lansio ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i addysgu a chefnogi trigolion ar faterion cam-drin domestig”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Rhybudd o Gynnig wedi'i dynnu'n ôl.

12.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

13.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

13.1

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

Hoffwn wybod gan Arweinydd y Cyngor pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd i roi Neuadd y Gweithwyr, y Garnant mewn cyflwr diogel cyn y gaeaf a datrys y dolur llygaid mwyaf yn Nyffryn Aman. Yn ogystal dyma'r risg tân fwyaf yn Sir Gaerfyrddin ac mae'n berygl i bob un o'r preswylwyr lleol.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Hoffwn wybod gan Arweinydd y Cyngor pa gamau a fydd yn cael eu cymryd i sicrhau bod Neuadd y Gweithwyr, y Garnant mewn cyflwr diogel cyn y gaeaf ac i ddatrys y broblem o ran yr adeilad gwaethaf yr olwg yn Nyffryn Aman. Yn ogystal, dyma'r risg tân mwyaf yn Sir Gaerfyrddin ac mae'n beryg i'r holl drigolion lleol.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor:-

“Mi es i drwy'r Garnant ddydd Sul – mae'r adeilad yn salw ac rydw i'n derbyn hynny. Ond yn anffodus rydym yn gweld hyn yn rhy aml ledled meysydd glo De Cymru – mae'r hen neuaddau gweithwyr, y sefydliadau, a'r ardaloedd sydd wedi bod yn ganolog i'r gymuned dros ddegawdau bellach yn mynd â'u pennau iddynt. Ond nid yw hyn yn wir bob amser, ac rydym wedi gweld enghreifftiau da yma yn Sir Gaerfyrddin lle mae grwpiau cymunedol ac unigolion wedi ymgymryd â'r sefydliadau hyn ac maent yn ffynnu. Ond yn anffodus nid yw hynny'n wir yn y Garnant. Fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, gwerthwyd yr eiddo i berchennog newydd ym mis Rhagfyr 2021. Rwy'n ymwybodol bod cais yn aros i'w drafod gyda'r Gofrestrfa Tir, y mae swyddogion yn credu sy'n ymwneud â'r safle hwn, a chyn gynted ag y bydd y trafodiad wedi'i gofrestru gyda swyddfa'r Gofrestrfa Tir, bydd swyddogion yn y cyngor yn gallu nodi ac ymgysylltu â'r perchnogion newydd ynghylch yr adeilad. O ran yr agweddau diogelwch a godwyd, mae swyddogion Rheoli Adeiladu o adran gynllunio'r Cyngor wedi mynd i'r eiddo ar sawl achlysur i asesu cadernid strwythurol y wal ar y safle. Cynhaliwyd yr archwiliad diwethaf ar 19 Mai 2022 a daeth y swyddogion i'r casgliad nad oeddynt yn ystyried bod y wal yn beryglus ar hyn o bryd yn unol ag adrannau 77 a 78 o Ddeddf Adeiladu 1984. Er hynny, bydd swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa dros y 12 mis nesaf. Fel y bydd yr aelod yn ymwybodol, ac fel y bydd unrhyw aelod o'r Pwyllgor Cynllunio yn ymwybodol, gofynnwyd am ganiatâd cynllunio ac fe'i cymeradwywyd ychydig flynyddoedd yn ôl i gael cartref gofal ar y safle ac rwyf wedi gofyn i swyddogion gynnal trafodaethau gyda'r perchnogion newydd unwaith y byddant yn hysbys. Mae'n hollbwysig ein bod yn gwybod beth yw eu cynlluniau ar gyfer y safle. Ond yn amlwg mae nifer o eiddo adfeiliedig. Mae gen i rai yn fy ward fy hun ac rwy'n si?r bod gan aelodau o bob rhan o'r siambr eiddo tebyg, sydd yn eiddo preifat. Nawr os oes angen trafodaeth ynghylch strategaeth y Cyngor o ran hynny, mae hynny'n drafodaeth wahanol ond byddwn yn gobeithio y byddai aelodau'n ymatal rhag dod ag enghreifftiau unigol i'r siambr. Ond rwy'n credu bod egwyddor y mater sy'n cael ei godi yn rhywbeth y mae angen i ni roi sylw iddo a byddwn yn fwy na pharod i gael y drafodaeth honno gydag aelodau o bob rhan o'r siambr. Ond o ran yr enghraifft benodol hon yn y Garnant, Gynghorydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.1

13.2

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS, YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH

Hoffwn wybod gan yr aelod Cabinet pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd i drwsio'r bont droed rhwng Golwg yr Aman a Pharc Cwmaman. Mae'n 26 oed ac yn rhydu ac mae angen ail-baentio a glanhau ar frys cyn iddo ddirywio a bydd angen codi pont newydd”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Hoffwn wybod gan yr aelod Cabinet pa gamau a fydd yn cael eu cymryd i atgyweirio'r bont droed rhwng Golwg yr Aman a Pharc Cwmaman?  Mae'n 26 oed ac yn rhydu'n druenus ac mae angen ei hailbaentio a'i glanhau ar frys cyn iddi rhydu'n waeth a bod angen un newydd yn ei lle”.

 

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-

Diolch i chi, Gynghorydd Madge, am eich cwestiwn. Byddwch yn ymwybodol wrth gwrs, o ail hanner y 2000au ymlaen, mae'r cyllidebau sydd wedi bod ar gael ar gyfer cynnal a chynnal ein hasedau o ran pontydd a strwythurau wedi'u defnyddio llawer ac wedi'u blaenoriaethu o ran gwaith cynnal a chadw hanfodol i sicrhau bod ein rhwydwaith priffyrdd yn parhau i fod yn weithredol ac mewn cyflwr addas i'w ddefnyddio. Yn hyn o beth mae ein hasedau'n cynnwys tua 800 o bontydd a 1073 o strwythurau eraill.

 

Cynhelir y math arferol o weithgareddau megis paentio ac ymyriadau eraill ar raddfa gymharol lai pan nodir yr angen, a rhoddir ystyriaeth i flaenoriaethau ehangach, o fewn y gyllideb a ddyrannwyd. 

 

Yn achos y bont droed benodol hon sy'n cysylltu Parc Cwmaman a Pharc Golwg yr Aman, cafwyd trafodaethau cadarnhaol iawn rhwng swyddogion y Cyngor hwn a'r Cyngor Tref fel rhan o'r trefniadau cyffredinol o ran trosglwyddo asedau o ran y parciau.  

 

Fodd bynnag, mae'n amlwg bellach y bydd y Cyngor Sir yn dal i fod yn berchen ar strwythur y bont droed. Ar wahân i hyn, ac yn ysbryd y trafodaethau cadarnhaol a gynhaliwyd hyd yma â'r Cyngor Tref, bydd anghenion cynnal a chadw'r bont droed bellach yn cael eu hadolygu ac asesir faint o ailbaentio y gallai fod angen ei wneud, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd fel y bo'n briodol.

 

Bydd archwiliad gweledol o'r bont yn cael ei gynnal gan swyddogion yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn canfod yr hyn y bydd ei angen o bosibl. Byddaf yn fwy na pharod i gael trafodaeth bellach â chi, Gynghorydd Madge, a hyd yn oed ymweld â'r safle os oes angen pan fydd canlyniad yr archwiliad yn hysbys.”

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.

 

13.3

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD JANE TREMLETT, YR AELOD CABINET DROS IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

A allwn gael y wybodaeth ddiweddaraf am Ganolfan Ddydd Cwmaman? Pryd mae'r Cyngor Sir yn bwriadu agor y Ganolfan Ddydd am yr wythnos gyfan gan ddarparu gwasanaethau i 30 o gleientiaid? Yn ogystal â hyn, beth yw eich cynlluniau i agor y gegin yn y ganolfan i bobl leol er mwyn gallu darparu prydau ar glud a chlwb cinio ar ddydd Iau i bensiynwyr lleol”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A oes modd imi gael y wybodaeth ddiweddaraf am Ganolfan Ddydd Cwmaman?  Pryd y mae'r Cyngor Sir yn bwriadu agor y Ganolfan Ddydd am yr wythnos gyfan gan ddarparu gwasanaethau i 30 o gleientiaid? Yn ogystal â hyn, beth yw eich cynlluniau i agor y gegin yn y ganolfan i bobl leol er mwyn gallu darparu prydau ar glud a chlwb cinio ar ddydd Iau i bensiynwyr lleol?”

 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:-

“Yn wreiddiol, ailagorodd Canolfan Ddydd Cwmaman ddeuddydd yr wythnos. Ddechrau mis Medi gwnaethom gynyddu hyn i dri diwrnod yr wythnos gydag 20 yn bresennol ac mae hyn yn ateb y galw ar gyfer y gwasanaeth ar hyn o bryd. Rydym yn adolygu’r sefyllfa o ran y galw yn rheolaidd ond nid oes cynlluniau i gynyddu’r ddarpariaeth i bum diwrnod ar hyn o bryd. Ond mae lle ar gael ar y diwrnodau presennol i ateb unrhyw alw ychwanegol y gellir ei nodi. Rydym wedi llwyddo i gael gafael ar brydau bwyd i fynychwyr Cynllun Gofal Ychwanegol T? Dyffryn a bydd hyn yn arbed £100,000 y flwyddyn. Yn amlwg, gellir darparu prydau bwyd mewn modd mwy cost-effeithiol ar hyn o bryd o D? Dyffryn  a’r bwriad yw y bydd hyn yn parhau. Hefyd, byddai angen gwneud gwaith adnewyddu i ailagor y gegin a fyddai’n costio £150,000 ychwanegol i’r Cyngor. Mae’n si?r y trafodir a ddylid buddsoddi ai peidio yn rhan o’r ymgynghoriadau a’r penderfyniadau sydd i ddod o ran pennu’r gyllideb. O ganlyniad, nid ydym mewn sefyllfa i gynnig y gegin i’r gymuned ei defnyddio ar gyfer dibenion eraill fel prydau bwyd cymunedol a chlybiau cinio ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddem yn croesawu cynnig elfennau eraill o’r ddarpariaeth i’r gymuned a byddem yn agored i drafodaethau am hynny.

Mae'r Cynghorydd Madge eisoes wedi trafod opsiynau gyda mi a swyddogion mewn cyfres o gyfarfodydd a gynhaliwyd yn y ganolfan ddydd cyn y pandemig ac rwy'n si?r, trwy gytundeb, y gellid ailddechrau'r trafodaethau hynny.

Gall aelodau o'r gymuned gysylltu â Llesiant Delta i gael gwybodaeth a chyngor am fusnesau lleol sy'n gallu darparu prydau poeth sy'n cael eu danfon i'w cartrefi, yn ogystal â grwpiau cymunedol sy'n gallu eu helpu i gymdeithasu yn eu cymunedau.”

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.

 

13.4

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD MARTYN PALFREMAN I'R CYNGHORYDD GARETH JOHN, YR AELOD CABINET DROS ADFYWIO, HAMDDEN, DIWYLLIANT A THWRISTIAETH

“Nodir y bydd Sir Gaerfyrddin yn derbyn £38.6m dros y 3 blynedd nesaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a bod Cynllun Buddsoddi rhanbarthol lefel uchel wedi ei gyflwyno i'w gymeradwyo. A allai'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth roi gwybod i ni am y canlynol:

1. Y broses ar gyfer cytuno pa brosiectau lleol fydd yn mynd ymlaen a phwy fydd yn rhan o'r penderfyniadau hyn.

2. Y trefniadau ar gyfer sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau pob cymuned ar draws Sir Gaerfyrddin yn cael eu hadlewyrchu yn y prosiectau a gymeradwyir.

3. A oes mesurau diogelu ar waith i sicrhau nad yw blaenoriaethau lleol yn cael eu llyncu gan y rhai a osodir ar lefel ranbarthol, a beth yw'r mesurau diogelu hyn.

4. Pa mor barod yw prosiectau arfaethedig y mae'n amlwg y bydd angen iddynt fwrw iddi’n syth er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o wariant a’r canlyniadau gorau, yn enwedig ym Mlwyddyn 1.

