Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Campbell, P. Edwards, A. Fox, C. Harris, T.J. Jones, S. Najmi, D. Nicholas ac A. Speake. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Cyhoeddodd y Cadeirydd yr ymweliadau/digwyddiadau canlynol yr oedd wedi'u mynychu'n ddiweddar/y byddai'n eu mynychu:- - 3 Mawrth - Pen-blwydd preswylydd yn Awel Tywi, Llandeilo yn 110 oed - 5 Mawrth - Gorymdaith Dydd G?yl Dewi Caerfyrddin - 8 Mawrth - Dathlu Diwylliant yn Theatr y Ffwrnes - 10 Mawrth - Gwobrau Chwaraeon Actif yn Theatr y Ffwrnes · Rhoddodd yr Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am y sefyllfa bresennol o ran Pandemig Covid yn Sir Gaerfyrddin ac am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi llacio'r cyfyngiadau yn ddiweddar o ran gwisgo gorchuddion wyneb a chadw pellter cymdeithasol. Roedd yn debygol y gellid llacio'r cyfyngiadau hynny ymhellach yn ddiweddarach ym mis Mawrth gan fod y Prif Weinidog, yn ei anerchiad diweddar, wedi datgan y byddai'r cyfyngiadau sy'n weddill yn cael eu dileu o 28 Mawrth 2022 pe bai'r sefyllfa'n parhau'n sefydlog
Yna rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad pellach i'w anerchiad i'r Cyngor yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth ar y sefyllfa yn Wcráin a'i effaith ar ei thrigolion. Amlinellodd yr ymdrechion lleol i roi rhoddion i Wcráin a gwledydd cyfagos ac i'r amrywiol ffynonellau sydd ar gael i bobl wneud cyfraniadau ariannol i wahanol sefydliadau elusennol.
Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor, yn yr un modd ag yr oedd wedi darparu cartrefi a diogelwch i bobl oedd yn ffoi rhag y rhyfeloedd yn Syria ac Afghanistan, unwaith eto yn paratoi i chwarae ei ran pan fydd Llywodraeth Cymru a Llywodraethu y DU yn galw arno i wneud hynny ar gyfer Wcreiniaid sy'n ffoi i'r DU.
I gloi, dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn sefyll mewn undod â phobl Wcráin a phan ddaw'r amser bydd croeso cynnes iddynt yn Sir Gaerfyrddin a bydd cartref iddynt yma cyhyd ag y bo angen |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENNU TRETH Y CYNGOR AM FLWYDDYN ARIANNOL 2022/23 PDF 325 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn nodi'r manylion ariannol perthnasol o ran pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2022/2023, ynghyd â symiau'r Dreth Gyngor o ran gwahanol Fandiau Prisio'r Dreth Gyngor, fel yr oeddynt yn berthnasol i'r holl Gynghorau Cymuned a Thref unigol. Nodwyd bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn dwyn ynghyd ofynion cyllideb yr awdurdod a'r praeseptau ar gyfer Awdurdod yr Heddlu a'r Cynghorau Tref a Chymuned i symiau cyfunol y Dreth Gyngor mewn perthynas â bandiau prisio unigol y Dreth Gyngor. Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor am gywiriad i nodyn 4(a) gan fod cyfanswm praeseptau'r Cyngor Cymuned a gynhwyswyd yn y £662,792,890 yn £7,000,517, yn unol â nodyn 4(f) ac nid £6,863,055, fel y nodwyd yn naratif nodyn 4(a) PENDERFYNWYD, yn amodol ar y cywiriad uchod ac er mwyn galluogi'r Cyngor i gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol, bod adroddiad ac argymhellion y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ynghylch pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2022/23 yn cael eu mabwysiadu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGANIAD POLISI TALIADAU 2022/23 PDF 364 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [NODER: 1. Roedd y Cynghorwyr L.R. Bowen, M. Charles, D.M. Cundy, T.A.J. Davies, E. Dole, D.C. Evans, J.S. Edmunds, R. Evans, S.J.G. Gilasbey, T.M. Higgins, P.M. Hughes, G. John, H.I. Jones, R. James, K. Madge a B.A.L. Roberts wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach a gadawsant y cyfarfod; 2. Barnwyd bod gan bob swyddog a oedd yn bresennol fuddiant personol yn yr eitem hon a gadawsant y cyfarfod cyn iddi gael ei hystyried ac eithrio Rheolwr y Gwasanaethau Pobl a arhosodd yn y cyfarfod i ymateb i unrhyw gwestiynau a oedd yn codi ynghylch yr adroddiad a swyddogion a oedd yn hwyluso trefniadau gweddarlledu'r cyfarfod. 3. Gan fod yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd wedi datgan diddordeb yn yr eitem hon ac wedi gadael y cyfarfod, cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Pobl yr adroddiad ar ei ran) Ar ran yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd, cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Pobl yr adroddiad a amlinellai bod rheidrwydd ar yr holl Awdurdodau Lleol, yn unol â darpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011, i baratoi Datganiad Polisi Tâl y mae'n rhaid cytuno arno a'i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill bob blwyddyn. Roedd yn ofynnol i'r Datganiad gael ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ac roedd rhaid iddo bennu polisïau'r Awdurdod am y flwyddyn ariannol o ran cydnabyddiaeth ariannol ei Brif Swyddogion, cydnabyddiaeth ariannol y gweithwyr oedd yn ennill y symiau lleiaf, a'r cysylltiad rhwng y gydnabyddiaeth ariannol i'w Brif Swyddogion ac i'w weithwyr nad oeddynt yn Brif Swyddogion. Roedd Panel Ymgynghorol y Polisi Tâl, sy'n wleidyddol gytbwys, wedi cyfrannu at lunio'r Datganiad Polisi Tâl ac roedd ei argymhellion wedi'u cynnwys yn y ddogfen derfynol i'w chymeradwyo gan y Cyngor Sir. Dywedwyd wrth y Cyngor fod gwybodaeth yn dal i gael ei diweddaru yn rhai o'r atodiadau, er enghraifft, y codiadau cyflog diweddar a byddai'r rheini'n cael eu diweddaru cyn cyhoeddi'r Datganiadau. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Datganiad Polisi Cyflogau am 2022/23 yn unol ag Adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD O RAN Y MATERION CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN GWEITHREDU AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH PDF 364 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf 2021 (gweler cofnod 5), ei fod wedi penderfynu ymrwymo i fod yn 'Gyngor Amrywiol' a chymeradwyodd Ddatganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn ogystal, roedd wedi gofyn i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ddatblygu cynllun gweithredu cyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, derbyniodd y Cyngor y Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth Drafft i'w ystyried (y manylwyd arno yn Atodiad A o'r adroddiad) gyda'r amcanion ynddo yn seiliedig ar y rhai a awgrymwyd gan Lywodraeth Cymru. Nododd hefyd y gellid ychwanegu amcanion ychwanegol, os dymunir.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad terfynol Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ynghylch y Broses Ddemocrataidd - Ffyrdd Newydd o Weithio. Nododd fod y Gr?p wedi'i sefydlu i adolygu gofynion aelodau er mwyn pennu eu hanghenion wrth symud ymlaen â'r ffordd newydd o weithio o ran swyddogaeth y gwasanaethau democrataidd a'i fod wedi llunio 5 argymhelliad i'r Cyngor eu hystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo adroddiad ac argymhellion Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ynghylch Ffyrdd Newydd o Weithio. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN Y MATERION CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADFYWIO A DATBLYGU TAI - CYNLLUN CYFLAWNI PUM MLYNEDD (2022 - 2027) PDF 724 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorwyr H.A.L. Evans a S.M. Allen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; fe ailddatganwyd y buddiant hwnnw a gadwasant y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)
Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2022 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried Cynllun Cyflawni Pum Mlynedd - Adfywio a Datblygu Tai (2022-2027) a oedd yn nodi cynlluniau'r Awdurdod i helpu i adeiladu dros 2,000 o dai ychwanegol ar draws y Sir yn ystod y pum mlynedd nesaf. Pe bai'n cael ei fabwysiadu, byddai'r Cynllun yn adeiladu ar lwyddiant y cynlluniau darparu tai fforddiadwy presennol, yn cefnogi twf economaidd drwy fuddsoddi dros £300m mewn cymunedau ac yn cefnogi'n uniongyrchol y camau gweithredu yn y Cynllun Adfer Economaidd, gan gefnogi busnes, pobl a lleoedd.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:-
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror, 2022 (gweler Cofnod 9), wedi ystyried adroddiad diweddaru ynghylch cynnydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Diwygiedig ac, yn arbennig, effaith cyfres o ffactorau, materion a chanllawiau ar gynnydd a/neu gynnwys y Cynllun yn y dyfodol. Wrth fanylu ar y meysydd hynny, cynigiodd yr adroddiad gyfres o gamau nesaf a gofynnodd am gymeradwyo'r argymhellion i baratoi CDLl Adneuo Diwygiedig pellach i fynd i'r afael â'r goblygiadau sy'n deillio o'r materion a nodwyd a'u lliniaru a sicrhau ei fod yn cydymffurfio'n weithdrefnol ac yn 'gadarn' gan alluogi ei fabwysiadu.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:-
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD O BOLISI HAPCHWARAE PDF 426 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror, 2022 (gweler Cofnod 7) wedi ystyried Polisi Hapchwarae diwygiedig arfaethedig a oedd yn adlewyrchu canlyniadau'r broses ymgynghori ac adolygu ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chyfarwyddyd perthnasol. Roedd Pwyllgor Trwyddedu'r Cyngor wedi ystyried yr adroddiad ac wedi penderfynu'n unfrydol argymell i'r Cabinet ei fod yn cael ei gymeradwyo.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:-
“Cymeradwyo'r Polisi Hapchwarae diwygiedig” |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd W.S. Walters a C. Moore wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganwyd y buddiant hwnnw a gadawsant y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)
Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror, 2022 (gweler Cofnod 13) wedi ystyried adroddiad ynghylch lefel y ffioedd sy'n daladwy i'r Swyddog Canlyniadau mewn perthynas â'r etholiadau lleol sydd i ddod
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinetv:-
“13.1 bod y ffioedd sy'n daladwy i'r Swyddog Canlyniadau, sy'n cynnwys taliadau i'r rhai sy'n ymgymryd â rôl Dirprwy Swyddogion Canlyniadau a phersonél allweddol eraill sy'n ymwneud â chynllunio a goruchwylio etholiadau'r Cyngor Sir a Chynghorau Tref / Cymuned, fel a ganlyn:
a) £170.00 am bob etholiad sy'n cael ei ymladd; b) £56.61 am bob etholiad nad yw'n cael ei ymladd;
13.2 Awdurdodi'r Prif Weithredwr, fel Swyddog Canlyniadau'r Cyngor, i wneud y canlynol: a) gwneud trefniadau ar gyfer cyflogi pobl i gynorthwyo â'r Etholiadau Lleol; b) pennu lefel y ffioedd a'r taliadau i'r rhai a gyflogir ar ddyletswyddau'r Etholiad, cyn belled â bod y cyfanswm sy'n daladwy o fewn yr adnoddau a bennwyd i dalu am gost yr etholiadau hyn;
13.3 nodi y bydd unrhyw gostau ar gyfer etholiadau Cynghorau Tref/Cymuned yn cael eu had-dalu'n llawn”. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL SWISS VALLEY O 4-11 I 3-11 PDF 407 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2022 (gweler Cofnod 9) wedi ystyried adroddiad ar gynigion i newid ystod oedran Ysgol Dyffryn y Swistir o 4-11 i 3-11.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:-
“O fod yn fodlon nad oedd unrhyw gynigion perthnasol eraill; a bod y cynnig statudol wedi bod yn destun ymgynghoriad a gafodd ei gyhoeddi yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion a'i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol, ac ar ôl ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori, ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol, argymell i'r Cyngor Sir fod y cynnig yn cael ei weithredu fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol"</AI14> |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL Y FELIN PDF 430 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn cyfarfod)
Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror, 2022 (gweler Cofnod 8), wedi ystyried adroddiad gwrthwynebu a oedd yn crynhoi'r gwrthwynebiadau a oedd wedi dod i law ac ymatebion yr Awdurdod Lleol iddynt ar gynigion i newid natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Felin i addysg cyfrwng Cymraeg o 1 Medi 2022.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:-
“O fod yn fodlon nad oedd unrhyw gynigion perthnasol eraill; a bod y cynnig statudol wedi bod yn destun ymgynghoriad a gafodd ei gyhoeddi yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion a'i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol, ac ar ôl ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori, y gwrthwynebiadau ac unrhyw ymatebion i'r hysbyseb yn yr adroddiad gwrthwynebu, argymell i'r Cyngor Sir fod y cynnig yn cael ei weithredu fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol”. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror, 2022 (gweler cofnod 10) wedi ystyried adroddiad ar gynigion i ad-drefnu ac ailfodelu'r Gwasanaethau Cymorth Ymddygiad yn Ysgol Rhyd-y-gors er mwyn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:-
“ O fod yn fodlon nad oedd unrhyw gynigion perthnasol eraill; a bod y cynnig statudol wedi bod yn destun ymgynghoriad a gafodd ei gyhoeddi yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion a'i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol, ac ar ôl ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori, ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law mewn ymateb i'r Hysbyseb Statudol, argymell i'r Cyngor Sir fod y cynnig yn cael ei weithredu fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 2022 (gweler Cofnod 14) wedi ystyried adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Bentre Awel, gan gynnwys caffael Contractwr ar gyfer Parth 1. Roedd yr adroddiad yn nodi:-
· cynnydd o ran dylunio Parth 1 a chost fwyafswm y gwaith adeiladu; · cynnydd o ran sicrhau tenantiaid ar gyfer Parth 1; · cynnydd o ran datblygu dyluniad Parth 3; · cynnydd cysylltiedig gan gynnwys rhwydweithio ag ysgolion a pholisi'r Trydydd Sector.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:-
“14.1 nodi adroddiad y broses a gynhaliwyd i ddatblygu cam cyntaf y contract dylunio ac adeiladu dau gam i gyflawni Parth 1 Pentre Awel;
14.2 derbyn y gost fwyafswm (£14.2m) ar gyfer y gwaith adeiladu a ddarperir gan Bouyges UK a dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Prif Weithredwr gytuno ar yr amlen gost derfynol a chadarnhau fforddiadwyedd mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau;
14.3 nodi'r cynnydd o ran sicrhau cytundebau tenantiaeth a dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gytuno i symud ymlaen i'r gwaith adeiladu o ran cael sicrwydd addas o incwm rhent a nodi bod y gwaith Arloesi a Datblygu Busnesau, ac felly'r lle cragen a chraidd sy'n cael ei ddatblygu, yn cael ei wneud cyn y cynlluniau terfynol ac felly mewn perygl;
14.4 cymeradwyo'r polisi sy'n nodi'r egwyddorion sydd i'w mabwysiadu ar gyfer cynnwys sefydliadau'r Trydydd Sector ym Mhentre Awel;
14.5 nodi'r cynnydd ar draws parthau eraill a thrafodaethau ac effaith cysylltiedig tu hwnt i ffiniau uniongyrchol y prosiect.”
HYD Y CYFARFOD Ar ôl ystyried yr eitem hon, tynnwyd sylw'r Cyngor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol - 'Hyd Cyfarfod' - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers bron i dair awr. Felly:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL atal Rheol 9 o'r Weithdrefn Gorfforol er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried y materion oedd yn weddill ar yr agenda. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y:-. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2022. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd S.J.G Gilasbey wedi datgan buddiant yng nghofnod 7 y cyfarfod; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn cyfarfod)
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2022. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd S.J.G Gilasbey wedi datgan buddiant yng nghofnod 7 y cyfarfod; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn cyfarfod)
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2022. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN AELODAU:- Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY I CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR ByddFawrth 23ain yn nodi dwy flynedd ers y clo cenedlaethol cyntaf, cyfnod a welodd newidiadau sylweddol i’n ffordd o fyw a gweithio.
Wrthinni symud ymlaen, a allai’r Arweinydd ddweud beth gall trigolion a busnesau sir Gaerfyrddin ei ddisgwyl yn y cyfnod nesaf o ran adferiad a chymorth? Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: "Bydd y 23ain o Fawrth yn nodi dwy flynedd ers y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf, cyfnod a welodd newidiadau sylweddol i’n ffordd o fyw a gweithio.
Wrth inni symud ymlaen, a allai’r Arweinydd ddweud beth gall trigolion a busnesau Sir Gaerfyrddin ei ddisgwyl yn y cyfnod nesaf o ran adferiad a chymorth?
Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole - Arweinydd y Cyngor:-
Diolch yn fawr Alun ac er bod y cwestiwn yn dod ar ddiwedd y cyfarfod, mae'n amserol iawn ac rwy'n barod iawn i'w ateb. Dywedais yn y diweddariad ar y dechrau ei bod yn ymddangos bod y pandemig hwn wedi cilio rhywfaint, ond, wrth gwrs, bydd ei effaith gyda ni am gryn dipyn o amser. Bu llawer o ergydion economaidd o ganlyniad i'r sefyllfa yn Wcráin. Mae cost tanwydd yn cynyddu yn barod, ac mae Yswiriant Gwladol yn mynd i gynyddu hefyd. Er mwyn rhoi'r cyfle gorau i Sir Gaerfyrddin allu lliniaru'r effaith economaidd, gwnaethom ddatblygu cynllun adfer sef strategaeth fanwl iawn o ran sut y gallai economi'r sir wella cyn gynted ag y bo modd o effeithiau Covid a chefais gyfle i rannu'r diweddariad hwnnw yng nghyfarfod y Cabinet yr wythnos diwethaf a dyma rai o'r diweddariadau:-
· Nododd y Cynllun Adfer Economaidd fod dros 800 o swyddi eisoes wedi'u creu a bron i 700 o swyddi wedi'u diogelu wrth i ni roi'r cynllun adfer ar waith. · Mae tîm datblygu economaidd y Cyngor wedi ymgysylltu ag ymhell dros 2,000 o fusnesau lleol ac wedi darparu cymorth hyfforddiant i tua 250 o bobl yn barod. · Un o'r meysydd allweddol o ran ymyrraeth sydd wedi'i dargedu yw cefnogi pobl i wella sgiliau digidol fel bod ganddynt well rhagolygon cyflogaeth, ac mae dros 200 o bobl wedi cael yr hyfforddiant hwnnw. · Dros y 18-24 mis nesaf, bydd y cyngor yn darparu cymorth cyflogaeth i ryw 3,000 o bobl, gan helpu 850 o unigolion eraill i gael cyflogaeth amser llawn. Byddwn hefyd yn manteisio i'r eithaf ar y manteision cymunedol sy'n deillio o gynlluniau datblygu megis cynllun Pentre Awel gwerth miliynau o bunnoedd, yr ydym newydd gyfeirio ato, sef y datblygiad cyntaf o'i gwmpas a'i faint yng Nghymru a fydd yn cynnig darpariaeth o'r radd flaenaf ym maes ymchwil meddygol a gofal iechyd gan gefnogi ac annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach, gan ddarparu cyfleoedd cadwyn gyflenwi i fusnesau lleol ynghyd â recriwtio, hyfforddiant a lleoliadau phrofiad gwaith. · Amcangyfrifir y bydd 1850 o swyddi'n cael eu creu o'r datblygiad cyfan a gynigir, a bydd rhwng 750 a 950 o swyddi'n cael eu priodoli'n uniongyrchol i gam 1. Bwriedir cwblhau'r gwaith adeiladu cam 1 yn gynnar yn 2024, sef y ganolfan hamdden newydd ar gyfer Llanelli. · Ar hyn o bryd rydym yn cynnig grantiau cymorth busnes a grantiau datblygu eiddo yn ogystal â grantiau ynni adnewyddadwy busnes. Mae cyfanswm y cymorth grant hwn yn cyfateb i tua £6m, a fydd yn sicrhau buddsoddiad pellach o £5m. · Mae'r cyngor hefyd wedi ymrwymo i gyflawni 13 o brosiectau mawr, gan fuddsoddi mwy na ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.1 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar yr agenda ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.
Ar ôl i'r Eitem hon ddod i ben, rhoddwyd cyfle i'r Prif Weithredwr, Arweinwyr Grwpiau a'r Cadeirydd fyfyrio ar y pum mlynedd diwethaf heriol a wynebwyd gan y Cyngor. Mynegwyd dymuniadau gorau hefyd i'r aelodau hynny sy'n ceisio cael eu hailethol a'r rhai nad oeddent yn sefyll. |