Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Davies, N. Lewis, a D. Nicholas.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef a'i Gydymaith, y Cynghorydd Nysia Evans, wedi bod i'r Arddwest ym Mhalas Buckingham yn ddiweddar yn y cyfnod cyn Coroni'r Brenin.

 

·       Bu i'r Cynghorydd Emyr Rees longyfarch 2 dîm o fewn ward Glanaman am eu llwyddiant ym maes chwaraeon. Clwb Rygbi'r Aman dan 15 oed, a enillodd Gwpan GMG Sir Gaerfyrddin a Chlwb Rygbi Cwmaman dan 15 oed a enillodd Gwpan Cynghrair Iau Gorllewin Morgannwg. Mynegwyd gair o werthfawrogiad i'w tîm hyfforddi ac i'r gwirfoddolwyr.

 

·       Bu i'r Cynghorydd Rob James a'r Cynghorydd Palfreman longyfarch y Cynghorydd Rob Evans a'i Gydymaith, y Cynghorydd Nysia Evans ar gynnal Cinio Elusennol llwyddiannus ar noson y 29ain o Ebrill 2023 a gododd swm sylweddol o arian er budd dwy elusen werthfawr sef Ambiwlans Awyr Cymru a Hosbis T? Bryngwyn, Llanelli.

 

·       Ar ôl cwblhau ymchwiliad llawn dros gyfnod o 10 mis ynghylch digwyddiad a ddigwyddodd yn ystod hyfforddiant anffurfiol, ymddiheurodd y Cynghorydd Dorian Phillips yn ddiffuant i aelodau'r Cyngor am y digwyddiad.

 

·       Mynegodd y Cynghorydd Glynog Davies ei longyfarchiadau i Ysgol Coed Cae, Llanelli ar gael Adroddiad Arolygu ardderchog gan Estyn.  Estynnwyd gair o werthfawrogiad i'r Pennaeth, y staff a'r dysgwyr am eu hymdrechion i gael adroddiad cadarnhaol.

 

 

4.

CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd wedi cael gwybod am unrhyw gyhoeddiadau.

 

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y 19 EBRILL 2023 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd y dylai datganiad o fuddiant y Cynghorydd M. James ar gyfer eitem 10.1 - Polisi Cartrefi Gwag - Ein Dull O Ddefnyddio Cartrefi Gwag Unwaith Eto fod fel a ganlyn:-

 Yn debygol o etifeddu t? a allai fod yn wag yn ystod cyfnod y polisi.’

 

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2023 yn gofnod cywir, yn amodol ar y newid uchod.

 

 

6.

RECRIWTIO I SWYDD PENNAETH SEILWAITH YR AMGYLCHEDD (PENODIAD PARHAOL) pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, a oedd, yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor ynghylch recriwtio ar gyfer penodi i'r swydd Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol yn barhaol. Atodwyd y Proffil Swydd, y Fanyleb Person a'r hysbyseb swydd i'r adroddiad i'w hystyried.

 

Hysbyswyd y Cyngor, yn dilyn penodi i swydd y Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith ym mis Tachwedd 2022, fod yr Awdurdod bellach wedi cael cyfle i adolygu effeithiolrwydd y trefniadau dros dro presennol a oedd wedi bod ar waith, ynghyd ag ystyried cynllunio olyniaeth yn dilyn ymddeoliad y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ym mis Medi eleni. Roedd y penodiad arfaethedig yn cyfuno swydd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd a Phennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff. Byddai gan y swydd newydd fwy o ffocws strategol a byddai'n gofyn am strwythur priodol oddi tani i sicrhau ei bod yn cyflawni ei hamcanion strategol.


Nododd yr Aelodau y byddai'r hysbyseb gyflawn ar dudalen recriwtio'r Cyngor a byddai fersiwn gryno yn cael ei rhoi ar lwyfannau hysbysebu neu ar y cyfryngau gan gyfeirio darpar ymgeiswyr at dudalen recriwtio Sir Gaerfyrddin.

PENDERFYNWYD,
yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014, gymeradwyo'r Proffil Swydd, y Fanyleb Person a'r hysbyseb swydd ar gyfer penodi'n barhaol i'r swydd Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

 

7.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR SEAN REES A MICHAEL CRANHAM

“Mae 9863 o bobl sydd wedi goroesi strôc yn byw yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac mae 47% o'r rheiny'n byw yn Sir Gaerfyrddin.

 

Mae'r Gymdeithas Strôc wedi darparu 'Gwasanaeth Goroesi Strôc' ar draws tair ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda ers dros ddegawd.

 

Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r cyllid ar gyfer hyn hyd yma wedi bod drwy'r Bwrdd Iechyd ac yna mae'r Cyngor Sir wedi bod yn ychwanegu at y swm hwn. Bellach mae'r Cyngor Sir wedi newid ei gyfraniad ariannol er mwyn canolbwyntio'n fwy ar atal strôc.

 

Ar gyfer 2023/24, mae'r Gymdeithas Strôc wedi cael gwybod y byddant yn cael yr un dyraniad cyllid â'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth presennol, ac felly ni fydd hyn yn cynnwys unrhyw arian ychwanegol i dalu am y cronfeydd a ddarparwyd yn y gorffennol gan yr Awdurdod Lleol. Yn ogystal, mae'r holl wasanaethau eraill ar gyfer bywyd ar ôl cael strôc a gomisiynwyd ledled Cymru yn cael eu hariannu'n llawn gan y Byrddau Iechyd.

 

Felly rydym fel Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn i Fwrdd Iechyd Hywel Dda roi sicrwydd ar frys i'r rhai sydd wedi goroesi strôc, eu teuluoedd, a'u gofalwyr, na fydd unrhyw effaith ar ddarparu'r 'Gwasanaeth Goroesi Strôc' yma yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Sean Rees a Michael Cranham:-

 

“Mae 9863 o bobl sydd wedi goroesi strôc yn byw yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac mae 47% o'r rheiny'n byw yn Sir Gaerfyrddin.  'Mae'r Gymdeithas Strôc wedi darparu 'Gwasanaeth Goroesi Strôc' ar draws tair ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda ers dros ddegawd. 

 

Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r cyllid ar gyfer hyn hyd yma wedi bod drwy'r Bwrdd Iechyd ac yna mae'r Cyngor Sir wedi bod yn ychwanegu at y swm hwn. Bellach mae'r Cyngor Sir wedi newid ei gyfraniad ariannol er mwyn canolbwyntio'n fwy ar atal strôc. 

 

Ar gyfer 2023/24, mae'r Gymdeithas Strôc wedi cael gwybod y byddant yn cael yr un dyraniad cyllid â'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth presennol, ac felly ni fydd hyn yn cynnwys unrhyw arian ychwanegol i dalu am y cronfeydd a ddarparwyd yn y gorffennol gan yr Awdurdod Lleol. Yn ogystal, mae'r holl wasanaethau eraill ar gyfer bywyd ar ôl cael strôc a gomisiynwyd ledled Cymru yn cael eu hariannu'n llawn gan y Byrddau Iechyd. 

 

Felly rydym fel Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn i Fwrdd Iechyd Hywel Dda roi sicrwydd ar frys i'r rhai sydd wedi goroesi strôc, eu teuluoedd, a'u gofalwyr, na fydd unrhyw effaith ar ddarparu'r 'Gwasanaeth Goroesi Strôc' yma yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau didwyll o blaid y Cynnig gan aelodau yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol.

 

PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig.

 

 

8.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. 

 

 

9.

CYFLWYNO DEISEB

Nodyn: Er mwyn cael eu hystyried mewn cyfarfod ffurfiol rhaid i bob deiseb gynnwys 50 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer copïau papur a 300 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer e-ddeisebau. Mae cyfanswm Llofnodion Etholiadol Sir Gaerfyrddin hyd at y trothwy o 50 wedi'u dilysu. Nid ydym wedi gwirio'r llofnodion wedi hynny.

 

“Rydym ni'r rhai sydd wedi llofnodi isod yn gofyn am weithredu ar unwaith gan Gyngor Sir Caerfyrddin i gynllunio, ariannu ac adeiladu toiledau yn Nwyrain Harbwr Porth Tywyn a Gorllewin Harbwr Porth Tywyn.  Deiseb i ddatrys absenoldeb toiledau cyhoeddus digonol a hygyrch yn Harbwr Porth Tywyn.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth Aelodau'r Cyngor fod y ddeiseb ganlynol a gyflwynwyd gerbron y Cyngor mewn perthynas â'r toiledau yn Harbwr Porth Tywyn yn un o swyddogaethau'r Cabinet:-

 

“Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin weithredu ar unwaith i gynllunio, i ariannu ac i adeiladu toiledau yn nwyrain Harbwr Porth Tywyn ac yng ngorllewin Harbwr Porth Tywyn. Deiseb i unioni'r diffyg toiledau cyhoeddus digonol a hygyrch yn Harbwr Porth Tywyn.”

 

Yn unol â 10.16 o Gyfansoddiad y Cyngor, roedd y deisebydd wedi dewis cyflwyno'r ddeiseb yn ffurfiol i'r Cabinet ac felly nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod. 

 

Yn unol â'r Cyfansoddiad, rhoddwyd cyfle i'r Cyngor drafod y mater ac yna cyfeirio'i drafodaethau at y Cabinet.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r ddeiseb.

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth wybodaeth i'r Cyngor ynghylch cyfrifoldeb yr Awdurdod o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a dywedodd ei fod yn gohebu â'r deisebydd yn uniongyrchol ac y byddai'n darparu ymateb llawn yng nghyfarfod y Cabinet.

Wrth gydnabod bod Porth Tywyn yn un o nifer o ardaloedd lle'r oedd y gymuned leol wedi nodi ei bod yn dymuno cael gwell cyfleusterau a bod angen y cyfleusterau hyn arnynt, a gefnogwyd hefyd gan y ddeiseb, cydnabuwyd y byddai gwella darpariaeth y toiledau cyhoeddus ym Mhorth Tywyn yn gofyn am ateb tymor byr ynghyd â chynllun tymor canolig a thymor hir a fyddai'n cael ei ddatblygu trwy weithio gyda phartneriaid allweddol yn yr ardal. Roedd trafodaethau ynghylch cael ateb tymor byr ar unwaith ar y gweill.

PENDERFYNWYD derbyn y ddeiseb a’i chyflwyno at sylw'r Cabinet i'w hystyried. 

 

 

10.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau. 

 

 

11.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 11.1 – 11.6 ar gael i'w gweld er gwybodaeth ar wefan y Cyngor.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau