Agenda a Chofnodion

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 19eg Ionawr, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Edwards, A. Fox A. Vaughan Williams, J. E. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S.J.G. Gilasbey

8.1 - Derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2021.

 

Buddiant personol a rhagfarnol mewn perthynas â'r adolygiad o'r Ddarpariaeth Addysg Gynradd yn Ardaloedd Mynyddygarreg a Gwenllian, sef mater sy'n rhan o Eitem 12.

 

Roedd y Cynghorydd Gilasbey wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad ar y mater ond nid i bleidleisio.

S.J.G. Gilasbey

10 - Cwestiwn gan y Cynghorydd Rob James i'r Cynghorydd Glynog Davies.

Mae ysgolion a enwir yn y cwestiwn yn ei ward.

D. Harries

10 - Cwestiwn gan y Cynghorydd Rob James i'r Cynghorydd Glynog Davies

Yn llywodraethwr Ysgol Gymraeg / Ysgol Bro Banw

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Rhannodd y Cadeirydd y newyddion trist bod y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Stephens, wedi marw ar ôl salwch hir yr wythnos diwethaf.  Mynegodd ei gydymdeimlad â'r teulu, yn enwedig ei g?r Ralph, ei mab Rhys a'i mam Dilys.

 

·         Estynnwyd cydymdeimlad a rhoddwyd teyrngedau hefyd gan gynrychiolwyr o'r grwpiau gwleidyddol. Y Cynghorydd Emlyn Dole (ar ran Gr?p Plaid Cymru), y Cynghorydd Jane Tremlett (ar ran y Gr?p Annibynnol), y Cynghorydd Kevin Madge (ar ran y Gr?p Llafur), y Cynghorydd Jeff Edmunds (ar ran y Gr?p Annibynnol Newydd) a'r Cynghorydd Shahana Najmi (Ceidwadwyr Cymreig).

 

·         Estynnodd y Cynghorydd Glynog Davies ei gydymdeimlad diffuant i deulu Joseph Yeandle, bachgen bach a oedd yn dioddef o fath prin iawn o ganser.  Bu ymgyrch fawr o yn yr ardal i godi arian i fynd â Joseph am driniaeth arloesol yn Efrog Newydd. Yn anffodus, ar 27 Rhagfyr, bu farw Joseph. Y bwriad yw cynnal ffair flynyddol yn y pentref (Ffair Nadolig Joseph) i godi arian ar gyfer achosion elusennol eraill. 

 

·         Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies wrth y Cyngor fod nifer o unigolion wedi dod i'w sylw am gyflawniadau chwaraeon.  Estynnwyd llongyfarchiadau i Hanna Jones sy'n un o'r merched cyntaf i gael cytundeb proffesiynol gydag Undeb Rygbi Cymru.  Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Natalia John, Alisha Butchers, Ffion Lewis, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Ioan Cunningham a Keira Bevan. Nodwyd cyfraniad tîm 5x60 y Cyngor hefyd.

 

·         Rhoddodd yr Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran Covid yn Sir Gaerfyrddin. Dywedodd pe bai'r sefyllfa'n parhau i wella y byddai Cymru'n symud i lefel 0 ond rhybuddiodd y dylem barhau i fod yn ofalus.  Nodwyd efallai nad yw'r newidiadau diweddar o ran profion yn rhoi darlun clir a bod y gostyngiad yn y niferoedd wedi cyd-daro â'r newidiadau i'r drefn brofi. Diolchwyd i'r rhai a weithiodd ddyddiau ac oriau ychwanegol dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd er mwyn cefnogi'r broses o gyflwyno brechiadau ac i'r rhai sy'n parhau i weithio'n galed ar y rheng flaen.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Y 8FED RHAGFYR, 2021 pdf eicon PDF 432 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021 yn gofnod cywir.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mrs Mary Dodd, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, a wahoddwyd i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer y cyfnod 2020/21 i'r Cyngor.

Diolchodd Mrs Dodd i'r Cyngor am y cyfle i gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol ar ran y Pwyllgor Safonau ac aeth yn ei blaen i roi trosolwg o'r materion y bu'r Pwyllgor yn mynd i'r afael â hwy yn ystod 2020/21. Roedd y rheiny'n cynnwys Cwynion Côd Ymddygiad, Ceisiadau am Ollyngiad a Hyfforddiant Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.

Nodwyd mai dim ond 7 cais am ollyngiadau a ystyriwyd gan y pwyllgor, sef gostyngiad o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Atgoffodd yr aelodau i ystyried yr angen am ollyngiad ac i geisio cyngor pan fo angen.

Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Dodd am ei chyflwyniad ac am y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Safonau.

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.

6.

PENODI LLEYGWYR I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 467 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i draean o aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn leygwyr ac i leygwr gael ei benodi'n Gadeirydd y Pwyllgor.

 

Bu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ystyried adroddiad ar y trefniadau ar gyfer penodi Lleygwyr i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2021 ac roedd y pwyllgor yn gwneud argymhelliad i'r Cyngor ar Aelodaeth y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 hefyd yn nodi bod yn rhaid i gadeirydd y Pwyllgor fod yn un o'r lleygwyr etholedig a bod y newidiadau a gynigiwyd eisoes wedi'u mabwysiadu gan rai Cynghorau ledled Cymru.

 

Diolchodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i swyddogion a'r is-gadeirydd am eu cefnogaeth yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd y Pwyllgor.

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor yn ffurfiol i'r Cynghorydd Higgins fel Cadeirydd dros y pedair blynedd a hanner diwethaf a diolchodd am ei gwaith a'i hymrwymiad yn ystod y cyfnod hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cynnwys 12 aelod h.y. 8 aelod etholedig (fel ar hyn o bryd) a 4 lleygwr i gyd-fynd â'r gofyniad newydd sy'n deillio o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i draean o aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn lleygwyr.

7.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL

Dogfennau ychwanegol:

7.1

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2021 I MEDI 30AIN 2021 pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2021, wedi cymeradwyo'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rheoli'r trysorlys o 1 Ebrill 2021 hyd at 30 Medi 2021, yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2021/21 (a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 19 Chwefror 2021 - cofnod 8).

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr (MPC) wedi cadw'r Gyfradd Banc ar 0.10% ar 24 Medi 2021. Ni wnaeth unrhyw newidiadau ychwaith i'w raglen esmwytho meintiol gwerth £895bn.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y MPC wedi nodi pryder y gallai cynnydd mewn prisiau, yn enwedig mewn prisiau nwy a thrydan ym mis Hydref ac sydd i ddod eto fis Ebrill nesaf, arwain at ddisgwyliadau chwyddiant cyflymach ac uwch a thwf sylfaenol mewn cyflogau. Byddai hyn yn ei dro yn cynyddu'r risg y byddai pwysau o ran prisiau yn fwy cyson y flwyddyn nesaf na'r disgwyl. Ail-bwysleisiodd y MPC ei ymrwymiad i'r targed chwyddiant o 2%. Roedd marchnadoedd ariannol yn prisio cynnydd cyntaf yn y Gyfradd Banc o 0.10% i 0.25% ym mis Chwefror 2022, ond roedd hyn yn edrych yn uchelgeisiol gan fod y MPC wedi datgan ei fod am weld beth sy'n digwydd i'r economi, yn enwedig i gyflogaeth.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet

 

‘bod yr Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021 yn cael ei fabwysiadu'.

8.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

6ED RHAGFYR, 2021 pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd S.J.G. Gilasbey wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r mater gael ei ystyried ond nid oedd wedi pleidleisio. Roedd y Cynghorydd Gilasbey wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid i bleidleisio.]

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2021.

8.2

20AIN RHAGFYR, 2021 pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr, 2021.

9.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

10.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A PHLANT

Yn ôl yr hyn a ddeallwn, bu cynnydd mawr mewn costau deunyddiau a llafur ers y pandemig, sydd â goblygiadau sylweddol i'ch rhaglen gyfalaf, gan gynnwys y Rhaglen Moderneiddio Addysg. A allwch gadarnhau a fydd yr holl gynigion ynghylch ysgolion yng nghyllideb y llynedd yn cael eu datblygu fel y bwriadwyd yn wreiddiol?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn ôl yr hyn a ddeallwn, bu cynnydd mawr mewn costau deunyddiau a llafur ers y pandemig, sydd â goblygiadau sylweddol i'ch rhaglen gyfalaf, gan gynnwys y Rhaglen Moderneiddio Addysg.  A allwch gadarnhau a fydd yr holl gynigion ynghylch ysgolion yng nghyllideb y llynedd yn cael eu datblygu fel y bwriadwyd yn wreiddiol?”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

“Fel y gwyddoch, rhoddwyd cryn sylw i hyn yn ein trafodaeth ddoe ar y gyllideb addysg a soniwyd hefyd am yr adolygiad o'r rhaglen Moderneiddio Addysg. Caiff y Rhaglen Moderneiddio Addysg, fel rhan o gyllideb ehangach y Cyngor, ei monitro a'i hadolygu'n barhaus ac mae hyn yn hanfodol.  Mae'n bwysig ein bod ni fel y Cabinet yn gallu craffu ar ein prosiectau a'r gyllideb. Mae'r rhaglen hon yn eithriadol o bwysig i ni ac rydym yn gweithio'n dda gyda'r llywodraeth yng Nghaerdydd i adeiladu ysgolion ac yn ddiweddar agorwyd tair ysgol newydd sef Rhys Pritchard, Llanymddyfri, Llangadog a Phum Heol. Adeiladau newydd addas a chynaliadwy i'n dysgwyr. Mae ein plant yn Sir Gaerfyrddin yn haeddu hyn, maen nhw'n haeddu'r gorau.

 

Fodd bynnag, rwy'n si?r nad oes angen i mi atgoffa'r Cynghorydd James bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar bopeth y mae'r Cyngor wedi bod yn ei wneud gyda gwaith adeiladu yn dod i ben o ganlyniad i gyfyngiadau ar symud. Fe'n gorfodwyd i adleoli staff er mwyn mynd i'r afael â blaenoriaethau fel Cyngor. Rydym wedi cael dwy flynedd heriol dros ben. Mae costau wedi cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i'r pandemig a hefyd Brexit. Allwn ni ddim anghofio hynny. Mae prisiau wedi mynd drwy'r to, a bod yn onest, maen nhw wedi mynd yn uwch na hynny a dyna pam y gwnaethom gymryd rhan mewn adolygiad gan Lywodraeth Cymru. Adolygiad ar gostau, ar gostau uwch ein rhaglenni.  O ganlyniad, cytunodd y Llywodraeth ar gynnydd yn y dyraniad grant er mwyn inni fynd i'r afael â rhai o'r materion ychwanegol ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar amdano. 

 

Mae'r adolygiad hwn o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg yn adolygiad y gofynnais i amdano'n bersonol. Hyd nes y bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau, ni allaf gadarnhau a fydd yr holl ysgolion a'r holl gynigion yng nghyllideb y llynedd yn cael eu datblygu.  Oherwydd fel rhan o'r adolygiad hwn rydym yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r rhaglen.  Bydd yn rhaid inni edrych ar ddatblygu cynaliadwy a charbon set-net. Bydd yn rhaid inni edrych ar gyfyngiadau ariannol, chwyddiant mewn perthynas ag adeiladu.  Fel yr wyf eisoes wedi sôn, rhaid inni adolygu ac ail-brisio popeth a wnawn.  Rhaid inni edrych ar addasrwydd a chyflwr ein hadeiladau a newidiadau i dueddiadau disgyblion.

 

Rwy'n dweud unwaith eto, hyd nes y bydd yr adolygiad hwn wedi'i gwblhau, ni allaf gadarnhau a fydd yr holl gynigion ynghylch ysgolion yng nghyllideb y llynedd yn cael eu datblygu. Diolch y Cynghorydd James.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rob James

 

“Mae pymtheg o ysgolion newydd wedi'u nodi fel rhan o'r gyllideb ddrafft, ond eto nid ydynt wedi'u cyflwyno  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.1

10.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A PHLANT

Bwriedir adeiladu ysgolion newydd yn Rhydaman ers nifer o flynyddoedd, a dyrannodd y weinyddiaeth Lafur flaenorol gyllid cyfalaf ar gyfer y prosiect cyn 2015. A allai'r Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion newydd Rhydaman?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Bwriedir adeiladu ysgolion newydd yn Rhydaman ers nifer o flynyddoedd, a dyrannodd y weinyddiaeth Lafur flaenorol gyllid cyfalaf ar gyfer y prosiect cyn 2015.  A allai'r Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion newydd Rhydaman?”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

"Unwaith eto, diolch i'r Cynghorydd James. Ni allaf fynd yn ôl i'r cyfnod cyn 2015 gan mai yn 2017 yr ymunais i â'r Cabinet. Unwaith eto, rwy'n ymwybodol iawn bod y cynllun ym Mand A yn wreiddiol ac roedd hyn yn weithredol rhwng 2014 a 2019.  Ond, yn ôl yn 2016, penderfynwyd symud y prosiect i Fand B sef blwyddyn cyn i mi ddod yn gyfrifol am y portffolio. Fodd bynnag, wrth i'r cynllun ar gyfer Rhydaman gael ei ddatblygu rwy'n cadw llygad ar bopeth sy'n digwydd

 

Fe welwyd cynnydd yn nifer y disgyblion, yn rhannol oherwydd y galw am addysg gynradd Gymraeg yn ardal Rhydaman.  Mae hyn yn beth da.

 

Gwelwyd bod safle presennol Bro Banw a'r Ysgol Gymraeg yng nghanol y dref yn annigonol ac roedd yn dipyn o her dod o hyd i dir addas i ymdopi â'r cynnydd hwnnw.  Cofiwch wrth gwrs fod nifer y plant o oedran cynradd yn fawr iawn. Mae dros 1000 ohonynt, felly roedd yn rhaid i ni ystyried pob math o opsiynau – a'r hyn sy'n addas ar gyfer adfywio tref a chymuned Rhydaman.  Hefyd oherwydd maint y prosiect rydym yn ystyried popeth fel prosiect posibl ar gyfer y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM). Rwyf am bwysleisio hyn eto, ymddiheuriadau am ailadrodd fy hun, ond efallai nad yw pawb wedi clywed hyn. Ond mae trefnu addysg gynradd yn Rhydaman yn flaenoriaeth. Rwyf wedi dweud hyn mewn sawl cyfarfod. Mae'n flaenoriaeth i mi ac mae'n flaenoriaeth i'r weinyddiaeth ac mae'n rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg bresennol. Dywedais hyn yn glir yng nghyfarfod y Cabinet ar y 6ed o Ragfyr. Rydych newydd dderbyn y cofnodion. Roedd yn gyfarfod cyhoeddus a gall aelodau'r wrthblaid fod yn bresennol ac ymuno â'r cyfarfod hwnnw. Dywedais bryd hynny, yn gwbl glir, y byddai'r cynlluniau megis Heol Goffa, Bryngwyn, Pen-bre, Dewi Sant, Rhydaman a Llandeilo yn mynd yn eu blaen yn gyflym. Rwyf am ddweud hyn unwaith eto. Bydd y cynlluniau hyn yn mynd yn eu blaen yn gyflym. Rydym yn datblygu'r prosiectau nawr. Nid wyf am ddweud eto sut mae'r pandemig wedi arafu pethau oherwydd byddaf yn ailadrodd fy hun. Ond mae popeth wedi oedi oherwydd hynny.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rob James

 

"Fel y mae Glynog eisoes wedi dweud, gwnaeth Plaid leihau'r flaenoriaeth ar gyfer Rhydaman pan ddaethon nhw i rym yn 2015 o A i B.  Yn y gyllideb ddiwethaf dyrannwyd £500,000 i'r ddwy ysgol i lunio cynigion gyda £5 miliwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer biliau eleni. Mae'n amlwg nad yw hyn yn digwydd gan nad yw'r cynlluniau wedi'u datblygu. Allwch chi egluro sut y gwariwyd y £500,000 y llynedd ac nid ydym ddim agosach at gael ysgolion newydd yn Rhydaman?”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.2

10.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A PHLANT

A allai'r Aelod Cabinet nodi a yw tir wedi'i brynu ar gyfer ysgol newydd Rhydaman?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A allai'r Aelod Cabinet nodi a yw tir wedi'i brynu ar gyfer ysgol newydd Rhydaman?”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

"Wel, y Cynghorydd James, rwyf wedi dweud hyn droeon mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Yr ateb yn syml yw ie, mae tir wedi'i brynu.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rob James

 

"Sylwaf nad yw'r Aelod Cabinet wedi nodi unrhyw fanylion am hyn. Mae'n ymddangos bod gwybodaeth eisoes ar gael i'r cyhoedd gyda'r Cynghorydd dros Bontaman yn cnocio ar ddrysau yn flaenorol ac yn cyflwyno deiseb i atal prynu tir oddi ar Heol Pontaman. Pryd fydd y Cyngor yn ymgynghori ar y cynlluniau hyn ar gyfer y tir oddi ar Heol Pontaman?”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

"Cefais fy meirniadu am y ffordd yr atebais y cwestiwn. Atebais y cwestiwn a ofynnwyd.  A oes tir wedi'i brynu? Dywedais wrthych yn syml fod tir wedi'i brynu ac yn wir mae'r tir hwnnw yn Heol Pontaman ond nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto ar ba ysgol sy'n mynd yno, ond mae'r tir hwnnw gyda ni yn barod i'w ddatblygu.”

10.4

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A PHLANT

A allai'r Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ysgol newydd Ysgol Dewi Sant?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A allai'r Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ysgol newydd Ysgol  Dewi Sant?”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

Wel, diolch. Rydym wedi cyrraedd y 4ydd cwestiwn a nawr o'r diwedd mae'r Cynghorydd James yn gofyn cwestiwn sy'n berthnasol i'w ward. Y ward y mae'n ei chynrychioli.

 

Hoffwn ddweud hyn yn gyntaf oll am Ysgol Dewi Sant - agorwyd yr ysgol ar y 1af o Fawrth 1947.  Rwy'n si?r eich bod chi wedi cyfrif, fel finnau, y bydd yr ysgol hon yn 75 oed, yn dathlu 75 mlynedd o addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n ben-blwydd pwysig. Ond yr hyn sy'n ei gwneud yn bwysicach yw'r ffaith mai hon oedd yr ysgol Gymraeg gyntaf i gael ei hagor gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Crëwyd hanes yma yn Sir Gaerfyrddin a diolch i weledigaeth y Cynghorwyr bryd hynny a diolch i'r ymgyrch yn Llanelli a arweiniwyd gan aelodau o'r Blaid Lafur. Y Blaid Lafur bryd hynny oedd yn arwain y ffordd ac yn agor ysgol Gymraeg i 34 o blant, gan dorri tir newydd. Heddiw, mae ychydig yn brin o 500 o blant ar y gofrestr.

 

Yn awr, mae'r un blaid Lafur a gafodd y weledigaeth ym 1947 wedi gwrthwynebu cynlluniau'r weinyddiaeth i roi cartref newydd i'r ysgol hon ar bob cyfle. Safle a ddewiswyd nid gennym ni ein hunain fel Cynghorwyr ond gan arbenigwyr.

 

Byddai'r plant a'u hathrawon bellach mewn ysgol newydd pe bai'r weinyddiaeth hon wedi cael ei ffordd a byddent yn gallu dathlu'r pen-blwydd hwn mewn steil. Yn hytrach, maent mewn hen ysgol, sy'n anaddas ar gyfer gofynion yr unfed ganrif ar hugain. Diolch Rob. Mae'r gwaith o ddewis safle pwrpasol yn anodd, ond mae'r gwaith yn parhau, ac rydym yn gweithio'n galed ar hyn. Rydym yn gweithio gydag Adran yr Amgylchedd gan fod yn rhaid ystyried yr holl ffactorau, megis trafnidiaeth a'r amgylchedd, topograffeg, argaeledd ac ati. Mae'n rhaid gwneud y gwaith hwn yn drylwyr. Dyna sy'n digwydd ar hyn o bryd.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rob James

 

"Rwy'n rhannu barn yr Aelod Cabinet o ran pwysigrwydd Dewi Sant yn yr ardal a hefyd gan ei bod yn yr ysgol Gymraeg gyntaf. Mae dwy flynedd wedi bod ers iddo dynnu'n ôl gynlluniau i adeiladu ysgol newydd er gwaethaf nifer o ymdrechion yr wyf wedi'u gwneud i annog y Cyngor hwn i ymgynghori ar y safle newydd. Mae'r ysgol a'r gymuned yn dal yn y tywyllwch. Nawr, yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yw dyddiad pendant ynghylch pryd y bydd yr ymgynghoriad hwn yn dechrau, felly a allwch chi ddweud wrth y bobl sy'n gysylltiedig â'r ysgol hon pryd y byddant yn clywed am y cynigion ar gyfer yr ysgol newydd.”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

"Mae mor annheg ar y plant a'r staff hynny eu bod nhw'n dal yn yr adeilad hwnnw. Ac unwaith eto, rwy'n pwyntio bys atoch chi Rob James. Pam yr holl amser hwn?  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.4

10.5

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A PHLANT

Cynhaliodd rhieni, disgyblion ac ymgyrchwyr ymgyrch lwyddiannus i achub Ysgol Mynyddygarreg ac Ysgol Blaenau rhag cael eu cau. Gallai'r ddwy ysgol elwa o fuddsoddiad ar unwaith i brofi eu cynaliadwyedd yn y dyfodol. A fyddwch yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf eleni i wella'r adeiladau ac ystyried eu gwneud yn ysgolion 3-11 oed?

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Cynhaliodd rhieni, disgyblion ac ymgyrchwyr ymgyrch lwyddiannus i achub Ysgol Mynyddygareg ac Ysgol Blaenau rhag cael eu cau.  Gallai'r ddwy ysgol elwa o fuddsoddiad ar unwaith i brofi eu cynaliadwyedd yn y dyfodol. A fyddwch yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf eleni i wella'r adeiladau ac ystyried eu gwneud yn ysgolion 3-11 oed?”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

"Wel, rydych chi'n cael fy nehongliad i ar eleni pan dwi'n ateb. Dewch yn ôl i gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 6ed o Ragfyr 2021.  Fel y dywedais yn gynharach, rydym newydd dderbyn y cofnodion ac maent wedi'u cymeradwyo.  Penderfynwyd yn unfrydol i beidio â chyhoeddi Hysbysiad Statudol i gau Ysgol Gynradd Mynyddygarreg, ond mae hyn yn bwysig - rydym am fwrw ymlaen â chynlluniau i agor Ysgol Gymraeg newydd yn ardal Cydweli. Mae gwir angen hyn yn lle'r un sydd yno ar hyn o bryd (Gwenllian). Mae angen ysgol yn yr ardal i hyrwyddo'r Gymraeg. Yn yr un modd, gwnaethom yr un penderfyniad yngl?n ag Ysgol y Blaenau. Unwaith eto, dywedais yn glir fy mod am barhau â chynlluniau ar gyfer ysgol newydd yn ardal Llandybie a chytunwyd ar hynny.  Gohiriwyd y penderfyniad ar Fynyddygareg a'r Blaenau ac rwyf wedi siarad â rhieni a'r cyrff llywodraethu hyn yn ystod y cyfnod hwn, ynghyd â'r holl ysgolion cynradd eraill yn Sir Gaerfyrddin.

Galwais, fel yr wyf eisoes wedi dweud y bore yma, am adolygiad llawn, adolygiad cynhwysfawr o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg (MEP).  Bydd hwn yn rhoi ystyriaeth i ystodau oedran yr ysgolion. Hyd nes y bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau, bydd buddsoddiad cyfalaf ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw yn cael ei ddyrannu i ysgolion ar sail blaenoriaeth a hoffwn atgoffa pawb sy'n llywodraethwyr ar gyrff llywodraethu eu bod, fel tenantiaid, yn gyfrifol am sawl agwedd ar atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion.  Mae cyllid yn cael ei ddyrannu yng nghyllideb yr ysgol i ddelio â materion tebyg. Yn ogystal eleni, fel sydd wedi digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bydd y ddwy ysgol a enwir yn derbyn dros £7000 yr un yn ogystal â grant atgyweiriadau a grant cynnal a chadw gan Lywodraeth Cymru.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rob James

 

"Mae Llandybie a Gwenllian yn y camau dylunio ac nid ydynt yn disgwyl ysgol newydd am nifer o flynyddoedd. O ran Mynyddygareg a Blaenau, nid oes buddsoddiad gwirioneddol wedi'i nodi ar gyfer y dyfodol. Felly yn olaf, oni fyddech yn cytuno bod Plaid wedi treulio'r saith mlynedd diwethaf yn bygwth cau ysgolion, yn gorffen rhaglenni ysgol y weinyddiaeth Lafur ddiwethaf ac yn methu'n drychinebus â datblygu unrhyw welliant newydd mewn ysgolion.”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

"A fyddwn i'n cytuno â chi? Fy ateb syml Rob yw na.”

11.

CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

11.1

MAE'R GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD DOT JONES I LENWI'R SEDD A OEDD YN PERTHYN YN GYNT I'R CYNGHORYDD AMANDA FOX AR Y PWYLLGOR PENODI A

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n), roedd yr enwebiad canlynol wedi dod i law gan y Gr?p Llafur a:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo enwebiad y Cynghorydd D. Jones i gymryd lle'r Cynghorydd A.L. Fox fel un o gynrychiolwyr y Gr?p Llafur ar Bwyllgor Penodi A.

12.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellir ar agenda ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.