Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 13eg Medi, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, D.M. Cundy, B. Davies, T.A.J. Davies. R.E. Evans a G.R. Jones.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.    Davies

9.1 Rhybudd o Gynnig a gynigiwyd gan y Cynghorwyr Edward Thomas a Hefin Jones – "Ffordd osgoi Llandeilo”

 

Yn berchen ar dir yn yr ardal y gallai'r ffordd osgoi arfaethedig effeithio arni.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

·       Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o'r amrywiaeth o ddigwyddiadau yr oedd hi a'i chymar wedi'u mynychu ar draws y sir ers y cyfarfod diwethaf, ac roedd pob un ohonynt wedi bod yn ddiddorol ac yn addysgiadol.

 

·       Bu'r Cynghorydd A. Lenny, ar ran y Cynghorwyr G.H. John, P. Hughes-Griffiths a'i hun, yn cydnabod ac yn canmol y cyn-bediatregydd ymgynghorol Dr. Dewi Evans, trigolyn ward Gogledd a De Tref Caerfyrddin, am ei rôl ganolog fel arbenigwr meddygol wrth sicrhau euogfarn Lucy Letby ar ôl iddi ladd nifer o fabanod.  

 

·       Llongyfarchodd y Cynghorydd G. Davies i Jac Morgan o Frynaman ar gael ei ddewis yn un o'r capteiniaid ar gyfer Tîm Rygbi Dynion Cymru yng Nghwpan y Byd. Roedd y Cynghorydd G. Davies wrth ei fodd wrth nodi bod dau drigolyn Sir Gaerfyrddin arall, sef Gareth Davies a Gareth Thomas, wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd a rhoddodd ei ddymuniadau gorau i'r tîm ar gyfer y twrnament. Roedd y Cynghorydd G. Davies hefyd yn falch o nodi bod Hannah Jones, Capten Tîm Rygbi Menywod Cymru hefyd o Frynaman, sydd yn dangos, yn ei farn ef, bod unigolion o'r radd flaenaf yn yr ardal.

 

·       Canmolodd y Cynghorydd J.K. Howell y Cynghorydd Owen Jones o Dre-fach Felindre a oedd wedi gorffen yn y 25 cystadleuwr uchaf yn nigwyddiad Pencampwriaethau Ironman y Byd 2023 yn y Ffindir, ac felly cafodd ei wahodd i gymryd rhan yn nigwyddiad Pencampwriaethau Ironman y Byd yn 2024, a fyddai'n cael ei gynnal yn Seland Newydd.

 

·       Llongyfarchodd y Cynghorydd M. James i bump aelod o Glwb Bowlio Mat Byr Llandyfaelog, sef Andrea Bennett, Janet Davies, Llinos Jones, Shan Rees a Carloline Styles, a ddewiswyd i gynrychioli Cymru mewn Cystadleuaeth Genedlaethol ym Melton Mowbery ar 7 ac 8 Hydref, a rhoddodd ei dymuniadau gorau iddynt.

 

·       Cydnabu'r Cynghorydd H. Jones gyflawniadau Ffederasiwn Sir Gaerfyrddin Clybiau Ffermwyr Ifanc yn Sioe Frenhinol Cymru 2023 yn y categorïau canlynol:

 

-Cystadleuaeth coginio- Clwb Ffermwyr Ifanc Llanismel

-Cystadleuaeth Gwisg Ffansi – Clwb Ffermwyr Ifanc Llanymddyfri

-Gwobr Cwmni'r Nant - Dafydd Evans o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanismel

-Rygbi Saith bob Ochr - Clwb Ffermwyr Ifanc Caerfyrddin

-Gwaith Coed Iau - Clwb Ffermwyr Ifanc Capel Iwan

 

·       Llongyfarchodd y Cynghorydd i Wynne Evans ar ennill Celebrity MasterChef ac estynnodd ei werthfawrogiad i Mr Evans am fod yn llysgennad ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Chymru ac arddangos cynnyrch Cymru lleol. 

4.

CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Doedd dim cyhoeddiadau.

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 12FED GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023 gan eu bod yn gywir.

6.

CYMERADWYO'R NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU:-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod swyddi gwag ar nifer o bwyllgorau o ganlyniad i aelodaeth ddiwygiedig y Cabinet, ac y byddai'r Cynghorydd H.A.L. Evans yn cymryd lle'r Cynghorydd G.H. John fel yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth. Talodd yr Arweinydd deyrnged i'r Cynghorydd G.H. John am ei gyfraniad rhagorol i waith y Cabinet yn ystod ei gyfnod yn y swydd. 

6.1

MAE GRWP PLAID CYMRU WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD GARETH JOHN I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS AR Y PWYLLGOR CRAFFU IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebu'r Cynghorydd G.H. John i gymryd lle'r Cynghorydd H.A.L Evans fel un o gynrychiolwyr Gr?p Plaid Cymru ar y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

6.2

MAE GRWP PLAID CYMRU WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD GARETH JOHN I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS AR Y PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebu'r Cynghorydd G.H. John i gymryd lle'r Cynghorydd H.A.L. Evans fel un o gynrychiolwyr Gr?p Plaid Cymru ar y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol.

6.3

MAE GRWP PLAID CYMRU WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD RUSSELL SPARKS I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS AR Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebu'r Cynghorydd R. Sparks i gymryd lle'r Cynghorydd H.A.L. Evans fel un o gynrychiolwyr Gr?p Plaid Cymru ar Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

7.

ETHOL CADEIRYDD Y PWYLLGOR CRAFFU IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YN DILYN SWYDD WAG CANOL TYMOR

Yn unol â Rheol 4 (2) o Weithdrefn y Cyngor mae'r enwebiad canlynol wedi'i gyflwyno i'r Prif Weithredwr :-

 

Y Cynghorydd Gareth John - Gr?p Plaid Cymru

 

Nid oes enwebiadau eraill wedi dod i law.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ethol y Cynghorydd G.H. John yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

8.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

3YDD GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2023.

 

8.2

17EG GORFFENNAF 2023 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2023.

9.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR EDWARD THOMAS A HEFIN JONES

“Ffordd Osgoi Llandeilo

Mae'r Cyngor yn nodi bod yr adroddiad WELTAG1 ar ffordd osgoi Llandeilo yn 2018 wedi'i ddileu'n bendant fel rhywbeth anymarferol, y cysyniad o ddargyfeirio cerbydau nwyddau trwm i ffwrdd o ganol tref Llandeilo, heb ffordd osgoi.

Mae'r Cyngor yn nodi ymhellach bod y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth wedi cyhoeddi ei fwriad yn ddiweddar i atgyfodi'r opsiwn hwn o bosibl wrth aros am ymchwiliadau pellach. Heb os, byddai hyn yn gweld gweithredwyr cerbydau nwyddau trwm yn chwilio am ddargyfeiriadau llwybr byr trwy bentrefi gwledig mewn wardiau cyfagos ar ffyrdd anaddas neu'n wynebu cost ac amser ychwanegol oherwydd y pellter a deithiwyd. Byddai'r effaith yn cael ei deimlo gan fusnesau yn nhref Llandeilo sy'n dibynnu ar gerbydau nwyddau trwm ar gyfer anfon a derbyn nwyddau, a byddai dull mynediad yn unig yn golygu bod camau o'r fath yn aneffeithiol ac na ellir eu gorfodi.

Mae'r Cyngor hwn yn galw ar y Dirprwy Weinidog i ailystyried ei fwriad cyhoeddedig ac i gadw at ganfyddiadau adroddiad 2018. Ar ben hynny, mae'r cyngor hwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad WELTAG 2 a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2020 yn ddiymdroi a gwireddu'r ymrwymiad a wnaed yn 2016/17.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio].

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Edward Thomas a Hefin Jones:-

 

“Mae'r Cyngor yn nodi bod yr adroddiad WELTAG1 ar ffordd osgoi Llandeilo yn 2018 wedi'i ddileu'n bendant fel rhywbeth anymarferol, y cysyniad o ddargyfeirio cerbydau nwyddau trwm i ffwrdd o ganol tref Llandeilo, heb ffordd osgoi.

 

Mae'r Cyngor yn nodi ymhellach bod y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth wedi cyhoeddi ei fwriad yn ddiweddar i atgyfodi'r opsiwn hwn o bosibl wrth aros am ymchwiliadau pellach.Heb os, byddai hyn yn gweld gweithredwyr cerbydau nwyddau trwm yn chwilio am ddargyfeiriadau llwybr byr trwy bentrefi gwledig mewn wardiau cyfagos ar ffyrdd anaddas neu'n wynebu cost ac amser ychwanegol oherwydd y pellter a deithiwyd. Byddai'r effaith yn cael ei deimlo gan fusnesau yn nhref Llandeilo sy'n dibynnu ar gerbydau nwyddau trwm ar gyfer anfon a derbyn nwyddau, a byddai dull mynediad yn unig yn golygu bod camau o'r fath yn aneffeithiol ac na ellir eu gorfodi.

 

Mae'r Cyngor hwn yn galw ar y Dirprwy Weinidog i ailystyried ei fwriad cyhoeddedig ac i gadw at ganfyddiadau adroddiad 2018. Ar ben hynny, mae'r cyngor hwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad WELTAG 2 a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2020 yn ddiymdroi a gwireddu'r ymrwymiad a wnaed yn 2016/17.” 

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig. 

 

Yn dilyn pleidlais:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gefnogi'r Rhybudd o Gynnig a'i gyfeirio i'r Cabinet.

9.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR KEVIN MADGE A ROB JAMES pdf eicon PDF 47 KB

“Gr?p Cymorth Iselder Shadows

 

Mae Gr?p Cymorth Iselder Shadows yng Nglanaman wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i boblogaeth Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth dros y tair blynedd diwethaf, gan ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eang sy'n effeithio ar y gymuned ehangach.

 

Torrwyd cyllid Shadows o'r 5ed o Fedi a fydd yn effeithio ar y bobl fregus sy'n byw yn ein cymunedau gan y byddant bellach yn fwy ymylol, a bydd rhai yn wynebu risg iechyd difrifol oherwydd y penderfyniad hwn.

 

Rydym yn galw ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda, Cyngor Sir Caerfyrddin a chlystyrau.

 

Meddygon Teulu i gynnal y cyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn neu ddarparu cymorth ariannol i gadw'r gwasanaethau i fynd nes eu bod yn derbyn cyllid grant - bydd hyn yn helpu i gynnal y gwasanaethau iechyd meddwl a ddarperir ar gyfer ardaloedd Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Kevin Madge a Rob James:-

 

“Mae Gr?p Cymorth Iselder Shadows yng Nglanaman wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i boblogaeth Dyffryn Aman a Chwm  Gwendraeth  dros y tair blynedd diwethaf, gan ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eang sy'n effeithio ar y gymuned ehangach.

 

Torrwyd cyllid Shadows o'r 5ed o Fedi a fydd yn effeithio ar y bobl fregus sy'n byw yn ein cymunedau gan y byddant bellach yn fwy ymylol, a bydd rhai yn wynebu risg iechyd difrifol oherwydd y penderfyniad hwn.

 

Rydym yn galw ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda, Cyngor Sir Caerfyrddin a chlystyrau Meddygon Teulu i gynnal y cyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn neu ddarparu cymorth ariannol i gadw'r gwasanaethau i fynd nes eu bod yn derbyn cyllid grant - bydd hyn yn helpu i gynnal y gwasanaethau iechyd meddwl a ddarperir ar gyfer ardaloedd Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r Cynnig gan y Cynghorydd J. Tremlett ac eiliwyd y cynnig hwn.

 

“Mae Gr?p Cymorth Iselder Shadows yng Nglanaman wedi cael effaith gadarnhaol ar boblogaeth Dyffryn Aman a Chwm  Gwendraeth  dros y tair blynedd diwethaf, gan ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eang sy'n effeithio ar y gymuned ehangach.

 

Mae'r Cyngor yn nodi bod cyllid Shadows wedi dod i ben o 5 Medi a bod cryn bryder am yr effaith bosibl ar y rhai sy'n defnyddio ei wasanaethau.

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y clwstwr Meddygon Teulu a Chyngor Sir Caerfyrddin i weithio gyda Gr?p Cymorth Iselder Shadows i geisio dod o hyd i ateb cynaliadwy o ran cyllid er mwyn diogelu gwasanaethau yn Nyffryn Aman a Chwm Gwendraeth.

 

Mae'r Cyngor yn galw ymhellach ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i sicrhau bod digon o wasanaethau iechyd meddwl ar gael i drigolion ledled Sir Gaerfyrddin, yn y tymor byr a'r tymor hir.”

 

Rhoddwyd cyfle i Gynigydd ac Eilydd y Gwelliant siarad o'i blaid a rhoesant amlinelliad o'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Gwelliant.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau a gefnogai'r Cynnig a'r Gwelliant.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor, pe bai'r Gwelliant yn cael ei dderbyn, y byddai'n dod yn gynnig terfynol.

 

Yn dilyn pleidleisiau

 

PENDERFYNWYD cefnogi'r Cynnig, fel y'i diwygiwyd, a'i gyfeirio i'r Cabinet.

 

10.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau.</AI9>

12.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN):-

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 12.1 – 12.11 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.