Agenda a Chofnodion

Cyllideb, Cyngor Sir - Dydd Mercher, 1af Mawrth, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Corporate Budget 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, C. Davies, H. Davies, S. Godfrey-Coles, E. Rees a J. Seward.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

A. Vaughan-Owen

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei wraig yn bennaeth ar ysgol gynradd

L.M. Davies

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei g?r yn dysgu fel Pennaeth Cerdd

N. Evans

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei merch yn gweithio i'r gwasanaeth llyfrgelloedd

R. Evans

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei ferch yn gweithio i'r gwasanaeth llyfrgelloedd

L.D. Evans

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei merch yn athrawes

H. Shepardson

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei ferch yn athrawes

H. Shepardson

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Aelod o'r Awdurdod Tân

G. Morgan

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Tenant yn Llynnoedd Delta

T. Higgins

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei nith yn gweithio yn y gwasanaeth llyfrgelloedd

D.C. Evans

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei wraig yn gweithio yng Nghanolfan Gyswllt y Cyngor

K. Broom

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Aelod o'r Awdurdod Tân

K. Madge

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei merch yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol

J. Hart

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei chwaer yn athrawes

B. Jones

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei mab yn bennaeth ysgol

P. Warlow

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei wraig yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol

A. Evans

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei fam yn gweithio yn Adran y Prif Weithredwr

F. Walters

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Aelodau o'r teulu'n athrawon

A. Leyshon

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei ferch yn gweithio yn y gwasanaeth llyfrgelloedd

D. Nicholas

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei ferch yn gweithio yn yr Adran Gynllunio

C.A. Jones

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei merch-yng-nghyfraith yn gweithio ym maes Addysg

E. Williams

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Cadeirydd yr Awdurdod Tân

D. Cundy

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei berthnasau'n gweithio i'r Cyngor

E. Skinner

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei nith yn gweithio i'r Awdurdod

R. Sparks

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Mae ganddo fusnes yn y diwydiant hamdden a chaniatawyd gollyngiad iddo siarad ond nid pleidleisio

L. Roberts

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Aelodau o'r teulu yn gweithio i'r Cyngor

G.B. Thomas

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Aelod o'r Awdurdod Tân

M. Palfreman

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Mae ganddo fusnes ymgynghoriaeth gofal cymdeithasol – Caniatawyd gollyngiad iddo siarad ond nid pleidleisio

B. Davies

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Ei wraig yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol

G. John

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Aelodau o'r teulu'n gweithio i'r Awdurdod

T.A.J. Davies

5.1 – Strategaeth Cyllideb  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn bresennol mewn ymweliad diweddar gan Dywysog a Thywysoges Cymru â Gorsaf Ambiwlans Awyr Cymru yn Nafen, Llanelli,

·       Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Magda Smith, Marianna Pilichowska, Tom Vaughan-Jones, Jacob Eatly ac Iestyn Davies, aelodau'r Cyngor Ieuenctid a oedd yn gweithio tuag at eu Gwobr Cysgodi Cynghorwyr a oedd yn cydnabod dealltwriaeth pobl ifanc o ddemocratiaeth leol a'u rhan ynddi,

·       Estynnodd y Cynghorydd Gareth Thomas ei longyfarchiadau i Ysgol Gynradd yr Hendy ar ennill cystadleuaeth Carol yr ?yl 2022 ar raglen Heno.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 25 IONAWR 2023 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2023 yn gofnod cywir.

 

5.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL

Dogfennau ychwanegol:

5.1

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2023/24 I 2025/26 pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr A Vaughan Owen, L.M. Davies, N. Evans, R. Evans, L.D. Evans, H. Shepardson, G. Morgan, T. Higgins, D.C. Evans, K. Broom, J. Hart, B. Jones, P. Warlow, A. Evans, F. Walters, A. Leyshon, D. Nicholas, C.A. Jones, E. Williams, D. Cundy, E. Skinner, R. Sparks, L. Roberts, G. Thomas, M. Palfreman, B. Davies, G. John, T.A.J. Davies, Andrew Davies, J. James, R. James a P.M. Hughes, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd y cynghorwyr hynny yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch y mater hwn a'r bleidlais ddilynol)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror, 2023 (gweler Cofnod 5), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, ar ran y Cabinet, pryd y bu'n manylu ar gefndir y cynigion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor, ynghyd â'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb. 

 

Esboniwyd bod proses gyllideb Llywodraeth Cymru yn llawer hwyrach na'r arfer, a bod yr adroddiad oedd yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor y diwrnod hwnnw wedi ei baratoi cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ffigurau'r setliad terfynol ar 28 Chwefror. Serch hynny, bu'n bosibl adolygu rhai o brif elfennau rhagdybiaethau a dyraniadau cyllideb y Cyngor. Roedd hynny wedi golygu bod modd ailedrych ar rai o'r cynigion gwreiddiol yn yr amlinelliad o'r gyllideb ac ystyried opsiynau pellach a'u cyflwyno fel rhan o'r adroddiad i'r Cyngor. Ar sail Cymru gyfan, er bod ffigurau'r setliad amodol yn adlewyrchu cynnydd o 7.9% yn y cyllid, a bod Sir Gaerfyrddin wedi cael codiad o 8.5%, roedd ffigur y setliad terfynol hefyd wedi rhoi £10.7k yn ychwanegol i Sir Gaerfyrddin a fyddai'n cael ei ychwanegu at ei chyllideb wrth gefn.

 

Oherwydd bod y setliad terfynol wedi'i gyhoeddi'n hwyr, dywedwyd wrth y Cyngor bod yr adroddiad yn rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â'r Arweinydd, y Prif Weithredwr a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, wneud unrhyw addasiadau yn ôl yr angen, ar ôl derbyn y setliad terfynol. Er bod y Cyngor wedi cael gwybod am y newidiadau hynny y diwrnod hwnnw, byddai angen i'r Cyfarwyddwr ddilyn yr addasiadau hynny drwodd o hyd yn y tablau cyllideb yn dilyn ei gyfarfod. Roedd y Cyfarwyddwr hefyd wedi addasu rhai o'r ffigurau eraill yn y strategaeth fel sy'n arferol wrth i fwy o wybodaeth a gwybodaeth gliriach fod ar gael, ac mae'r dilysiad cyfan presennol wedi ychwanegu mwy na £30m at y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet er i'r adroddiad gadw'r cyflog tybiedig o 5% am 2023/24 ar gyfer y Cyd-gyngor Cenedlaethol, yn ogystal â  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD 2023/24 - 2027/28. pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2023 (gweler Cofnod 6) wedi ystyried Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2023/24 hyd at 2027/28 gan gymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau i'r Cyngor, ar ran y Cabinet, yr adroddiad ar y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a fyddai'n buddsoddi £265m dros y pum mlynedd nesaf; £73m ohono ar gyfer yr ymrwymiad parhaus i wella ein hadeiladau ysgolion, £27m ar gyfer prosiectau Adfywio i hybu gweithgarwch economaidd, £86m i brosiectau a gefnogir gan y Fargen Ddinesig (sy'n cynnwys canolfan hamdden newydd ar gyfer Llanelli), a £59m i wella'r seilwaith economaidd lleol a'r amgylchedd ehangach.  

Roedd y rhaglen yn darparu pecyn cynhwysfawr ac eang a gefnogir gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ac adnoddau'r Cyngor ei hun

 

Nodwyd bod y rhaglen gyfalaf fanwl dros dro wedi cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol ar 30 Ionawr at ddibenion ymgynghori.  Yn dilyn codi pryderon am ddiffyg darpariaeth ar gyfer atal llifogydd a diffyg arian grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mesurau datgarboneiddio, roedd y rhaglen wedi'i diwygio i gynnwys ymrwymiadau pellach yn y meysydd hynny.  Ni chodwyd unrhyw bryderon eraill yn ystod yr ymgynghoriad hwn ac roedd rhan o gofnod perthnasol y cyfarfod wedi'i chynnwys yn Atodiad B er gwybodaeth

 

Dywedwyd, gan fod y rhaglen gyfalaf flaenorol yn canolbwyntio cymorth i fusnesau ar yr angen i roi hwb i'r economi leol, bod hynny'n parhau i fod yn ffocws wrth i'r Cyngor barhau i gynnal cymorth i'r economi leol gyda buddsoddiadau mawr mewn prosiectau ffyniant bro a chymorth parhaus i fuddsoddi mewn seilwaith.  

 

Roedd y rhaglen yn cynnwys tri phrosiect trawsnewidiol parhaus, yr oedd pob un yn canolbwyntio ar brif dref wahanol.  

 

Yngyntaf - roedd y cytundeb i ddechrau adeiladu Parth Un datblygiad Pentre Awel yn Llanelli wedi cael ei lofnodi, am bris contract o £86m gan greu pum adeilad pwrpasol sy'n gysylltiedig â "stryd", a fyddai hefyd yn cynnwys canolfan gweithgareddau d?r, neuadd chwaraeon, ystafelloedd chwaraeon a ffitrwydd amlbwrpas a champfa, cyfleusterau addysg a hyfforddiant, darpariaeth glinigol ac ymchwil, lle arloesi a lle i fusnesau. Byddai'r prosiect yn trawsnewid tirwedd ac economi de Llanelli, Sir Gaerfyrddin, a rhan fwy o orllewin Cymru.

 

Ynail, byddai hwb gwerth £19.6m yn cael ei ddarparu yng nghanol tref Caerfyrddin gan gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref wrth i'r Cyngor adfer yn dilyn y pandemig, gan ddarparu cartref i gasgliad celf y Sir, cyfleusterau iechyd ac addysg, yn ogystal â bod yn gartref newydd i Hwb Caerfyrddin yr awdurdod ac unedau manwerthu.  Byddai'r buddsoddiad hefyd yn gatalydd ar gyfer y gwaith ehangach i adfywio canol y dref

 

Yndrydydd, byddai buddsoddiad gwerth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2023-24 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwydgwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror, 2023 (gweler Cofnod 7) wedi ystyried Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2023/24.

 

Roedd yr adroddiad wedi'i lunio yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys 2017, lle roedd y Cyngor wedi cytuno'n flaenorol i gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r TrysorlysNodwyd ei bod hefyd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

5.3.1

Bod Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2023-24 a'r argymhellion a nodwyd ynddynt yn cael eu cymeradwyo;

 

5.3.2

Bod Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodaeth, y Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw, y Strategaeth Fuddsoddi, a'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo.

 

5.4

STRATEGAETH GORFFORAETHOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2022-27 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror 2023 (gweler Cofnod 6) wedi ystyried Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor 2022-2027, a oedd yn cynnwys amcanion llesiant y Cyngor ac yn nodi trywydd a blaenoriaethau'r sefydliad yn ystod cyfnod y weinyddiaeth bresennol, gan hefyd ddarparu'r fframwaith cyflawni ar gyfer gweledigaeth ac ymrwymiadau'r Cabinet yn ystod y cyfnod. Byddai'r strategaeth newydd yn canolbwyntio ar nifer llai o amcanion yn seiliedig ar y boblogaeth gan nodi'r blaenoriaethau thematig, blaenoriaethau gwasanaethau a galluogwyr busnes craidd y byddai'r Cyngor yn ceisio eu symud yn eu blaen yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:

 

bod Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor 2022-2027 yn cael ei chymeradwyo”.

 

6.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:

Dogfennau ychwanegol:

6.1

30 IONAWR, 2023 pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Ionawr, 2023.

 

6.2

13 CHWEFROR 2023 pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2023.

 

7.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN CYNGHORWYR ROB JAMES, DERYK CUNDY, ANDREW DAVIES AC ARWEL DAVIES

“Bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi pryderon trigolion a busnesau lleol yngl?n â'r cynnig i godi peilonau i gysylltu Parc Ynni Mithil â'r Grid Cenedlaethol yn Sir Gaerfyrddin; yn credu y dylai Bute Energy weithio gyda thirfeddianwyr i osod y ceblau dan ddaear; a'n bod ni, fel Awdurdod, yn ysgrifennu'n ffurfiol at y cwmni ynni i gefnogi'r pryderon a godwyd.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  

Roedd y Cynghorwyr M. Charles, C.A Davies a H Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a chaniatawyd gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau iddynt siarad ar yr eitem, ac arhosodd y cynghorwyr hynny yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y drafodaeth ond wedyn gadael y cyfarfod yn ystod y bleidlais]

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James,  Deryk Cundy, Andrew Davies ac Arwel Davies:-

 

“Bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi pryderon trigolion a busnesau lleol yngl?n â'r cynnig i godi peilonau i gysylltu Parc Ynni Mithil â'r Grid Cenedlaethol yn Sir Gaerfyrddin; yn credu y dylai Bute Energy weithio gyda thirfeddianwyr i osod y ceblau dan ddaear; a'n bod ni, fel Awdurdod, yn ysgrifennu'n ffurfiol at y cwmni ynni i gefnogi'r pryderon a godwyd.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaednifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.  

 

PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig.

7.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN CYNGHORWYR GARETH THOMAS, ANN DAVIES, ROB JAMES AC CRISH DAVIES

Strategaeth ddileu effeithiol ar gyfer TB buchol

 

Mae'r cyngor hwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle a ddaw yn sgil y strategaeth dileu TB buchol newydd i ganfod ei heffeithiolrwydd o ran lles anifeiliaid (bywyd gwyllt a da byw), iechyd y cyhoedd a'r gost.

 

Mae lefelau heintio cyson uchel, ei effaith ar les anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd ynghyd â'r gost gynyddol i'r pwrs cyhoeddus yn awgrymu nad yw'r mesurau presennol yn addas i'r diben.

 

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru nodi'r pwyntiau canlynol a chymryd camau yn eu cylch:-

 

·        Mae TB buchol yn glefyd trosglwyddadwy y dylid mynd i'r afael ag ef yn gyfannol fel mater lles bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, gan ddefnyddio cyfres gynhwysfawr o fesurau, a arweinir gan y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael.

·        Mae'r gofyniad i brofi gwartheg yn aml yn rhoi straen ar dda byw ac yn peri risg uchel o anaf a hyd yn oed marwolaeth i'r rhai sy'n ymwneud â chynnal profion ar gyfer TB buchol.

·        Mae'r methiant parhaus i fynd i'r afael â TB buchol yn peri lefelau sylweddol o broblemau iechyd meddwl ymhlith teuluoedd sy'n ffermio a phobl mewn rolau cysylltiedig.

·        Mae angen ymdrin ag achosion o'r clefyd ar ddaliadau mewn modd sensitif drwy gyfathrebu'n effeithiol ac yn symlach.

·        Dylai fod gan fwrdd y rhaglen ddileu gynrychiolaeth gytbwys gan gynnwys yr holl randdeiliaid yr effeithir arnynt.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:

 

Roedd y Cynghorwyr M. Charles, C.A Davies, A. Davies, B. Davies, T.A.J. Davies, H.A.L. Davies, L.D. Evans, W.T. Evans, J.K. Howell, H. Jones, J. Lewis a G.B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a chaniatawyd gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau iddynt siarad a phleidleisio ar yr eitem, ac arhosodd y cynghorwyr hynny yn y cyfarfod gan gymryd rhan yn y drafodaeth a'r bleidlais

 

Gadawodd y Cynghorydd S.M. Allen, a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, Siambr y Cyngor ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na'r bleidlais ddilynol]

 

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Gareth Thomas, Ann Davies, Rob James a Crish Davies:-

 

“Strategaeth ddileu effeithiol ar gyfer TB buchol

 

Mae'r cyngor hwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle a ddaw yn sgil y strategaeth dileu TB buchol newydd i ganfod ei heffeithiolrwydd o ran lles anifeiliaid (bywyd gwyllt a da byw), iechyd y cyhoedd a'r gost.

 

Mae lefelau heintio cyson uchel, ei effaith ar les anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd ynghyd â'r gost gynyddol i'r pwrs cyhoeddus yn awgrymu nad yw'r mesurau presennol yn addas i'r diben. 

 

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru nodi'r pwyntiau canlynol a chymryd camau yn eu cylch: -

 

·        Mae TB buchol yn glefyd trosglwyddadwy y dylid mynd i'r afael ag ef yn gyfannol fel mater lles bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, gan ddefnyddio cyfres gynhwysfawr o fesurau, a arweinir gan y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael.

·        Mae'r gofyniad i brofi gwartheg yn aml yn rhoi straen ar dda byw ac yn peri risg uchel o anaf a hyd yn oed marwolaeth i'r rhai sy'n ymwneud â chynnal profion ar gyfer TB buchol.

·        Mae'r methiant parhaus i fynd i'r afael â TB buchol yn peri lefelau sylweddol o broblemau iechyd meddwl ymhlith teuluoedd sy'n ffermio a phobl mewn rolau cysylltiedig.

·        Mae angen ymdrin ag achosion o'r clefyd ar ddaliadau mewn modd sensitif drwy gyfathrebu'n effeithiol ac yn symlach.

·        Dylai fod gan fwrdd y rhaglen ddileu gynrychiolaeth gytbwys gan gynnwys yr holl randdeiliaid yr effeithir arnynt.”

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigwyr ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaednifer o ddatganiadau yn mynegi cefnogaeth i'r Cynnig.  

 

PENDERFYNWYD cefnogi'r Cynnig.

8.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd

 

9.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau

10.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda o dan 10.1 – 10.8 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.