Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G.R. Jones.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION PERSONOL / CYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD YMADAWOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y cyn-Gynghorydd Eirwyn Williams, sef cadeirydd y llynedd, westeion nodedig, Cynghorwyr, staff a ffrindiau i'r cyfarfod. Soniodd am ei flwyddyn yn y swydd a'r digwyddiadau a'r dathliadau roedd wedi'u mynychu gyda'i gydymaith, Mrs Joyce Williams. Diolchodd i Is-gadeirydd y llynedd, y cyn-Gynghorydd Ken Lloyd, a'i gydymaith, Mrs Katherine Lloyd, am eu cefnogaeth a gwahodd y cyn-Gynghorydd Lloyd i ddweud ychydig eiriau.
Talodd Is-gadeirydd y llynedd, y cyn-Gynghorydd Ken Lloyd, deyrnged i Gadeirydd y llynedd, y cyn-Gynghorydd J.E. Williams a'i gydymaith, Mrs Joyce Williams, a dymunodd yn dda i'r Darpar Gadeirydd a'r Darpar Is-gadeirydd yn ystod eu cyfnod yn y swydd. Diolchodd i'r holl Gynghorwyr a staff am eu cefnogaeth nid yn unig yn ystod ei gyfnod fel Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ond hefyd dros y 5 mlynedd diwethaf. Yn olaf, talodd deyrnged i'w gydymaith, Mrs Katherine Lloyd, a diolchodd iddi'n ffurfiol am ei holl gefnogaeth.
Diolchodd Cadeirydd y llynedd i'r cyn-Gynghorydd Ken Lloyd am ei eiriau caredig a dymunodd ymddeoliad hapus iddo ef a Mrs Lloyd. Yna diolchodd i'r Prif Weithredwr am ei chyngor a'i harweiniad proffesiynol, ac i'r Cyfarwyddwyr, yn enwedig Chris Moore a oedd wedi cynorthwyo gyda gwaith codi arian y Cadeirydd, a staff yr awdurdod a oedd wedi cefnogi gwaith y Cadeirydd. Diolchodd i'w yrrwr, Jeff Jones, ac i Eira Evans am ei chefnogaeth broffesiynol a phersonol, wrth drefnu ei ddigwyddiadau a gofalu bod pob dim yn mynd yn hwylus bob amser. Talodd deyrnged i'w gydymaith, Mrs. Joyce Williams, a oedd wedi bod wrth ei ochr dros y 12 mis diwethaf a diolchodd yn ffurfiol iddi am ei chefnogaeth. Yn olaf, dymunodd yn dda i'r Darpar Gadeirydd, y Cynghorydd Rob Evans, a'i gydymaith, y Cynghorydd Nysia Evans, yn ei flwyddyn yn y swydd.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2022-23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd ei gynnig gan Gadeirydd y llynedd, y cyn-Gynghorydd J.E. Williams, a'i eilio gan y Cynghorydd R. James a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd R. Evansyn cael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2022/23.
Bu i'r cyn-Gynghorydd J.E. Williams longyfarch y Cynghorydd Evans ar gael ei ethol.
Gwnaeth y Cynghorydd Rob Evans ei ddatganiad yn derbyn y swydd, ac fe'i harwisgwyd â'r Gadwyn Swyddogol.
Diolchodd y Cynghorydd Evans i'r holl Gynghorwyr am eu cefnogaeth wrth ei benodi'n Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at ei flwyddyn yn y swydd yn cynrychioli'r Cyngor. Talodd y Cynghorydd Evans deyrnged hefyd i Gadeirydd y llynedd, y cyn-Gynghorydd J.E. Williams, a chyflwyno Crogdlws y cyn-Gadeirydd iddo.
Wedyn bu i gydymaith Cadeirydd y llynedd, Mrs Joyce Williams, gyflwyno ei Chadwyn Swyddogol i'r Cynghorydd Nysia Evans, a bu i'r Cynghorydd Nysia Evans gyflwyno Crogdlws cyn-gydymaith y Cadeirydd i Mrs Joyce Williams.
Talwyd teyrngedau hefyd i Gadeirydd y llynedd gan Arweinwyr Gr?p Plaid Cymru, y Gr?p Annibynnol, a'r Gr?p Llafur am y gwasanaeth rhagorol roedd wedi'i roi i'r Cyngor yn ystod ei flwyddyn yn y swydd.
Yn ogystal talodd y Prif Weithredwr deyrnged ar ran staff yr Awdurdod i Gadeirydd y llynedd a'i gydymaith (y cyn-gynghorydd Eirwyn Williams a Mrs Joyce Williams), a oedd wedi cyflawni'r rôl mewn modd proffesiynol dros ben gan fod yn hynod o weithgar a chefnogol i waith y Cyngor. Bu iddi longyfarch y Cadeirydd newydd a'i Gydymaith (y Cynghorydd Rob Evans a'r Cynghorydd Nysia Evans), a'r Is-gadeirydd newydd a'i Chydymaith (y Cynghorydd Louvain Roberts a Mrs Vanessa Rees) ar eu penodiadau a dymunodd flwyddyn hapus a llwyddiannus iawn iddynt yn y swydd.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2022-23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd ei gynnig gan y Cynghorydd J. Tremlett, a'i eilio gan y Cynghorydd S. Davies a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd Louvain Roberts yn cael ei hethol yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2022/23.
Arwisgwyd y Cynghorydd Louvain Roberts â'r Gadwyn Swyddogol gan y cyn Is-gadeirydd, Ken Lloyd, a gwnaeth ei datganiad derbyn swydd. Mynegodd yr Is-gadeirydd ei gwerthfawrogiad i'r Cyngor ar ei phenodiad. Cyflwynwyd y Gadwyn Swyddogol i gydymaith yr Is-gadeirydd, Vanessa Rees, gan gydymaith y cyn Is-gadeirydd, Mrs. Katherine Lloyd. Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i'r Is-gadeirydd a'i Chydymaith ar eu penodiadau.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL ARWEINYDD Y CYNGOR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiwyd ac eiliwyd bod y Cynghorydd Darren Price yn cael ei ethol yn Arweinydd y Cyngor. PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Darren Price yn Arweinydd y Cyngor.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DERBYN ADRODDIAD ARWEINYDD Y CYNGOR YNGHYLCH PENODI CYNGHORWYR SY'N CAEL EU DEWIS I WASANAETHU AR Y CABINET Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi ystyried penodi aelodau i wasanaethu ar y Cabinet a rhoddodd wybod i'r Cyngor am y penodiadau canlynol i bob un o'r portffolios a nodwyd:- Cynghorydd Portffolio Linda Evans Dirprwy Arweinydd a Chartrefi Ann Davies Materion Gwledig a Pholisi Cynllunio Glynog Davies Addysg a'r Gymraeg Philip Hughes Trefniadaeth a'r Gweithlu Gareth John Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth Alun Lenny Adnoddau Edward Thomas Gwasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith Jane Tremlett Iechyd a Gofal Cymdeithasol Aled Vaughan Owen Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd NODWYD.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR 2021-22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno ei Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor am y cyfnod 2021/22, soniodd yr Arweinydd am yr angen i ystyried beth oedd wedi cael ei gyflawni hyd yma a beth oedd angen ei wneud o hyd. Dywedodd ei fod o'r farn nad oedd monopoli ar syniadau da gan yr un plaid neu gr?p gwleidyddol, a bod cyfraniad gan bob aelod i'w wneud i weledigaeth gorfforaethol y cyngor. Soniodd am yr angen i gael systemau ar waith a oedd yn galluogi syniadau da, o ba ffynhonnell bynnag, i weld golau dydd. Dros y blynyddoedd nesaf roedd yn awyddus i ymgysylltu ag aelodau o bob rhan o'r siambr yn rheolaidd, i drafod eu syniadau a'u pryderon ac i gydweithio er lles pawb. Ychwanegodd ei fod eisoes wedi cyfarfod ag arweinwyr y Gr?p Llafur, y Gr?p Annibynnol Newydd a phob un o aelodau'r cyngor oedd heb gysylltiad pleidiol, i ddweud ei fod am ddatblygu perthynas agos a hwylus. Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn ddymuniad gan bawb i weld Sir Gaerfyrddin yn ffynnu, ac mai dyletswydd pob aelod oedd dod o hyd i ffyrdd o gydweithio'n effeithiol er mwyn cyflawni amcanion a rennir. Dywedodd mai dymuniad y weinyddiaeth oedd mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, yr argyfwng costau byw, adfywio economi a chanol trefi'r sir, darparu tai o safon, codi safonau addysgol, sicrhau cymorth gofal cymdeithasol i'r rhai mwyaf agored i niwed, gwella trafnidiaeth gyhoeddus, gweld strydoedd glanach a darparu gwasanaethau cyngor effeithiol o safon. Er bod y rhain yn faterion oedd yn bwysig i bob aelod a bod angen mynd ar eu trywydd gyda'n gilydd dros y 5 mlynedd nesaf, pwysleisiodd fod llawer eisoes wedi'i gyflawni a amlinellodd hynny fel a ganlyn:
Adferiad Economaidd Roedd wedi cael ei gydnabod ar ddechrau'r pandemig bod angen cynllun adfer, yn ogystal â wynebu'r heriau oedd yn codi o ddydd i ddydd. Felly, roedd cynllun adfer cynhwysfawr wedi'i gyflwyno i gefnogi busnesau, pobl a chymunedau. Roedd Covid-19 wedi cael effaith ar yr economi leol, ond roedd arwyddion cadarnhaol o adferiad cyflymach na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, ac roedd yr Arweinydd yn teimlo'n hyderus y gallai economi Sir Gaerfyrddin wella i'r fath raddau fel ei bod hyd yn oed yn fwy cynhyrchiol nag o'r blaen. Roedd y cynllun adfer economaidd yn uchelgeisiol iawn – ac roedd yn gwbl benderfynol o wneud popeth o fewn ei allu i gadw Sir Gaerfyrddin ar y trywydd iawn a pharhau ar ei thaith o ran twf. Roedd y cynllun yn gwireddu'r uchelgais i helpu busnesau i greu mwy na 3,000 o swyddi yn lle'r rhai a gollwyd yn ystod y pandemig: diogelu a chreu 10,000 o swyddi i gymryd lle'r rhai sydd mewn perygl a chreu tua 1,700 o swyddi newydd - yn ogystal â chefnogi miloedd o fusnesau lleol. Yr hyn sy'n allweddol i'r cynllun oedd cefnogi economi sylfaenol y sir a chefnogi pobl leol i ddatblygu sgiliau a thalent mewn meysydd wedi'u targedu er mwyn creu gweithlu lleol cryf a gwydn. Byddai'r cynlluniau adfer ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried aelodaeth y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill ac aelodaeth y pwyllgorau hynny.
Dywedodd y Cadeirydd fod sedd wag ar y Pwyllgor Cynllunio erbyn hyn i aelod heb gysylltiad pleidiol, gan nad oedd y Cynghorydd Michael Cranham yn cymryd y sedd, a bod enw'r Cynghorydd Fiona Walters wedi cael gyflwyno gan y Gr?p Annibynnol ar gyfer un o'r ddwy sedd Annibynnol ar y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd. Dywedwyd, gan na chynigiwyd unrhyw enwebiadau i'r ddwy sedd wag hyn yn y cyfarfod, byddai enwebiadau ar gyfer pob sedd wag yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol i'w cadarnhau.
Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 9.1 cadarnhau bod 168 o seddi yn cael eu dyrannu ar y Cyngor newydd i'w rhannu'n 67 Craffu a 101 o seddi rheoleiddiol a seddi eraill; 9.2 cymeradwyo aelodaeth y pwyllgorau fel y manylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a phenodi aelodau i Bwyllgorau Rheoleiddio, Pwyllgorau Craffu a Phwyllgorau Eraill fel y nodwyd yn Atodiad 1 o'r adroddiad neu y rhoddwyd gwybod yn y cyfarfod.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 1.1 (n), rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r enwebiadau oedd wedi dod i law ar gyfer penodi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau am Flwyddyn y Cyngor 2022/23.
Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a
PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y canlynol yn cael eu penodi'n Gadeiryddion ac yn Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu, a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill am Flwyddyn y Cyngor 2022/23:-
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BLYNYDDOL O'R CYFANSODDIAD PDF 321 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Cyngor o'r gofyniad iddo adolygu ei Gyfansoddiad yn flynyddol a'i fod, fel rhan o'r broses honno, wedi sefydlu Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad [CRWG] i gyflwyno unrhyw newidiadau a argymhellir. Dywedwyd bod Gweithgor Adolygu Cyfansoddiad y Cyngor blaenorol wedi argymell y dylai'r Cyngor, yn ei Gyfarfod Blynyddol, ystyried adroddiad ar y posibilrwydd o benodi aelod llywyddol. Fodd bynnag, awgrymwyd y dylid ystyried hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn caniatáu i drafodaethau cychwynnol gael eu cynnal gyda Gweithgor Adolygu Cyfansoddiad y Cyngor newydd yn y lle cyntaf. Adroddwyd ymhellach, er nad oedd unrhyw ddeddfwriaeth a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i wneud newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor wedi'i chyflwyno yn ystod 2021/22, fod angen diwygio Rhan 6.1 i adlewyrchu symiau rhagnodedig Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, i'w talu i Gynghorwyr ar gyfer 2020/21, fel y nodir yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
11.1 yn unol â'r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, i fabwysiadu Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2022-2023, fel y nodir yn Rhan 6.1 o'r Cyfansoddiad;
11.2 mabwysiadu Cyfansoddiad y Cyngor am 2022-2023 yn amodol ar unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Cyfansoddiad sy'n deillio o benderfyniadau a wnaed yn gynharach yn y cyfarfod;
11.3 bod y Swyddog Monitro yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw fân newidiadau, cywiro gwallau teipio neu wallau drafftio a sicrhau bod yr holl groesgyfeiriadau yn y Cyfansoddiad yn gywir ac y rhoddir gwybod am y rhain i Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad pan fydd angen.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI I BANELAU YMGYNGHOROL Y CYNGOR, CYRFF ALLANOL STATUDOL A CHYD-BWYLLGORAU PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried enwebiadau a gafwyd o ran penodi aelodau i wasanaethu ar gyrff allanol statudol, Cyd-bwyllgorau a Phanelau Ymgynghorol y Cyngor.
PENDERFYNWYD dylid gwneud y penodiadau canlynol:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI PERSONAU LLEYG I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO PDF 232 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 6 o'r cyfarfod Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2022, dywedwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi argymell, yn dilyn y broses ymgeisio a'r cyfweliadau, fod Mrs. Julie James, Mr Malcolm MacDonald a Mr. David MacGregor yn cael eu penodi i swyddi Personau Lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer y cyfnod o 25 Mai 2022 i 24 Mai 2027 er mwyn bodloni gofynion Cyfansoddiad y Cyngor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
13.1 cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i benodi'r personau lleyg canlynol i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y cyfnod o 25 Mai 2022 i 24 Mai 2027: Mrs. Julie James; Mr. Malcolm MacDonald; Mr. David MacGregor;
13.2 nodi byddai'r Awdurdod yn ail-hysbysebu ar gyfer y swydd Person Lleyg sy'n weddill.
|