5. Pa un a yw'r proffil gwariant ar gyfer y Gronfa wedi'i rannu'n gymesur ar draws pob blwyddyn, gyda dyraniad llai ym Mlwyddyn 1 oherwydd bod prosiectau a gymeradwyir yn annhebygol o ddechrau tan ddiwedd 2022 ar y cynharaf.” 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 “Nodir y bydd Sir Gaerfyrddin yn cael £38.6 miliwn dros y 3 blynedd nesaf trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a bod Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol lefel uchel wedi cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo. A oes modd i'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth roi cyngor ynghylch y canlynol?

1. Y broses ar gyfer cytuno ynghylch pa brosiectau lleol fydd yn symud ymlaen a phwy fydd yn rhan o'r penderfyniadau hyn.

2. Y trefniadau ar gyfer sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau pob cymuned ledled Sir Gaerfyrddin yn cael eu hadlewyrchu yn y prosiectau cymeradwy.

3. P'un a oes trefniadau diogelu ar waith i sicrhau nad yw blaenoriaethau lleol yn cael eu cynnwys yn y rhai a osodir ar lefel ranbarthol, a beth yw'r trefniadau diogelu hyn.

4. Sefyllfa prosiectau arfaethedig o ran bod yn barod, ac yn amlwg bydd angen iddynt fwrw iddi ar unwaith er mwyn manteisio'n llawn ar y gwariant a'r canlyniadau, yn enwedig ym Mlwyddyn 1. 5. P'un a yw'r proffil gwariant ar gyfer y Gronfa wedi'i rannu'n gymesur ar draws pob blwyddyn, gyda dyraniad llai ym Mlwyddyn 1 oherwydd bod y prosiectau a gymeradwywyd yn annhebygol o ddechrau tan o leiaf ddiwedd 2022.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Gareth John - yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:-

“Diolch am y cwestiwn a hefyd am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor ac i'r cyhoedd ehangach ynghylch y sefyllfa bresennol o ran cynlluniau Sir Gaerfyrddin i gael y budd mwyaf posibl o'r manteision a'r cyfleoedd a roddwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae'r Cynghorydd Palfreman wedi bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod ein sesiynau briffio un ag un rheolaidd, a bydd hyn yn parhau i ddigwydd. Gan obeithio bod y Cynghorydd Palfreman yn teimlo bod y rhain yn fuddiol ac yn gynhyrchiol iawn. Yng Nghymru bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei darparu trwy 4 rhanbarth a bydd y llywodraeth leol yn gyfrifol am ddatblygu cynllun buddsoddi strategol rhanbarthol lefel uchel ac yna'i gyflawni. Felly, o ran y cwestiwn:  

 

1. Er y cytunwyd y bydd Cyngor Abertawe yn gwasanaethu fel yr Awdurdod Lleol Arweiniol ar gyfer gweinyddu'r dyraniad o £138 miliwn o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer y rhanbarth, gwneir penderfyniadau ar lefel leol, gyda phob Awdurdod Lleol yn cadw at eu trefniadau a'u protocolau cyfansoddiadol eu hunain. Cadarnhawyd mai dyraniad Sir Gaerfyrddin yw £38.6 miliwn, sy'n cynnwys £32 miliwn o gyllid craidd a £6.6 miliwn ar gyfer y rhaglen sgiliau Multiply. Mae disgwyl i gynigion prosiect gael eu cymryd i Bartneriaethau Adfywio lleol (sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector) ym mhob Awdurdod Lleol i'w cymeradwyo cyn cael cymeradwyaeth gan y Cabinet. Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r Bartneriaeth hon eisoes wedi'i sefydlu ac wedi cwrdd ddwywaith, ac mae'n cynnwys rhanddeiliaid lleol o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Cytunwyd i sefydlu 3 is-gr?p thematig sy'n canolbwyntio ar gymunedau a lle, gan gefnogi busnes a phobl a sgiliau. I  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.4

14.

MAE'R AELODAU HEB GYSYLLTIAD GWLEIDYDDOL WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD JOHN JENKINS I LENWI EU LLE GWAG AR Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod yr aelodau heb gysylltiad pleidiol wedi enwebu'r Cynghorydd John Jenkins i'w swydd wag ar y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

15.

COFNODION ER GWYBODAETH

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 15.1 – 15.9 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau