Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C.A. Campbell, S.A. Curry, P. Edwards, A. Fox, S. Matthews, A.S.J. McPherson a J.S. Phillips.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Lloyd

10.2 - Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Liam Bowen

Yn meddu ar gyfranddaliadau yn Carmarthenshire Energy Ltd.

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·        Diolchodd y Cadeirydd i'w Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ken Lloyd, am gadeirio cyfarfod y Cyngor ar 19 Ionawr 2022 yn ei absenoldeb;

·       Llongyfarchodd y Cadeirydd y Cynghorydd Jane Tremlett ar ei phenodiad yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd y Gr?p Annibynnol. Llongyfarchodd hefyd y Cynghorydd Philip Hughes ar gael ei benodi'n Ddirprwy Arweinydd y Gr?p Annibynnol a thalodd deyrnged i'r diweddar Gynghorydd Mair Stephens a fyddai, ychwanegodd, yn cael ei chofio gydag atgofion melys;

·       Dywedodd y Cadeirydd ei fod ar hyn o bryd yn codi arian ar ran Ambiwlans Awyr Cymru ac yn cerdded cyfanswm pellter ffin Sir Gaerfyrddin, sef 255 milltir, er ei fod o fewn cyfyngiadau ei gartref oherwydd y pandemig. Ychwanegodd y byddai'n ysgrifennu at bob Cynghorydd cyn bo hir yn gofyn am roddion i Ambiwlans Awyr Cymru;

·       Llongyfarchodd y Cynghorydd Glynog Davies Dîm Cyfiawnder Ieuenctid y Sir ar ennill Gwobr Hwb Doeth am arfer effeithiol.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y 19EG IONAWR, 2022 pdf eicon PDF 443 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 19 Ionawr, 2022, yn cael eu llofnodi gan eu bod yn gofnodion cywir, yn amodol ar gynnwys y Cynghorydd S.L. Davies yn y rhestr o'r bobl a oedd yn bresennol a dileu ei henw o dan Gofnod 1 - Ymddiheuriadau am Absenoldeb.

 

 

5.

YSTYRIED ARGYMHELLION GWEITHGOR ADOLYGU'R CYFANSODDIAD O RAN Y MATERION CANLYNOL:

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CYNLLUN DIRPRWYO I SWYDDOGION A PHROTOCOL AR GYFER CYFLWYNO SYLWADAU I'R CYNGOR SIR YNGHYLCH CEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar argymhellion Gweithgor Trawsbleidiol Adolygu'r Cyfansoddiad ynghylch:

(i)              cynnig i Adolygu'r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion i adlewyrchu'r broses o symud swyddogaethau i wahanol Gyfarwyddiaethau, newidiadau o ran teitlau swyddi, swyddogaethau newydd sy'n codi o ddeddfwriaeth newydd a rhai dirprwyaethau ychwanegol; a

(ii)             diwygiadau arfaethedig i'r Protocol ar gyfer cyflwyno Sylwadau i'r Cyngor Sir ynghylch Ceisiadau Cynllunio er mwyn egluro'n well y gweithdrefnau a'r terfynau amser ar gyfer cyflwyno sylwadau a gofyn am gael siarad yn y Pwyllgor Cynllunio, a gwneud defnydd mwy effeithlon o amser y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD bod y diwygiadau arfaethedig i'r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion ac i'r Protocol ar gyfer cyflwyno Sylwadau i'r Cyngor Sir ynghylch Ceisiadau Cynllunio yn cael eu cymeradwyo.

 

 

5.2

CYNLLUN DEISEBAU SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gynllun deisebau drafft ar gyfer yr Awdurdod a argymhellwyd gan Weithgor Trawsbleidiol Adolygu'r Cyfansoddiad i'w fabwysiadu. Roedd yn un o ofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fod pob awdurdod lleol yn gwneud cynllun deisebau, a bod y cynllun ar waith erbyn mis Mai 2022.

Nodwyd bod Rheolau Gweithdrefn y Cyngor (Rheolau Sefydlog) y Cyngor hwn wedi rhoi hawl ers amser maith i unrhyw aelod o'r Cyngor neu unrhyw etholwr llywodraeth leol yn y Sir gyflwyno deiseb, er bod hon wedi bod yn ddeiseb bapur hyd yma ac nad oedd unrhyw gyfleuster deiseb electronig, fel yr argymhellwyd bellach, wedi bod ar gael.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r cynllun deisebau ar gyfer yr Awdurdod o 1 Mai 2022 fel yr argymhellwyd gan Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad.

 

 

5.3

STRATEGAETH CYFRANOGIAD Y CYHOEDD SIR GAERFYRDDIN FEL RHAN O'R BROSES DDEMOCRATAIDD pdf eicon PDF 303 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar fersiwn ddrafft o Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd fel rhan o'r broses ddemocrataidd a argymhellwyd gan Weithgor Trawsbleidiol Adolygu'r Cyfansoddiad i'w mabwysiadu. Roedd yn un o ofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fod pob prif Gyngor yn paratoi ac yn cyhoeddi strategaeth ("strategaeth cyfranogiad y cyhoedd") sy'n pennu sut y mae'n bwriadu cydymffurfio â'r ddyletswydd yn adran 39 o'r Ddeddf ac yn helpu i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn Llywodraeth Leol. Byddai angen i'r Strategaeth gyd-fynd â'r Strategaeth Cyfranogiad Corfforaethol sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd fel rhan o'r broses ddemocrataidd, fel yr argymhellwyd gan Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad, i'w hymgorffori yn nogfen y Strategaeth Cyfranogiad Corfforaethol.

 

6.

AELODAETH PWYLLGORAU CRAFFU, PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL Y CYNGOR A PHENODI AELODAU I WASANAETHU ARNYNT pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y'u diwygiwyd, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar ganlyniad adolygiad o gyfansoddiad Pwyllgorau Craffu, Rheoleiddio a Phwyllgorau eraill y Cyngor yn dilyn marwolaeth drist y Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd yr Awdurdod ac aelod o'r Gr?p Annibynnol, a olygai fod cynrychiolaeth y Gr?p Annibynnol ar Bwyllgorau wedi gostwng 2 sedd o 32 i 30. Nid oedd unrhyw newid i ddyraniadau Plaid Cymru, Llafur, Gr?p Annibynnol Newydd na dyraniadau aelodau heb eu cynnwys.

 

PENDERFYNWYD, o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor,:

 

6.1 fabwysiadu'r newidiadau i nifer y seddi a ddelir gan y Gr?p Annibynnol, fel y manylir yn Nhablau 1, 2 a 3 yr adroddiad;

6.2 nodi y bydd dwy sedd wag ar Bwyllgorau Rheoleiddio, Craffu a Phwyllgorau eraill y Cyngor tan yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022;

6.3 yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2 (2) (n), cymeradwyo newidiadau yn aelodaeth y Pwyllgorau yn sgil argymhelliad 6.1 uchod (fel y manylir yn yr adroddiad);

6.4 nodi nad oedd dim newidiadau i nifer y seddi sy'n cael eu dal gan Gr?p Plaid Cymru, y Gr?p Llafur, y Gr?p  Annibynnol Newydd a'r aelodau o'r Cyngor sydd heb gysylltiad pleidiol;

6.5 yn unol â Rhan 6 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, nodi nad yw'r trefniadau presennol ar gyfer dyraniad y 5 Cadeirydd Craffu yn newid.

7.

PENODI AELODAU I WASANAETHU AR BWYLLGORAU YMGYNGHOROL Y CYNGOR AC AR GYRFF ALLANOL YN AMODOL AR Y GOFYNION O RAN CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad a oedd yn manylu ar ganlyniad adolygiad o aelodaeth Panelau Ymgynghorol y Cyngor a Chyrff Allanol a oedd yn ddarostyngedig i ofynion cydbwysedd gwleidyddol yn dilyn penderfyniad y Cynghorydd Shahana Najmi i ymddiswyddo o'r Gr?p Annibynnol Newydd.

 

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, o ganlyniad i newidiadau i aelodaeth wleidyddol gyffredinol y Cyngor,:

 

7.1 fod dyrannu seddi ar y Panel Ymgynghorol ynghylch y Polisi Tâl (6) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:- Plaid Cymru (3) Llafur (2) Annibynnol (1);

7.2 o ganlyniad i argymhelliad 7.1 uchod, mae'r Gr?p Annibynnol Newydd wedi ildio'i sedd i'r Gr?p Llafur fel y nodir yn yr adroddiad;

7.3 nodi nad oes dim newidiadau o ran dyraniad y seddi ar gyfer y canlynol: Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad.

 

8.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL

Dogfennau ychwanegol:

8.1

CYNLLUN CYFLAWNI ECONOMAIDD RHANBARTHOL DEORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 411 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2022 (cofnod 6), wedi ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gynigion bod Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru yn cymryd lle Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

“fod Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru yn cael ei fabwysiadu fel polisi adfywio economaidd cyffredinol y Cyngor.”

 

9.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR 17EG IONAWR 2022 pdf eicon PDF 416 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2022.

 

10.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD DARREN PRICE:

‘Materion Cynllunio yn ymwneud â datblygwyr tai

 

Mae'r Cyngor yn nodi bod nifer o ddatblygwyr wedi adeiladu ystadau tai yn Sir Gaerfyrddin a bod y safon yn anfoddhaol. Mae rhai datblygwyr yn destun camau gorfodi rheolau cynllunio yn rheolaidd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ac mae'n ymddangos bod materion y mae angen eu datrys yn ymwneud â'u safleoedd bob amser. 

 

Mae rhai o'r materion sy'n arwain at yr awdurdod lleol neu ddeiliaid tai yn wynebu costau ychwanegol yn cynnwys ffyrdd a phalmentydd heb eu gorffen, diffyg goleuadau stryd, draenio anfoddhaol ar y safle yn groes i ganiatâd cynllunio, rheoli safleoedd yn wael a llygredd s?n yn ystod y gwaith adeiladu, dinistrio ecoleg yn ystod y gwaith adeiladu, difrod i systemau draenio priffyrdd cyhoeddus a thorri cytundebau Adran 106. 

 

Er gwaethaf pryder a rhwystredigaeth sylweddol cymunedau lleol, mae'r datblygwyr dan sylw yn parhau i gael caniatâd cynllunio ar gyfer safleoedd newydd.

 

Mae'r Cyngor yn nodi na chaniateir i Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried hanes datblygwr ar hyn o bryd wrth asesu cais cynllunio a rhaid iddynt farnu pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun.

 

Mae'r Cyngor yn nodi ymhellach fod cyfraniadau Adran 106 yn chwarae rhan allweddol wrth liniaru rhai o'r pwysau a ddaw yn sgil datblygiadau tai newydd. Fodd bynnag, unwaith y rhoddir caniatâd, gall datblygwyr gyflwyno adroddiadau hyfywedd sy'n hawlio costau uwch sylweddol neu lai o werth amcangyfrifedig ar y farchnad ar gyfer tai. O ganlyniad, cytunir weithiau i leihau neu hyd yn oed ddileu'r cytundeb Adran 106 cychwynnol yn llawn er mwyn diogelu hyfywedd ariannol y datblygiad. O ganlyniad, mae cymunedau'n colli allan ar gyfraniad hanfodol i amwynderau a chefnogaeth i brynwyr cartrefi am y tro cyntaf. 

 

Mae'r Cyngor yn credu:

 

Y dylai fod gan Awdurdod Cynllunio Lleol y p?er i wrthod ceisiadau cynllunio newydd gan ddatblygwr nes bod yr holl rwymedigaethau sy'n weddill a chwynion dilys sy'n ymwneud â safleoedd presennol neu safleoedd blaenorol wedi'u cyflawni neu eu datrys yn llawn. 

 

Y dylid rhoi pwerau hefyd i Awdurdod Cynllunio Lleol wrthod cais cynllunio os yw'n credu, yn seiliedig ar dystiolaeth yn y gorffennol, na fyddai datblygwr yn debygol o gwblhau datblygiad tai i'r safon y cytunwyd arni, fel y nodir yn y cais cynllunio. 

 

Mae'r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru: 

 

1.     I gyflwyno newidiadau deddfwriaethol a fyddai'n caniatáu i Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried hanes datblygwr fel 'ystyriaeth gynllunio berthnasol’. 

2.     I wahardd datblygwyr rhag herio cyfraniadau Adran 106 y cytunwyd arnynt yn flaenorol ar sail 'hyfywedd ariannol’.’ 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Darren Price:-

 

Materion Cynllunio yn ymwneud â datblygwyr tai

 Mae'r Cyngor yn nodi bod nifer o ddatblygwyr wedi adeiladu ystadau tai yn Sir Gaerfyrddin a bod y safon yn anfoddhaol. Mae rhai datblygwyr yn destun camau gorfodi rheolau cynllunio yn rheolaidd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ac mae'n ymddangos bod materion y mae angen eu datrys yn ymwneud â'u safleoedd bob amser.

Mae rhai o'r materion sy'n arwain at yr awdurdod lleol neu ddeiliaid tai yn wynebu costau ychwanegol yn cynnwys ffyrdd a phalmentydd heb eu gorffen, diffyg goleuadau stryd, draenio anfoddhaol ar y safle yn groes i ganiatâd cynllunio, rheoli safleoedd yn wael a llygredd s?n yn ystod y gwaith adeiladu, dinistrio ecoleg yn ystod y gwaith adeiladu, difrod i systemau draenio priffyrdd cyhoeddus a thorri cytundebau Adran 106.

Er gwaethaf pryder a rhwystredigaeth sylweddol cymunedau lleol, mae'r datblygwyr dan sylw yn parhau i gael caniatâd cynllunio ar gyfer safleoedd newydd.

Mae'r Cyngor yn nodi na chaniateir i Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried hanes datblygwr ar hyn o bryd wrth asesu cais cynllunio a rhaid iddynt farnu pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun. Mae'r Cyngor yn nodi ymhellach fod cyfraniadau Adran 106 yn chwarae rhan allweddol wrth liniaru rhai o'r pwysau a ddaw yn sgil datblygiadau tai newydd. Fodd bynnag, unwaith y rhoddir caniatâd, gall datblygwyr gyflwyno adroddiadau hyfywedd sy'n hawlio costau uwch sylweddol neu lai o werth amcangyfrifedig ar y farchnad ar gyfer tai. O ganlyniad, cytunir weithiau i leihau neu hyd yn oed ddileu'r cytundeb Adran 106 cychwynnol yn llawn er mwyn diogelu hyfywedd ariannol y datblygiad. O ganlyniad, mae cymunedau'n colli allan ar gyfraniad hanfodol i amwynderau a chefnogaeth i brynwyr cartrefi am y tro cyntaf.

Mae'r Cyngor yn credu:

Y dylai fod gan Awdurdod Cynllunio Lleol y p?er i wrthod ceisiadau cynllunio newydd gan ddatblygwr nes bod yr holl rwymedigaethau sy'n weddill a chwynion dilys sy'n ymwneud â safleoedd presennol neu safleoedd blaenorol wedi'u cyflawni neu eu datrys yn llawn. Y dylid rhoi pwerau hefyd i Awdurdod Cynllunio Lleol wrthod cais cynllunio os yw'n credu, yn seiliedig ar dystiolaeth yn y gorffennol, na fyddai datblygwr yn debygol o gwblhau datblygiad tai i'r safon y cytunwyd arni, fel y nodir yn y cais cynllunio.

Mae'r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru:

1. I gyflwyno newidiadau deddfwriaethol a fyddai'n caniatáu i Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried hanes datblygwr fel 'ystyriaeth gynllunio berthnasol’.

2. I wahardd datblygwyr rhag herio cyfraniadau Adran 106 y cytunwyd arnynt yn flaenorol ar sail 'hyfywedd ariannol’.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed datganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais:

 

PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig.

10.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD LIAM BOWEN:

‘Gwnaeth y Cyngor hwn ddatgan Argyfwng Hinsawdd ym mis Chwefror 2019 ac mae wedi ymrwymo i fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030. Mae camau wedi'u cymryd ar draws ein fflyd, ein hadeiladau ac ar draws y sir i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targedau.

 

Daeth Senedd Cymru yn un o'r seneddau cyntaf yn y byd i ddatgan Argyfwng Natur yn 2021.

 

Mae'r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i ymrwymo ymhellach drwy ddatgan Argyfwng Natur a sefydlu Panel Ymgynghorol Trawsbleidiol i gefnogi ymagwedd yr awdurdod hwn at ymdrin â newid yn yr hinsawdd ac argyfwng natur a mabwysiadu Datganiad Caeredin.’

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Liam Bowen:-

 

‘Gwnaeth y Cyngor hwn ddatgan Argyfwng Hinsawdd ym mis Chwefror 2019 ac ymrwymodd i fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030. Mae camau wedi'u cymryd ar draws ein fflyd, ein hadeiladau ac ar draws y sir i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targedau.

Daeth Senedd Cymru yn un o'r seneddau cyntaf yn y byd i ddatgan Argyfwng Natur yn 2021.

Mae'r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i hyrwyddo ei ymrwymiad drwy ddatgan Argyfwng Natur a sefydlu Panel Ymgynghorol Trawsbleidiol i gefnogi dull yr awdurdod hwn o ymdrin â newid yn yr hinsawdd ac argyfwng natur ac ymgorffori mabwysiadu Datganiad Caeredin.’

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed datganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais:

 

PENDERFYNWYD cefnogi'r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol a'i gyfeirio i'r Cabinet.

 

10.3

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES: pdf eicon PDF 257 KB

‘Rhybudd o Gynnig

1)    Rydym yn croesawu'r cynnydd yn y Setliad Refeniw Llywodraeth Leol a fydd yn gweld cynnydd o 9.2% yn nyraniad cyllid Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2022/23.

 

2)    Rydym yn cytuno ag Arweinydd y Cyngor pan ddywedodd yn ddiweddar: “Rwy'n croesawu'r setliad hwn yn fawr gan Lywodraeth Cymru, mae'n un o'r setliadau gorau y mae cynghorau wedi'i weld ers amser maith. Mae'n dyst i'r ddeialog adeiladol a rheolaidd gyda gweinidogion ac Aelodau ehangach y Senedd, sydd yn sicr wedi cael ei gwerthfawrogi gan arweinwyr y cyngor.”

 

3)    Mae'r Cyngor hwn yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau llywodraeth leol gymaint â phosibl er bod ei chyllideb ei hun £3bn yn is erbyn 2024/25 nag y byddai wedi bod fel arall pe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010/11.

 

4)    Yn anffodus, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i danariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn gyffredinol, a'r rheiny yng Nghymru yn arbennig, a chytunwn fod holl Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor yn ysgrifennu ar y cyd at Ganghellor y Trysorlys yn ei annog i adfer cyllid i Lywodraeth Cymru i'r termau gwirioneddol sy'n cyfateb i'w lefel yn 2010, o leiaf.’

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd John James:-

 

‘Bod y Cyngor hwn

1)  Yn croesawu'r cynnydd yn y Setliad Refeniw Llywodraeth Leol a fydd yn gweld cynnydd o 1% yn nyraniad cyllid Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2022/23.

2)  Yn cytuno ag Arweinydd y Cyngor pan ddywedodd yn ddiweddar: “Rwy'n croesawu'r setliad hwn yn fawr gan Lywodraeth Cymru, mae'n un o'r setliadau gorau y mae cynghorau wedi'i weld ers amser maith. Mae'n dyst i'r ddeialog adeiladol a rheolaidd gyda gweinidogion ac Aelodau ehangach y Senedd, sydd yn sicr wedi cael ei gwerthfawrogi gan arweinwyr y cyngor.”

3) Mae'r Cyngor hwn yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau llywodraeth leol gymaint â phosibl er bod ei chyllideb ei hun £3bn yn is erbyn 2024/25 nag y byddai wedi bod fel arall pe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010/11.

4) Yn anffodus, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i danariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn gyffredinol, a'r rheiny yng Nghymru yn arbennig, a chytunwn fod holl Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor yn ysgrifennu ar y cyd at Ganghellor y Trysorlys yn ei annog i adfer cyllid i Lywodraeth Cymru i'r termau gwirioneddol sy'n cyfateb i'w lefel yn 4, o leiaf.’

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol [testun wedi'i danlinellu] i'r cynnig gan y Cynghorydd K. Broom a chafodd ei eilio:

 

‘Bod y Cyngor hwn

 

1)          Yn croesawu'r cynnydd yn y Setliad Refeniw Llywodraeth Leol a fydd yn gweld cynnydd o 9.2% yn nyraniad cyllid Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2022/23.

 

2)          Yn cytuno ag Arweinydd y Cyngor pan ddywedodd yn ddiweddar: “Rwy'n croesawu'r setliad hwn yn fawr gan Lywodraeth Cymru, mae'n un o'r setliadau gorau y mae cynghorau wedi'i weld ers amser maith. Mae'n dyst i'r ddeialog adeiladol a rheolaidd gyda gweinidogion ac Aelodau ehangach y Senedd, sydd yn sicr wedi cael ei gwerthfawrogi gan arweinwyr y cyngor.”

 

3)          Yn cydnabod, yn ogystal â phwysau costau gwasanaeth mewn meysydd megis gofal cymdeithasol, fod risg sylweddol i'n sefyllfa cyllido gan fod Llywodraeth Cymru yn gofyn yn benodol i Awdurdodau Lleol ysgwyddo'r risgiau sy'n gysylltiedig â dyfarniadau cyflog yn y dyfodol, pwysau chwyddiant digynsail (megis costau nwy a thrydan y disgwylir iddynt godi 20%), costau parhaus sy'n gysylltiedig â Covid-19 a gostyngiad parhaus mewn incwm, a chyfraniadau ychwanegol gan gyflogwyr o ganlyniad i gynnydd arfaethedig Llywodraeth y DU mewn Yswiriant Gwladol o 1 Ebrill 2022. 

 

4)      Yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau llywodraeth leol gymaint â phosibl er bod ei chyllideb ei hun £3bn yn is erbyn 2024/25 nag y byddai wedi bod fel arall pe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010/11.Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod setliad Llywodraeth Cymru i'r Cyngor hwn wedi lleihau'n sylweddol mewn termau real ers 2010, heb roi fawr o ystyriaeth i'r pwysau yn sgil chwyddiant cyflogau, cynnydd mewn pensiynau a phwysau gwasanaeth eraill.

 

5)    Yn anffodus, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i danariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn gyffredinol, a'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.3

11.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

12.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan aelodau.

 

13.

CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU:-

Dogfennau ychwanegol:

13.1

MAE'R GRWP ANNIBYNNOL WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD GILES MORGAN I LENWI'R SEDDU GWAG AR Y PWYLLGOR PENODI 'A' A'R PWYLLGOR PENODI 'B'

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol CPR 2(2)(o) roedd y Gr?p Annibynnol wedi enwebu'r Cynghorydd Giles Morgan i lenwi ei seddi gwag ar Bwyllgor Penodiadau 'A' a Phwyllgor Penodiadau 'B'.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad y Cynghorydd Giles Morgan fel cynrychiolydd y Gr?p Annibynnol ar Bwyllgor Penodiadau 'A' a Phwyllgor Penodiadau 'B'.

 

14.

CYMERADWYO'R NEWIDIADAU CANLYNOL I BANELI YMGYNGHOROL Y CYNGOR:-

Dogfennau ychwanegol:

14.1

MAE'R GRWP ANNIBYNNOL WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I LENWI'R SEDD WAG AR Y GWEITHGOR ADOLYGU'R CYFANSODDIAD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol CPR 2(2)(o) roedd y Gr?p Annibynnol wedi enwebu'r Cynghorydd Edward Thomas i lenwi ei sedd wag ar Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad y Cynghorydd Edward Thomas gan y Gr?p Annibynnol i lenwi ei sedd wag ar Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad.

 

14.2

MAE'R GRWP ANNIBYNNOL WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD GILES MORGAN I LENWI'R SEDD WAG AR Y PANEL YMGYNGHOROL YNGHYLCH Y POLISI TÂL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol CPR 2(2)(o) roedd y Gr?p Annibynnol wedi enwebu'r Cynghorydd Giles Morgan i lenwi ei sedd wag ar y Panel Ymgynghorol ynghylch y Polisi Tâl

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad y Gr?p Annibynnol o'r Cynghorydd Giles Morgan i lenwi ei sedd wag ar y Panel Ymgynghorol ynghylch y Polisi Tâl.

 

 

15.1

COFNODION AR GYFER GWYBODAETH (AR GAEL I'W GWELD AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellwyd ar yr agenda ar gael i gael gwybodaeth ar wefan y Cyngor.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau