Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, S. Allen, L. Bowen, D. Cundy, P.E.M.  Edwards, A. Fox, A. James, J. James, T.J. Jones a G.B. Thomas.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

C. Campbell

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25

Aelodau o'r teulu'n gweithio i'r Awdurdod fel athrawon.

 

H.A.L. Evans

5.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2022/23 tan 2024/25 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22

Ei chwaer yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai.

H.A.L. Evans

5.4 – Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2022-25 - Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin

Ei chwaer yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai.

A.    Davies

5.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2021/22 tan 2023/24 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2022/23

 

Llwybr Beicio Dyffryn Tywi yn mynd drwy dir ei fferm.

J.A. Davies

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25

Mab yn gweithio i'r Awdurdod fel athro.

E. Dole

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25

Mab yn gweithio i'r Awdurdod.

E. Dole

5.2  - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2022/23 tan 2026/27

Mab yn gweithio i'r Awdurdod.

J. S. Edmunds

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25

Aelod o'r teulu'n gweithio i'r Awdurdod.

L.D. Evans

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25

Merch yn gweithio i'r Awdurdod fel athrawes.

S.J.G Gilasbey

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25

Aelod o'r teulu'n gweithio fel athro yn un o'r ysgolion a grybwyllir yn yr adroddiad ac yn Llywodraethwr ALl yn Ysgol Gwenllian.

S.J.G Gilasbey

5.2  - Y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2022/23 tan 2026/27

Aelod o'r teulu'n gweithio fel athro yn un o'r ysgolion a grybwyllir yn yr adroddiad ac yn Llywodraethwr ALl yn Ysgol Gwenllian.

S.J.G. Gilasbey

5.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2022/23 tan 2024/25 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22

Aelod o'r teulu'n denant i'r Cyngor.

S.J.G. Gilasbey

5.4 – Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2022-25 - Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin

Aelod o'r teulu'n denant i'r Cyngor.

B.W. Jones

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25

Mab yn gweithio i'r Awdurdod fel athro.

K. Madge

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 tan 2023/24

Ei ferch yn gweithio yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol.

B.A.L. Roberts

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25

Aelod o'r teulu'n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol

T. Higgins

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25

Ei nith yn gweithio yn y Gwasanaeth Llyfrgelloedd

P.M. Hughes

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25

Ei ferch yn gweithio i'r Awdurdod

R. James

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25

Ei bartner yn gweithio i'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd.

A.D.T. Speake

5.3 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2022/23 tan 2024/25 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22

Aelod o'r teulu'n denant i'r Cyngor.

A. Vaughan Owen

5.1 – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25

Ei wraig yn gweithio i'r Awdurdod fel athrawes.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·     Ar ran y Cyngor, estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â theulu'r cyn-gynghorydd Dilwyn Williams yn dilyn ei farwolaeth, a rhoddodd wybod i aelodau'r Cyngor am drefniadau'r angladd.

 

·     Ar ran y Cyngor, bu i'r Cadeirydd gydymdeimlo â'r cyn-gynghorydd Peter Cooper, yn dilyn marwolaeth ei wraig, Jennifer.

·     Dywedodd y Cadeirydd iddo fod mewn cynhyrchiad o Grease yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin yng nghwmni Maer y Dref.  Roedd wedi mwynhau'r sioe'n arw.

 

·       Ddydd Gwener, 25 Chwefror, 2022 bu'r Cadeirydd mewn digwyddiad Cawl a Chân elusennol a drefnwyd gan Gyngor Gwledig Llanelli.  Hwn oedd digwyddiad codi arian diwethaf Cadeirydd Cyngor Gwledig Llanelli, a chafodd ei gynnal yn EJ's yn Llanelli.

 

·       Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai'n ymweld yfory (3 Mawrth) â Mrs Keir ar ei phen-blwydd yn 110 oed. Roedd Mrs Keir yn byw yn Awel Tywi, Llandeilo ar hyn o bryd.  Byddai llu o'r cyfarchion cynhesaf yn cael eu hestyn i Mrs Keir ar ei phen-blwydd.

 

·       Bu i'r Cadeirydd wahodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ken Lloyd, i wneud ei gyhoeddiadau i'r Cyngor.  Dywedodd yr Is-gadeirydd wrth y Cyngor ei fod ef a'i wraig, ar 20 Chwefror 2022, wedi mynd i Wasanaeth Dinesig Cyngor Dinas Abertawe ar ran y Cadeirydd, ac mai pleser oedd gallu mynychu digwyddiad yn y cnawd a oedd wedi cael ei ohirio ym mis Mai 2021.

 

·   Cyhoeddodd y Cynghorydd Handel Davies, gyda chaniatâd y Cadeirydd, ei fod ef fel Maer Llanymddyfri wedi cael y pleser o groesawu a llongyfarch Mathew Page yn ôl i Lanymddyfri yn dilyn ei gampau a roddodd le iddo yn Llyfr Record Byd Guinness, yr un cyntaf o Lanymddyfri i wneud hynny. Dros chwe diwrnod roedd Mr Page wedi beicio dros fil cilometr (625 milltir) yn ymweld â chwe deg saith o gestyll ar draws de Cymru a'r gororau. Byddai'r sylw yn y cyfryngau yn codi proffil Llanymddyfri ac yn enwedig Clwb Beicio Llanymddyfri, a oedd ond wedi ailgychwyn yn y flwyddyn ddiwethaf dan arweiniad Mathew. Byddai'r dref yn elwa ar y sylw hwn ac roedd bwriad ganddi i ennill enw da fel cyrchfan cyfeillgar i feicwyr.

 

·       Rhoddodd yr Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am ymdrechion trigolion a busnesau Sir Gaerfyrddin mewn ymateb i'r ymosodiad diweddar gan Rwsia ar Wcráin. Dros y dyddiau diwethaf, roedd ysbryd diwyro pobl Wcráin wrth amddiffyn eu hannibyniaeth, eu democratiaeth, a'u gwlad wedi bod yn amlwg ar y newyddion, ac ni ddylai'r lluniau torcalonnus o bobl ddiniwed wedi'u hanafu mewn ymosodiadau ac yn ffoi gan gario popeth posibl yn bethau ddylai fod yn digwydd yn y byd modern.

 

Ers dechrau'r gwrthdaro, roedd grwpiau wedi ymgynnull ledled Cymru i ddangos eu hundod â phobl Wcráin ac roedd yr undod hwnnw wedi bod yn glir ar draws Sir Gâr dros y penwythnos. Roedd haelioni a chydsafiad pobl yn amlwg iawn wrth i bobl gasglu dillad, nwyddau ymolchi, a chyflenwadau meddygol i gefnogi ffoaduriaid oedd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi.  Roedd cwmnïau cludo a chyflenwi lleol yn cefnogi'r ymdrechion drwy gynnig dosbarthu'r rhoddion.

 

I gloi dywedodd yr Arweinydd byddai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 9 CHWEFROR 2022 pdf eicon PDF 435 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022 gan eu bod yn gywir.

 

 

5.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET O RAN A MATERION CYNLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

5.1

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2022/23 I 2024/25 pdf eicon PDF 399 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:

1.    Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cynghorwyr, os oeddent wedi datgan buddiant cynharach, nad oedd angen iddynt ddatgan y buddiant hwnnw eto bryd hynny gan fod yr adroddiad yn ymwneud â Chyllideb Refeniw gyffredinol y Cyngor, ac y gallent aros yn y cyfarfod oni bai bod y drafodaeth yn troi'n uniongyrchol ac yn benodol at fater y buddiant.

2.    Roedd y Cynghorwyr C. Campbell, J.A. Davies, E. Dole, J.S. Edmunds, L.D. Evans, S.J.G. Gilasbey, P.M. Hughes, B.W. Jones, B.A.L. Roberts, T. Higgins, A. Vaughan Owen a R. James wedi datgan buddiant yn gynharach fod aelodau o'u teulu yn cael eu cyflogi gan yr Awdurdod.

3.    Ailadroddodd y Cynghorydd K. Madge ei ddatganiad cynharach.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 21 Chwefror, 2022 (gweler Cofnod 5), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 tan 2024/25 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, ar ran y Cabinet, pryd y bu'n manylu ar gefndir y cynigion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor, ynghyd â'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb. Roedd manylion llawn y setliad dros dro wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, ond roedd y pennawd ar sail Cymru gyfan, roedd y cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol 9.4% yn fwy na setliad 2021/22, a dyraniad Sir Gaerfyrddin oedd 9.2% (£311.597m).

 

Esboniwyd bod proses gyllideb Llywodraeth Cymru llawer hwyrach na'r arfer, a dim ond y diwrnod cynt (1 Mawrth) roedd ffigurau'r setliad terfynol wedi cael eu cyhoeddi. Gallai'r Aelodau'n weld y crynodeb diweddaraf o'r gyllideb a oedd wedi'i ddiweddaru gyda ffigurau setliad terfynol Llywodraeth Cymru ac wedi'i gyhoeddi fel ychwanegiad at yr agenda fel 'Tabl 1 wedi'i ddiweddaru'.  Adroddwyd bod ffigurau'r setliad terfynol yn darparu cynnydd o £5,905 ar gyfer Sir Gaerfyrddin a oedd o ganlyniad i addasiad technegol i'r fformiwla, a chynigiwyd bod y swm yn cael ei ychwanegu at y gronfa wrth gefn a oedd eisoes wedi'i neilltuo ar gyfer COVID. 

 

Nodwyd bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi gwneud rhai addasiadau i rai o'r ffigurau eraill yn yr adroddiad, fel rhan o'r drefn arferol gan fod gwybodaeth gliriach ar gael bellach, gyda chyfanswm y dilysiad presennol yn ychwanegu rhyw £16.2m at y gyllideb.


Dywedwyd bod y gyllideb yn cadw'r cyflog tybiedig o 4% o lwfans am 2022/23 ar gyfer y Cyd-gyngor Cenedlaethol yn ogystal â staff addysgu, ac mai dyma'r dilysiad mwyaf arwyddocaol o hyd yn y tybiaethau. Fodd bynnag roedd yn unol â disgwyliadau cyffredinol Awdurdodau ac yn cydnabod bod chwyddiant yn cynyddu'n llawer uwch na 5%.

Dywedwyd bod cynigion y gyllideb wreiddiol, yr ymgynghorwyd arnynt drwy gydol mis Ionawr 2022, yn rhagdybio dilysu gwasgfeydd a gadarnhawyd o ran cyflogau a chwyddiant i ysgolion, ac fel hynny oedd hi o hyd o ran y cynigion terfynol. At hynny nid oedd dim arbedion wedi'u dyrannu i'r cyllidebau a ddirprwyir i ysgolion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2022/23-2026/27 pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Ailadroddodd y Cynghorwyr S.J.G Gilasbey ac A. Davies ddatganiadau a wnaed yn gynharach ar yr eitem hon)

 

Bu i'r Aelod Cabinet dros Adnoddau gyflwyno i'r Cyngor, ar ran y Cabinet,  Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2022/23 i 2026/2027 a roddai ystyriaeth i'r ymgynghoriad a gyflawnwyd. Roedd y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 21 Chwefror, 2022 (gweler Cofnod 6), wedi ystyried y Rhaglen ac wedi gwneud nifer o argymhellion i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Byddai'r rhaglen newydd yn gweld buddsoddiad o £275m dros bum mlynedd.  Byddai'r rhaglen yn cael ei chefnogi gan gyllid gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ac adnoddau'r cyngor ei hun. 

 

Nodwyd bod y rhaglen gyfalaf fanwl dros dro yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau ar 2 Chwefror 2022 at ddibenion ymgynghori. Yn dilyn codi pryderon ynghylch diffyg arian grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer priffyrdd, roedd y rhaglen wedi'i diwygio i gynnwys ymrwymiadau pellach yn y maes hwn. Cafodd rhan o'r cofnod perthnasol o'r cyfarfod ei hatodi i'r adroddiad fel Atodiad B er gwybodaeth.

 

Dywedwyd bod y rhaglen yn cynnwys dau brosiect trawsnewidiol newydd.  Y cyntaf yw hwb gwerth £19.6m yng nghanol Tref Caerfyrddin a'r ail yw buddsoddiad gwerth £19m i gwblhau Llwybr Dyffryn Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo.  Fel rhan o'r prosiect, byddai £366k ar gael i uwchraddio'r ddarpariaeth parcio.  At hynny, byddai cyllid ychwanegol o £16m ar gael ar gyfer Parth 1 datblygiad Pentre Awel yn Llanelli, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect i £87m. 

 

Dywedwyd wrth y Cyngor, yn ogystal â'r uchod, fod cefnogaeth barhaus i'r canlynol:

 

·       £2.5m ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl

·       £250k i wella Diogelwch ar y Ffyrdd

·       £600k ar gyfer Adnewyddu Priffyrdd yn barhaus

·       £400k ar gyfer Goleuadau Cyhoeddus

·       £3m ar gyfer Cynnal a Chadw Cyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn ystad eiddo.

 

Byddai creu dyfarniad blynyddol newydd o £250k a fyddai'n dechrau yn 2022/23 ar gyfer seilwaith draenio priffyrdd yn helpu i wneud y rhwydwaith priffyrdd yn fwy gwydn i dywydd yn y dyfodol ac yn lleihau'r perygl o lifogydd.  Gwelwyd hefyd y bwriad i barhau â'r dyraniad blynyddol o £66k i Hawliau Tramwy a Chilffyrdd yn 2026/27.

 

Dywedwyd y byddai buddsoddiadau pellach yn cael eu gwneud ar draws y rhaglen:

 

·       Byddai'r adran addysg yn gweld bod cyllid ar gael i gwblhau'r cilfannau bysiau newydd yn Ysgol Dyffryn Taf, a dyfarniad blynyddol o £500k yn cael ei gyflwyno ar gyfer gwaith addysg cyffredinol.

 

·       Byddai'r adran Cymunedau'n cael Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl gyda chynnydd mewn buddsoddiad o £500k i £2.5m y flwyddyn yn 2025/26, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad dros y 5 mlynedd i £10.5m. O fewn y portffolio hamdden cynigiwyd cynnydd o £1m mewn cyllid i uwchraddio'r cae 3G yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman gan ddwyn cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y prosiect i £2m.

 

·       O ran adran yr Amgylchedd, cynlluniwyd £150k ar gyfer 2022/23 a 2023/24 i roi arian cyfatebol ar gyfer gwaith rheoli llifogydd a lliniaru llifogydd. Bydd £4.7m ar gyfer cerbydau sbwriel ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

CYLLIDEB Y CYFRIF REFENIW TAI REFENIW A CYFALAF A PHENNU RHENTI TAI AR GYFER 2022/23 pdf eicon PDF 423 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

HYD Y CYFARFOD

Wrth roi ystyriaeth i'r eitem hon, tynnwyd sylw'r Cyngor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol - 'Hyd Cyfarfod' - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers bron i dair awr. Felly:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL atal Rheol 9 o'r Weithdrefn Gorfforol er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried y materion oedd yn weddill ar yr agenda.

 

[NODER: Ailadroddodd y Cynghorwyr S.J.G. Gilasbey a H.A.L. Evans ddatganiadau a wnaed yn gynharach ar yr eitem hon a gadael y cyfarfod tra rhoddwyd ystyriaeth iddynt]

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 21 Chwefror 2022 [gweler Cofnod 7], wedi ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2022/23 tan 2024/25 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2022/23 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo hefyd gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2022, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £231m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid ac, yn fwy diweddar, hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, roedd £83m pellach wedi cael ei wario ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid.  Dros y 3 blynedd nesaf roedd disgwyl i £64m pellach gael ei wario ar gynnal a gwella'r stoc tai.

 

Roedd y gyllideb hefyd yn darparu cyllid o tua £56m dros y 3 blynedd nesaf i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy a £56m i gefnogi'r Rhaglen Datblygu Tai.

 

Atgoffwyd y Cyngor, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol.  Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn 2018/19, a bod polisi interim wedi'i roi ar waith ar gyfer 2019/20, roedd Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21 am gyfnod o 5 mlynedd o 2020/21, a oedd yn cynnwys rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodwyd yn yr adroddiad. 

 

Roedd prif elfennau'r polisi hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 2024/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI+1%.

 

Fodd bynnag, dywedwyd pe  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.3

5.4

CYNLLUN BUSNES Y CYFRIF REFENIW TAI 2022-25 RHAGLEN BUDDSODDI MEWN TAI SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 389 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Gan iddynt ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, nid oedd H.A.L. Evans ac S.J.G. Gilasbey yn bresennol wrth ystyried yr eitem hon nac wrth bleidleisio arni.

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 21 Chwefror, 2022 (gweler cofnod 8) wedi ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) 2022-2025, yr oedd ei ddiben fel a ganlyn:-

 

·       Egluro gweledigaeth a manylion y Rhaglen Buddsoddiadau Tai dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys cynlluniau gwella stoc tai, y rhaglen adeiladu tai newydd, cynlluniau i ddod yn awdurdod carbon sero-net, a'r hyn y mae'n ei olygu i'r tenantiaid.

 

·       Dangos bod yr incwm a gafwyd gan denantiaid a'r ffynonellau cyllid eraill yn darparu rhaglen gyfalaf o £120m dros y tair blynedd nesaf i:

 

o Gwella a chynnal a chadw'r stoc bresennol;

oCefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2,000 o dai newydd mewn cymunedau;

oCefnogi Egwyddorion Carbon Sero-net y Cyngor, gan greu cartrefi sy’n defnyddio ynni yn effeithlon, lleihau allyriadau carbon a hyrwyddo cynhesrwydd fforddiadwy i denantiaid;

oHelpu i ysgogi twf ac adferiad economaidd yn dilyn pandemig Covid-19;

oHelpu i greu cymunedau cynaliadwy cryf - lleoedd lle mae pobl yn falch o allu eu galw'n gartref iddyn nhw.

 

·       Cadarnhaodd y proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni'r rhaglen buddsoddiadau tai a thai Cyngor newydd dros y tair blynedd nesaf.

 

·       Llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2022/23, sy’n cyfateb i £6.2m.

 

Dywedwyd bod yr adroddiad wedi'i rannu i'r pum thema allweddol ganlynol gyda'r nod o symud pethau ymlaen am y tair blynedd nesaf:-

 

1.    Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr;

2.    Thema 2 – Buddsoddi mewn Cartrefi a'r Cyffiniau;

3.    Thema 3 - Darparu Rhagor o Dai

4.    Thema 4 – Datgarboneiddio'r Stoc Dai

5.    Thema 5 – Yr Economi Leol, Budd i'r Gymuned a Chaffael

 

I gloi, roedd y Cynllun yn cefnogi tenantiaid presennol y Cyngor, yn ogystal â darpar denantiaid, ac yn cydbwyso'r hyn oedd ei angen ar denantiaid nawr a'r hyn fyddai ei angen yn y dyfodol. 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd y gwelliant canlynol i'r argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad:

 

'Cadarnhau'r weledigaeth ar gyfer ein rhaglenni buddsoddi mewn tai dros y tair blynedd nesaf a chyflwyno rhaglen byngalos Cyngor ar draws wardiau'r Cyngor yn Sir Gaerfyrddin. Byddai hyn yn golygu bod tai 3 ystafell wely ar gael i deuluoedd ifanc. Yn ogystal, mae angen i ni glustnodi tir mewn wardiau ar gyfer byngalos newydd yn rhaglen buddsoddi mewn tai Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2022-27.

 

Amlinellodd y cynigydd y rhesymau dros y gwelliant hwn

 

Yn dilyn trafodaeth a phleidlais,

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Gwelliant i'r Cynnig.

 

Ar hynny, aeth y Cyngor ymlaen i bleidleisio ar y Cynnig gwreiddiol a

 

PHENDERFYNWYD mabwysiadu'r Cynnig a'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

5.4.1

Cadarnhau gweledigaeth y rhaglenni buddsoddi mewn tai dros y tair blynedd nesaf;

 

5.4.2

Cyflwyno Cynllun Busnes 2022/23 i Lywodraeth Cymru;

 

5.4.3

Nodi'r cyfraniad a wnaeth y Cynllun  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.4

5.5

POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2022-23 pdf eicon PDF 302 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 2022 (gweler Cofnod 9) wedi ystyried Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2022/23.

 

Atgoffwyd aelodau'r Cyngor gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys 2017, wedi cytuno i gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys. Roedd hefyd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Dywedwyd bod yr Arferion Rheoli'r Trysorlys a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad fel Atodiad A yn nodi sut byddai'r Cyngor yn ceisio cyflawni ei bolisïau a'i amcanion yn y Trysorlys ac argymhellwyd sut byddai'n rheoli'r gweithgareddau hynny.

 

Adroddwyd bod swyddogaeth rheoli'r trysorlys yn sicrhau bod y llif arian yn cael ei gynllunio'n ddigonol a bod arian parod ar gael pan oedd angen.  Roedd arian dros ben yn cael ei fuddsoddi mewn partïon i gontract risg isel a oedd yn briodol i barodrwydd i dderbyn risg isel y Cyngor, gan ddarparu hylifedd addas cyn ystyried adenillion buddsoddi, fel y nodir yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Rhaid i'r Awdurdod, wrth gynnal rhestr parti i gontract, gydymffurfio â'r meini prawf risg gan ystyried diogelwch, hylifedd ac elw, gyda diogelwch yn brif egwyddor. Roedd y rhestr parti i gontract bresennol wedi'i hatodi i'r adroddiad fel Atodiad C.

 

Hefyd, dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/23, a nodir yn Atodiad D i'r adroddiad.

 

Roedd manylion y Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw yn Atodiad E i'r adroddiad.

 

Adroddwyd bod y Polisi a'r Strategaeth hefyd yn ystyried y benthyca tebygol fyddai'n ofynnol ar gyfer prosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin.  Roedd disgwyl i'r Cyngor fenthyg £39.1m dros y cyfnod 2022-23 i 2024-25.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

5.5.1

Bod Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022-23 a'r argymhellion a nodwyd ynddynt yn cael eu cymeradwyo;

 

5.5.2

Bod Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodaeth, y  Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw, y Strategaeth Fuddsoddi, a'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo.

 

 

6.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR 31 IONAWR 2022 pdf eicon PDF 324 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at Gofnod 8 o Gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2022 ynghylch Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032, mynegwyd pryder ynghylch mater a oedd wedi codi mewn perthynas â nifer o ddatganiadau anghywir a oedd wedi bod yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol mewn cysylltiad â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.  Gofynnwyd i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant fynd i'r afael â'r mater hwn ar fyrder.

 

Wrth ymateb, eglurodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant beth oedd diben y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, a oedd yn nodi gweledigaeth 10 mlynedd y Cyngor i greu system gynllunio well ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 31  Ionawr, 2022.

 

 

7.

RHYBUDDION O GYNNIG.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim Rhybuddion o Gynnig wedi dod i law.

 

 

8.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

9.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

 

 

10.

COFNODION ER GWYBODAETH

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda 10.1 – 10.7 ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau