Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.P. Hart, M. Donoghue, B.D.J. Phillips a G.B. Thomas.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd/Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Mr N. Daniel

Mr A. Williams

5. RECRIWTIO I SWYDD Y CYFARWYDDWR LLE (Penodiad parhaol)

 

Roedd swyddog wedi datgan buddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn yn gynharach, ac felly gadawodd y cyfarfod wrth i'r adroddiad gael ei ystyried a’r bleidlais ddilynol.

 

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·       Bu'r Cadeirydd yn sôn am yr ymweliadau/digwyddiadau canlynol yr oedd wedi'u mynychu'n ddiweddar:-

 

-       Croesawu Baton y Frenhines ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022 i Barc Gwledig Pen-bre, ar ran Sir Gaerfyrddin.

 

-       Ymweld, ar y cyd â'r Cynghorydd Edward Thomas, un o breswylwyr Llandeilo, a oedd wedi dathlu pen-blwydd yn 103 mlwydd oed yn ddiweddar ac yn ystod yr ymweliad, cyfarfu â phreswylydd arall a oedd yn 110 oed.

 

·       Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i ddau aelod o staff, a dderbyniodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig yn ddiweddar am wasanaethau i Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod Pandemig Covid-19. Dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Lyndsay McNicholl, Rheolwr Cartref Gofal ymroddedig iawn gyda thros ddau ddegawd o brofiad yn y sector gofal, am fynd yr ail filltir yn ystod y pandemig.  Dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Lisa Randell, gweithiwr cymorth rheng flaen mewn cartref gofal preswyl i oedolion h?n, oherwydd yn ystod y pandemig gofynnwyd iddi gymryd swydd uwch dros dro pan fu'n rhaid i'w chydweithiwr hunanwarchod.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Ms McNicholl a Ms Randell yn bersonol a bu Aelodau'r Cyngor yn dangos eu gwerthfawrogiad drwy sefyll ar eu traed a rhoi cymeradwyaeth iddynt.

 

·       Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau personol i'r Fonesig Nia Griffiths Aelod Seneddol ar ennill Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus.

 

 

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y 22 MEHEFIN 2022 pdf eicon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022 gan eu bod yn gywir.

 

 

5.

RECRIWTIO I SWYDD CYFARWYDDWR LLE (Penodiad parhaol) pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[sylwer: Gan eu bod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd Mr N. Daniel a Mr A. Williams y cyfarfod wrth i'r eitem gael ei hystyried a’r bleidlais ddilynol.]

 

Derbyniodd y Cyngor adroddiad a oedd yn nodi'r trefniadau ar gyfer recriwtio ar sail barhaol i'r swydd Cyfarwyddwr Lle.  

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu fod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 13 Hydref 2021, wedi cymeradwyo'r penderfyniad i gyflwyno trefniadau dros dro i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau'r Cyfarwyddwr yn dilyn ymddiswyddiad y Cyfarwyddwr Amgylchedd blaenorol a adawodd yr Awdurdod ar 31 Rhagfyr 2021.

 

Dywedwyd bod y swydd Cyfarwyddwr Lle yn swydd Prif Swyddog a bod unrhyw benodiad i swydd o'r fath lle mae'r cyflog yn £100,000 neu'n rhagor, yn cael ei lywodraethu gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014.  Yn ogystal, roedd y Rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo'r Proffil Swydd, gwneud trefniadau i hysbysebu'r swydd yn gyhoeddus yn y fath fodd fel y byddai'n dwyn sylw unigolion sy'n gymwys i wneud cais amdani a sicrhau bod y proffil swydd yn cael ei anfon at unrhyw berson ar gais.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cael manylion am gyflawniadau gweithredol o fewn y proffil y swydd, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) y byddai pecyn cais cynhwysfawr sy'n cwmpasu'r manylion gweithredol angenrheidiol yn cael ei anfon at yr ymgeiswyr oedd yn dangos diddordeb ochr yn ochr â phroffil y swydd.

 

Mewn ymateb i nifer o sylwadau ar deitl y swydd sef 'Cyfarwyddwr Lle', dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'n ystyried y sylwadau a wnaed ac y byddai'n adolygu'r mewnbwn cyn gwneud penderfyniad y tu allan i'r cyfarfod.

 

Mynegwyd sylwadau ynghylch y cyfyngiadau presennol yng Nghyfansoddiad y Cyngor a oedd yn atal y Pwyllgor Craffu a/neu'r Pwyllgor Cynllunio rhag cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r Proffil Swydd/Teitl y Swydd. Mewn ymateb, dywedwyd wrth y Cyngor bod y broses briodol wedi'i dilyn gan fod y swyddogaeth bersonél wedi'i dirprwyo i'r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr neu'r Pennaeth gwasanaeth perthnasol. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pam y bu'n rhaid cynnal proses recriwtio, eglurodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 ond yn caniatáu trefniadau dros dro am hyd at 12 mis ac felly roedd y broses briodol wedi'i dilyn.

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â rhannu swydd, nododd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad fod y potensial i rannu swydd ar gael ac y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn yr hysbyseb.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y Prif Weithredwr yn ailedrych ar deitl y swydd ac yn bodloni ei hun ar y pwynt hwnnw, bod y Proffil Swydd, Manyleb Person a'r Hysbyseb Swydd ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Lle sydd wedi'i atodi i'r adroddiad yn Atodiad A a B yn y drefn honno yn cael eu cymeradwyo.

 

 

6.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN ELLEN HUMPHREY I'R CYNGHORYDD A. LENNY, AELOD CABINET DROS ADNODDAU

“Mae perchnogi ail gartrefi yn fater o bwys i gymunedau lleol a phrynwyr tro cyntaf lleol yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin. A fydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu'r premiwm treth gyngor ar ail gartrefi o 300% o fis Ebrill 2023?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae perchnogi ail gartrefi yn fater o bwys i gymunedau lleol a phrynwyr tro cyntaf lleol yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin. A fydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu'r premiwm treth gyngor ar ail gartrefi o 300% o fis Ebrill 2023?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny - Aelod Cabinet dros Adnoddau:-

 

Diolch am eich cwestiwn, yn wir mae'n gwestiwn amserol iawn. Cyn i mi fynd ati'n benodol i ateb eich cwestiwn, maddeuwch imi os byddaf  am funud neu ddwy yn ceisio egluro ble yr ydym yn sefyll ar hyn, beth yw'r datblygiad diweddaraf a beth sydd wedi digwydd ers ichi gyflwyno'r cwestiwn hwn ar lefel genedlaethol. 

 

Mae’r Cyngor hwn yn poeni’n fawr iawn am y difrod mae’r twf afresymol yn nifer yr ail-gartrefi yn ei wneud yn bennaf i gymunedau glanmôr fel Llansteffan ond hefyd i bentrefi gwledig fel Cilycwm a Myddfai.  Yn fy marn i, mae’n hollol annerbyniol fod pobol sy’n ddigon cyfoethog i fedru fforddio ail gartref yn amddifadu pobol ifanc lleol rhag prynu eu cartref cyntaf yn eu cymunedau.  A thrwy wthio prisiau tai i fyny y tu hwnt i bob rheswm, rydym yn dweud ‘ail gartref’ ond ‘ail d?’ ydyw mewn gwirionedd, gan na allwch chi alw t? lle mae rhywun yn treulio ychydig wythnosau o’r flwyddyn yn ‘gartref.’  Nid problem yng Nghymru yn unig yw hyn wrth gwrs.  Mae pobl o Gernyw ac ardal y Llynnoedd ac yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr hefyd yn wynebu'r un broblem.  Fe'i trafodais gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cynllunio yn Northumberland, ond yng Nghymru wrth gwrs, mae iaith yn ffactor unigryw. 

 

Y llynedd, fe wnaeth y Cyngor hwn alw ar Lywodraeth Cymru i roi pwerau newydd i Awdurdodau Lleol i weithredu yn y maes yma, nid yn unig o ran hawl i godi premiwm uwch, ond hefyd trwy’r drefn gynllunio i roi cap ar nifer yr ail gartrefi mewn unrhyw ardal benodol.  Rwy'n falch i ddweud fod hyn yn mynd i ddigwydd diolch i’r cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yn y Senedd yng Nghaerdydd, cafodd pecyn o fesurau eu cyhoeddi wythnos ddiwethaf sydd, i raddau helaeth, yn unol â’r hyn oeddem ni fel cyngor wedi galw amdano. 

 

Ymhlith y mesurau mae Llywodraeth Cymru yn argymell creu tri dosbarth newydd o ddefnydd tai sef, prif gartref, ail gartref a thai gwyliau ar sail tymor byr.  Bydd Awdurdodau Cynllunio Lleol, ar sail tystiolaeth, yn cael yr hawl i fynnu bod perchennog t? yn gorfod cael caniatâd cynllunio os am newid defnydd t? o un dosbarth i'r llall. 

 

Bydd y Polisi Cynllunio Cenedlaethol hefyd yn newid er mwyn rhoi'r hawl i Awdurdodau Lleol i reoli nifer yr ail gartrefi a'r tai gwyliau mewn unrhyw gymuned.  Mae’n fwriad i gyflwyno Cynllun Trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr, gan gynnwys gosodiadau gwyliau tymor byr.   Ymhellach, bydd mesurau i gynyddu’r cyfraddau ar gyfer ail gartrefi a thai gwyliau.

 

O ran eich cwestiwn penodol, a yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn mynd i godi'r premiwm o 300% ar ail gartrefi, fel y dywedais dim ond  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.1

7.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

 

 

8.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau