Agenda

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 14eg Medi, 2022 10.00 yb, WEDI EI GANSLO

Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y 13EG GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

5.

AELODAETH PWYLLGORAU CRAFFU, PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL Y CYNGOR A PHENODI AELODAU I WASANAETHU ARNYNT pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

6.

CYNIGION GYDA RHYBUDD pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

STRWYTHUR PWYLLGORAU CRAFFU pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.

PENODI AELODAU I WASANAETHU AR BWYLLGORAU YMGYNGHOROL Y CYNGOR AC AR GYRFF ALLANOL YN AMODOL AR Y GOFYNION O RAN CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

9.

ETHOL IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD

Yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 4 (2) cyflwynwyd yr enwebiad canlynol i’r Prif Weithredwr gan fod y swydd yn wag :-

 

Cynghorydd Louvain Roberts - Gr?p Annibynnol 

Dogfennau ychwanegol:

10.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL

Dogfennau ychwanegol:

10.1

POLISI ENWI STRYDOEDD A RHIFO EIDDO pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

10.2

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2021-2022 pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

11.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

11.1

4YDD GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

11.2

18EG GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

11.3

25AIN GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

12.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

12.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD LEWIS DAVIES

Mae'r Cyngor hwn:

a.     Yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru yr awdurdod dros benderfynu ar wyliau banc yng Nghymru (drwy'r Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971) yn yr un modd â'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a gofyn i holl Gynghorau Cymru wneud cais tebyg drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

b.     Yn nodi bod cefnogaeth gyhoeddus ar gyfer creu g?yl y banc ar Ddydd G?yl Dewi yng Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn droeon i Lywodraeth y DU ddatganoli'r pwerau angenrheidiol.

c.      Yn gofyn i'r Cabinet ymchwilio i'r posibilrwydd a'r goblygiadau o ran dynodi Dydd G?yl Dewi fel diwrnod ychwanegol o absenoldeb â thâl i'w staff ar y 1af o Fawrth yn flynyddol.

d.     Yn gofyn i'r Cabinet ystyried sut y gall y Cyngor gefnogi dathliadau Dydd G?yl Dewi ymhellach ar 1 Mawrth a thua'r amser hwnnw, gan weithio ar y cyd â Chynghorau Tref a Chymuned a phartneriaid allweddol eraill i sicrhau budd diwylliannol ac economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

12.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES

“Bod y Cyngor hwn yn cydnabod yr effaith negyddol ddifrifol y mae argyfwng costau byw eisoes yn ei chael ar fywyd bob dydd trigolion Sir Gaerfyrddin ac yn yr achos hwn ar deuluoedd yn anfon eu plant i'r ysgol ac yn talu am eitemau megis gwisg ysgol, deunydd ysgrifennu, bwyd, yn ogystal ag ymdopi â'r diffyg trafnidiaeth i'r ysgol.

 

Hefyd, bod y Cyngor hwn yn gofyn yn barchus i Gabinet y Cyngor adfer y Panel Ymgynghorol Cludiant i'r Ysgol sy'n cynnwys aelodaeth wleidyddol gytbwys yn ogystal â'r Aelod Cabinet priodol ac sy'n cael ei gefnogi gan yr holl bersonél perthnasol i ymchwilio i'r holl opsiynau a allai helpu'r teuluoedd hyn”.

 

Dogfennau ychwanegol:

12.3

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD SHELLY GODFREY-COLES

“Bod y Cyngor hwn yn dangos cefnogaeth i bawb sy'n dioddef cam-drin domestig a bod ganddo bolisi dim goddefgarwch tuag at y rhai sy'n ei gyflawni.

 

Er mwyn cynyddu'r gefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig bydd y Cyngor hwn hefyd yn diwygio ein cynllun Llysgennad y Rhuban Gwyn i'w wneud yn drawsbleidiol, ymrwymo i gryfhau'r berthynas gydag elusennau cam-drin domestig lleol a lansio ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i addysgu a chefnogi trigolion ar faterion cam-drin domestig”.

 

Dogfennau ychwanegol:

13.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

14.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

14.1

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

Hoffwn wybod gan Arweinydd y Cyngor pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd i roi Neuadd y Gweithwyr, y Garnant mewn cyflwr diogel cyn y gaeaf a datrys y dolur llygaid mwyaf yn Nyffryn Aman. Yn ogystal dyma'r risg tân fwyaf yn Sir Gaerfyrddin ac mae'n berygl i bob un o'r preswylwyr lleol”.

 

Dogfennau ychwanegol:

14.2

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS, YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH

Hoffwn wybod gan yr aelod Cabinet pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd i drwsio'r bont droed rhwng Golwg yr Aman a Pharc Cwmaman. Mae'n 26 oed ac yn rhydu ac mae angen ail-baentio a glanhau ar frys cyn iddo ddirywio a bydd angen codi pont newydd”.

 

Dogfennau ychwanegol:

14.3

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD JANE TREMLETT, YR AELOD CABINET DROS IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

A allwn gael y wybodaeth ddiweddaraf am Ganolfan Ddydd Cwmaman? Pryd mae'r Cyngor Sir yn bwriadu agor y Ganolfan Ddydd am yr wythnos gyfan gan ddarparu gwasanaethau i 30 o gleientiaid? Yn ogystal â hyn, beth yw eich cynlluniau i agor y gegin yn y ganolfan i bobl leol er mwyn gallu darparu prydau ar glud a chlwb cinio ar ddydd Iau i bensiynwyr lleol”.

Dogfennau ychwanegol:

14.4

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD MARTYN PALFREMAN I'R CYNGHORYDD GARETH JOHN, YR AELOD CABINET DROS ADFYWIO, HAMDDEN, DIWYLLIANT A THWRISTIAETH

Nodir y bydd Sir Gaerfyrddin yn derbyn £38.6m dros y 3 blynedd nesaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a bod Cynllun Buddsoddi rhanbarthol lefel uchel wedi ei gyflwyno i'w gymeradwyo. A allai'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth roi gwybod i ni am y canlynol:

1. Y broses ar gyfer cytuno pa brosiectau lleol fydd yn mynd ymlaen a phwy fydd yn rhan o'r penderfyniadau hyn.

2. Y trefniadau ar gyfer sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau pob cymuned ar draws Sir Gaerfyrddin yn cael eu hadlewyrchu yn y prosiectau a gymeradwyir.

3. A oes mesurau diogelu ar waith i sicrhau nad yw blaenoriaethau lleol yn cael eu llyncu gan y rhai a osodir ar lefel ranbarthol, a beth yw'r mesurau diogelu hyn.

4. Pa mor barod yw prosiectau arfaethedig y mae'n amlwg y bydd angen iddynt fwrw iddi’n syth er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o wariant a’r canlyniadau gorau, yn enwedig ym Mlwyddyn 1.

5. Pa un a yw'r proffil gwariant ar gyfer y Gronfa wedi'i rannu'n gymesur ar draws pob blwyddyn, gyda dyraniad llai ym Mlwyddyn 1 oherwydd bod prosiectau a gymeradwyir yn annhebygol o ddechrau tan ddiwedd 2022 ar y cynharaf. 

Dogfennau ychwanegol:

15.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

15.1

PWYLLGOR SAFONAU - 13EG GORFFENNAF 2022

Dogfennau ychwanegol:

15.2

PWYLLGOR PENODI 'B' - 6ED GORFFENNAF 2022

Dogfennau ychwanegol:

15.3

PWYLLGOR TRWYDDEDU - 12FED GORFFENNAF 2022

Dogfennau ychwanegol:

15.4

PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO - 15FED GORFFENNAF 2022

Dogfennau ychwanegol:

15.5

PWYLLGOR PENODI AELODAU - 22AIN GORFFENNAF 2022

Dogfennau ychwanegol:

15.6

PWYLLGOR CYNLLUNIO - 28AIN GORFFENNAF 2022

Dogfennau ychwanegol:

15.7

PWYLLGOR SAFONAU - 28AIN GORFFENNAF A 4YDD AWST 2022

Dogfennau ychwanegol:

15.8

PWYLLGOR CYNLLUNIO - 18FED AWST 2022

Dogfennau ychwanegol:

15.9

PWYLLGOR SAFONAU - 25AIN AWST 2022

Dogfennau ychwanegol: